Ceisiadau am drwyddedau morol Gorffennaf 2020
Isod, ceir rhestrau o geisiadau a gyflwynwyd a cheisiadau y penderfynwyd arnynt gan y Tîm Trwyddedu Morol. Os hoffech ragor o wybodaeth ynglŷn ag unrhyw un o’r ceisiadau a dderbyniwyd ac a benderfynwyd, cysylltwch:
permittingconsultations@cyfoethnaturiolcymru.gov.uk
Yn y rhan fwyaf o achosion gofynnir i ymgeiswyr roi hysbysiad cyhoeddus o’u cynigion mewn papur newydd lleol. Bydd yr hysbysiad hwn yn cyfeirio aelodau o’r cyhoedd sydd â diddordeb i adeilad cyhoeddus lle bydd rhaid i’r ymgeisydd drefnu fod copïau o’r cais a dogfennau ategol ar gael. Bydd yr hysbysiad hefyd yn rhoi manylion cyswllt i’r cyhoedd er mwyn caniatáu iddynt anfon unrhyw sylwadau cysylltiedig â’r cais inni. Yn ystod y cyfnod hwn o hysbysu’r cyhoedd gellir gwneud cais am ddogfennau ac anfon sylwadau i permittingconsultations@cyfoethnaturiolcymru.gov.uk
Hefyd, byddwch yn gallu dod o hyd i ddogfennau cysylltiedig â cheisiadau yr ymgynghorir yn eu cylch ar hyn o bryd ac sy’n gofyn am Asesiad Effaith Amgylcheddol (EIA) neu sy’n cael eu hystyried o ddiddordeb cyhoeddus sylweddol.
Ceisiadau am Drwyddedau Morol a Dderbyniwyd
Rhif y Drwydded | Enw Ymgeisydd | Lleoliad y Safle | Math o Gais |
---|---|---|---|
SP2005 |
Dylan Kalis |
Neyland Yacht Havens Ltd |
Cais Cynllun Sampl |
CML2031 |
Milford Haven Port Authority |
Milford Docks – Amnewid falf fflap ac atgyweirio waliau |
Band 2 |
CML2030 |
Network Rail Infrastucture Projects |
Leri Viaduct Gwaith Cynnal a Chadw |
Band 2 |
Ceisiadau Trwyddedau Morol a Benderfynwyd arnynt
Rhif y Drwydded | Enw Deilydd y Drwydded | Lleoliad y Safle | Math o Gais | Penderfyniad |
---|---|---|---|---|
RML2028 |
Band 1 |
Offshore Wind Consultants Limited |
Project Erebus Arolwg Amgylcheddol |
Cyhoeddwyd |
SC2002 |
Scooping |
Royal Haskoning DHV |
Holyhead Cynllun Adnewyddu Morglawdd |
Cyhoeddwyd |
CML2020 |
Band 1 |
Alun Griffiths Contractors Ltd |
Pont yr Odyn bridge adnewyddu pont feicio |
Cyhoeddwyd |