Canllawiau ar gyfer ceisiadau cynllunio ar gyfer offer telathrebu mewn tirweddau dynodedig a sensiti

Tirweddau dynodedig a sensitif

Mae tirweddau dynodedig yn cynnwys Parciau Cenedlaethol ac Ardaloedd o Harddwch Naturiol Eithriadol (AHNE), a elwir bellach hefyd yn Dirweddau Cenedlaethol.

Mae Polisi Cynllunio Cymru yn nodi bod gan Barciau Cenedlaethol ac AHNEoedd / Tirweddau Cenedlaethol statws cyfartal o ran tirwedd a harddwch golygfaol. Rhaid i’r ddau dderbyn lefel uchel o ddiogelwch.

Mae tirweddau sensitif yn ardaloedd eraill a allai fod yn agored i niwed gan offer telathrebu newydd. Mae’r rhain yn cynnwys tirweddau sy’n cael eu gwerthfawrogi am eu rhinweddau golygfaol, eu llonyddwch neu eu pellenigrwydd, yn enwedig lle mae’r rhinweddau hyn yn dibynnu ar absenoldeb adeileddau fel mastiau.

Egwyddorion cyffredinol

Efallai y bydd tirweddau dynodedig a sensitif yn gallu cynnwys datblygiadau telathrebu newydd os caiff cynigion eu lleoli a’u cynllunio’n sensitif ac yn ddisylw. Dylai dylunio da fod yn berthnasol ym mhobman, nid yn y lleoliadau mwyaf sensitif yn unig.

Dylai cynigion ystyried y canlynol:

  • uchder, ffurf, deunyddiau a lliwiau’r cyfarpar
  • gwaith tirlunio, gan gynnwys plannu
  • effeithiau cronnus
  • cyfyngiadau technegol perthnasol

Mae polisi cenedlaethol yn pwysleisio gwarchod cymeriad tirwedd a lleihau effeithiau gweledol mewn tirweddau dynodedig a sensitif. Gall lleoliad a dyluniad gwael gael yr effaith fwyaf yn yr ardaloedd hyn, felly mae angen ystyriaeth ofalus i gynnal eu cymeriad wrth wella cwmpas y rhwydwaith. Mae Cymru’r Dyfodol (y Cynllun Cenedlaethol) hefyd yn cynghori y dylid lleoli offer telathrebu’n ofalus yn y tirweddau hyn er mwyn lleihau’r effaith weledol.

Mathau o ganiatâd cynllunio

Mae tri math o ganiatâd cynllunio ar gyfer offer telathrebu:

  • datblygiad a ganiateir gyda gofyniad i hysbysu
  • datblygiad a ganiateir gyda gofyniad am gymeradwyaeth ymlaen llaw
  • caniatâd cynllunio sy’n gofyn am gais cynllunio llawn i’r awdurdod perthnasol

Paratoi ceisiadau cynllunio

Er mwyn lleihau effaith offer telathrebu newydd ar dirweddau dynodedig a sensitif, dylai ymgeiswyr ystyried:

  • y safle a ddewisir a’r cynllun
  • graddfa’r datblygiad (nifer ac uchder yr adeileddau)
  • ffurf (siâp) a gorffeniad (lliw, gwead, adlewyrched)
  • gwaith ategol, fel ffensys, adeiladau gwasanaeth, traciau, hysbysiadau a goleuadau

Dewis safle

Gall fod yn anodd integreiddio adeileddau tal fel mastiau i’r dirwedd. Y man cychwyn dewisol yw dewis safle sy’n llai sensitif i newid. Dylai ymgeiswyr gynnig rhannu offer telathrebu lle bynnag y bo’n ymarferol, a all olygu uwchraddio offer presennol.

Os nad yw rhannu’n ymarferol oherwydd effeithiau annerbyniol ar y dirwedd neu effeithiau gweledol annerbyniol, ystyriwch rannu safle. Anogir rhannu safleoedd i leihau’r effaith ar y dirwedd a lleihau nifer y safleoedd sydd eu hangen. Fodd bynnag, gall rhoi offer mewn clwstwr gael effeithiau cronnus, felly rhaid asesu’r rhain.

Os oes angen safle newydd ac nad yw’n bosibl osgoi tirweddau dynodedig neu sensitif, dylai’r cais gyfiawnhau pam nad yw rhannu’n bosibl ac egluro pam y mae safleoedd eraill, llai sensitif wedi’u diystyru.

Mae arfer gorau ar gyfer lleihau effeithiau gweledol ac ar y dirwedd yn cynnwys:

  • gosod mastiau ger adeileddau tebyg, fel safleoedd diwydiannol neu fasnachol, neu gyffyrdd ffyrdd mawr
  • gosod mastiau mewn neu ger coed presennol, neu blannu coed i helpu i integreiddio’r mast (dylid osgoi colli coed yn ddiangen ac ystyried twf coed yn y dyfodol)
  • ystyried amserlenni cwympo os ydych chi’n defnyddio coedwigoedd planhigfa ar gyfer sgrinio
  • adolygu safleoedd amgen ac egluro dewis safle, gan ddefnyddio offer fel LANDMAP ac asesiadau cymeriad tirwedd lleol
  • ystyried ardaloedd trefol llai sensitif, fel ardaloedd diwydiannol, parciau busnes, neu dir ger priffyrdd

Dylai ceisiadau gael eu cefnogi gan Arfarniad Tirwedd a Gweledol i ddangos sut mae’r cyfarpar yn cydweddu â’i leoliad a’r lleoliad ehangach. Dylai Arfarniadau Tirwedd a Gweledol ystyried llinellau golygfa, tirnodau a golygfeydd allweddol, a all fod yn arbennig o bwysig mewn tirweddau dynodedig neu sensitif.

Mae’n debygol y bydd rhai safleoedd, fel cribau neu gopaon amlwg, neu dirweddau sy’n cael eu gwerthfawrogi am eu llonyddwch neu eu pellenigrwydd, yn amhriodol ar gyfer offer telathrebu newydd a dylid eu hosgoi.

Darllenwch ein canllawiau ar asesu sensitifrwydd tirwedd

Dylunio

Wrth ddylunio offer telathrebu, ystyriwch:

  • Graddfa: Defnyddiwch yr offer lleiaf o ran maint sy’n addas ar gyfer y safle ac anghenion y dechnoleg. Ystyriwch ddewisiadau eraill fel polion main yn lle mastiau dellt lle bo’n briodol.
  • Cuddweddu: Defnyddiwch leoliad a dyluniad i leihau’r effaith weledol, fel polion main, cuddio offer megis polion telegraff, neu integreiddio â choed. Os defnyddir gorchudd coed, sicrhewch fod plannu’n cael ei reoli yn y tymor hir.
  • Lliw: Dewiswch liwiau sy’n cyd-fynd â’r cefndir cyffredinol. Er enghraifft, defnyddiwch lwyd golau ar gyfer mastiau a welir yn erbyn yr awyr a gwyrdd neu frown afloyw ar gyfer cefndiroedd coediog. Dylai dyluniadau fod yn syml ac yn ddi-ffws.
  • Tai offer: Dylai cypyrddau gyd-fynd â’r amgylchoedd a chael eu cuddio lle bo’n briodol. Mewn lleoliadau sensitif, ystyriwch osod offer o dan y ddaear neu eu cuddio â nodweddion lleol.
  • Cyfansoddion a ffensys: Defnyddiwch ddeunyddiau arwyneb naturiol a defnyddiwch cyn lleied o dirlunio caled â phosib. Dylai ffensys gyd-fynd â’r lleoliad a dylid osgoi defnyddio dyluniadau safonol.
  • Cyflenwad pŵer: Mewn lleoliadau anghysbell, ystyriwch geblau tanddaearol neu ffynonellau ynni adnewyddadwy i leihau’r effaith.
  • Goleuadau ac arwyddion: Osgowch oleuadau ac arwyddion lleoliad diangen i leihau effeithiau gweledol.
  • Llwybrau mynediad: Cysylltwch y traciau â nodweddion presennol, dilynwch gyfuchliniau’r tir, a defnyddiwch ddeunyddiau priodol. Ceisiwch aflonyddu ar y pridd cyn lleied â phosibl a chadw’r effaith weledol mor isel â phosibl.

Wrth asesu cynigion, ystyriwch anghenion technegol a gweithredol seilwaith 5G a chydbwyswch gysylltedd gwell ag effaith weledol.

Mae rhagor o wybodaeth am ofynion lleoli a dylunio ar gael yn Nodyn Canllaw Llywodraeth Cymru: Y Cod Arferion Gorau ar Ddatblygu Rhwydweithiau Ffonau Symudol ar gyfer Cymru.

Gwybodaeth ategol ar gyfer ceisiadau cynllunio

Dylai ceisiadau am offer telathrebu mewn tirweddau dynodedig neu sensitif gynnwys:

  • Arfarniad Tirwedd a Gweledol wedi’i baratoi gan weithiwr proffesiynol cymwys ym maes tirwedd, gan ddilyn y Canllawiau ar gyfer Asesu Effeithiau Tirwedd a Gweledol (GLVIA3)
  • mannau astudio digonol ar gyfer asesu
  • asesiad o werth y dirwedd a’i rhinweddau arbennig
  • dadansoddiad Parth Gwelededd Damcaniaethol, gan gynnwys dadansoddiad cronnus
  • esboniad o fesurau lliniaru
  • delweddu, megis ffotogyfosodiadau
  • tystiolaeth bod y cynnig yn hanfodol ac yn bodloni’r swyddogaeth datblygu
  • esboniad o ddewisiadau lleoli a dylunio, a sut maen nhw’n ymwneud ag amcanion tirwedd

Rhagor o ganllawiau

Am fwy o wybodaeth, gweler:

·         Cod ymarfer ar gyfer datblygu rhwydweithiau diwifr yn Lloegr

 Nodyn Cyngor Cynllunio: PAN 62 Cyflwyniad i Delathrebu Radio

·         Polisi cynllunio Cymru Rhifyn 12 | LLYW.CYMRU

·         Diweddariad i Cymru’r Dyfodol – Y Cynllun Cenedlaethol 2040 (llyw.cymru) 

·         Llywodraeth Cymru(2023). Polisi a chanllawiau cynllunio: telathrebu 

·         Llywodraeth Cymru(2021). Datblygu rhwydwaith ffonau symudol: cod ymarfer

Diweddarwyd ddiwethaf