Sut mae Asesiad Rheoliadau Cynefinoedd yn cael ei gynnal yn y broses drwyddedu forol

Y Cefndir

Mae’r Rheoliadau Gwarchod Cynefinoedd a Rhywogaethau 2017 a Rheoliadau Cadwraeth Cynefinoedd Morol Alltraeth a Rhywogaethau 2017 yn caniatáu dynodi a gwarchod ardaloedd sy’n cynnal rhai cynefinoedd a rhywogaethau pwysig. Mae’r safleoedd dan Warchodedaeth Ewropeaidd yn cael eu galw’n:

  • Ardaloedd Cadwraeth Arbennig i warchod rhai cynefinoedd a rhywogaethau
  • Ardaloedd Gwarchodaeth Arbennig i warchod rhai rhywogaethau o adar gwyllt

Bydd unrhyw gais am waith o fewn neu ger safle Ewropeaidd yn dod o dan Reoliadau Cadwraeth Cynefinoedd a Rhywogaethau 2017 a Rheoliadau Cadwraeth Cynefinoedd Morol Alltraeth a Rhywogaethau 2017. Mae hynny'n golygu y byddwn yn cynnal Asesiad Rheoliadau Cynefinoedd (HRA).

Yng Nghymru a’r DU, mae Safleoedd Ramsar (a ddynodwyd o dan Gonfensiwn Ramsar) hefyd yn derbyn yr un warchodaeth â Safleoedd Natura 2000 wedi’u dynodi’n llawn.Gyda’i gilydd, cyfeirir at y safleoedd rhyngwladol fel Safleoedd Ewropeaidd.

Sut mae Asesiad Rheoliadau Cynefinoedd yn cael ei gynnal yn y broses drwyddedu forol

Y camau cyntaf

Y prawf cyntaf yw a fyddai’r prosiect arfaethedig yn debyg o gael effaith arwyddocaol ar y Safle Ewropeaidd berthnasol.

Prosiectau gydag effeithiau arwyddocaol

Os byddwn yn dod i’r casgliad y byddai’r gwaith yn debyg o gael effaith arwyddocaol, byddwn yn cynnal Asesiad Priodol ohono i asesu a fyddai’n amharu ar integriti’r Safle Ewropeaidd.

Prosiectau gydag effeithiau niweidiol

Oni bai ein bod yn dod i'r casgliad nad oes unrhyw effaith niweidiol, bydd yn rhaid i'r ymgeisydd ystyried sut y gellir lliniaru’r effeithiau niweidiol.

Os nad fydd y mesurau lliniaru a gynigir yn briodol ac yn ddigonol, ni fydd y prosiect yn derbyn caniatâd oni bai nad oes yna unrhyw ffordd arall o’i wireddu, fod yna resymau o fudd cyhoeddus hynod bwysig pam y dylai symud yn ei flaen ac ar ȏl cytuno ar becyn lliniaru priodol.

Asesiadau Priodol

Pan fydd angen Asesiad Priodol o dan y Gyfarwyddeb Cynefinoedd, mae'n rhaid i'r ymgeisydd ddarparu digon o wybodaeth i hysbysu'r asesiad hwnnw.

 

Diweddarwyd ddiwethaf