Ymgynghoriad ynglŷn â gwaith Cyfoeth Naturiol Cymru yn stocio eog, stocio eog gan bartïon eraill

Un rhaglen o’r gwaith hwn yw’r ‘Agenda ar gyfer Newid’, sy’n edrych ar sut mae CNC yn gweithio gyda phartneriaid er mwyn sicrhau pysgodfeydd mewndirol cynaliadwy i Gymru.

Fel rhan o hyn rydym yn ystyried ein holl weithgareddau pysgodfeydd. Mae hyn yn cynnwys adolygu ein gweithgaredd presennol o ran stocio eog, a gweithgareddau deorfeydd yn gysylltiedig â hynny. Yn yr adolygiad rydym yn ystyried y sail resymegol a’r cyfiawnhad i weithgareddau CNC yn magu a stocio eog i afonydd Cymru, a goblygiadau hynny. Rydym hefyd yn ystyried goblygiadau ein hadolygiad i eraill sydd am wneud gwaith stocio, a’n capasiti ni yn y gwaith hwn.

Cyflwynodd yr adolygiad adroddiad i’n Tîm Gweithredol cyn y Nadolig. I helpu CNC i wneud unrhyw benderfyniadau terfynol ar yr argymhellion sydd wedi’u nodi yn yr adolygiad, rydym yn awr yn cynnal yr ymgynghoriad cyhoeddus llawn hwn. Hoffem gael eich barn chi ar yr argymhellion, ynghyd ag unrhyw sylwadau eraill yr hoffech eu gwneud.

Byddai croeso arbennig i dystiolaeth yn gefn i’ch ymateb.

Sut i ymateb

Anfonwch y Ffurflen Ymateb i Ymgynghoriad trwy:

Ebost:

nrwhatcheryreview@cyfoethnaturiolcymru.gov.uk

Post:

Corrie Davies
Cyfoeth Naturiol Cymru
Tŷ Cambria
29 Heol Casnewydd
Caerdydd, CF24 0TP