Prosiectau Seilwaith o Arwyddocâd Cenedlaethol

Crëwyd trefn arbennig drwy Ddeddf Cynllunio 2008 i ddod i benderfyniadau ar Brosiectau Seilwaith o Arwyddocâd Cenedlaethol. Mae angen i gynlluniau sy'n cynnwys Prosiect Seilwaith o Arwyddocâd Cenedlaethol gael eu hadolygu gan 'Awdurdod Arholi' (arolygydd neu banel) yn hytrach na chan yr Awdurdod Cynllunio Lleol ar gyfer yr ardal. Pan fydd cynnig manwl wedi'i baratoi a'i dderbyn i'r system fel Gorchymyn Caniatâd Datblygu drafft, gwneir penderfyniad o fewn blwyddyn i ddechrau'r archwiliad.

Mae disgwyl i ymgeiswyr ymgynghori â Chyfoeth Naturiol Cymru ar unrhyw gais arfaethedig ar gyfer Prosiect Seilwaith o Arwyddocâd Cenedlaethol yng Nghymru, neu sy'n debygol o effeithio ar dir yng Nghymru. At hynny, mae angen i ymgeiswyr roi sylw i unrhyw ymateb i ymgynghoriad gan Gyfoeth Naturiol Cymru.

Mae'n bosibl y bydd angen caniatadau/trwyddedau eraill a bennir gan Gyfoeth Naturiol Cymru ar gyfer cynlluniau penodol, e.e. trwyddedau morol. Mae rhagor o wybodaeth am ein swyddogaeth yn cael ei nodi i gefnogi Nodyn Cyngor a gyhoeddir gan yr Arolygiaeth Gynllunio.

Fel rhan o’r gwasanaeth cyn ymgeisio, gallwn gyflwyno  barn ragarweiniol i chi am eich cynlluniau datblygu, yn rhad ac am ddim. Mae ein “canllaw ar y gwasanaeth cyn ymgeisio ar gyfer cynlluniau datblygu” yn esbonio beth sydd yn cael ei gynnwys fel rhan o hyn a sut fedrwch ofyn am y gwasanaeth hwn gan Cyfoeth Naturiol Cymru. Os ydych o’r farn y gallai eich cais elwa o fewnbwn ychwanegol gan Cyfoeth Naturiol Cymru , fedrwch hefyd ddefnyddio ein Gwasanaeth Cyngor Cynllunio Dewisol (Gwasanaeth CCD). Codir tâl am y gwasanaeth CCD, a gallwch ei ddefnyddio i gael cyngor ychwanegol gan Cyfoeth Naturiol Cymru

Diweddarwyd ddiwethaf