Asesiadau cyflwr ar gyfer safleoedd morol Ewropeaidd Cymru (EMS)
Mae ein hasesiadau cyflwr yn hanfodol os ydych chi’n:
- datblygu, cynnig neu asesu gweithgaredd, cynllun neu brosiect a allai effeithio ar nodweddion gwarchodedig Safle Morol Ewropeaidd
- paratoi asesiadau rheoliadau cynefinoedd neu asesiadau o’r effaith amgylcheddol ar gyfer cynlluniau neu brosiectau arfaethedig a allai effeithio ar nodweddion gwarchodedig Safle Morol Ewropeaidd
- cynllunio mesurau i gynnal neu adfer Safle Morol Ewropeaidd a’i nodweddion gwarchodedig
- rheoli cyflwr y nodweddion gwarchodedig
Mae asesiadau cyflwr trawsffiniol wrthi’n cael eu datblygu, ac nid ydynt wedi’u cynnwys ar hyn o bryd.
Cynhaliwyd y gwaith hwn fel rhan o’r Prosiect Cyngor Gwella Cadwraeth Forol, a ariannwyd gan Lywodraeth Cymru drwy ei rhaglen Rhwydweithiau Natur. Gellir gweld crynodeb o’r broses asesu a'r canlyniadau yn yr adroddiad terfynol.
Adroddiadau ar lefel y safle
Mae asesiadau cyflwr llawn wedi’u cynhyrchu ar gyfer y cynefinoedd a’r rhywogaethau dynodedig (a elwir yn ‘nodweddion’) yn safleoedd morol Ewropeaidd Cymru:
- ardaloedd gwarchodaeth arbennig morol (AGAau)
- ardaloedd cadwraeth arbennig morol (ACAau)
Ardaloedd cadwraeth arbennig
Mae’r adroddiadau hyn yn cynnwys yr asesiadau cyflwr ar gyfer yr holl nodweddion morol o fewn pob safle ACA:
- ACA Arfordir Ynys Môn
- ACA Bae Ceredigion
- ACA Bae ac Aberoedd Caerfyrddin
- ACA Bae Cemlyn
- ACA y Fenai a Bae Conwy
- ACA Sir Benfro Forol
- ACA Pen Llŷn a’r Sarnau
Ardaloedd Gwarchodaeth Arbennig
Mae’r adroddiadau hyn yn cynnwys yr asesiadau cyflwr ar gyfer yr holl nodweddion morol o fewn pob safle AGA:
- AGA Bae Caerfyrddin
- AGA Cilfach Tywyn
- AGA Môrwenoliaid Ynys Môn
- AGA Gogledd Bae Ceredigion
- AGA Gwales
- AGA Traeth Lafan
- AGA Dyfi
- AGA Arfordir Aberdaron ac Ynys Enlli
Adroddiadau lefel nodwedd
Mae’r adroddiadau hyn yn cynnwys asesiadau cyflwr pob nodwedd forol o fewn ACAau Cymru:
- Morlynnoedd arfordirol
- Banciau tywod
- Dolydd arfor Iwerydd a salicornia
- Gwastadeddau llaid a gwastadeddau tywod
- Riffau
- Aberoedd
- Cilfachau a baeau bas mawr
- Ogofâu môr
- Llysywen bendoll yr afon a’r môr
- Herlyn a gwangen
- Morlo llwyd
- Dyfrgi
- Dolffin trwyn potel
Nid yw’r asesiadau cyflwr hyn yn uniongyrchol gymharol â’r asesiadau cyflwr dangosol a gyhoeddwyd yn 2018, gan fod dulliau gwahanol wedi’u defnyddio.
Gweler yr adroddiadau cyngor cadwraeth cysylltiedig ar gyfer safleoedd morol Ewropeaidd.