Cyngor i ddatblygwyr ar gynllunio seilwaith grid trydan
Os ydych chi'n gweithio ar gynllun grid trydan newydd yng Nghymru, bydd y canllawiau hyn yn eich helpu i ddeall ble a sut y dylid lleoli seilwaith grid ac i osgoi problemau amgylcheddol ac oedi cyffredinol.
Camau allweddol i'w dilyn
Gwiriwch a oes angen i chi ymgynghori â CNC
- Defnyddiwch y rhestr o bynciau ymgynghori i weld a oes angen ymgynghoriad ffurfiol ar eich cynllun.
- Adolygwch yr holl ganllawiau perthnasol ar wefan CNC cyn cysylltu.
Ymgysylltu'n gynnar
Rydym yn cynnig barn ragarweiniol am ddim ar eich datblygiad.
Os byddwch angen cyngor mwy manwl cyn gwneud cais, gallwch ddefnyddio ein Gwasanaeth Cyngor Dewisol (codir tâl am y gwasanaeth hwn ac mae ein gallu i ddarparu'r cyngor hwn yn gyfyngedig). Gall ein gwasanaeth cyngor dewisol helpu gyda’r canlynol:
- Nodi meysydd sensitif cyn i chi fuddsoddi mewn dylunio ac arolygon
- Osgoi gosod seilwaith lle bydd cyfyngiadau amgylcheddol yn gwneud caniatâd yn anodd neu'n amhosibl
- Bodloni'r holl ofynion cyfreithiol a pholisi perthnasol
Darllenwch fwy am ein barn ragarweiniol a’n gwasanaeth cynghori dewisol
Efallai y bydd angen caniatadau eraill arnoch hefyd ar gyfer eich datblygiad.
Egwyddorion i'w mabwysiadu wrth gynllunio seilwaith trydan
Dewiswch y lleoliad cywir.
Osgowch ddynodiadau statudol (fel ardaloedd natur gwarchodedig, coetiroedd hynafol rhestredig, mawndiroedd, a gwastadeddau llifogydd) a chynefinoedd arfordirol neu forol sensitif.
- Osgowch dirweddau dynodedig. Dewch o hyd i dirweddau dynodedig ar wefan MapDataCymru
- Osgowch ardaloedd dŵr daear sensitif fel parthau gwarchod ffynonellau dŵr daear. Dewch o hyd i fanylion sensitifrwydd dŵr daear ar ein map o ddata amgylcheddol
- Osgowch goedwigoedd masnachol. Dewch o hyd i goedwigoedd masnachol ar ein map o ddata amgylcheddol
Rhowch geblau o dan y ddaear lle bo modd (a hynny ar ddyfnder digonol fel na fydd cyrsiau dŵr yn amharu arnynt) yn enwedig mewn ardaloedd gwarchodedig neu lle mae risg uchel o amharu ar adar. Os nad yw gosod ceblau o dan y ddaear yn cael ei gynnig - dylech ddangos pam ddim.
Er mwyn lleihau ôl troed y datblygiad, ystyriwch gydleoli â seilwaith presennol lle bo hynny'n ddiogel ac yn ymarferol.
Asesu effeithiau amgylcheddol
Er mwyn lleihau effaith weledol gosod cydrannau grid ar y dirwedd, rydym yn argymell:
- Osgoi effaith andwyol lle bo hynny’n bosib.
- Lleihau/lliniaru unrhyw effeithiau gymaint â phosib.
- Darparu mesurau iawndal am unrhyw niwed a achosir.
- Gwella unrhyw effeithiau o ran yr hyn y gellir ei weld.
Rydym yn disgwyl i ddatblygwyr ddefnyddio'r dull a nodir ym Mholisi Cynllunio Cymru, Llywodraeth Cymru, Rhifyn 12, wrth ystyried ble i leoli seilwaith grid ac wrth reoli effeithiau sy'n codi yn ystod y gwaith adeiladu.
Lawrlwythwch Bolisi Cynllunio Cymru, Rhifyn 12 o llyw.cymru
Sensitifrwydd tirwedd
Rydym yn annog ymgeiswyr i ystyried dyluniad peilonau yn ofalus er mwyn osgoi effeithiau o ran yr hyn y gall pobl ei weld.
Dylech gynnal asesiad sensitifrwydd tirwedd yn gynnar i lywio’ch dewisiadau gan osgoi effeithiau andwyol ar y dirwedd.
Darllenwch fwy am Asesiadau Sensitifrwydd Tirwedd ar ein tudalen Asesu Sensitifrwydd Tirwedd
Darllenwch fwy am ystyried y lleoliad, a’r hyn y gall pobl ei weld yno, wrth ddewis safle
Lleoli llinellau trosglwyddo
Dylid lleoli llinellau trosglwyddo newydd yn unol â chanllawiau'r Grid Cenedlaethol, a elwir yn ‘Rheolau Holford’.
Mae ceblau tanddaearol yn cael eu ffafrio - fodd bynnag, os nad yw hyn yn bosibl a bod peilonau'n cael eu defnyddio, dylai dyluniad y peilonau sicrhau'r effaith weledol leiaf posib ar y dirwedd.
Lleoli a dylunio is-orsafoedd
Dylai lleoliad a dyluniad is-orsafoedd newydd gyd-fynd â chanllawiau'r Grid Cenedlaethol, sef ‘Rheolau Horlock’.
Arolwg rhywogaethau a chynefinoedd gwarchodedig
Mae nifer o rywogaethau sydd wedi'u gwarchod gan y gyfraith. Mae angen trwydded rhywogaeth warchodedig ar gyfer unrhyw waith sy'n effeithio ar rywogaeth warchodedig yng Nghymru.
Darllenwch fwy am drwyddedau rhywogaethau gwarchodedig
Yn gyffredinol, dylech chi:
- Osgoi niwed neu aflonyddwch i rywogaethau gwarchodedig cyn belled ag y bo modd.
- Cynnal arolygon i ddeall a oes rhywogaethau gwarchodedig yn bresennol a chael ecolegydd i gynnal asesiad o'r effaith debygol ar y rhywogaethau gwarchodedig hynny.
- Ystyried gofynion cynefin, amrediad a thymhoroldeb unrhyw rywogaeth warchodedig gyda'r bwriad o liniaru’r niwed neu aflonyddwch.
- Ystyriwch a oes llwybrau amgen ymarferol ar gyfer y llinellau.
Darllenwch ein canllaw i drwyddedau ystlumod o ran datblygu a seilwaith
Coetiroedd hynafol
Rhaid osgoi coetiroedd hynafol.
Darllenwch fwy am osgoi effeithiau datblygiadau ar goetiroedd hynafol
Mawndiroedd
Ni ddylid lleoli seilwaith ar ardaloedd â mawn (neu ddyddodion teneuach o fawn sydd o arwyddocâd swyddogaethol i fawn dwfn cyfagos), na lle mae tir o’r fath yn cynnal cynefin mawndir lled-naturiol.
Dylid ystyried effaith seilwaith ar ardaloedd mawn cyfagos a sicrhau nad yw'r ardaloedd hyn yn cael eu difrodi.
Risg o lifogydd ac erydiad
Dylech ystyried y risg o lifogydd yn y dyfodol ac effeithiau newid hinsawdd.
Mae mwy o stormydd dwys a glaw trwm yn debygol yng Nghymru yn sgil y newid yn yr hinsawdd - gan arwain at fwy o lifogydd, mwy o erydiad a mwy o ddifrod yn sgil stormydd. Mae'n hanfodol bod seilwaith grid trydan yn cael ei adeiladu i wrthsefyll hinsawdd y dyfodol er mwyn sicrhau cydnerthedd a dibynadwyedd y cyflenwad.
Ni ddylai cynigion achosi na gwaethygu'r risg o lifogydd mewn mannau eraill - a dylent ddangos y gellir rheoli'r risgiau a'r canlyniadau.
Ni ddylid lleoli ceblau newydd lle gallent ymyrryd â gweithgareddau atal a rheoli llifogydd CNC.
Hefyd, rhaid i seilwaith newydd beidio â bod mewn ardaloedd sy'n debygol o brofi erydiad afonol.
Dewch o hyd i fapiau erydiad afonol lefel uchel ar GeoScour BGS Premium - Arolwg Daearegol Prydain
Gall erydiad gorlifdiroedd fod yn helaeth - dylid cadw digon o le wrth ymyl cyrsiau dŵr i ganiatáu ar gyfer erydiad sianeli naturiol a mudo ar draws gorlifdiroedd.
Dylid ymgynghori â geomorffolegydd i asesu maint a graddfa posibl erydiad afonol, nawr ac at y dyfodol.
Dylai'r asesiad hwn lywio lle caiff unrhyw ddatblygiad newydd ei leoli.
Gellir lleihau'r risg o lifogydd ac erydiad a rhoi ystyriaeth i addasu i'r hinsawdd drwy:
- Ddilyn Nodyn Cyngor Technegol 15 Llywodraeth Cymru: Datblygu, Llifogydd ac Erydiad Arfordirol (TAN15).
- Lleoli seilwaith i ffwrdd o ardaloedd sydd mewn perygl o lifogydd gymaint â phosibl - a thu allan i Barthau Llifogydd 3 a 2. Gweler y Map Llifogydd ar gyfer Cynllunio.
- Rhoi ceblau dan ddaear ar ddyfnder priodol, gymaint â phosibl, er mwyn osgoi'r risg o ddifrod o stormydd, mellt, tanau, ac osgoi gostyngiad mewn effeithlonrwydd oherwydd tywydd poeth. Dylai ceblau fod ar ddyfnder priodol i osgoi dod i gysylltiad ag erydiad ochr afonydd.
- Lle nad yw gosod llinellau o dan ddaear yn bosibl, dylid ystyried gosod polion llinellau pŵer uwch, dargludyddion all weithredu mewn gwres poethach neu ddefnyddio dargludyddion 'sag isel', a chynyddu tymheredd isaf y dyluniad ar gyfer llwybrau llinellau uwchben newydd.
- Sicrhewch fod peilonau wedi'u lleoli y tu allan i orlifdiroedd ac ardaloedd sydd mewn perygl o erydiad.
Mae angen trwydded gweithgaredd perygl llifogydd (FRAP) ar gyfer gwaith ar, neu ger, brif afon, ased amddiffyn rhag llifogydd neu orlifdir.
Darllenwch fwy am drwyddedau gweithgaredd perygl llifogydd (FRAP).
Lleihau gwastraff
Mae pob cais cynllunio wedi'i ategu gan wybodaeth i ddangos sut maen nhw'n lleihau gwastraff.
Dylid sicrhau cyn lleied o wastraff â phosib yn ystod y cyfnod adeiladu a'r cyfnod datgomisiynu ar ddiwedd oes y seilwaith.
Dylid mabwysiadu egwyddorion yr economi gylchol - gan arwain at fwy o ailddefnyddio ac ailgylchu deunyddiau.
Rydym yn disgwyl i gynlluniau ddangos:
- Dylunio i ddileu gwastraff yn ystod cyfnod cynllunio'r prosiect.
- Mabwysiadu dull cylchol ac ystyried opsiynau diwedd oes ar gyfer deunyddiau.
- Defnyddio cynllun rheoli gwastraff safle.
- Cynnal archwiliadau lleihau gwastraff yn ystod y cyfnod adeiladu a datgomisiynu.
- Dilyn yr hierarchaeth gwastraff.
Ceblau alltraeth
Mae bron holl arfordir Cymru wedi'i ddynodi ryw fodd o ran diogelu'r amgylchedd.
Mae unrhyw beth islaw Penllanw Cymedrig y Gorllanw yn destun trwyddedau morol.
Darllenwch fwy am gynnal asesiad amgylcheddol ar gyfer ceblau morol
Cymorth pellach
Cysylltwch â CNC i gael cyngor ar gynlluniau grid
energyadvice@naturalresourceswales.gov.uk