Cwcis ar ein gwefan

Mae gwefan Cyfoeth Naturiol Cymru yn defnyddio cwcis. Drwy ddal ati i bori neu drwy glicio, “Parhau” byddwch yn cytuno i storio cwcis parti cyntaf a thrydydd partïon ar eich dyfais i wella’r broses o lywio’r safle, dadansoddi’r defnydd o’r safle, a chynorthwyo yn ein hymdrechion marchnata. Polisi cwcis.

Datblygu cynaliadwy

A hoffech chi esbonio datblygu cynaliadwy i’ch dysgwyr? Beth y gallent ei wneud er mwyn gwneud gwahaniaeth? Darllenwch ein hadnoddau

Image representing sustainability.  Hands cradling the natural world

Bydd yr adnoddau hyn yn cyflwyno cysyniad datblygu cynaliadwy i’r dysgwyr. Maent yn darparu tasgau rhyngweithiol ac yn eu helpu i feddwl sut y gall y ffordd y maent yn byw wneud gwahaniaeth.

Sut y gallwn ni fyw’n gynaliadwy?

Mae’r cynllun gweithgaredd hwn yn canolbwyntio ar y ffyrdd niferus y gallwn ni fyw’n gynaliadwy ac mae’n annog dysgwyr i drafod ac ystyried y newidiadau y gallant hwy eu gwneud.

Sut y gallwn ni fyw’n gynaliadwy? (cynllun gweithgaredd)
Sut y gallwn ni fyw’n gynaliadwy? (cardiau adnoddau)

Gêm geirfa datblygu cynaliadwy

Mae’r cynllun gweithgaredd hwn yn pwysleisio pwysigrwydd rheoli ein hadnoddau naturiol mewn ffordd gynaliadwy, gan ganolbwyntio ar roi i’r dysgwyr gyflwyniad sylfaenol i ddatblygu cynaliadwy ynghyd â’r brif eirfa.

Gêm geirfa datblygu cynaliadwy (cynllun gweithgaredd)
Gêm geirfa datblygu cynaliadwy (cardiau adnoddau)

Oes rhywbeth o’i le gyda’r dudalen hon? Rhowch eich adborth.