Ar hyn o bryd, yr unig eithriadau i'r canllaw hwn yw ar gyfer afon Hafren neu ei llednentydd yng Nghymru, lle mae is-ddeddfau brys ar waith. Dewch yn ôl yn fuan am y newyddion diweddaraf neu cysylltwch â ni drwy e-bostio fisheries.wales@cyfoethnaturiolcymru.gov.uk

Tynnu pysgod o’r dŵr

Ni ellir cymryd unrhyw bysgod byw neu farw o unrhyw ddyfroedd o fewn ardal CNC, ac eithrio yn gyfreithlon gyda gwialen a lein, heb gael caniatâd ysgrifenedig arbennig ymlaen llaw gan CNC.

Nid yw’r is-ddeddfau hyn yn cynnwys y sawl sy’n pysgota â gwialen a lein sydd, â chyn lleied o niwed ag y bo modd, un ai’n dychwelyd pysgodyn i’r un dŵr ar unwaith ac yn fyw, neu sy’n cadw pysgodyn mewn rhwyd neu gwdyn cadw ac yna’n ei ddychwelyd yn fyw i’r un dŵr wrth neu cyn darfod pysgota.

Yr eithriadau I hyn yw’r herlyn a’r wangen: os delir un â gwialen a lein, ni ellir ei roi mewn rhwyd neu gwdyn cadw, a rhaid ei ddychwelyd i’r dŵr ar unwaith.

Terfynau ar faint y pysgod

Gall pysgodfeydd unigol osod terfyn maint mwy llym neu hirfeddiannol na’r rheiny a amlinellir yn yr is-ddeddfau.

Rhaid rhyddhau pysgod sy’n llai na’r terfyn maint, a gymerir yn anfwriadol, yn ôl i’r dŵr ar unwaith. 

Rhywogaeth Terfyn maint
Eog

Ar yr holl afonydd, mae'n rhaid dychwelyd eogiaid heb fawr o niwed ac yn ddi-oed.

Brithyll môr

23cm (9”) - ac eithrio Ardal Gwynedd lle mae’r terfyn yn 21cm (8”)On all rivers

Ar yr holl afonydd (ac eithrio'r Dyfrdwy), mae'n rhaid rhyddhau holl frithyllod y môr sy'n fwy na 60cm heb fawr o niwed ac yn ddi-oed.

Brithyll brown 23cm (9”) - ac eithrio Ardal Gwynedd lle mae’r terfyn yn 21cm (8”)
Brithyll brown a brithyll môr (Ardal Hafren Uchaf) – blaenau’r afonydd canlynol
- Afon Hafren
- Afon Efyrnwy
- Afon Banwy
- AfonTanat
15cm (6")
Brithyll brown a brithyll môr (Ardal Hafren Uchaf) – pob ardal arall 20cm (8”)
Brithyll yr enfys Dim terfyn maint (gall pysgodfeydd unigol osod terfyn yn eu rheolau)
Pysgod bras  

Diffiniad o rannau uchaf

Golyga blaenau’r Afon Hafren yr Afon Hafren a’i llednentydd sydd yn uwch na’I chyflifiad ag Afon (SN594847).

Golyga blaenau’r Afon Efyrnwy yr Afon Efyrnwy a’i llednentydd sydd yn uwch na Chored Dolanog. (SJ067127).

Golyga blaenau’r Afon Banwy yr Afon Banwy a’i llednentydd sydd yn uwch na’I chyflifiad ag Afon Gam (SJ017103).

Golyga blaenau’r Afon Tanat yr Afon Tanat a’i llednentydd sydd yn uwch na’I chyflifiad ag Afon Rhaeadr (SJ130247).

Cymryd pysgod bras, llyswennod, herlod a gwangod (is-ddeddfau gwialen a lein cenedlaethol)

Afonydd

Wrth bysgota afonydd, ni all genweirwyr gymryd rhagor na:

  • 15 pysgodyn bychan (hyd at 20cm) y diwrnod o’r rhywogaethau brodorol a restrir isod (heblaw penllwydion)
  • 1 penhwyad y dydd hyd at 65cm
  • 2 benllwyd y dydd o rhwng 30 a 38cm

Mae’r rhestr pysgod brodorol yn cynnwys barfogion, cochgangod, merfogiaid cyffredin, merfogiaid gwynion, cerpynnod cyffredin, byrbysgod, brwyniaid, penllwydion, draenogiaid, cochiaid, rhuddbysgod, gwyniaid Ebrill ac ysgretennod.

Nid yw’r is-ddeddf yn cynnwys silod (symlynnod a chrethyll, e.e.) na rhywogaethau estron, na mathau addurniadol o’r rhywogaethau rhestredig (cerpynnod coi ac arian, e.e.).

Mae’r cyfyngiadau hyn yn amodol ar ganiatâd perchen neu ddeiliad y bysgodfa, a allai osod cyfyngiadau llymach.

Dyfroedd llonydd

Wrth bysgota dyfroedd llonydd (gan gynnwys camlesi yng Nghymru) ni all genweirwyr fynd â physgod dŵr croyw ymaith heb ganiatâd ysgrifenedig perchen neu ddeiliad y bysgodfa (fel arfer, trwy reolau pysgodfa wedi’u hargraffu ar drwyddedau neu docynnau diwrnod).

Sylwer: Trinnir Llyn Tegid a Llyn Maelog megis afonydd, gan fod nifer o berchnogion arnynt.

Llyswennod, herlod a gwangod

Gwaherddir mynd â llyswennod, herlod a gwangod o unrhyw ddyfroedd (hyd at 6 milltir môr allan) trwy wialen a lein.

Is-ddeddfau gwialen a llinyn Cymru

Darllenwch y datganiad o gadarnhad ar gyfer Is-ddeddfau Gwialen a Llinyn (Eogiaid a Brithyllod y Môr) Cymru 2017.

Darllenwch Is-ddeddfau Gwialen a Llinyn (Eogiaid a Brithyllod y Môr) Cymru 2017.

Darllenwch offeryn cadarnhau Is-ddeddfau Gwialen a Llinyn Afonydd Trawsffioniol.

Darllenwch Is-ddeddfau Gwialen a Llinyn Afonydd Trawsffiniol 2017.

Darllenwch Is-ddeddfau Gwialen a Llinyn Afon Hafren (Eogiaid) (Cymru) 2019.