Trwyddedau rheolau safonol ar gyfer safleoedd

Trwyddedau Rheolau Safonol

Cyn ichi wneud cais am drwydded rheolau safonol, gwnewch yn siŵr eich bod yn deall y rheolau safonol, eu bod yn disgrifio’n union yr hyn rydych eisiau ei wneud ac y bydd modd ichi fodloni gofynion y rheolau.

Ar gyfer pob cyfleuster mae yna gyfres o reolau, canllawiau ar sut i gydymffurfio â’r rheolau ac asesiad risg. Efallai y byddwn yn gosod terfynau ar agosrwydd eich gweithgaredd at safleoedd gwarchod natur neu’n pennu a yw allyriadau yn y tarddle’n cael eu caniatáu, ai peidio.

Bydd gwneud cais am drwydded safonol yn arbed amser ac arian. Fodd bynnag, cyn ichi benderfynu gwneud cais, rhaid ichi fod yn ymwybodol o rai nodweddion pwysig:

• Ni allwch amrywio’r rheolau ac nid oes gennych hawl i apelio yn eu herbyn;
• Os ydych eisiau newid eich gweithrediadau, fel na fydd trwydded safonol yn addas i’ch gweithred mwyach, fe fydd yn rhaid ichi wneud cais i newid eich trwydded er mwyn cael trwydded bwrpasol;
• Os bydd eich amgylchedd lleol yn newid ar ôl i’ch trwydded gael ei rhoi (er enghraifft oherwydd newid yn niffiniad parth gwarchod tarddiad dŵr daear), efallai y bydd yn rhaid ichi uwchraddio’r gweithrediad i safon sy’n ddigonol ar gyfer yr amgylchedd, neu wneud cais i gael trwydded bwrpasol;
• Ar gyfer gollyngiadau trwydded safonol i ddyfroedd wyneb, bydd y tâl parhau yn cychwyn o’r dyddiad y caiff y drwydded ei rhoi. Argymhellwn nad ydych yn gwneud cais am drwydded safonol amser maith cyn yr adeg y mae ei hangen, oni bai eich bod derbyn y taliadau hyn. Ar hyn o bryd ni cheir trwyddedau rheolau safonol ar gyfer elifion carthion i’r ddaear/dŵr daear.
• Dylech gadarnhau pa un a fyddwn yn cyflwyno unrhyw newidiadau i’r rheolau cyn ichi wneud cais, er mwyn gwneud yn siŵr y byddwch yn parhau i allu eu bodloni pan gaiff y newidiadau eu cyhoeddi. Os na allwch eu bodloni, dylech ystyried gwneud cais am drwydded bwrpasol.

Os yw’r rheolau safonol ar waelod y dudalen hon yn ymdrin â’r gweithgaredd rydych yn awyddus i fynd i’r afael ag ef, dewiswch y ddolen a darllenwch drwy’r rheolau safonol llawn yn drylwyr a’r asesiad risg generig cysylltiedig.

Gwnewch yn siŵr eich bod yn deall y rheolau safonol sy’n disgrifio’n union yr hyn rydych eisiau ei wneud, a gwnewch yn siŵr y bydd modd ichi fodloni gofynion y rheolau hyn. Os na allwch gydymffurfio ag unrhyw un o’r rheolau safonol, rhaid ichi wneud cais am drwydded bwrpasol.

Darllenwch ein tudalen Sut i wneud cais am drwydded amgylcheddol cyn cyflwyno cais, er mwyn cael yr wybodaeth ddiweddaraf am y broses ymgeisio.

Newidiadau i drwyddedau rheolau safonol o Hydref 2018 ymlaen

Mae setiau rheolau SR2012 Rhif 9 a SR2012 Rhif 11 wedi'u tynnu allan ar gyfer ymgeiswyr newydd. Os oes gennych chi un o'r setiau rheolau hyn ar hyn o bryd, cysylltwch â swyddog cydymffurfio eich safle.

Cyn i chi wneud cais

Mae’r rheolau safonol wedi’u rhestru isod. Mae yna set o reolau ar gyfer pob cyfleuster, canllawiau ar sut i gydymffurfio â’r rheolau ac asesiad risg.

Efallai y byddwn yn gosod terfynau ar ba mor agos y gallwch chi gynnal gweithgarwch at safleoedd cadwraeth natur neu nodi a yw allyriadau tarddle yn cael eu caniatáu

Mae gwneud cais am drwydded safonol yn arbed amser ac arian i chi. Ond mae’n rhaid i chi fod yn ymwybodol o rai nodweddion pwysig cyn ymgeisio:

  • Allwch chi ddim amrywio’r rheolau a does gennych chi ddim hawl i apelio yn eu herbyn; 
  • Os ydych chi am newid eich gweithrediadau ac na fydd trwydded safonol yn berthnasol i’ch gwaith wedi hynny, bydd raid i chi wneud cais i newid eich trwydded i fod yn drwydded bwrpasol;
  • Os bydd eich amgylchedd lleol yn newid ar ôl i chi gael y drwydded (er enghraifft, yn sgil newid i’r diffiniad o barth diogelu tarddiad dŵr daear), efallai y bydd angen i i chi uwchraddio’r gwaith i safon sy’n ddigonol ar gyfer yr amgylchedd newydd, neu wneud cais i newid eich trwydded i fod yn drwydded bwrpasol
  • Yn achos gollyngiadau trwydded safonol i ddŵr wyneb, bydd y tâl cynhaliaeth yn dechrau o ddyddiad cyhoeddi’r drwydded. Rydym yn eich cynghori i beidio â gwneud cais am drwydded safonol ymhell cyn bod angen y drwydded oni bai eich bod yn derbyn bod rhaid i chi dalu’r taliadau hyn. Ar hyn o bryd, does dim trwyddedau rheolau safonol ar gyfer elifion carthion i’r ddaear/dŵr daear
  • Dylech wirio a ydym yn bwriadu gwneud unrhyw newidiadau i’r rheolau cyn i chi wneud cais i wneud yn siŵr y byddwch chi’n dal i allu cydymffurfio â nhw pan gyhoeddir y newidiadau. Os na fyddwch yn gallu, dylech ystyried gwneud cais am drwydded bwrpasol. Cliciwch ar y ddolen isod i gael gwybodaeth am ymgynghoriadau ar reolau safonol:
  • Ymgynghoriadau

Gall trwydded safonol gynnwys mwy nag un set o reolau, felly gallwch gael un drwydded ar gyfer nifer o gyfleusterau. Er enghraifft, gallech gael un drwydded safonol i weithredu gorsaf drosglwyddo gwastraff a gwaith gwastraff mwyngloddio.

Sut i wneud cais

Gwnewch yn siŵr eich bod yn deall y rheolau safonol sy’n disgrifio’n union yr hyn rydych eisiau ei wneud, a gwnewch yn siŵr y bydd modd ichi fodloni gofynion y rheolau hyn. Darllenwch drwy’r rheolau safonol llawn yn drylwyr a’r asesiad risg generig cysylltiedig.

Os na allwch gydymffurfio ag unrhyw un o’r rheolau safonol, rhaid ichi wneud cais am drwydded bwrpasol.

Mae’r trwyddedau rheolau safonol sydd ar gael ar gyfer safleoedd wedi’u rhestru ar y dudalen rheolau. (Saesneg yn unig.)

Sut i dalu

Gallwch dalu am eich cais am drwydded yn y ffyrdd canlynol:

Ffoniwch ni ar 0300 065 3000 rhwng 9 a 5, rhwng dydd Llun a dydd Gwener.

Trosglwyddiad BACS i:

Enw'r wwmni: Cyfoeth Naturiol Cymru
Cyfeiriad y cwmni: Adran Incwm, Bwlch Post 663, Caerdydd, CF24 0TP
Banc: RBS
Cyfeiriad: National Westminster Bank Plc., 2 1/2 Devonshire Square, Lundain, EC2M 4BA
Cod didoli: 60-70-80
Rhif cyfrif: 10014438​

Ffioedd a thaliadau

Darllenwch fwy am ffioedd a thaliadau yn ein cynllun codi tâl trwyddedau amgylcheddol 2019/2020

Help gyda’ch cais 

ymholiadau@cyfoethnaturiolcymru.gov.uk

Rhif ymholiadau cyffredinol 0300 065 3000

 

Diweddarwyd ddiwethaf