Datblygiad morol: cyflwyno cynigion ar gyfer rheoli addasol ar lefel prosiect
Mae'r canllawiau hyn yn berthnasol i reoli addasol ar lefel y prosiect. Efallai y bydd ystyriaethau perthnasol eraill ar sut y gallwch ddefnyddio'ch prosiect ar lefel strategol yn y sector.
Os ydych yn bwriadu cynnwys camau yn eich Strategaeth Rheoli Addasol, dylech ganfod sut mae'r tîm trwyddedu morol yn asesu ceisiadau unigol ar gyfer prosiectau aml-gam.
Defnyddio rheoli addasol ar lefel y prosiect
Gall rheoli addasol gael ei ddefnyddio i fynd i'r afael â meysydd o ansicrwydd sy'n parhau ar ôl cwblhau asesiad amgylcheddol cadarn, neu lle mae'r llinell sylfaenol amgylcheddol yn debygol o newid.
Darllenwch ein hegwyddorion ar ddefnyddio rheoli addasol.
Gall ffynhonnell yr ansicrwydd hwn fod naill ai am effaith bosib fwyaf y prosiect, o gymharu ag effeithiau niweidiol derbyniol, neu o ansicrwydd o ran effeithlonrwydd mesurau rheoli arfaethedig.
Os yw'r effeithiau senario waethaf a ragfynegir ar lefel dderbyniol, efallai y bydd angen gweithredu mesurau i leihau'r effaith honno. Gall graddfa’r mesurau rheoli newid gan ddibynnu ar faint posib yr effaith a pha mor effeithiol y bydd y mesurau rheoli yn debygol o fod.
Gall rheoli risgiau drwy reoli addasol olygu'r defnydd o lawer o adnoddau, i'r datblygwr, i’r rheoleiddiwr, ac i ymgynghorwyr amgylcheddol. Gall rheoli addasol hefyd alluogi rhoi cydsyniad ar gyfer prosiect, ond nid yw'n gwarantu y bydd y prosiect llawn yn cael ei ddatblygu os bydd data a gesglir yn ystod y prosiect yn annilysu’r rhagfynegiadau a wnaed ar adeg ymgeisio neu'n nodi effeithiau na chawsant eu nodi'n flaenorol. Felly, dylai ond gael ei ddefnyddio lle nad oes modd asesu risgiau na'u rheoli drwy ffyrdd eraill.
Mae Cynllun Morol Cenedlaethol Cymru (SCI-01) yn nodi y gall rheoli addasol chwarae rôl mewn gwneud penderfyniadau ar sail risg. Mae ein canllawiau'n nodi sut y gall rheoli addasol gael ei ddefnyddio i ategu ceisiadau am drwyddedau morol. Cefnogir hyn gan ganllawiau gweithredu Cynllun Morol Cenedlaethol Cymru.
Yr hyn i'w gynnwys mewn cynllun rheoli amgylcheddol addasol
Dylai'r cynllun rheoli amgylcheddol addasol gael ei ddylunio i osgoi, lleihau neu liniaru'r risg o effeithiau amgylcheddol. Felly, dylai graddfa'r camau rheoli posib adlewyrchu'r risg fwyaf posib.
Nid yw’n briodol, yn ein barn ni, cynnwys darparu digollediad posib ar gyfer effeithiau niweidiol ar integredd safle Ewropeaidd mewn cynllun rheoli amgylcheddol addasol; dylai'r cynllun rheoli amgylcheddol addasol ganolbwyntio ar fesurau i osgoi, lleihau neu liniaru'r risg o effeithiau amgylcheddol.
Dylai'r manylion canlynol gael eu cynnwys mewn cynllun rheoli amgylcheddol addasol.
Yr effaith amgylcheddol fwyaf posib
Rhaid iddo gynnwys disgrifiad cryno o'r effaith amgylcheddol fwyaf posib, fel y mae wedi'i hasesu yn yr Asesiad o’r Effaith Amgylcheddol, ynghyd â chymaint o wybodaeth am debygolrwydd yr effaith honno â phosib. Yna dylai'r cynllun rheoli amgylcheddol addasol ddisgrifio sut bydd yr ansicrwydd yn cael ei ddatrys drwy fonitro a lliniaru.
Mesurau i osgoi, lleihau neu liniaru
Rhaid iddo ddarparu amlinelliad o’r mesurau posib a allai gael eu defnyddio i osgoi, lleihau neu liniaru effeithiau senario waethaf. Dylai'r rhain fod yn ddigonol i leihau'r effaith fwyaf posib i lefel sy'n is na'r hyn sy'n peri effaith niweidiol, hyd yn oed os na fydd angen defnyddio pob un ohonynt o bosib.
Mae'n dderbyniol cynnig mesurau lliniaru arbrofol lle nad yw effaith y mesur lliniaru yn hysbys. Mae'n rhaid i hyn fod ynghyd â disgrifiad o natur yr ansicrwydd. Mae'n rhaid i'r cynllun gynnwys camau wrth gefn os bydd y mesur yn methu â lleihau neu liniaru'r effaith. Os defnyddir mesurau lliniaru arbrofol, mae'n rhaid i'r cynllun monitro a ddefnyddir fod yn ddigonol i ganfod a yw'r mesurau lliniaru wedi bod yn llwyddiannus, mewn cyfnod o amser a fyddai'n caniatáu gweithredu mesurau lliniaru ychwanegol os oes angen.
Os nad yw'n bosib penderfynu'n hyderus a fyddai’r mesurau rheoli'n lleihau effaith fwyaf posib y prosiect mewn modd priodol, dylai dull wrth gefn gael ei ddisgrifio. Gall dull wrth gefn o’r fath gynnwys atal gweithgareddau adeiladu a/neu weithredu dros dro, atal gweithrediadau dros dro, neu ddatgomisiynu'r prosiect. Mae'n rhaid i'r cynllun ddisgrifio effaith pob un o'r mesurau hyn.
Rhaglen fonitro
Rhaid iddo ddarparu disgrifiad o'r rhaglen fonitro a fydd yn cefnogi’r defnydd o fesurau lliniaru. Mae'n rhaid i hwn gynnwys ond heb fod yn gyfyngedig i'r canlynol:
- Diben y monitro – a yw monitro newid amgylcheddol, neu ryngweithio penodol rhwng y prosiect a derbynyddion amgylcheddol penodol?
- Y dechnoleg/technolegau a gweithdrefnau arfaethedig ar gyfer monitro – beth sy'n cael ei fesur, pam a sut? Os ceir ansicrwydd ynghylch effeithiolrwydd y dechneg fonitro, mae'n rhaid disgrifio hyn.
- A oes angen cymhariaeth yn erbyn llinell sylfaen? Os felly, a yw'r llinell sylfaen wedi'i sefydlu?
- Yr amserlen adrodd – er enghraifft, a oes angen monitro ac adrodd amser real, neu a ddylai adroddiadau gael eu llunio o fewn amserlen benodol?
- Yr amserlenni y mae modd canfod newid ynddynt gan ddefnyddio'r rhaglen fonitro hon. Mae'n rhaid i hyn fod yn addas i weithredu unrhyw fesurau gofynnol. Er enghraifft, nid yw'n briodol dibynnu ar reoli addasol os na all yr effeithiau negyddol a ragfynegwyd ar adeg y cais gael eu gweld nes sawl blwyddyn ar ôl iddynt ddigwydd.
Sbardunau gweithredu
Mae'n rhaid i'r cynllun gynnwys amlinelliad o unrhyw bwyntiau sbarduno gweithredu ar gyfer gweithredu mesurau rheoli. Mae'n rhaid i'r pwyntiau sbarduno hyn fod yn fesuradwy a chael eu canfod ar adeg lle bydd gweithredu mesurau rheoli'n atal effaith niweidiol rhag digwydd. Nid yw'n briodol defnyddio pwynt sbarduno sy'n cychwyn cam gweithredu ar yr adeg pan fydd effaith niweidiol ar integredd safle Ewropeaidd yn digwydd. Dylai lefelau sbarduno ddechrau camau gweithredu cyn i effaith niweidiol ddigwydd a bod yn bwynt penodol sy'n caniatáu ar gyfer ansicrwydd neu oedi posib wrth ddefnyddio mesurau rheoli.
Dylid cynnwys disgrifiad o ba gamau gweithredu fydd yn digwydd ar y pwyntiau hyn. Gallai hynny gynnwys defnydd awtomatig o fesurau rheoli, neu gall ofyn am adrodd i grŵp rheoli, neu CNC, am gymeradwyaeth ar gyfer camau gweithredu dilynol.
Trefniadau adrodd
Rhaid i'r cynllun gynnwys disgrifiad o'r trefniadau adrodd, gan gynnwys y canlynol:
- Beth yw amlder yr adroddiadau?
- Beth fydd yn cael ei adrodd?
- Sut bydd y camau'n llywio camau gweithredu yn y dyfodol?
Bydd cynnwys a lefel y manylion sy’n angenrheidiol wrth benderfynu ar y drwydded forol yn y cynllun rheoli amgylcheddol addasol yn benodol i’r prosiect.
Disgrifio sut caiff eich cynllun rheoli amgylcheddol addasol ei weithredu
Dylai eich cynllun rheoli amgylcheddol addasol gynnwys manylion o sut caiff y cynllun ei weithredu. Bydd unrhyw drwydded forol a ddyroddir gan CNC yn cynnwys amodau trwydded sy'n gofyn i chi gynnal y cynllun rheoli amgylcheddol addasol fel y cytunir arno gan CNC fel yr awdurdod trwyddedu. Bydd angen i unrhyw newidiadau i'r gweithdrefnau cytunedig gael eu cytuno gan yr awdurdod trwyddedu; efallai y bydd hyn yn gofyn am amrywiad i'r drwydded forol mewn rhai achosion.
Dylech ystyried y canlynol wrth ddisgrifio’r weithdrefn weithredu.
Technegau monitro
Dylech ystyried sut byddwch yn gweithredu'r technegau monitro a ddisgrifir yn eich cynllun rheoli amgylcheddol addasol. Mae'n rhaid i dechnegau monitro fod yn dechneg orau a phriodol sydd ar gael at ddiben monitro. Os yw eich technegau monitro'n gofyn am ddefnyddio cyfarpar, mae'n rhaid i chi gynnwys hyn yn eich Asesiad o'r Effaith Amgylcheddol a'ch cais am drwydded forol.
Dylech ymgysylltu ag CNC yn ystod camau cynnar datblygu’r prosiect i drafod technegau monitro addas oherwydd bydd hyn yn sail i'r cynllun rheoli amgylcheddol addasol.
Sbardunau gweithredu
Bydd angen i chi ddisgrifio yn eich cynllun rheoli amgylcheddol addasol y camau rheoli posib os bydd y lefelau sbarduno gweithredu'n cael eu cyrraedd. Unwaith y cytunir ar y rhain, mae'n rhaid i chi sicrhau eich bod yn gallu gwneud y camau gweithredu dynodedig. Efallai y bydd angen tystiolaeth o effeithiolrwydd camau gweithredu ac, os felly, dylech sicrhau bod hon wedi'i chynnwys yn eich Asesiad o’r Effaith Amgylcheddol a'r cais am drwydded forol.
Amserlenni
Os yw eich cynllun rheoli amgylcheddol addasol yn gofyn i adroddiadau gael eu paratoi i CNC, mae'n rhaid i chi sicrhau bod y rhain yn cael eu cyflwyno o fewn yr amserlenni gofynnol. Mae’n rhaid i chi gynnwys amser i CNC graffu ar adroddiadau os oes angen cymeradwyaeth ar gyfer gweithgareddau parhaus neu gynyddol.
Cymeradwyaethau/pyrth
Os oes angen camau pyrth, bydd y camau gweithredu posib wrth y pyrth wedi cael eu disgrifio yn y cynllun rheoli amgylcheddol addasol, gan gynnwys sut y penderfynir pa gamau a gymerir. Lle mae angen cymeradwyaeth gan CNC ar gyfer y rhain, dylai amser digonol gael ei gynnwys yn amserlen y cynllun rheoli amgylcheddol addasol er mwyn gallu craffu ar y cynnig a gyflwynir. Os bydd gwybodaeth annigonol yn cael ei chyflwyno i sicrhau bod casgliadau'r Asesiad o’r Effaith Amgylcheddol neu'r Asesiad Rheoliadau Cynefinoedd yn parhau i fod yn ddilys, bydd angen camau lliniarol neu adferol ychwanegol.
Adolygu’r cynllun rheoli amgylcheddol addasol
Gallai tystiolaeth a gasglwyd fel rhan o reoli addasol arwain at yr angen i ddiwygio'r cynllun rheoli amgylcheddol addasol. Dylech gynnwys darpariaeth ar gyfer adolygu'r cynllun rheoli amgylcheddol addasol i sicrhau bod y cynllun hwn yn cyflawni ei amcanion bwriadedig.
Sut rydym yn asesu eich cynllun rheoli amgylcheddol addasol
Mae'n rhaid i chi gyflwyno cynllun rheoli amgylcheddol addasol drafft o leiaf ar adeg cyflwyno cais. Mae'n rhaid i'r cynllun hwn gynnwys digon o wybodaeth i ni wneud penderfyniad ar addasrwydd y cynllun. Bydd lefel y manylion y mae eu hangen ar y cam hwn yn dibynnu ar raddfa'r effaith/effeithiau posib, ansicrwydd effeithiau, ac ansicrwydd o ran effeithiolrwydd y camau lliniaru arfaethedig. Yn ddelfrydol, dylai cynllun rheoli amgylcheddol addasol cyflawn gael ei gyflwyno yn ystod y cam ymgeisio.
Byddwn yn defnyddio'r cynllun rheoli amgylcheddol addasol hwn i lywio'r Asesiad o’r Effaith Amgylcheddol a'r Asesiad Rheoliadau Cynefinoedd, fel sy'n ofynnol. Nid yw'n ddigonol nodi y bydd effeithiau niweidiol yn cael eu hosgoi neu eu lleihau gan ddarpariaeth cynllun rheoli amgylcheddol addasol i'w gytuno'n ddiweddarach. Felly, mae'n rhaid i'r cynllun rheoli amgylcheddol addasol drafft gynnwys digon o fanylion i'n galluogi i benderfynu a yw'r mesurau lliniaru arfaethedig yn ddigonol i leihau'r effaith fwyaf posib i lefel sy'n is na'r hyn sy'n achosi effaith niweidiol. Yn y rhan fwyaf o achosion, bydd angen i'r cynllun rheoli amgylcheddol addasol fod yn ddatblygedig iawn cyn dyroddi trwydded forol.
Er mwyn sicrhau tryloywder yn ein proses drwyddedu, byddwn yn ymgynghori ar yr holl ddogfennau cais, gan gynnwys y cynllun rheoli amgylcheddol addasol a gyflwynwyd. Mae'n bwysig darparu digon o fanylion yn y cynllun rheoli amgylcheddol addasol drafft ar y cam ymgeisio i grwpiau â diddordeb ddeall sut rydych yn bwriadu rheoli effeithiau eich prosiect.
Gall manylion y cynllun rheoli amgylcheddol addasol gael eu cwblhau ar ôl dyroddi trwydded forol. Os dyma'r achos, bydd y drwydded forol yn cynnwys amod na fydd unrhyw waith yn dechrau nes cytunir ar y cynllun rheoli amgylcheddol addasol terfynol gyda Gwasanaeth Trwyddedu CNC. Bydd angen cytuno ar unrhyw newidiadau i'r cynllun rheoli amgylcheddol addasol sy'n codi o adolygiadau gan Wasanaeth Trwyddedu CNC cyn gweithredu unrhyw newidiadau.
Cynnal Asesiad o’r Effaith Amgylcheddol ar gyfer prosiectau sy’n defnyddio rheoli addasol
Defnyddir rheoli addasol yn aml pan fo ansicrwydd yn parhau yn dilyn cwblhau Asesiad o'r Effaith Amgylcheddol. Dylai rheoli addasol ond ganolbwyntio ar y materion nad oes modd eu datrys drwy'r Asesiad o'r Effaith Amgylcheddol. Lle mae rheoli addasol yn dibynnu ar gymharu data monitro â data llinell sylfaenol, mae'n rhaid disgrifio'r llinell sylfaenol yn y datganiad amgylcheddol.
Cynnal Asesiad Rheoliadau Cynefinoedd ar gyfer prosiectau sy’n defnyddio rheoli addasol
Mae prosiectau y mae ganddynt y potensial i achosi effeithiau ar safleoedd Ewropeaidd yn gofyn am gwblhau Asesiad Rheoliadau Cynefinoedd cyn dyroddi trwydded forol. Gall trwydded forol ond gael ei dyrannu os casgliad yr Asesiad Rheoliadau Cynefinoedd yw na fydd y prosiect yn achosi effaith niweidiol ar integredd unrhyw safle Ewropeaidd, oni bai fod modd cymhwyso paragraffau 64 a 68 Rheoliadau Cynefinoedd 2017 (nid oes unrhyw ddatrysiadau amgen, mae’r prosiect yn destun rhesymau hanfodol, sef er budd cyhoeddus tra phwysig, a bod modd darparu digollediad am y golled).
Wrth gynnal Asesiad Rheoliadau Cynefinoedd, mae'n rhaid i'r asesiad gynnwys yr holl agweddau ar y prosiect. Os gall y prosiect beri effaith niweidiol ar integredd safle Ewropeaidd, naill ai'n unigol neu ar y cyd â chynlluniau neu brosiectau eraill, bydd angen i chi ddarparu mesurau digonol i leihau'r effeithiau i lefel sy'n is na'r hyn sy'n peri effaith niweidiol. Oherwydd bod y broses o gynnal Asesiad Rheoliadau Cynefinoedd yn un rhagofalus, os yw'r effeithiau'n ansicr – ond gallent ddigwydd – ni allwn ddiystyru effaith niweidiol. Gallwch gynnig mesurau lliniaru posib efallai na fydd angen iddynt gael eu gweithredu gan ddefnyddio cynllun rheoli amgylcheddol addasol.
Oherwydd bod yn rhaid i ni gynnal yr Asesiad Rheoliadau Cynefinoedd cyn dyroddi unrhyw drwydded forol, mae'n rhaid i ni ystyried a fydd y mesurau rheoli a gynigir yn y cynllun rheoli amgylcheddol addasol yn ein caniatáu i ddod i'r casgliad na fydd unrhyw effaith niweidiol yn codi o'r prosiect ar unrhyw safle Ewropeaidd. Er mwyn dod i'r casgliad hwn, mae'n rhaid inni feddu ar ddigon o fanylion am y cynllun rheoli amgylcheddol addasol i benderfynu a fydd yn osgoi, yn lleihau neu'n lliniaru effeithiau niweidiol i lefel sy'n is na'r hyn sy'n peri effaith niweidiol wrth gael ei weithredu. Bydd y manylder sydd ei angen ar y cam hwn yn benodol i'r prosiect. Mae modd cael cyngor cyn ymgeisio ar y pwnc hwn drwy ein Gwasanaeth Cynghori yn ôl Disgresiwn.