Beth rydym yn ei wneud?

Mae Cyfoeth Naturiol Cymru’n hysbysu y bwriada wneud gwaith gwella sawl ased amddiffyn rhag llifogydd ar hyd Ebwy yn Rhisga rhwng ST230913 a ST254895. Bydd y gwaith arfaethedig yn cynnwys atgyfnerthu a chodi tair rhan o wal llifogydd bresennol nesaf at yr afon.

Asesiad Ecolegol

Barn Cyfoeth Naturiol Cymru yw nad yw’r gwaith gwella’n debyg o effeithio’n sylweddol ar yr amgylchedd, ac ni fwriada baratoi datganiad amgylcheddol yn ei gylch. Lluniwyd sawl arolwg ac asesiad amgylcheddol, gan gynnwys Arolwg Cynefin Cam 1, Arolwg Coedyddiaethol, Astudiaeth Pen desg Geodechnegol, ac Adroddiad Amgylcheddol.

Gellir gofyn am y dogfennau hyn, a’u cael, trwy ysgrifennu at:

Alexander Scorey Rheolwr Cynllun
Cyfoeth Naturiol Cymru
Tŷ Cambria
29 Heol Casnewydd
Caerdydd
CF24 0TP

Neu yrru neges e-bost at alex.scorey@cyfoethnaturiolcymru.gov.uk

Os oes gennych unrhyw sylwadau, gyrrwch hwy erbyn 10 Hydref 2014.