Ceisiadau am drwyddedau morol Mehefin 2020
Isod, ceir rhestrau o geisiadau a gyflwynwyd a cheisiadau y penderfynwyd arnynt gan y Tîm Trwyddedu Morol. Os hoffech ragor o wybodaeth ynglŷn ag unrhyw un o’r ceisiadau a dderbyniwyd ac a benderfynwyd, cysylltwch:
permittingconsultations@cyfoethnaturiolcymru.gov.uk
Yn y rhan fwyaf o achosion gofynnir i ymgeiswyr roi hysbysiad cyhoeddus o’u cynigion mewn papur newydd lleol. Bydd yr hysbysiad hwn yn cyfeirio aelodau o’r cyhoedd sydd â diddordeb i adeilad cyhoeddus lle bydd rhaid i’r ymgeisydd drefnu fod copïau o’r cais a dogfennau ategol ar gael. Bydd yr hysbysiad hefyd yn rhoi manylion cyswllt i’r cyhoedd er mwyn caniatáu iddynt anfon unrhyw sylwadau cysylltiedig â’r cais inni. Yn ystod y cyfnod hwn o hysbysu’r cyhoedd gellir gwneud cais am ddogfennau ac anfon sylwadau i permittingconsultations@cyfoethnaturiolcymru.gov.uk
Hefyd, byddwch yn gallu dod o hyd i ddogfennau cysylltiedig â cheisiadau yr ymgynghorir yn eu cylch ar hyn o bryd ac sy’n gofyn am Asesiad Effaith Amgylcheddol (EIA) neu sy’n cael eu hystyried o ddiddordeb cyhoeddus sylweddol.
Ceisiadau am Drwyddedau Morol a Dderbyniwyd
Rhif y Drwydded | Enw Ymgeisydd | Lleoliad y Safle | Math o Gais |
---|---|---|---|
RML2028 |
Offshore Wind Consultants Limited |
Arolwg Amgylcheddol Prosiect Erebus |
Band 1 |
CML2025 |
Awdurdod Parc Cenedlaethol Arfordir Sir Benfro |
Gwaith atgyweirio ym Melin Caeriw |
Band 2 |
SC2003 |
Innogy Renewables UK |
Awel Y Mor Offshore Wind Farm |
Scoping |
RML2027 |
The Port of Mostyn Ltd |
Ymchwiliad i Safle Flagstaff |
Band 2 |
RML2027 |
|
Gwaith Ymchwilio i Flagstaff Ground |
Band 2 |
CML2026 |
Morgan Sindall |
Cwymp Tref Isaf Aberteifi, Siambr Rhyddhau a Headwall |
Band 2 |
CML2026 |
Morgan Sindall (Mr. Sean Murray) |
Tref Isaf Aberteifi yn adeiladu arllwysiad, siambr ollwng a wal ben |
Band 2 |
CML2025 |
Awdurdod Parc Cenedlaethol Arfordir Sir Benfro |
Atgyweirio Melin Caeriw a Sarn |
Band 2 |
Ceisiadau Trwyddedau Morol a Benderfynwyd arnynt
Rhif y Drwydded | Enw Deilydd y Drwydded | Lleoliad y Safle | Math o Gais | Penderfyniad |
---|---|---|---|---|
RML2023 |
Band 1 |
Innogy Renewables UK |
Awel y Môr Offshore Wind Farm – benthic surveys |
Cyhoeddwyd |
CML1722 |
Trwyddedau morol nad ydynt yn AEC |
Network Rail Infrastructure Projects |
Gogledd / De Ferryside a St Ishmails |
Cyhoeddwyd |
RML2024 |
Band 1 |
Offshore wind Consultants Limited |
Arolwg Amgylcheddol Prosiect Erebus |
Cyhoeddwyd |