Cynllun llifogydd personol
Defnyddiwch y gwasanaeth hwn i greu cynllun llifogydd personol gydag aelodau eich cartref.
Wrth ysgrifennu cynllun llifogydd dylech ystyried:
- pwy all osod eich gatiau llifogydd a chynhyrchion llifogydd eraill a pha mor hir y bydd yn ei gymryd
- pwy all baratoi eich eiddo os disgwylir llifogydd pan fyddwch chi yn y gwaith
- beth fydd ei angen arnoch os oes llifogydd ar y ffordd ac na allwch adael eich cartref am beth amser
- sut i gysylltu â ffrindiau a theulu os nad yw'r rhwydweithiau ffôn yn gweithio
- gwneud nodyn o pryd mae angen trin eich pympiau neu gynhyrchion llifogydd parhaol eraill
Ysgrifennwch eich cynllun llifogydd
Neu defnyddiwch y rhestr wirio hon i lunio eich rhestr eich hun. Dylai hon gynnwys:
- o ble mae eich risg o lifogydd yn dod (y môr, afon neu nant, neu ddŵr wyneb)
- pryd mae angen i chi gymryd camau gweithredu (pan fyddwch chi'n derbyn rhybuddion llifogydd, neu'n seiliedig ar wybodaeth arall)
- sut i ddiffodd eich cyflenwadau nwy, trydan a dŵr
- ble i ddod o hyd i'ch pecyn llifogydd
- ble fyddwch chi'n mynd a sut i gysylltu â'ch gilydd
- rhestr o rifau cysylltu pwysig
Meddyliwch am amddiffyn eich eiddo. Gwnewch restr o'r hyn sydd angen ei symud i le diogel, er enghraifft:
- eich anifeiliaid anwes
- ceir
- eitemau sentimental, fel albymau lluniau
- dodrefn
- offer trydanol
- carpedi a rygiau
- dodrefn awyr agored
Archwilio mwy
Diweddarwyd ddiwethaf