Ceisiadau am drwyddedau morol Awst 2019
Isod, ceir rhestrau o geisiadau a gyflwynwyd a cheisiadau y penderfynwyd arnynt gan y Tîm Trwyddedu Morol. Os hoffech ragor o wybodaeth ynglŷn ag unrhyw un o’r ceisiadau a dderbyniwyd ac a benderfynwyd, cysylltwch permittingconsultations@cyfoethnaturiolcymru.gov.uk
Yn y rhan fwyaf o achosion gofynnir i ymgeiswyr roi hysbysiad cyhoeddus o’u cynigion mewn papur newydd lleol. Bydd yr hysbysiad hwn yn cyfeirio aelodau o’r cyhoedd sydd â diddordeb i adeilad cyhoeddus lle bydd rhaid i’r ymgeisydd drefnu fod copïau o’r cais a dogfennau ategol ar gael. Bydd yr hysbysiad hefyd yn rhoi manylion cyswllt i’r cyhoedd er mwyn caniatáu iddynt anfon unrhyw sylwadau cysylltiedig â’r cais inni. Yn ystod y cyfnod hwn o hysbysu’r cyhoedd gellir gwneud cais am ddogfennau ac anfon sylwadau i permittingconsultations@cyfoethnaturiolcymru.gov.uk
Hefyd, byddwch yn gallu dod o hyd i ddogfennau cysylltiedig â cheisiadau yr ymgynghorir yn eu cylch ar hyn o bryd ac sy’n gofyn am Asesiad Effaith Amgylcheddol (EIA) neu sy’n cael eu hystyried o ddiddordeb cyhoeddus sylweddol yma
Ceisiadau am Drwyddedau Morol a Dderbyniwyd
| Rhif y Drwydded | Enw Ymgeisydd | Lleoliad y Safle | Math o Gais | 
|---|---|---|---|
| 
 RML1937  | 
 Conygar Holyhead Ltd  | 
 Datblygiad Glannau Caergybi  | 
 Band 2  | 
| 
 SP1911  | 
 The Port of Mostyn Ltd  | 
 Porthladd Harbwr Mostyn a Sianel Llywio  | 
 Cais Cynllun Sampl  | 
| 
 SC1903  | 
 
  | 
 Cynllun Adnewyddu Morglawdd Caergybi  | 
 Sgrinio  | 
Ceisiadau Trwyddedau Morol a Benderfynwyd arnynt
| Rhif y Drwydded | Enw Deilydd y Drwydded | Lleoliad y Safle | Math o Gais | Penderfyniad | 
|---|---|---|---|---|
| 
 CML1932  | 
 Amalgamated Construction Ltd  | 
 Mur Môr Penmaebach  | 
 Band 1  | 
 Cyhoeddwyd  | 
| 
 RML1922  | 
 Natural Resources Wales  | 
 Genau Afon Dysynni  | 
 Band 2  | 
 Cyhoeddwyd  | 
| 
 CML1934  | 
 Cardiff Harbour Authority  | 
 Flat Holm Jetty Refurbishment  | 
 Band 1  | 
 Cyhoeddwyd  | 
| 
 CML1920  | 
 Network Rail Infrastructure Projects  | 
 Afon Artro  | 
 Band 2  | 
 Cyhoeddwyd  |