Ceisiadau am drwyddedau morol Medi 2020
Isod, ceir rhestrau o geisiadau a gyflwynwyd a cheisiadau y penderfynwyd arnynt gan y Tîm Trwyddedu Morol. Os hoffech ragor o wybodaeth ynglŷn ag unrhyw un o’r ceisiadau a dderbyniwyd ac a benderfynwyd, cysylltwch:
permittingconsultations@cyfoethnaturiolcymru.gov.uk
Yn y rhan fwyaf o achosion gofynnir i ymgeiswyr roi hysbysiad cyhoeddus o’u cynigion mewn papur newydd lleol. Bydd yr hysbysiad hwn yn cyfeirio aelodau o’r cyhoedd sydd â diddordeb i adeilad cyhoeddus lle bydd rhaid i’r ymgeisydd drefnu fod copïau o’r cais a dogfennau ategol ar gael. Bydd yr hysbysiad hefyd yn rhoi manylion cyswllt i’r cyhoedd er mwyn caniatáu iddynt anfon unrhyw sylwadau cysylltiedig â’r cais inni. Yn ystod y cyfnod hwn o hysbysu’r cyhoedd gellir gwneud cais am ddogfennau ac anfon sylwadau i permittingconsultations@cyfoethnaturiolcymru.gov.uk
Hefyd, byddwch yn gallu dod o hyd i ddogfennau cysylltiedig â cheisiadau yr ymgynghorir yn eu cylch ar hyn o bryd ac sy’n gofyn am Asesiad Effaith Amgylcheddol (EIA) neu sy’n cael eu hystyried o ddiddordeb cyhoeddus sylweddol. 
Ceisiadau am Drwyddedau Morol a Dderbyniwyd
| Rhif y Drwydded | Enw Ymgeisydd | Lleoliad y Safle | Math o Gais | 
|---|---|---|---|
| 
 SC2006  | 
 Conygar Holyhead Ltd  | 
 Holy Island  | 
 Scoping  | 
| 
 DML2042  | 
 City and County of Swansea  | 
 Swansea Yacht and Sub Aqua Club (SYSAC) Marina - Carthu Cynnal a Chadw  | 
 Band 2  | 
| 
 DEML2041  | 
 Seaweedology  | 
 Seaweedology Seaweed Farm  | 
 Band 2  | 
| 
 RML2040  | 
 Offshore Wind Consultants Limited  | 
 Project Erebus Arolwg Amgylcheddol  | 
 Band 1  | 
| 
 CML2038  | 
 Network Rail  | 
 Kidwelly Viaduct Adnewyddu  | 
 Band 1  | 
Ceisiadau Trwyddedau Morol a Benderfynwyd arnynt
| Rhif y Drwydded | Enw Deilydd y Drwydded | Lleoliad y Safle | Math o Gais | Penderfyniad | 
|---|---|---|---|---|
| 
 CML2033  | 
 EirGrid PLC  | 
 Gwaith Adferol Cydgysylltydd Dwyrain Gorllewin  | 
 Band 3  | 
 Cyhoeddwyd  | 
| 
 RML2027  | 
 The Port of Mostyn Ltd  | 
 Ymchwiliad i Safle Flagstaff  | 
 Band 2  | 
 Cyhoeddwyd  | 
| 
 CML1902  | 
 St Modwen Developments Ltd  | 
 Swansea Bay Campus - Gwaith Revetment  | 
 Band 3  | 
 Cyhoeddwyd  | 
| 
 CML2035  | 
 Amalgamated Construction Ltd  | 
 IW01220 – Rumney Pont yr Afon GRIP 4  | 
 Band 1  | 
 Cyhoeddwyd  | 
| 
 RML2018  | 
 Conwy County Borough Council  | 
 Glannau Bae Colwyn  | 
 Band 2  | 
 Cyhoeddwyd  | 
| 
 CML2029  | 
 Network Rail Infrastucture Projects  | 
 Leri Viaduct Gwaith Cynnal a Chadw  | 
 Band 2  | 
 Cyhoeddwyd  | 
| 
 CML2031  | 
 Milford Haven Port Authority  | 
 Milford Docks – Amnewid falf fflap ac atgyweirio waliau  | 
 Band 2  | 
 Cyhoeddwyd  |