Ymgynghoriad anffurfiol : Canllawiau Cynllun Atal a Lliniaru Tân – Rheoli Gwastraff
Mae’r ddogfen arweiniol hon wedi ei llunio gan Cyfoeth Naturiol Cymru mewn cydweithrediad â Gwasanaethau Tân ac Achub Cymru:
- Gwasanaeth Tân ac Achub De Cymru
- Gwasanaeth Tân ac Achub Canolbarth a Gorllewin Cymru a
- Gwasanaeth Tân ac Achub Gogledd Cymru
Bydd CNC a Gwasanaethau Tân ac Achub Cymru yn defnyddio’r canllawiau hyn i asesu pa mor addas a phriodol yw camau atal a lliniaru tân mewn cyfleusterau gwastraff a ganiateir.
Cynhyrchwyd y canllaw hwn gan ddefnyddio profiad cynyddol o’r diwydiant a’r Gwasanaeth Tân ac Achub wrth ymladd tanau gwastraff go iawn, a gwybodaeth well a gafwyd o ganlyniad i gyfres o brofion llosgi a wnaed yn 2015 a thrwy gydol 2016 gan WISH (Fforwm Diogelwch ac Iechyd y Diwydiant Gwastraff) gyda chefnogaeth CFOA (Cymdeithas y Prif Swyddogion Tân).
Os hoffech wneud sylwadau ar y canllawiau arfaethedig hyn, ysgrifennwch atom erbyn 11 Awst 2017. Dylid anfon sylwadau i:
John Rock
Cyfoeth Naturiol Cymru
Parc Busnes Llaneirwg
Heol Fortran
Llaneirwg
Caerdydd
CF3 0EY