Adnoddau dysgu - chwiliwch yn ôl pwnc

Ydych chi eisiau ennyn diddordeb eich dysgwyr mewn deall argyfwng yr hinsawdd? Beth am roi cynnig ar rai o'n gweithgareddau ymarferol i'w cefnogi a'u hannog i helpu i gymryd camau cadarnhaol.

Bydd ein gweithgareddau ymarferol yn annog eich dysgwyr i ymchwilio i sut mae ein defnydd o ynni yn cyfrannu at yr argyfyngau hinsawdd a natur, gan eu cefnogi i ymchwilio i pam mae angen i ni newid i ffynonellau ynni gwyrdd cynaliadwy.

Faint o amser fyddai’n gymryd i’ch dysgwyr gerdded Lwybr Arfordir Cymru ar ei hyd? A fydden nhw’n gallu helpu i hyrwyddo’r Llwybr drwy ddylunio taflen hyrwyddo neu drwy ysgrifennu cylchlythyr? Beth am gael golwg ar ein gweithgareddau trawsgwricwlaidd.

Ydych chi’n chwilio am adnoddau i helpu i esbonio sut mae llifogydd yn digwydd a beth yw effeithiau hynny?

Dysgwch am goed a choetiroedd - cymerwch olwg ar ein hadnoddau.

Ydych chi’n chwilio am adnoddau i esbonio’r effeithiau andwyol a gaiff sbwriel, tipio anghyfreithlon a gwastraff ar yr amgylchedd naturiol?

A hoffech chi esbonio datblygu cynaliadwy i’ch dysgwyr? Beth y gallent ei wneud er mwyn gwneud gwahaniaeth? Darllenwch ein hadnoddau.

A hoffech chi ddysgu am bopeth sy’n wlyb ac yn ddyfrllyd? Edrychwch ar ein hadnoddau dysgu.

Dysgwch am fawniroedd, edrychwch ar ein hadnoddau

Dysgwch am ecosystemau, prosesau a chynefinoedd morol arfordirol – cymrwch olwg ar ein hadnoddau.

Edrychwch ar ein syniadau a'n gweithgareddau i'ch helpu i gael hwyl fel teulu a chwarae’n naturiol yn yr awyr agored.

Mae twyni tywod yn olygfa gyfarwydd ar hyd traethau ac ardaloedd arfordirol. Gan gynnig gwarchodaeth arfordirol, mae'r cynefinoedd hyn yn cynnal nifer o rywogaethau o blanhigion, anifeiliaid a phryfed. Gofynnwch i'ch dysgwyr ddysgu yn, amdan, ac ar gyfer twyni tywod gyda'n cyfres o adnoddau dysgu trawsgwricwlaidd.

Ydych chi’n awyddus i fanteisio ar y cyfleoedd dysgu a phrofiad y gall perllan fach eu darparu? Os yw’r syniad o gadw perllan gyda’ch dysgwyr yn apelio, dyma’r adnoddau perffaith i chi.

Cael dysgwyr i gymryd rhan yn y broses o wneud tanau gwersyll bach yn ddiogel neu o ddefnyddio offer yn ddiogel yw'r ffordd orau o ddysgu sgiliau bywyd pwysig, a sefydlu arfer da i’w cadw eu hunain, pobl eraill a'r amgylchedd naturiol yn ddiogel.

O lygredd plastig i lygredd dŵr, yma fe gewch adnoddau i egluro sut mae achosion o lygredd yn digwydd a sut maen nhw’n effeithio ar yr amgylchedd naturiol ac ar bobl.

Hoffech chi ddysgu sut mae treulio amser yn yr amgylchedd naturiol yn gallu helpu i gynyddu lefelau gweithgaredd corfforol? Ydych chi angen syniadau i annog dysgwyr o bob oedran i fwynhau ymarfer yn yr awyr agored? Dyma’r lle i chi felly!

Gelwir tanau dinistriol heb eu cynllunio sy’n lledaenu drwy goedwigoedd a glaswelltir yn danau gwyllt. Mae tanau gwyllt yn fygythiad gwirioneddol i bobl, eiddo, bywyd gwyllt a’r amgylchedd naturiol. Dysgwch sut maen nhw’n dechrau, sut maen nhw’n cael eu rheoli, a’r hyn y gallwn ni ei wneud i’w hatal.