Beth rydym yn ei wneud?

Cyhoedda Cyfoeth Naturiol Cymru y bwriada wneud gwaith gwella amddiffynfeydd llifogydd Aber Hafren yn Llanbedr Gwynllŵg rhwng CGO ST249787 a ST254791, pellter o ryw 0.7 cilomedr. Golyga’r gwaith gwella arfaethedig godi’r rhan 0.7km o’r arglawdd pridd presennol hyd uchder o 9.41m USO er mwyn gwella amddiffyn y glannau rhag llifogydd.

Asesiad ecologol

Barn Cyfoeth Naturiol Cymru yw nad yw’r gwaith gwella’n debyg o effeithio’n sylweddol ar yr amgylchedd, ac ni fwriada baratoi datganiad amgylcheddol yn ei gylch. Cynhyrchwyd Adroddiad Ymchwil Amgylcheddol, Asesiad Ecolegol Dechreuol ac Asesiad Rheoliadau Cynefinoedd, sy’n manylu effeithiau amgylcheddol dichonol y cynllun, ac yn amlinellu’r camau delio â hwy. Y mae Adroddiad Amgylcheddol yn cael ei gynhyrchu ar hyn o bryd, er mwyn pwyso a mesur yr effeithiau hyn yn fanwl, a darparu’r lliniaru manwl y mae’i angen ar gyfer unrhyw effeithiau amgylcheddol dichonol. Gellir cael y dogfennau hyn trwy ysgrifennu at.

Gellir cael y dogfennau hyn trwy ysgrifennu at:

Alexander Scorey
Rheolwr Cynllun Amgylcheddol
Cyfoeth Naturiol Cymru
Tŷ Cambria
29 Heol Casnewydd
Caerdydd CF24 0TP

neu yrru neges e-bost at alex.scorey@cyfoethnaturiolcymru.gov.uk

Diben yr hysbysiad hwn yw rhoi gwybod i’r cyhoedd bod angen penderfynu a ddylai’r gwaith gwella fynd rhagddo.

Os oes gennych unrhyw sylwadau, gyrrwch hwy erbyn 19 Mawrth.