Gall rheoli addasol gael ei ddefnyddio i fynd i'r afael â meysydd o ansicrwydd sy'n parhau ar ôl cwblhau asesiad amgylcheddol cadarn, neu lle mae'r llinell sylfaen amgylcheddol yn debygol o newid. Mewn rhai achosion, gall rheoli addasol gynnwys prosiectau mewn camau, er mwyn rheoli effeithiau amgylcheddol posib.

Cydsyniadau â chamau lluosog

Gall ymgeiswyr am drwyddedau morol ddewis sut i gyflwyno cais am brosiectau aml-gam. Dylech ystyried anghenion eich prosiect, ar y cyd â'r pwyntiau isod, wrth benderfynu sut i gyflwyno cais.

Ceir tri opsiwn gwahanol:

  • Cyflwyno cais am drwydded forol unigol ar gyfer pob cam.
  • Cyflwyno cais am drwydded forol unigol ar gyfer prosiect aml-gam, lle mae'n bosib asesu effaith amgylcheddol y prosiect cyfan.
  • Cyflwyno cais am drwydded forol unigol ar gyfer prosiect aml-gam lle diffinnir camau at ddiben mynd i'r afael ag ansicrwydd gweddilliol ar ôl yr asesiad amgylcheddol cychwynnol.

Mae'n fwy syml cyflwyno cais am drwydded forol ar gyfer prosiectau nad ydynt yn defnyddio camau o fewn y cydsyniad. Lle y bo'n bosib, lle nad oes modd asesu effeithiau amgylcheddol y prosiect cyfan, rydym yn annog ymgeiswyr i gyflwyno cais am gydsyniad unigol ar gyfer pob cam. Os ydych yn dymuno cyflwyno cais am gydsyniad unigol ar gyfer prosiect mewn camau, mae'n rhaid i'ch prosiect gyd-fynd â'n gofynion ar gyfer cydsyniadau mewn camau. Mae'n rhaid i chi wirio'n datganiad sefyllfa i gadarnhau bod eich prosiect yn bodloni'r gofynion hyn

Cyflwyno cais am drwydded forol ar gyfer pob cam

Os oes ansicrwydd am effeithiau amgylcheddol y prosiect oherwydd natur y prosiect, efallai y bydd yn briodol cyflwyno cais am gam unigol yn y prosiect. Y rheswm dros hyn yw bod effeithiau amgylcheddol yn debygol o fod yn fwy cyfyngedig yn y cam cychwynnol, a gall gwybodaeth gael ei chasglu o'r cam cyntaf i lywio ceisiadau ar gyfer camau dilynol y datblygiad.

Er mwyn defnyddio'r dull hwn, mae'n rhaid i bob cam fod yn annibynnol yn swyddogaethol ar gamau dilynol eraill er mwyn osgoi rhannu'r prosiect dan Reoliadau Asesu Effaith Amgylcheddol. Mae'n dderbyniol i gamau hwyrach adeiladu ar gamau cynharach.

Rydym yn annog ymgeiswyr i ddefnyddio'r dull hwn mewn achosion lle mae'n anodd asesu beth fydd effeithiau amgylcheddol y prosiect o bosib, neu lle mae ansicrwydd sylweddol am yr effeithiau.

Er mwyn ategu'r sail dystiolaeth, caiff data ei gasglu yn ystod y gweithgaredd trwyddedig i lywio'r cais/ceisiadau ar gyfer camau dilynol y datblygiad.

Bydd angen casglu peth data sylfaenol unwaith yn unig. Gall fod yn bosib defnyddio gwybodaeth a gasglwyd i lywio'r cais cyntaf yn y camau dilynol, os bydd yr wybodaeth hon yn parhau’n ddilys. Bydd casglu'r data sylfaenol yn gymesur â'r cam datblygu. Felly, efallai y bydd angen gwybodaeth ychwanegol ar gamau dilynol.

Cyhyd â bod y ceisiadau'n annibynnol yn swyddogaethol ar geisiadau dilynol, caiff pob cais ei asesu ar ei rinweddau ei hun. Gall hyn gynnwys asesiad cronnus neu asesiad cyfunol â chamau blaenorol.

Gellir ymwneud â'r prosiectau hyn fel ceisiadau am drwydded annibynnol neu ar wahân ar gyfer pob cam ac yn unol â'n prosesau trwyddedu morol.

Cyflwyno cais am drwydded forol unigol ar gyfer prosiect aml-gam, lle mae'n bosib asesu effaith amgylcheddol y prosiect cyfan

Lle bo gan brosiect gamau lluosog wedi’u diffinio yn ôl rhesymau technegol, gweinyddol neu ariannu, mae'n fwy priodol ymgeisio am drwydded forol unigol ar gyfer y prosiect cyfan, er mwyn sicrhau bod cydsyniad ar gyfer y prosiect cyfan yn cael ei gyflawni mor effeithlon â phosib.

Dylai eich asesiad gynnwys asesiad o effeithiau'r prosiect cyfan.

Dylech sicrhau bod pob cam o'r prosiect wedi'i ddiffinio'n briodol/digonol i lefel sy'n ein caniatáu i asesu effeithiau’r prosiect yn gynhwysfawr. Mae hyn yn cynnwys amserlenni, ac a yw unrhyw gamau'n gorgyffwrdd.

Gellir mynd i'r afael â'r prosiectau hyn yn unol â'n prosesau trwyddedu morol

Cyflwyno cais am drwydded forol unigol ar gyfer prosiect aml-gam lle diffinnir camau at ddiben mynd i'r afael ag ansicrwydd gweddilliol ar ôl yr asesiad amgylcheddol cychwynnol

Os oes ansicrwydd am effeithiau amgylcheddol y prosiect cyfan, mae modd rhannu'r prosiect yn gamau graddfa lai gyda'r nod o gasglu'r wybodaeth angenrheidiol i leihau'r ansicrwydd hwn.

Er ein bod yn argymell eich bod yn cyflwyno cais am drwydded forol ar gyfer cam ar raddfa prosiect y mae modd asesu nad yw’n cael unrhyw effeithiau sylweddol ar yr amgylchedd, rydym yn cydnabod efallai y byddwch yn dymuno cyflwyno cais ar gyfer y prosiect cyfan.

Mae'n rhaid i chi ddarparu digon o wybodaeth ynghyd â'r cais i'n galluogi ni, fel y rheoleiddiwr, i gynnal – lle y bo'n bosib – Asesiad Rheoliadau Cynefinoedd, asesiad cydymffurfio’r Gyfarwyddeb Fframwaith Dŵr, a chydsyniad Asesiad o'r Effaith Amgylcheddol.

Mae'n rhaid cynnal yr asesiadau amgylcheddol hyn ar gyfer y prosiect cyfan, yn ystod y broses gydsynio ffurfiol. Yn achos Asesiad Rheoliadau Cynefinoedd, nid oes modd rhoi cydsyniad ar gyfer prosiect oni bai fod y rheoleiddiwr yn fodlon na fydd unrhyw effeithiau niweidiol ar integredd safle unrhyw safle Ewropeaidd, neu y gellir bodloni gofynion rhanddirymu y Gyfarwyddeb Cynefinoedd (Erthygl 6(4), neu’r "profion am resymau hanfodol, sef er budd cyhoeddus tra phwysig"). Mewn rhai achosion, efallai y bydd hi'n bosib sicrhau na cheir unrhyw effaith niweidiol drwy'r defnydd o gamau a reolir yn ofalus yn y cydsyniad, a allai arwain, mewn rhai amgylchiadau, at wrthod caniatâd i barhau i gamau diweddarach.

Os ydych yn dymuno cyflwyno cais am gydsyniad unigol ar gyfer prosiect mewn camau, mae'n rhaid i'ch prosiect gyd-fynd â'n gofynion ar gyfer cydsyniadau mewn camau. Mae'n rhaid i chi wirio'n datganiad sefyllfa i gadarnhau bod eich prosiect yn bodloni'r gofynion hyn.  

Bydd angen i chi hefyd ddarllen ein canllawiau ar gyflwyno cais am drwyddedau morol gan ddefnyddio cynlluniau rheoli addasol.

Ein safbwynt ar y gofynion sylfaenol ar gyfer prosiectau aml-gam sy’n defnyddio cydsyniad unigol

Er bod effeithiau cam llai yn y prosiect yn debygol o fod yn llai nag effeithiau'r prosiect mwy, mae'n rhaid i'r prosiect, yn ei gyfanrwydd, gael ei asesu wrth benderfynu ar gydsyniad. Nid ystyrir y defnydd o gamau fel mesur lliniaru ynddo'i hun, oherwydd na fyddai'r defnydd o gamau ar ei ben ei hun yn lleihau effeithiau amgylcheddol y prosiect cyfan. Felly, mae'n rhaid bod yn glir sut y bydd camau'n cael eu defnyddio mewn cynllun rheoli amgylcheddol addasol i leihau’r risg gyffredinol y bydd effeithiau amgylcheddol yn digwydd.

Mewn rhai achosion, efallai y bydd hi'n bosib defnyddio data a gasglwyd yn y camau cynnar i lywio’r mesurau rheoli i’w cymryd, gan gynnwys a all y prosiect barhau i'r cam nesaf, neu a ddylai barhau yn y cam presennol. Polisi CNC yw y dylai hyn fod yn gyfyngedig i achosion lle mae pob un o'r canlynol yn berthnasol:

  • Mae diffiniad clir o raddau uchaf pob cam.
  • Mae’r camau'n 'fodylaidd'. Er enghraifft, defnyddio rhagor o ddyfeisiau, neu ddyfeisiau mwy, mewn camau diweddarach. NID ystyrir bod adeiladu seilwaith sy'n gallu cynnal capasiti uchaf y prosiect cyfan, a defnyddio camau i gyfyngu ar y capasiti sy'n cael ei ddefnyddio yn y cam cychwynnol, yn ddefnydd priodol o gamau.
  • Byddai datgomisiynu'r prosiect yn cynnwys tynnu'r holl strwythurau neu ran ohonynt ar unrhyw adeg yn ystod y prosiect.
  • Mae'n bosib dod i'r casgliad na fydd cam cyntaf y prosiect yn peri effaith niweidiol ar integredd safle unrhyw safle Ewropeaidd yn ystod Asesiad Rheoliadau Cynefinoedd.
  • Mae'r ymgeisydd wedi nodi pa ddata a fydd yn cael ei gasglu a sut bydd yn cael ei gasglu.
  • Nid oes modd casglu'r data i'w gasglu cyn y prosiect a bydd casglu'r data hwn yn lleihau ansicrwydd yr asesiad. Nid yw'r dull hwn yn disodli asesiad amgylcheddol gwirioneddol.
  • Mae'r ymgeisydd wedi nodi sut bydd data'n cael ei ddefnyddio i lywio cynnydd i gam nesaf y prosiect.

Mae'n rhaid i swyddog trwyddedu CNC allu dod i'r canlyniad na fydd effaith niweidiol ar integredd safle yn digwydd am y prosiect cyfan naill ai oherwydd bod mesurau lliniaru digonol ar waith neu oherwydd ei bod yn bosib atal datblygiad y cam nesaf nes bydd Gwasanaeth Trwyddedu CNC wedi cadarnhau bod casgliad yr Asesiad Rheoliadau Cynefinoedd na fydd effaith niweidiol ar integredd safle yn parhau i fod yn wir os bydd y prosiect yn parhau i'r cam nesaf. Nid oes sicrwydd y bydd prosiectau â chydsyniadau cam wrth gam yn parhau i gael eu datblygu’n llawn.

Diweddarwyd ddiwethaf