Hysbysiad preifatrwydd Profi, Olrhain, Diogelu

Mae Rheoliad Diogelu Data Cyffredinol (GDPR) yr UE yn cynnwys rheolau ynglŷn â rhoi gwybodaeth am breifatrwydd i unigolion ac yn rhoi pwyslais ar wneud hysbysiadau preifatrwydd yn fwy tryloyw a hygyrch.

Mae'n rhaid rhoi hysbysiad preifatrwydd i'r unigolyn ar yr adeg pan fyddwn yn casglu ei ddata personol / bydd yn rhoi ei ddata personol i chi / Cyfoeth Naturiol Cymru. O dan y GDPR, mae'n rhaid i'r wybodaeth yr ydym yn ei rhoi i unigolion o ran sut y byddwn yn prosesu eu data personol fod:

  • yn gyson, tryloyw a dealladwy ac yn hawdd cael mynediad ati
  • wedi'i hysgrifennu gan ddefnyddio iaith glir a syml, yn enwedig os yw at sylw plentyn; ac
  • yn rhad ac am ddim

Rheolydd Data

Cyfoeth Naturiol Cymru yw'r rheolydd data ac mae'n ymroddedig i amddiffyn hawliau unigolion yn unol â'r GDPR.

Swyddog Diogelu Data

Mae gan Cyfoeth Naturiol Cymru Swyddog Diogelu Data y gallwch gysylltu ag ef drwy anfon e-bost at dataprotection@cyfoethnaturiolcymru.gov.uk neu drwy ffonio 0300 065 3000.

Pa wybodaeth yr ydym yn ei chasglu amdanoch chi?

Rydym yn casglu data personol oddi wrthych er mwyn ein galluogi i gydymffurfio â gofynion Profi, Olrhain, Diogelu yn ystod yr ymateb i bandemig COVID-19. Mae hyn yn cynnwys enwau a rhifau ffôn aelodau o'r cyhoedd sy'n ymweld â'n canolfannau ymwelwyr.

Sut fydd eich gwybodaeth yn cael ei defnyddio?

Defnyddir eich data personol i hysbysu awdurdodau lleol a byrddau iechyd lleol fel rhan o'r strategaeth Profi, Olrhain, Diogelu sy'n cael ei gweithredu gan Lywodraeth Cymru.

Beth yw ein sail gyfreithiol ar gyfer prosesu eich data personol?

Fel y diffinnir gan ddeddfwriaeth y GDPR, y sail gyfreithiol ar gyfer prosesu'r data uchod yw drwy gydsyniad.

Pwy sy'n derbyn eich gwybodaeth?

Bydd eich gwybodaeth yn cael ei darparu i Lywodraeth Cymru, byrddau iechyd lleol ac awdurdodau lleol fel rhan o'r strategaeth Profi, Olrhain, Diogelu.

Unrhyw drosglwyddo i drydydd gwledydd a'r mesurau diogelu sydd ar waith

Ni fydd eich gwybodaeth yn cael ei hanfon tu allan i'r UE.

Am ba hyd y bydd eich gwybodaeth yn cael ei chadw?

Bydd eich gwybodaeth yn cael ei chadw am 21 diwrnod, yn unol â gofynion y strategaeth Profi, Olrhain, Diogelu.

Beth yw hawliau'r unigolyn?

Mae gennych hawl i gael mynediad at eich data; diwygio eich data a dileu eich data unwaith y bydd y cyfnod cadw perthnasol wedi dod i ben.

Mae gennych yr hawl i wneud y canlynol:

Mae gennych hawl i gael mynediad at eich gwybodaeth bersonol, i wrthwynebu i’r gwaith o brosesu eich gwybodaeth bersonol, ac i gywiro, dileu, cyfyngu a chludo eich gwybodaeth bersonol. Ewch i'r tudalennau diogelu data ar ein gwefan i gael rhagor o wybodaeth mewn perthynas â'ch hawliau.

Dylai unrhyw geisiadau neu wrthwynebiadau gael eu gwneud yn ysgrifenedig i Swyddog Diogelu Data Cyfoeth Naturiol Cymru:

dataprotection@cyfoethnaturiolcymru.gov.uk

Swyddog Diogelu Data,
Cyfoeth Naturiol Cymru,
Maes y Ffynnon,
Ffordd Penrhos, 
Bangor,
Gwynedd,
LL57 2DW

Diogelwch eich gwybodaeth

Bydd cofnodion yn cael eu cadw ar ffurf copi caled fel y cwblhawyd gan ymwelwyr Bydd y rhain yn cael eu storio'n ddiogel gyda mynediad cyfyngedig i unigolyn penodedig ac yn cael eu dinistrio ar ôl diwrnod 21.

Sut i wneud cwyn

Os nad ydych yn fodlon ar y ffordd y mae eich data personol wedi cael ei brosesu, gallwch gysylltu â Swyddog Diogelu Data Cyfoeth Naturiol Cymru yn gyntaf gan ddefnyddio'r manylion cyswllt uchod.

Os ydych chi'n parhau i fod yn anfodlon, mae gennych yr hawl i wneud cais uniongyrchol i'r Comisiynydd Gwybodaeth am benderfyniad. Gellir cysylltu â'r Comisiynydd Gwybodaeth yn:

Swyddfa'r Comisiynydd Gwybodaeth / Information Commissioner’s Office
Wycliffe House
Water Lane
Wilmslow
Swydd Gaer
SK9 5AF
www.ico.org.uk

Diweddarwyd ddiwethaf