Sychder
Mae sychder yn ddigwyddiad naturiol nad oes modd ei atal. Mae pob sychder yn wahanol a gall pob un gael effaith wahanol ar bobl, busnesau a'r amgylchedd. Weithiau bydd sychder yn effeithio ar ardal eang, a phryd arall dim ond ychydig o ddalgylchoedd sy'n dioddef.
Y defnydd cywir o adnoddau dŵr
Mae Cyfoeth Naturiol Cymru yn gyfrifol am sicrhau'r defnydd cywir o adnoddau dŵr yng Nghymru, ac am sicrhau bod digon o ddŵr ar gael ar gyfer yr holl anghenion, gan gynnwys anghenion amgylcheddol. Rydyn ni'n gwneud hyn trwy reoli tynnu dŵr, monitro'r amgylchedd a chydweithio'n agos gyda'r diwydiant dŵr a phobl eraill sy'n tynnu dŵr er mwyn rheoli adnoddau.
Monitro a thrwyddedau sychder
Ar adegau o sychder, rydyn ni'n monitro ac yn adrodd ar effeithiau amgylcheddol ac yn monitro cwmnïau dŵr i sicrhau eu bod nhw'n cadw at eu cynlluniau sychder Rydyn ni hefyd yn asesu ac yn arfarnu ceisiadau am drwyddedau sychder. Ar adeg o sychder, rydyn ni'n cydweithio gyda chwmnïau dŵr ac eraill i reoli'r effeithiau ar bobl, busnesau a'r amgylchedd.
Ein cynllun sychder
Mae Cyfoeth Naturiol Cymru yn cynhyrchu cynllun sychder sy'n disgrifio'r dangosyddion rydyn ni'n eu defnyddio ar hyn o bryd i ddosbarthu cyfnodau sychder. Mae sychderau'n gymhleth ac mae modd eu mesur mewn sawl ffordd. Maen nhw hefyd yn effeithio ar elfennau gwahanol o'r amgylchedd a defnyddwyr dŵr mewn ffyrdd gwahanol.
Fframwaith hyblyg
Mae ein cynllun sychder yn darparu fframwaith hyblyg ar gyfer ymdrin â digwyddiadau sychder gwahanol, a hwn yw llawlyfr gweithredu timau sychdwr sy'n gweithio i Cyfoeth Naturiol Cymru. Mae'n ymdrin â'r penderfyniadau a'r camau gweithredu allweddol y bydd ein timau'n eu cymryd i ddarganfod dechrau a diwedd sychder ac i reoli'r effaith ar adegau o sychder.
Paratoi ar gyfer sychder
Rydyn ni'n diweddaru ein cynlluniau sychder bob blwyddyn. Rydyn ni hefyd yn cynnal ymarferion sychder i sicrhau ein bod ni'n barod ar gyfer sychder. Mae'r ymarferion hyn yn seiliedig ar wybodaeth o sychderau hanesyddol, ac maen nhw hefyd yn fodd o brofi'r camau gweithredu yn ein cynlluniau. Rydyn ni hefyd yn gweithio i sicrhau bod ein cyfathrebu allanol ar adegau o sychder yn rhoi disgrifiadau clir a manwl o sut a ble mae'r sychder yn datblygu, beth yw ei effeithiau, a pha risgiau sy'n bosibl yn y dyfodol.
Sychder ar safleoedd wedi'u dynodi gan Ewrop
Lle gallai camau yn ein cynllun sychder gael effaith ar safleoedd wedi'u dynodi gan Ewrop (Ardaloedd Cadwraeth Arbennig neu Ardaloedd Gwarchodaeth Arbennig), byddwn ni'n cynnal Asesiad Rheoliadau Cynefinoedd i ddarganfod a oes perygl y gallen nhw effeithio ar y safle. Os byddwn ni'n ystyried bod yr effeithiau posibl yn debygol o fod yn ddifrifol, neu os nad oes modd gwybod pa mor ddifrifol byddan nhw, byddwn ni'n cynnal asesiad priodol.
Gorchmynion sychder CNC
Gallwn ni wneud cais am orchymyn sychder Cyfoeth Naturiol Cymru os yw'r amgylchedd yn dioddef difrod difrifol o ganlyniad i dynnu dŵr ar adeg o sychder. Byddwn ni'n gwneud cais am orchmynion sychder amgylcheddol dim ond os bydd eu hangen. Er enghraifft, cafodd gorchymyn sychder ei ganiatáu yng Nghymru yn ystod sychder 1995/96 er mwyn lleihau faint o ddŵr oedd yn cael ei ryddhau o Lyn Celyn o lefelau digolledu'r haf i lefelau digolledu'r gaeaf. Cafodd y mesur hwn ei gyflwyno fel bod mwy o ddŵr ar gael i'w ddefnyddio i ddiogelu'r amgylchedd.
Cynlluniau sychder cwmnïau dŵr
Mae gan gwmnïau dŵr ddyletswydd statudol i baratoi, ymgynghori, cyhoeddi a chynnal cynllun sychder. Mae’r cynlluniau hyn yn dangos sut mae’r ymgymerwr dŵr am gyflenwi dŵr i gwsmeriaid yn ystod cyfnodau o lawiad isel, pan fydd cyflenwadau dŵr yn prinhau a sut mae lleihau effeithiau andwyol yn ystod sychder. Mae gofyn i gwmnïau dŵr gynnal ymgynghoriadau ynglŷn â’u cynlluniau ac rydyn ni’n ymgynghorai statudol ar gynlluniau drafft. Rydyn ni’n ymateb i’r rhain trwy lunio cynrychiolaeth ffurfiol.
Mae Cyfoeth Naturiol Cymru wedi cynhyrchu canllaw technegol cynllun sychder i gwmnïau dŵr (i gwmnïau dŵr sy’n llwyr neu’n rhannol yng Nghymru) i’w dilyn wrth baratoi cynllun sychder. Mae’r ddogfen ar gael yma: canllaw technegol cynllun sychder cwmnïau dŵr (Saesneg yn unig).
Mae egwyddorion arweiniol Llywodraeth Cymru ar gyfer datblygu cynlluniau sychder i gwmnïau dŵr sy’n llwyr neu’n rhannol yng Nghymru wedi’u cyhoeddi ar wahân yn y canllaw hwn. Mae’r egwyddorion arweiniol yn sefydlu proses statudol a disgwyliadau polisi'r cynllun sychder. Dylai’r cwmnïau Dŵr gyfeirio at yr egwyddorion arweiniol mewn cysylltiad â’n canllaw wrth baratoi eu cynllun sychder.
Os ydy cwmni dŵr yn llwyr neu’n rhannol yn Lloegr, gyda lleoliadau sy’n effeithio ar Gymru, fe fydd gofyn iddyn nhw ddilyn canllawiau Defra a chynllun sychder cwmnïau dŵr Asiantaeth yr Amgylchedd wrth ddatblygu eu cynlluniau. Wrth ddatblygu cynnwys eu hasesiadau amgylcheddol, cynlluniau monitro amgylcheddol, Asesiad Amgylcheddol Strategol ac Asesiad Rheoliadau Cynefinoedd ar gyfer gweithredoedd rheoli sychder a leolir yng Nghymru, fe ddylen nhw gyfeirio at ein canllaw. Yn fwyaf arbennig, fe fydd gofyn iddyn nhw ystyried eu goblygiadau mewn perthynas â Deddf yr Amgylchedd (Cymru) 2016 a Deddf Llesiant Cenedlaethau’r Dyfodol (Cymru) 2015 ar gyfer y lleoliadau hyn.
Gweithio gyda phartneriaid
Mae Cyfoeth Naturiol Cymru yn cydweithio â’r Environment Agency, Defra a Llywodraeth Cymru i gynhyrchu canllawiau i gwmnïau dŵr eu dilyn wrth ddatblygu eu cynlluniau. Mae'n ofynnol i gwmnïau dŵr ymgynghori ar eu cynlluniau ac mae CNC yn un o'r cyrff y mae'n ofynnol dan y gyfraith i'r cwmnïau ymgynghori â nhw. Byddwn ni'n ymateb i'r rhain trwy gyfrwng sylwadau ffurfiol.
Datganiadau ymateb
Ar ôl derbyn ymatebion i'r ymgynghoriad, mae'n ofynnol i'r cwmnïau dŵr gyhoeddi datganiad ymateb sy'n nodi sut maen nhw wedi delio gyda sylwadau cyrff eraill. Mae Cyfoeth Naturiol Cymru yn rhoi cyngor i Lywodraeth Cymru ynglŷn ag ymatebion cwmnïau dŵr sy'n gyfan gwbl neu'n bennaf yng Nghymru. Gall Llywodraeth Cymru fynnu gwrandawiad neu ymchwiliad, neu roi cyfarwyddyd i'r cwmni i gyhoeddi ei gynllun terfynol.
Mae cynlluniau sychder diweddaraf cwmnïau dŵr sy’n effeithio ar Gymru (naill ai cyflenwi cwsmeriaid yng Nghymru neu dynnu dŵr o Gymru) ar gael yma
Cyflenwadau Dŵr Preifat
Caiff lefelau dŵr daear eu bwydo gan law. Fel arfer, mae lefelau dŵr daear yn codi yn ystod y gaeaf ac yn lleihau drwy’r haf. Gall gymryd peth amser i lefelau dŵr daear godi mewn ymateb i law gan fod yn rhaid i’r dŵr wlychu’r pridd a theithio wedyn drwy’r ddaear ac i wagleoedd rhwng creigiau ymhellach dan y ddaear. Pan na cheir llawer o law am gyfnod maith, gall lefelau dŵr daear ostwng yn sylweddol ac fe all hyn effeithio ar gyflenwadau dŵr preifat, er enghraifft ffynhonnau’n sychu neu bympiau’n rhedeg yn sych.
Cyflenwadau amgen
- Pe bai lefelau dŵr yn isel iawn, cymerwch gamau i chwilio am gyflenwad dŵr arall. Siaradwch â’ch cymdogion i weld a allant hwy eich cyflenwi â dŵr pe bai eich ffynhonnell chi’n sychu. Os dewiswch wneud hyn, gwnewch yn siŵr fod y cynwysyddion a ddefnyddiwch i gludo’r dŵr yn cael eu glanhau a’u diheintio rhag i’r dŵr gael ei halogi. Gellir cael Canllawiau ar atal dŵr rhag cael ei halogi ar wefan yr Arolygiaeth Dŵr Yfed neu ar wefan WRAS
- Ceisiwch ddarganfod a oes yna brif gyflenwad gerllaw y gallwch gysylltu ag ef i gael cyflenwad dŵr wrth gefn. Cysylltwch â’ch cwmni dŵr neu eich cyngor lleol i gael mwy o wybodaeth
- Mae gan yr Arolygiaeth Dŵr Yfed wybodaeth bellach am reoliadau’n ymwneud â chyflenwadau dŵr yfed mewn argyfwng. Mae’r wybodaeth hon hefyd yn ymdrin â swyddogaethau a chyfrifoldebau’r awdurdod lleol a’r cwmni dŵr lleol mewn perthynas â chyflenwadau dŵr preifat mewn mwy o fanylder
Dolenni defnyddiol
Cynllun Ymgynghori Rheoliadau Dŵr
Ceisiadau am drwyddedau a gorchmynion sychder gan gwmnïau dŵr
Gall Cwmnïau dŵr wneud cais am drwyddedau neu orchmynion sychder i helpu i gynnal cyflenwadau dŵr i'r cyhoedd neu er mwyn gwarchod yr amgylchedd lle mae diffyg glaw eithriadol wedi bod. Gellir dod o hyd i wybodaeth ar y dudalen sut i ymgeisio am drwyddedau a gorchmynion sychder.
Gwneud cais am drwyddedau sychder (i Cyfoeth Naturiol Cymru)
Yng Nghymru, Cyfoeth Naturiol Cymru sy'n caniatáu trwyddedau sychder. Yn Lloegr, Asiantaeth yr Amgylchedd sy'n gyfrifol.
Gwneud cais am orchmynion sychder (i weinidogion Cymru / yr Ysgrifennydd Gwladol)
Yng Nghymru, gweinidogion Llywodraeth Cymru sy'n caniatáu gorchmynion sychder. Yn Lloegr, yr Ysgrifennydd Gwladol sy'n gyfrifol.
Os caiff trwyddedau neu orchmynion eu caniatáu, maen nhw'n rhoi hawl i gwmnïau dŵr gymryd y camau hyn:
- Tynnu rhagor o ddŵr
- Lleihau faint o ddŵr sy'n cael ei dynnu gan eraill
- Cyfyngu ar rai mathau o ddefnyddio dŵr
Mae gorchmynion sychder hefyd yn caniatáu i Cyfoeth Naturiol Cymru / Environment Agency addasu, cyfyngu neu atal tynnu dŵr er mwyn gwarchod yr amgylchedd.
Canolfan Drwyddedu Cymru
Mae Canolfan Drwyddedu Cymru (CDC) o fewn Cyfoeth Naturiol Cymru yn delio â cheisiadau am drwyddedau sychder gan gwmnïau dŵr ac yn ymateb i weinidogion ynglŷn â cheisiadau am orchmynion sychder yng Nghymru.
Wrth ddelio â cheisiadau am drwyddedau a gorchmynion sychder, rydym yn dilyn yr arweiniad yng nghanllawiau Llywodraeth Cymru, Cyfoeth Naturiol Cymru, Defra a’r Environment Agency.