Rheoleiddio’r gorsafoedd pŵer niwclear newydd

Fel rheoleiddwyr y diwydiant niwclear, rydym yn gweithio gyda  Swyddfa Rheoleiddio Niwclear (ONR) ac Asiantaeth yr Amgylchedd (EA) i sicrhau fod unrhyw orsafoedd pŵer niwclear newydd sy’n cael eu hadeiladu yn y DU yn bodloni safonau uchel o ran diogelwch,  diogeli’r amgylchedd a rheoli gwastraff. 

Asesiad o ABWR y DU Hitachi-GE ac ein hymgynghoriad

Dechreuwyd asesu cynllun ABWR y DU Hitachi-GE ym mis Ebrill 2014. Fel rhan o’r asesiad hwn wnaethom (Cyfoeth Naturiol Cymru ac Asiantaeth yr Amgylchedd) ymgynghori ar ein  casgliadau rhagarweiniol am 12 wythnos o’r 12 Rhagfyr 2016 i’r 3 Mawrth 2017. Fe gyhoeddwyd 11 adroddiad asesu a dogn asesu annibynnol ochr yn ochr â’n dogfen, crynodeb ac atodiad  ymgynghori.

Ymatebion i’n hymgynghoriad

Crybwyllwyd y byddem yn  cyhoeddi’r oll ymatebion i’n cynllun ymgynghori ar GOV.UK ym mis Ebrill. Oherwydd canllawiau’r llywodraeth ynglŷn â chyhoeddi gwybodaeth yn y cyfnod cyn yr etholiad fe ohiriwyd cyhoeddi’r adroddiad hwn tan heddiw.

Mae’r adroddiad hwn yn crynhoi ymatebion i’n hymgynghoriad drwy ein hofferyn e-ymgynghori ar-lein, e-bost, drwy’r post, digwyddiad rhanddeiliaid cenedlaethol a digwyddiadau lleol ger Wylfa Newydd ac Oldbury. Nid yw’n cynnwys ein hymateb i’r pwyntiau a godwyd gan unigolion neu sefydliadau, gan fydd y rhain yn cael eu cynnwys yn ein dogfen penderfyniad terfynol.

Camau nesaf

Bellach rydym yn ystyried yr holl sylwadau tynnwyd sylw atynt, yn ofalus, ac ein nod yw gwneud ein penderfyniad terfynol ym mis Rhagfyr 2017. Bydd ein hymateb ysgrifenedig i bob ymateb yn cael ei gynnwys yn ein dogfen penderfyniad terfynol a gyhoeddir ar GOV.UK.

Proses cyflwyno sylwadau ar agor tan 15 Awst 2017

Mae’n rhaid i unrhyw gwmni cynllunio gorsaf pŵer niwclear sy’n cael ei asesu gennym sefydlu gwefan, cyhoeddi gwybodaeth am y cynllun a gwahodd sylwadau a chwestiynau amdano. 

Gallwch ddal i gyflwyno sylwadau neu ofyn cwestiwn ynglŷn â chynllun ABWR y DU ac fe fydd Hitachi-GE yn ymateb. Byddwn yn gweld y cwestiwn a’r ymateb er mwyn i ni fedru eu hystyried yn ein hasesiadau. Bydd y broses yn cau ar y 15 Awst 2017, tua phedwar mis cyn i ni wneud ein penderfyniad.

Os oes gennych unrhyw gwestiynau ynglŷn â’r adroddiad anfonwch e-bost atom yn gda@environment-agency.gov.uk

Am ragor o wybodaeth am gynlluniau Pŵer Niwclear Horizon ar gyfer safle Wylfa a Oldbury

https://www.horizonnuclearpower.com/our-sites/wylfa-newydd

Lawrlwythiadau dogfennau cysylltiedig

Dogfen ymgynghori PDF [1.3 MB]
Dogfen ymgynghori Atodiad PDF [929.4 KB]
Ffurflen ymateb WORD [287.5 KB]
Decision document Saesneg yn unig PDF [1.8 MB]