Ein diben yw sicrhau bod amgylchedd ac adnoddau naturiol Cymru yn cael eu cynnal yn gynaliadwy, eu gwella’n gynaliadwy a’u defnyddio’n gynaliadwy, yn awr ac yn y dyfodol. Dyma’ch cyfle i leisio’ch barn am yr hyn a wnawn a sut rydym yn ei gyflawni.

Hoffem eich barn:

Fel sefydliad newydd, rydym wedi datgan yn y ddogfen ymgynghori hon ein bwriad strategol ar gyfer y tair blynedd nesaf fel cyfres o gynigion. Hoffem glywed eich barn am ein cynigion, ac a ydynt yn gam i’r cyfeiriad cywir i Cyfoeth Naturiol Cymru. Byddwn wedyn yn defnyddio’ch sylwadau i helpu mireinio ein cynllun corfforaethol cyntaf.

Mae gennym gylch gwaith eang ond bod ein hadnoddau’n brin felly ni fydd modd gwneud popeth ym mhob man. Mae creu Cyfoeth Naturiol Cymru’n darparu cyfle unigryw i gychwyn o’r newydd, dewis y gorau o’r gorffennol, ond edrych ymlaen gyda chreadigrwydd ac arloesedd.

Dyma’ch cyfle i roi’ch barn ar yr hyn a wnawn a sut rydym yn ei wneud.Yn fyr, sut allwn ni gael y canlyniadau gorau i Gymru?

Sut i ymateb:

Lleisiwch eich barn drwy lenwi’r ffurflen ymateb a’i hanfon at corporate.planning@cyfoethnaturiolcymru.gov.uk

Neu

Y Tîm Cynllunio Corfforaethol a Pherfformiad
Llawr 2
Ty Cambria
29 Heol Casnewydd
Caerdydd
CF24 0TP

Lawrlwythiadau dogfennau cysylltiedig

Datblygu ein Cynllun Corfforaethol – sut rydym wedi gwrando ar eich sylwadau ac wedi eu defnyddio Crynodeb o’r ymatebion i’n hymgynghoriad cyhoeddus ‘Cynllunio ein dyfodol’, a gynhaliwyd rhwng 4 Tachwedd 2013 a 10 Ionawr 2014 PDF [256.2 KB]