Mae Cyfoeth Naturiol Cymru yn hysbysu ei fod yn bwriadu cynnal gwelliannau i'r amddiffynfeydd rhag llifogydd ar Afon Tregatwg yn Nociau'r Barri, Bro Morgannwg, Gollyngfa Tregatwg, ger Atlantic Crescent (NGR ST 13151 67251). Bydd y gwaith arfaethedig ar Ollyngfa Tregatwg yn ymwneud â'r canlynol: Gwaredu ar bob yn ail far ar y sgrîn sbwriel sydd ohoni i atal swmp mawr o ddeunyddiau llai rhag cronni. Gwelliannau mynediad a disodli’r rheiliau llaw gyda chadwyni symudol, i leihau'r gwaith trafod â llaw sy'n ymwneud â glanhau'r sgrîn a'i galluogi i gael ei glanhau'n ddiogel.

Mae Cyfoeth Naturiol Cymru o'r farn na fydd y gwaith o wneud gwelliannau yn debygol o gael effeithiau sylweddol ar yr amgylchedd ac nid yw'n bwriadu paratoi datganiad amgylcheddol mewn perthynas â nhw. Mae darluniadau dylunio’r prosiect a'r Cynllun Gweithredu Amgylcheddol ar gael i'w gweld yng nghyfeiriad y swyddfa a nodir isod drwy wneud apwyntiad ymlaen llaw rhwng 9am a 5pm, ddydd Llun i ddydd Gwener.

Dylai unrhyw un sy'n dymuno gwneud sylwadau mewn perthynas ag effeithiau amgylcheddol y gwelliannau arfaethedig wneud hynny, yn ysgrifenedig, at y cyfeiriad a nodir isod, ymhen 30 diwrnod i ddyddiad cyhoeddi'r hysbysiad hwn.

Susie Tudge (Rheolwr Prosiect),
Cyfoeth Naturiol Cymru,
Tŷ Cambria (Llawr 1af),
29 Heol Casnewydd,
Caerdydd,
CF24 0TP

E-bost: susie.tudge@cyfoethnaturiolcymru.gov.uk

Ffôn: 0300 065 4919