Ymgynghoriad ynghylch Newidiadau Arfaethedig i Ardal Gwarchodaeth Arbennig (AGA) Grassholm

Mae'r ymgynghoriad wedi cau erbyn hyn:

Mae Cyfoeth Naturiol Cymru yn y broses o ystyried ac ymateb i'r sylwadau a gawsom. Byddwn yn casglu'r ymatebion i'r ymgynghoriad ac yn cyflwyno'r rhain i Lywodraeth Cymru. Bydd crynodeb o'r ymatebion a wnaed i Gyfoeth Naturiol Cymru ar gael i'r cyhoedd ar y wefan maes o law.

Sut y byddaf yn cael gwybod am y penderfyniad?

Bydd y penderfyniad terfynol yn cael ei wneud gan y Gweinidog Cymreig dros Gyfoeth Naturiol a Bwyd ar p'un ai i wneud y newidiadau i'r AGA. Bydd Cyfoeth Naturiol Cymru yn ysgrifennu at randdeiliaid, gan gynnwys y rhai sydd wedi gwneud sylwadau, i roi gwybod iddynt am benderfyniad y Gweinidog a diweddaru'r wybodaeth ar ein gwefan.

Ardal Gwarchodaeth Arbennig (AGA) bresennol

Dyma’r drydedd nythfa fwyaf o huganod yn y byd (ar ôl ynys St Kilda a Bass Rock).

I gael rhagor o wybodaeth am y safle presennol, ewch i we dudalen AGA Grassholm Cyfoeth Naturiol Cymru, lle gwelir y map presennol a’r Gofrestr o Gofnod Safleoedd Ewropeaidd sy’n rhestru’r adar y mae’r safle’n eu gwarchod.

Newidiadau Arfaethedig i’r Safle

Mae cyngor ffurfiol i lywodraeth y Deyrnas Unedig mewn adroddiad sy’n dwyn yr enw ‘2001 SPA review’ (Stroud et al. 2001) yn awgrymu newidiadau i’r nodweddion cymwys er mwyn cydnabod y cynnydd yn y nifer o huganod.

Nid yw adolygiad safleoedd AGA 2001 ei hun yn argymell unrhyw newidiadau ffiniau ar gyfer y rhywogaeth hon, ond cafodd yr estyniad arfaethedig tua’r môr ei nodi yn sgil dadansoddi data o wahanol adroddiadau ac arolygon sy’n dangos bod yr adar yn defnyddio’r dyfroedd hyn yn helaeth ac yn dibynnu ar yr ardal i ‘hamddena’.

Cyhoeddodd y Cyd-bwyllgor Cadwraeth Natur (JNCC) ganllawiau ar ba mor bell y dylai estyniadau ymestyn i’r amgylchedd morol, yn dibynnu ar ba adar bridio sy’n bresennol. Mae’n argymell estyniad i ffin yr AGA i gynnwys ardaloedd cyfagos sy’n cael eu defnyddio gan huganod o’r AGA bresennol. Mae’r estyniad sy’n cael ei argymell gan y JNCC yn 2 km.

Yr estyniad sy’n cael ei gynnig i ffin AGA Grassholm felly yw estyniad 2km tua’r môr o amgylch yr ynys o ffin bresennol y safle.

Os hoffech gael rhagor o wybodaeth am y safle, cysylltwch â’r swyddog lleol, Andrea Winterton, yn Cyfoeth Naturiol Cymru, neu cysylltwch â’r Ganolfan Gofal Cwsmeriaid yn Cyfoeth Naturiol Cymru ar 0300 065 3000.

Sesiwn Galw i Mewn

Rydym yn sylweddoli y gallai fod gennych ragor o gwestiynau ac mae croeso ichi ddod i sesiynau galw heibio i drafod unrhyw gwestiynau sydd gennych wyneb yn wyneb. 

AGA Grassholm
Awdurdod lleol: Sir Benfro
Dyddiad ac Amser: Dydd Mercher, 19 Chwefror 2014 - O 13:30 hyd at 20:00
Lleoliad: Neuadd Dinas Tŷ Ddewi, Stryd Fawr, Tŷ Ddewi, Sir Benfro, SA62 6SD
Cyswllt Rhanbarthol: Andrea Winterton /Alex Harding - Ffon. 0300 065 3000
swyddfa rhanbarthol: Cyfoeth Naturiol Cymru, Tŷ Llanion, Parc Llanion, Doc Penfro, Sir Benfro SA72 6DY

Sut i ymateb

Bydd crynodeb o'r ymatebion a dderbyniwyd yn cael ei gyhoeddi ar wefan Cyfoeth Naturiol Cymru ar ôl diwedd y cyfnod ymgynghori. Ni fydd yn cynnwys enwau ymatebwyr.

Dylech wybod y gallem gael cais dan y Ddeddf Rhyddid Gwybodaeth neu’r Rheoliadau Gwybodaeth Amgylcheddol am gopi o’r adroddiad llawn ar yr ymatebion i’r ymgynghoriad, ac mae’n bosibl y gofynnir i ni ddarparu copïau o ymatebion unigol, yn cynnwys enwau a chyfeiriadau’r unigolion neu’r sefydliadau a’u hanfonodd. Mewn achosion o’r fath, rhaid i ni benderfynu a ddylid rhyddhau’r wybodaeth honno ai peidio, ac os yw rhywun wedi gofyn i ni beidio â datgelu ei enw a’i gyfeiriad, gallwn ystyried hynny wrth benderfynu a ydym am ryddhau’r wybodaeth honno ai peidio.

Mae rhagor o wybodaeth ym mholisi Rhyddid Gwybodaeth Cyfoeth Naturiol Cymru.

Anfonwch y Ffurflen Ymateb i Ymgynghoriad trwy:

Ebost:

ymgynghoriadaga@cyfoethnaturiolcymru.gov.uk

Gallwch ymateb dros yr ebost erbyn hanner nos 25 Ebrill 2014, gydag atodiadau, os oes angen, hyd at uchafswm o 20mb.

neu

Post:

Tîm Safleoedd Rhyngwladol
Cyfoeth Naturiol Cymru
Maes-y-Ffynnon
Penrhosgarnedd
Bangor
Gwynedd
LL57 2DW

Newidiadau posibl i safleoedd AGA eraill yng Nghymru

  • Glannau Aberdaron ac Ynys Enlli
  • Skokholm and Skomer