Amgylchedd naturiol Cymru yw’r peth mwyaf gwerthfawr sydd gennym. Mae amgylchedd iach yn allweddol i fodolaeth a goroesiad pob math o fywyd ar y Ddaear. Diogelu'r amgylchedd ar gyfer cenedlaethau'r dyfodol yw un o heriau mwyaf ein hoes. Rhaid inni ddod o hyd i ffordd wyrddach o fyw ac ailddychmygu sut y gallwn ni ddefnyddio ein hadnoddau naturiol i helpu i fynd i'r afael â'r argyfyngau hinsawdd a natur sy’n ein hwynebu.

Bydd yr holl weithgareddau a gemau ar y dudalen hon yn eich helpu i alluogi eich dysgwyr i wneud cynnydd yn y ffyrdd a ddisgrifir ym mhedair diben y Cwricwlwm i Gymru. Cynhwysir dolenni i’r cwricwlwm yn y dogfennau a bydd pob gweithgaredd yn gymorth i chi gyflawni sawl agwedd o’r Fframwaith Llythrennedd a Rhifedd Cenedlaethol (LRC) a’r Fframwaith Cymhwysedd Digidol. 

Ffactorau dynol a naturiol

Rhowch rywfaint o gefndir.  Defnyddiwch y gweithgareddau hyn i gyflwyno'r ystod eang o faterion sy'n effeithio ar ein hinsawdd – yn rhai naturiol a rhai a achoswyd gan bobl. Anogwch drafodaeth am y rhain ymysg eich dysgwyr.

Cynllun gweithgaredd - Effeithiau Naturiol neu o Waith Dyn
Clip fideo - Argyfwng yr Hinsawdd – (ffilm) – dim isdeitlau
Clip fideo - Argyfwng yr Hinsawdd – (ffilm) – isdeitlau
Nodyn gwybodaeth – yn cyd­fynd â Ffilm Argyfwng yr Hinsawdd​

Gêm geirfa datblygu cynaliadwy

Mae’r cynllun gweithgaredd hwn yn pwysleisio pwysigrwydd rheoli ein hadnoddau naturiol mewn ffordd gynaliadwy, gan ganolbwyntio ar roi i’r dysgwyr gyflwyniad sylfaenol i ddatblygu cynaliadwy ynghyd â’r brif eirfa.

Cynllun gweithgaredd - Gêm geirfa datblygu cynaliadwy
Cardiau adnoddau - Gêm geirfa datblygu cynaliadwy 

Sut y gallwn ni fyw’n gynaliadwy?

Mae’r cynllun gweithgaredd hwn yn canolbwyntio ar y ffyrdd niferus y gallwn ni fyw’n gynaliadwy ac mae’n annog dysgwyr i drafod ac ystyried y newidiadau y gallant hwy eu gwneud.

Cynllun gweithgaredd - Sut y gallwn ni fyw’n gynaliadwy?
Cardiau adnoddau - Sut y gallwn ni fyw’n gynaliadwy?

Gwyrdd neu gelwydd?

Nid yw bob amser yn hawdd adnabod cynhyrchion cynaliadwy (gwrthrychau materol, diriaethol fel barsebon) a gwasanaethau cynaliadwy (gwasanaeth y mae rhywun yn ei ddarparu e.e. rhoi cyngor,dosbarthu bwyd, dylunio gwefan). Mae’r gweithgaredd yma yn canolbwyntio ar nodi hygrededdhoniadau o blaid yr amgylchedd a chynaliadwyedd.

Cynllun gweithgaredd ­- Gwyrdd neu gelwydd?

‘ABC’ newid yn yr hinsawdd 

Mae'r gweithgaredd hwn, sy’n perthyn i’r celfyddydau mynegiannol, yn ceisio tynnu sylw at achosion achanlyniadau newid yn yr hinsawdd ac yn trafod pa gamau y gallwn eu cymryd ar lefel unigol, i fynd i'rafael ag ef.

Cynllun gweithgaredd ­- 'ABC' Newid hinsawdd
Nodyn gwybodaeth ­- 'ABC' Newid hinsawdd
Cardiau adnoddau -­ 'ABC' Newid hinsawdd

Addasu i Newid yn yr Hinsawdd

Mae'r rhan fwyaf ohonon ni’n ymwybodol bod llawer o'r prosesau naturiol sy'n cefnogi bywyd pobl yn gorfod addasu i ddylanwadau newid yn yr hinsawdd. Gofynnwch i'ch dysgwyr ymchwilio a defnyddio’u sgiliau mathemateg i weld pa effaith y bydd newid yn yr hinsawdd yn ei chael ar eu hamgylchedd lleol erbyn 2050.

Cynllun gweithgaredd - Addasu i newid yn yr hinsawdd
Taflen waith - Addasu i newid yn yr hinsawdd 

Coed a charbon 

Mae’r gweithgareddau hyn yn tynnu sylw at y rôl bwysig sydd gan goed yn amsugno’r carbon deuocsid o’r amgylchedd drwy ffotosynthesis a’i storio ar ffurf coed. 

Mae ein nodyn gwybodaeth yn esbonio beth yw carbon, sut mae'n cael ei gynhyrchu a sut y gall coed weithredu fel storfeydd carbon.

Nodyn Gwybodaeth - Carbon

Gwrthbwyso eich ôl troed carbon gyda choed

Gan ddefnyddio ein cynllun gweithgaredd a'n hadnoddau cysylltiedig, gofynnwch i'ch dysgwyr gyfrifo eu hôl troed carbon a faint o goed fyddai eu hangen i wrthbwyso eu hôl troed. 

Cynllun gweithgaredd - Ôl troed carbon 
Taflen waith - Ôl troed carbon 
Cardiau adnoddau - Ôl troed carbon 

Cyfrifo faint o garbon sy'n cael ei storio mewn coed 

Mae’r gweithgaredd hwn yn esbonio sut mae mesur faint o garbon sy’n cael ei storio mewn coed, sut mae rhoi oedran a dynodi gwahanol fathau o goed a disgrifio sut mae coed yn gwrthsefyll newidiadau hinsawdd drwy storio carbon.

Cynllun gweithgaredd - Cyfrifydd storio carbon
Cardiau adnoddau - Yr hyn sy'n cyfateb i garbon 
Taflen waith - Cyfrifydd storio carbon 

Mawndiroedd, carbon a newid hinsawdd 

Mae mawndiroedd yn storio llawer iawn o garbon ac yn gweithredu fel dalfeydd carbon naturiol. Beth yw ôl troed carbon unigol eich dysgwyr?  Faint o fawn fyddai ei angen i'w gwrthbwyso nhw?  Bydd ein Taflen Waith ‘Cyfrifydd Carbon Mawndiroedd’ yn helpu eich dysgwyr i ddychmygu sawl metr ciwbig y byddai eu hangen o garbon wedi’i storio mewn mawn i'w wrthbwyso. 

Cynllun gweithgaredd - Mawndiroedd, carbon a newid hinsawdd ...yn dod cyn hir 
Taflen waith - Faint o fawn sydd ei angen i wrthbwyso eich ôl troed carbon? ...yn dod cyn hir 
Cardiau adnoddau – Ôl troed carbon ...yn dod cyn hir  

Mawndiroedd – o ddalfeydd carbon i allyrwyr carbon 

Gall unrhyw aflonyddwch ar fawndir olygu ei fod yn newid o ecosystem sy'n amsugno carbon i ecosystem sy'n gollwng nid yn unig garbon diweddar, ond

carbon a amsugnwyd dros y 12,000 o flynyddoedd diwethaf.  Dysgwch fwy am sut y gall mawndiroedd newid o fod yn ddalfeydd carbon i allyrwyr carbon gan ddefnyddio ein nodyn gwybodaeth.

Nodyn gwybodaeth - Mawndiroedd: Sut y gall dalfeydd carbon droi'n allyrwyr carbon

Asesu cyflwr, dyfnder, oedran a chynnwys carbon mawndir

Gofynnwch i'ch dysgwyr gynnal ymchwiliad ymarferol syml i asesu cyflwr, dyfnder, oedran a chynnwys carbon ardal o fawndir. Edrychwch ar ein cynllun gweithgaredd.

Cynllun gweithgaredd - Asesu cyflwr, dyfnder, oedran a chynnwys carbon mawndir
Taflen waith - Asesu cyflwr, dyfnder, oedran a chynnwys carbon mawndir
Cardiau adnoddau - Asesu cyflwr, dyfnder, oedran a chynnwys carbon mawndir

Bwyta dros Gymru 

Mae'r ffordd rydyn ni’n tyfu, yn cludo ac yn bwyta ein bwyd yn cael effaith enfawr ar yr amgylchedd naturiol gan fod tair rhan y broses yn cynhyrchu allyriadau. Gadewch i'ch dysgwyr archwilio gwahanol ffyrdd o fwyta i nodi pa rai sydd fwyaf cynaliadwy yn eu barn nhw.

Cynllun gweithgaredd - Bwyta dros Gymru

Ysbwriel parhaol 

Faint o amser mae’n ei gymryd i bethau bydru ar ôl eu taflu? Bydd y dysgwyr yn gweithio fel tîm er mwyn gosod eitemau yn nhrefn yr amser y byddai'n cymryd i'r eitem ymddatod yn y môr. Fel rhan o'r gweithgaredd hwn, byddant yn ystyried yr effaith y gall sbwriel ei chael ar yr amgylchedd. 

Cynllun gweithgaredd - Sbwriel hirbarhaol
Cardiau adnodd - Sbwriel ar y tir 
Cardiau adnodd - Sbwriel yn y môr
Tabl - Llinell amser gwastraff 

Croesi'r crwbanod 

Mae llygredd plastig yn peri niwed aruthrol i’r organebau sy’n dod ar ei draws. O'r cwrelau lleiaf i forfilod enfawr, mae miliynau o anifeiliaid ac adar yn marw bob blwyddyn o ganlyniad i lyncu plastig yn y môr neu fynd yn sownd ynddo. Mae’r gêm hon yn amlygu’r peryglon y mae creaduriaid y môr yn ei wynebu, wrth i’r dysgwyr (y crwbanod môr) geisio croesi grid (y môr mawr) gan osgoi gwastraff plastig peryglus.

Cynllun gweithgaredd - Croesi'r crwbanod 

Effeithiau tywydd sych

Ydych chi erioed wedi dyfalu pa fathau o sychder yr ydym yn eu cael yn y DU a pha effaith y maent yn ei gael ar yr amgylchedd naturiol? Mae DRY: Diary of a Water Superhero yn llyfr sydd wedi ei greu gan y Ganolfan Ddŵr, Cymunedau a Gwytnwch ym Mhrifysgol Gorllewin Lloegr, Bryste (UWE) ac wedi ei ariannu gan y Cyngor Ymchwilio Amgylchedd Naturiol (NERC). Mae’n annog trafodaeth ar sut y gallwn baratoi ar gyfer cyfnodau o dywydd sych a beth allwn ni ei wneud fel unigolion i arbed dŵr.

Mae Cyfoeth Naturiol Cymru wedi bod yn aelod o brosiect DRY (Drought Risk and You) ar lefel y DU ac yn gysylltiedig â gwaith crynhoi ar gyfer Ebwy ac wedi cefnogi’r gwaith o gyfieithu nodiadau’r athrawon i’r Gymraeg.

Llyfr stori - Dry: Diary of a Water Superhero
Nodiadau athro - Dry: Diary of a Water Superhero

Heriau Bagloriaeth Cymru 

Mae'r briffiau hyn ar gyfer Heriau Dinasyddiaeth Fyd-eang yn rhoi cyfle i ddysgwyr feithrin gwybodaeth a dealltwriaeth o sut y gellir rheoli ein hadnoddau naturiol yn gynaliadwy ar gyfer cynhyrchu ynni. Bydd y briffiau hefyd yn helpu dysgwyr i ddatblygu dealltwriaeth o'r heriau a wynebir ledled y byd wrth fynd i'r afael ag ynni cynaliadwy.

Briff uwch - Rheoli Cynaliadwy ar Adnoddau Naturiol
Briff uwch - Ynni Adnewyddadwy
Briff Sylfaen Cenedlaethol - Ynni Gwyrdd
Briff ôl-16 - Atebion Cynaliadwy ar gyfer Gwastraff
Gallwch ddod o hyd i adnoddau ategol ar ein tudalen Bagloriaeth Cymru ...yn dod cyn hir  

Trosolwg Newid Hinsawdd a’r Adroddiad ar Sefyllfa Adnoddau Naturiol (SoNaRR)  

Dysgwch fwy am ein rôl yn rheoli ac yn addasu i newid hinsawdd  Trosolwg newid hinsawdd
Ail asesiad rheolaeth gynaliadwy o adnoddau naturiol yng Nghymru  Adroddiad ar Sefyllfa Adnoddau Naturiol (SoNaRR) Cymru 2020
Film clip – Cyflwyniad i SoNaRR2020 
Film clip – Prif Negeseuon SoNaRR2020

Archwilio mwy

Diweddarwyd ddiwethaf