Pixabay

Dysgu yn ein hamgylchedd naturiol, dysgu amdano a dysgu ar ei gyfer 

Lliniaru ac addasu i newid yn yr hinsawdd yw’r heriau allweddol sy’n wynebu’r ddynoliaeth yn yr unfed ganrif ar hugain.  Mae ein defnydd o ynni a'n dibyniaeth ar danwyddau ffosil wrth wraidd yr heriau hyn, gan mai llosgi tanwyddau ffosil yw prif ffynhonnell allyriadau nwyon tŷ gwydr a achosir gan bobl.  Er mwyn llwyddo i gyfyngu ar gynhesu byd-eang, mae angen inni ddefnyddio ynni'n effeithlon a lleihau cynnwys carbon yr ynni a ddefnyddiwn drwy newid i ffynonellau ynni glân, gwyrdd. 

Mae ynni gwyrdd yn tarddu o adnoddau naturiol sy'n adfer yn naturiol heb leihau adnoddau'r blaned fel y gwynt, golau'r haul, glaw a’r llanw. Maen nhw ar gael bron ym mhobman ac yn cynnig ffynhonnell ynni sydd bron yn ddiwaelod, sy'n dda i'r blaned ac i bobl.

Beth am ofyn i'ch dysgwyr ymchwilio i sut mae ein defnydd o ynni yn cyfrannu at yr argyfyngau hinsawdd a natur trwy ein gweithgareddau ymarferol ac ymchwilio i pam mae angen i ni newid i ffynonellau ynni gwyrdd cynaliadwy?

Bydd yr holl weithgareddau a gemau ar y dudalen hon yn eich helpu i alluogi eich dysgwyr i wneud cynnydd yn y ffyrdd a ddisgrifir ym mhedair diben y Cwricwlwm i Gymru. Cynhwysir dolenni i’r cwricwlwm yn y dogfennau a bydd pob gweithgaredd yn gymorth i chi gyflawni sawl agwedd o’r Fframwaith Llythrennedd a Rhifedd Cenedlaethol (LRC) a’r Fframwaith Cymhwysedd Digidol.  

Cefndir i’r cyfan: Pa achosion dynol a naturiol sydd wrth wraidd argyfwng yr hinsawdd?

Defnyddiwch y gweithgareddau a'r wybodaeth hyn ar ein tudalen we 'Argyfwng y newid yn yr hinsawdd' i gyflwyno'r ystod eang o broblemau dynol a naturiol sy'n effeithio ar ein hinsawdd ac annog trafodaeth a dadl ymhlith eich dysgwyr.

Beth yw ynni gwyrdd a pham mae ei angen arnom? 

O archwilio'r gwahanol fathau o ynni gwyrdd i drafod ynni a newid yn yr hinsawdd, mae ein nodyn gwybodaeth yn esbonio'r cyfan. 

Nodyn gwybodaeth - Ynni 

Pam mae ynni'n bwysig?

Gofynnwch i'ch dysgwyr feddwl a thrafod y gwahanol ffyrdd rydyn ni'n dibynnu ar ynni ac yn ei ddefnyddio. 

Cynllun gweithgaredd - Pam mae ynni’n bwysig?

Arbedwyr ynni 

Nod y gweithgareddau hyn yw ysbrydoli'ch dysgwyr i feddwl a thrafod sut y gallwn ni i gyd ymddwyn yn fwy cyfrifol i leihau'r defnydd o ynni.

Cynllun gweithgaredd – Arbedwyr ynni
Cardiau adnoddau - Arbedwyr ynni

Ymchwilio i ynni solar 

Ewch â’ch dysgwyr allan i wneud gwaith yn yr amgylchedd naturiol. Bydd y gweithgaredd hwn yn rhoi cyfle i'ch dysgwyr arsylwi ac ymchwilio i ynni solar.

Cynllun gweithgaredd - Ymchwilio i gasglu solar 
Taflen waith – Ymchwilio i gasglu solar 

Ymchwilio i gyflymder gwynt

Mae yna ddigonedd o wynt yng Nghymru!  Mae’r gweithgaredd hwn yn edrych ar fesur cyflymder gwynt ac yn gofyn i ddysgwyr ystyried sut gall gosodiad a lleoliad tyrbinau gwynt yn y tirlun effeithio ar gynhyrchu ynni.

Cynllun gweithgaredd - Ymchwilio i gyflymder gwynt 
Taflen waith - Ymchwilio i gyflymder gwynt 

Adeiladwyr ynni

Heriwch eich dysgwyr i danio a defnyddio eu gwybodaeth a sgiliau STEM i ddylunio ac adeiladu fferm wynt neu orsaf ynni dŵr fechan.

Cynllun gweithgaredd - Adeiladwyr ynni

Grym cymunedol

Mae'r gweithgaredd hwn yn herio cymuned ynysig, ddychmygol (eich dysgwyr!), i ddod o hyd i gonsensws ar yr opsiynau ynni gorau i ddiwallu anghenion eu defnyddwyr.  A fyddant yn gweld potensial ynni gwyrdd?

Cynllun gweithgaredd - Cyflenwi ynni cymunedol
Taflen waith - Grym cymunedol
Cardiau adnoddau - Cymharu ynni

Ddim ar fy stepen drws i! 

Pwy sy'n barod am ddadl?  Mae cynlluniau ar y gweill i adeiladu gorsaf ynni newydd yng nghymuned eich dysgwyr.  Bydd yr orsaf bŵer yn ddigon mawr i ddarparu ynni i’r ardal gyfagos, y gymuned leol, a chartrefi eich dysgwyr.  Bydd y gweithgaredd hwn yn annog eich dysgwyr i ddatblygu safbwynt personol y bydd angen iddynt ei gyfathrebu yn ystod dadl grŵp.

Cynllun gweithgaredd - Ddim ar fy stepen drws i!

Datblygu cynaliadwy 

A hoffech chi esbonio datblygu cynaliadwy i’ch dysgwyr? Beth y gallent ei wneud er mwyn gwneud gwahaniaeth? Darllenwch ein hadnoddau datblygu cynaliadwy.

Mwy o wybodaeth ac adnoddau

Dysgwch fwy am ein rôl o ran rheoli anghenion ynni Cymru ac addasu i newid yn yr hinsawdd. 

Cysylltwch â ni 

Os nad ydych yn gallu dod o hyd i beth rydych yn chwilio amdano, neu os hoffech help neu wybodaeth bellach, cysylltwch â ni yn: 

E-bost: addysg@cyfoethnaturiolcymru.gov.uk
Ffôn: 0300 065 3000

Archwilio mwy

Diweddarwyd ddiwethaf