Trefnu taith addysgiadol ar dir yr ydym yn ei reoli
BETA: Mae hwn yn wasanaeth newydd — rhowch adborth i'n helpu i'w wella
Defnyddiwch y gwasanaeth hwn i drefnu taith ysgol ar dir yr ydym yn ei reoli.
Cyn dechrau
Mae angen i chi roi’r manylion canlynol i ni:
- gwybodaeth amdanoch chi neu eich sefydliad
- gwybodaeth am arweinydd y grŵp
- beth hoffech chi ei wneud
- ble hoffech chi fynd a phryd
- faint o bobl fydd ar y safle
- blwyddyn ysgol y grŵp neu’r ystod oedran
Dogfennau y bydd angen i chi eu huwchlwytho
Byddwn yn cysylltu â chi os oes unrhyw resymau pam na allwch barhau â’r ymweliad.
Os mae eich taith yn cynnwys cynnau tanau, torri neu waredu deunyddiau, gallai gymryd hyd at 12 wythnos i brosesu eich cais.
Bydd angen y canlynol arnom:
- map
- tystiolaeth o yswiriant indemniad cyhoeddus yn dangos y canlynol:
- eich enw
- dyddiadau’r yswiriant
- cyfanswm gwerth yr yswiriant (isafswm o £5 miliwn)
- cynllun ar gyfer argyfwng
Diweddarwyd ddiwethaf