Hybu Gwyddoniaeth a Thechnoleg drwy natur
Cyfle i ddysgu am anifeiliaid, cynefinoedd a bioamrywiaeth...
Gall dealltwriaeth dysgwyr o dechnoleg ddigidol gael ei defnyddio i wella’r broses o ddysgu a deall gan fynd â dyfeisiau symudol allan i’r amgylchedd naturiol. Gan fod dyfeisiau symudol yn gludadwy a chyfleus, maen nhw’n caniatáu i ni gofnodi arsylwadau, casglu data ac esbonio prosesau a chysyniadau naturiol mewn ffordd greadigol.
Bydd dysgwyr yn gweithio fel arbenigwyr y cyfryngau cymdeithasol yn y cynllun gweithgaredd hwn. Gofynnir iddynt gynllunio, paratoi ac o bosib rhedeg ymgyrch ar gyfryngau cymdeithasol i godi ymwybyddiaeth o fater neu bwnc amgylcheddol drwy lwyfannau cyfryngau cymdeithasol eu lleoliad.
Cynllun gweithgaredd – Ymgyrchu dros natur - Rhedeg ymgyrch ar y cyfryngau cymdeithasol
Taflen waith – Ymgyrchu dros natur - Rhedeg ymgyrch ar y cyfryngau cymdeithasol
Cyflwyniad PowerPoint - Ymgyrchu dros fyd natur - Rhedeg ymgyrch ar y cyfryngau cymdeithasol
Mae'r gweithgaredd hwn yn rhoi cyfle i ddysgwyr ddod yn 'ddylanwadwyr natur', gan greu flog amgylcheddol i rannu eu syniadau ar bwnc amgylcheddol penodol, i alw ar eraill i weithredu neu i ddogfennu newidiadau ym myd natur.
Mewn egwyddor, a ddylai ardal werthfawr leol o amgylchedd naturiol gael ei datblygu i fod yn ganolfan siopau manwerthu? Neu a ddylai gael ei diogelu er mwyn i genedlaethau'r dyfodol gael ei mwynhau ac i fywyd gwyllt gael ffynnu? Bydd y gweithgaredd hwn ar gyfer yr ystafell ddosbarth yn arfogi dysgwyr i ddod yn hyrwyddwyr natur, gan ymchwilio ar-lein i hanes ac arwyddocâd ardal naturiol leol cyn cyflwyno eu canfyddiadau gan ddefnyddio iaith berswadiol.
Cynllun gweithgaredd – Hyrwyddwyr natur
Cerdyn adnodd - Llythyr hyrwyddwyr natur
Mae'r gweithgaredd hwn yn rhoi cyfle i ddysgwyr droi’n addysgwyr, gan greu animeiddiad byr i esbonio proses neu gylch bywyd naturiol. Bydd ein cynllun gweithgaredd yn dangos y broses animeiddio gam wrth gam i chi.
Cynllun gweithgaredd – Animeiddio natur drwy animeiddio stop-symud
Yn ogystal ag ymchwilio i ba rywogaethau adar sy’n ymweld â'r tir o’u cwmpas, mae'r gweithgaredd hwn yn annog dysgwyr i ystyried y ffactorau dynol ac amgylcheddol sy'n effeithio ar boblogaethau adar. Drwy ddadansoddi data ar boblogaethau adar, gellir gwneud casgliadau ynghylch a yw poblogaethau unigol yn lleihau neu'n cynyddu.
Cynllun gweithgaredd - Ymchwilio a dadansoddi newidiadau i boblogaethau adar yng Nghymru
Cardiau adnoddau - Ymchwilio a dadansoddi newidiadau i boblogaethau adar yng Nghymru
Os na allwch ddod o hyd i’r hyn rydych chi’n chwilio amdano neu os hoffech gael unrhyw help neu wybodaeth, cysylltwch â ni: