Penderfyniad rheoliadol: Rheoli Safleoedd o Ddiddordeb Gwyddonol Arbennig (SoDdGA) lle nad yw tir a oedd gynt dan ganiatâd Glastir sydd wedi dod i ben wedi symud i Gynllun Cynefin Cymru

Mae’r penderfyniad rheoliadol hwn yn ddilys tan 1 Ionawr 2025, pan fyddwn yn ei adolygu.

Dylech wirio yn ôl bryd hynny i weld a yw'r penderfyniad rheoliadol yn dal yn ddilys.

Mae’r penderfyniad rheoliadol hwn yn berthnasol os yw pob un o'r canlynol yn berthnasol: 

  • rydych yn berchennog neu’n feddiannydd tir o fewn Safle o Ddiddordeb Gwyddonol Arbennig (SoDdGA) 
  • roedd y tir yn destun contract Glastir Uwch neu Glastir - Tir Comin yn 2023 
  • mae’r contract Glastir Uwch neu Glastir - Tir Comin wedi dod i ben oherwydd ei fod wedi cyrraedd y dyddiad terfynu rhagnodedig 
  • nid yw'r tir wedi'i gynnwys yng Nghynllun Cynefin Cymru, ond ni fydd unrhyw newid yn rheolaeth y tir

Penderfyniad rheoliadol 

Daeth caniatâd SoDdGA i wneud gwaith a nodwyd yn eich Hysbysiad Cydsyniad blaenorol ar gyfer gweithgareddau rheoli sy’n ymwneud â’ch contract Glastir Uwch neu Glastir – Tir Comin i ben pan ddaeth y contract i ben ar 31 Rhagfyr 2023. 

Mae’r penderfyniad rheoliadol hwn yn golygu, heb orfod cael caniatâd ysgrifenedig gennym ni, y byddwch yn gallu parhau â’r un gweithgareddau rheoli ar SoDdGA o 1 Ionawr 2024. 

Amodau y mae'n rhaid i chi gydymffurfio â nhw 

Bydd y gwaith o reoli’r tir SoDdGA yn parhau’n gwbl unol â’ch caniatâd CNC diweddaraf mewn perthynas â chontract Glastir Uwch neu Glastir – Tir Comin.

Cyn cyflwyno unrhyw newid i’r modd y rheolir y tir SoDdGA, rhaid i chi roi gwybod i ni a chael caniatâd o dan adran 28E o'r Ddeddf Bywyd Gwyllt a Chefn Gwlad.

Gorfodi 

Mae penderfyniad rheoliadol yn golygu na fydd Cyfoeth Naturiol Cymru fel arfer yn cymryd camau gorfodi yn eich erbyn cyn belled â'ch bod yn sicrhau'r canlynol: 

  • bod eich gweithgarwch yn unol â'r disgrifiad a nodir yn y penderfyniad rheoliadol hwn 
  • eich bod yn cydymffurfio â'r amodau a nodir yn y penderfyniad rheoliadol hwn
  • nad yw eich gweithgarwch yn achosi llygredd amgylcheddol neu niwed i iechyd dynol, ac nad yw'n debygol o wneud hynny

Os ydych yn gweithredu o dan y penderfyniad rheoliadol hwn ond yn meddwl efallai na fyddwch yn gallu cydymffurfio â’i amodau mwyach, rhaid i chi roi’r gorau i’r gweithgaredd a dweud wrth Cyfoeth Naturiol Cymru ar unwaith.

Diweddarwyd ddiwethaf