Beth rydym yn ei wneud?

Hysbysa Cyfoeth Naturiol Cymru y bwriada wneud gwaith hwyluso ymfudiad pysgod yn Ebwy Fach yn Blaina, CGC SO 201066.

Bydd y gwaith arfaethedig yn golygu gosod Pwll a Thramwyfa ar draws lled y sianel, er mwyn galluogi ymfudiad uwchlaw’r sianel concrit atgyfnerthedig 4m o led a 150m o hyd, a’r geuffos betryal 4m o led, 40m o hyd yn y man hwn.

Asesiad ecologol

Barn Cyfoeth Naturiol Cymru yw nad yw’r gwaith gwella’n debyg o effeithio’n sylweddol ar yr amgylchedd, ac ni fwriada baratoi datganiad amgylcheddol yn ei gylch. Lluniwyd Adroddiad Ymchwil Ecolegol ac Asesiad Rhagarweiniol Cyfarwyddeb Fframwaith Dwˆr ,

Canfyddwch ragor

Gellir cael copïau o’r dogfennau hyn trwy ysgrifennu at:

Lia Silva, Rheolwr Cynllun,
Cyfoeth Naturiol Cymru,
Ty Cambria, 29 Heol Casnewydd,
Caerdydd, CF24 0TP

Neu yrru neges e-bost at lia.silva@naturalresourceswales.gov.uk

Os oes gennych unrhyw sylwadau, gyrrwch hwy erbyn 22 Gorffennaf.