Ydi’ch gweithgarwch sylweddau ymbelydrol yn esempt neu ‘y tu allan i’r cwmpas’?
Pa weithgareddau sylweddau ymbelydrol sydd ‘y tu allan i’r cwmpas’?
Mae’n ofynnol gan y gyfraith i’r rhan fwyaf o sylweddau ymbelydrol gael eu rheoleiddio ac fel arfer mae hyn yn golygu cael trwydded gan y rheoleiddiwr perthnasol.
Ar gyfer crynodiadau isel iawn o Ddeunydd Ymbelydrol sy’n Bresennol yn Naturiol (NORM) mewn solidau, hylifau a nwyon, ac ar gyfer solidau a “hylifau perthnasol” o sylweddau ymbelydrol eraill, ceir yn y ddeddfwriaeth werthoedd “y tu allan i’r cwmpas” (gweler Tablau 1 a 2 yn Atodlen 23 i EPR2010 a Thablau 2 a 3 yn Atodlen 1 i RSA93).
Islaw’r gwerthoedd hyn mae’r sylweddau’n creu perygl mor fach nes nad oes angen defnyddio unrhyw ragofalon arbennig mewn perthynas â’u cynnwys ymbelydrol ac felly nid yw’r ddeddfwriaeth ar wastraff ymbelydrol yn berthnasol iddynt. Bernir bod y fath sylweddau ‘y tu allan i’r cwmpas’. Nid oes unrhyw gyfyngiadau o dan EPR na RSA93 ar gadw neu ddefnyddio deunyddiau ymbelydrol, nac ar gronni a gwaredu gwastraff ymbelydrol y bernir ei fod ‘y tu allan i’r cwmpas’.
Uwchlaw’r gwerthoedd hyn sydd “y tu allan i’r cwmpas”, mae’r gyfraith yn mynnu bod angen rheoleiddio. Rhagwelir dau ddull gwahanol o reoleiddio: ar gyfer sylweddau ymbelydrol sy’n creu perygl mwy, mae’n ofynnol cael trwydded gan yr asiantaeth amgylchedd briodol; ond ar gyfer rhai sylweddau ymbelydrol sy’n creu perygl llai, mae’n bosibl mai amodau safonol esemptiad yw’r dull cymesur o reoleiddio.
Pa weithgareddau sylweddau ymbelydrol y bernir eu bod yn esempt?
Mae rhai arferion neu gynhyrchion sy’n ymwneud â sylweddau ymbelydrol, yn ogystal â chreu perygl bach, hefyd yn gyffredin iawn. Maent yn cynnwys achosion lle mae’r ymbelydredd yn briodwedd hanfodol, ee synwyryddion mwg. Pe bai’n ofynnol i ni ddyroddi trwyddedau unigol i bob defnyddiwr yn yr achosion hyn, byddai’n creu baich gweinyddol enfawr arnom ni ac arnoch chi.
Mae’r rhestr o ddogfennau canllawiau penodol uchod yn dangos y mathau o weithgareddau ac eitemau y mae darpariaethau esemptio’n eu cynnwys. Mae “esempt” yn golygu nad yw trwydded yn ofynnol o dan EPR na RSA93 i gadw neu ddefnyddio’r fath ffynonellau ymbelydrol, nac i gronni a gwaredu’r fath wastraff ymbelydrol, cyn belled ag y caiff yr amodau a ragnodir eu bodloni.
Gellir gweld manylion pa weithgareddau sylweddau ymbelydrol y bernir eu bod yn ‘esempt’ ar wefan Asiantaeth yr Amgylchedd. Dyma restr o’i dogfennau canllawiau:
- General guidance on the use of exemption provisions
- Very low level radioactive waste
- Medical and veterinary use of radioactive sources
- Radioactivity in museums
- Waste sealed radioactive sources
- Small sealed radioactive sources
- Uranium and Thorium
- Small amounts of open radioactive sources
- Guidance on lamps containing radioactive substances
- Guidance on radioactive material and radioactive waste 'stored in transit'
- Guidance on interpretation of 'Relevant liquid'
- Guidance for NORM industrial activities on how to comply with the radioactive substances exemption regime