Systemau Draenio Cynaliadwy (SuDS)
Bellach mae'n ofynnol i bob datblygiad newydd gynnwys Systemau Draenio Cynaliadwy sy'n cydymffurfio â Safonau SuDS Statudol Cenedlaethol
Systemau Draenio Cynaliadwy
Mae systemau draenio cynaliadwy (SuDS) wedi'u cynllunio i ddynwared draeniad naturiol trwy reoli dŵr ffo wyneb mor agos at y ffynhonnell â phosibl.
Bellach mae'n ofynnol i bob datblygiad newydd gynnwys Systemau Draenio Cynaliadwy sy'n cydymffurfio â Safonau SuDS Statudol Cenedlaethol. Rhaid i ddatblygwyr gael cymeradwyaeth ar gyfer eu draenio gan Gorff Cymeradwyo SuDS (SAB) cyn dechrau adeiladu.
Mae SABau yn gweithredu o fewn pob awdurdod lleol.
Lawrlwythwch y Safonau SuDS Statudol Cenedlaethol o wefan Llywodraeth Cymru
Cymeradwyaeth SAB
Mae SABau yn cynnig gwasanaeth cyn ymgeisio (codir tâl am hwn) i drafod gofynion y safle unigol a chynghori ar gyflwyno cais.
Dylid cyflwyno ceisiadau i'r SAB i'w dilysu a'u cyflwyno ynghyd â:
- chynllun yn nodi'r ardal adeiladu a maint y system ddraenio
- gwybodaeth am sut y bydd y gwaith adeiladu yn cydymffurfio â Safonau SuDS
- gwybodaeth y gofynnir amdani yn rhestr wirio'r ffurflen gais
- y ffi ymgeisio briodol
Bydd SAB yn ymateb o fewn 7 wythnos neu 12 wythnos os oes angen Asesiad Effaith Amgylcheddol.
Darllenwch ragor am gael cymeradwyaeth SAB ar wefan Cymdeithas Llywodraeth Leol Cymru
Gwasanaeth Cyngor Dewisol Cyfoeth Naturiol Cymru
Mae CNC yn llwyr gefnogi cysyniad cynlluniau SuDs, gan y gallant leihau llifogydd yn effeithiol, gwella ansawdd dŵr ac ail-lenwi dyfrhaenau, lliniaru colli cynefinoedd a chyfrannu at iechyd a lles pobl trwy ddarparu mwy o gyfleoedd hamdden ac addysg awyr agored.
Gall datblygwyr sy'n ystyried SuDS sydd angen caniatâd cynllunio ddefnyddio Gwasanaeth Cyngor Dewisol Cyfoeth Naturiol Cymru fel rhan o drafodaethau cyn ymgeisio ehangach.
Codir tâl am y gwasanaeth hwn.
Darllenwch ragor am Wasanaeth Cyngor Dewisol Cyfoeth Naturiol Cymru
Susdrain
Mae Susdrain yn wefan annibynnol ar gyfer y rhai sy'n ymwneud â darparu draeniad cynaliadwy. Mae'n rhoi arweiniad, gwybodaeth ac astudiaethau achos i helpu gyda chynllunio, dylunio, cymeradwyo, adeiladu a chynnal SuDS.
Mae cefnogaeth ar gael i reolwyr perygl llifogydd, peirianwyr, cynllunwyr, dylunwyr, penseiri tirwedd a datblygwyr.
Darllenwch ragor am bob agwedd ar SuDS ar wefan Susdrain
Arweiniad pellach ar SuDS
Mae CIRIA yn cynhyrchu Guidance on the Construction of SuDS' a 'The SuDS Manual', sydd ar gael i'w lawrlwytho am ddim o'u gwefan (angen mewngofnodi).