Adnoddau dysgu: Argyfwng y newid yn yr hinsawdd - Does dim Planed B!
Ydych chi eisiau ennyn diddordeb eich dysgwyr...
Mae’r adnoddau addysg hyn yn rhannu awgrymiadau i helpu eich dysgwyr i ddeall cysyniad cynaliadwyedd.
Bydd yr holl weithgareddau a gemau yma yn helpu eich dysgwyr i wneud cynnydd yn y ffyrdd a ddisgrifir ym mhedair diben y Cwricwlwm i Gymru. Cynhwysir dolenni i’r cwricwlwm yn y dogfennau a bydd pob gweithgaredd yn gymorth i chi gyflawni sawl agwedd o’r Fframwaith Llythrennedd a Rhifedd Cenedlaethol (LRC) a’r Fframwaith Cymhwysedd Digidol.
Mae ein dogfen ‘Eich cefnogi i gynllunio a dylunio’r cwricwlwm – Cynaliadwyedd’ ar gael i’ch cefnogi i adnabod anghenion dysgu a dilyniant, ac i ddatblygu cynllun dysgu.
Mae’r gweithgaredd hwn yn annog dysgwyr i drafod ac ystyried sut gallant fyw’n gynaliadwy.
Mae’r gweithgaredd hwn yn canolbwyntio ar roi cyflwyniad sylfaenol i ddysgwyr i gynaliadwyedd a’r eirfa allweddol.
Mae’r nodyn gwybodaeth hwn yn egluro bod tanwyddau ffosil yn seiliedig ar garbon a bod eu hylosgi yn arwain at ryddhau carbon i atmosffer y ddaear.
Mae’r gweithgaredd hwn yn cynnig awgrymiadau i ddysgwyr gyfrifo eu hôl troed carbon personol.
Pan fydd eich dysgwyr wedi cwblhau’r gweithgaredd hwn, fe allech eu herio i ymchwilio i ba faint o goeden y mae ei hangen i amsugno swm o garbon sy’n gyfystyr â’u hôl troed carbon. Mae awgrymiadau am weithgareddau ar gael ar ein tudalen we Coed a choetiroedd.
Mae diogelu’r amgylchedd ar gyfer cenedlaethau’r dyfodol yn un o heriau mwyaf ein hoes. Mae ein tudalen we Argyfwng y newid yn yr hinsawdd - Does Dim Planed B! yn rhannu adnoddau addysg a syniadau i’ch helpu chi a’ch dysgwyr i fynd i’r afael â’r argyfyngau hinsawdd a natur yr ydym yn eu hwynebu.