Gwneud cais am drwydded forol band 2
Ar gyfer pwy mae’r gwasanaeth hwn
Mae’r gwasanaeth hwn ar gyfer yr ymgeiswyr canlynol sydd:
- yn gwybod bod eu gweithgaredd yn gymwys ar gyfer band 2
- yn barod i gyflwyno a thalu am eu cais
Gwiriwch pa fand trwydded forol sydd ei angen arnoch os nad ydych chi’n siŵr.
Cyn i chi ddechrau
Bydd angen i chi wneud y canlynol:
Taliadau
Bydd angen i chi dalu £1,920 ar ôl i chi gyflwyno’r cais.
Gallwch dalu drwy’r dulliau canlynol:
- cerdyn debyd neu gredyd
- trosglwyddiad banc
Ni fydd eich cais yn cael ei asesu nes bod taliad wedi’i dderbyn.
Os bydd angen i ni ddefnyddio ymgynghorydd allanol i asesu eich cais, byddwn yn dweud wrthych cyn i ni wneud hynny ac yn anfon anfoneb ar wahân atoch am y gost.
Beth sy’n digwydd ar ôl i chi wneud cais
Byddwn yn gwneud y canlynol:
- adolygu eich cais i wirio ei fod yn gyflawn
- cysylltu â chi os oes angen rhagor o wybodaeth arnom
- cadarnhau drwy e-bost pan fydd gennym bopeth sydd ei angen arnom i’w asesu
Fel arfer, byddwch yn derbyn penderfyniad o fewn 18 wythnos.
Mae’r cyfnod o 18 wythnos yn dechrau o’r adeg y byddwn yn cadarnhau bod eich cais wedi’i gwblhau. Efallai na fydd yn dechrau ar y diwrnod y byddwch yn ei gyflwyno.
Efallai y byddwn yn cynnal adolygiad cynnar o’ch dull arfaethedig, a elwir yn 'wiriad addasrwydd'. Byddwn yn cysylltu â chi ynglŷn â hyn os oes angen.
Cyflwyno eich cais drwy e-bost
Rhaid i chi gyflwyno eich ffurflenni wedi’u cwblhau a’ch dogfennau ategol drwy e-bost i:
permitreceiptcentre@naturalresourceswales.gov.uk
Os yw eich ffeiliau’n rhy fawr i’w hatodi, anfonwch e-bost i roi gwybod i ni. Yna byddwn yn dweud wrthych beth i’w wneud nesaf.