Cynlluniau Rheoli Basn Afon drafft 2027 i 2033
Mae cynlluniau rheoli basn afon yn darparu'r fframwaith ar gyfer amddiffyn a gwella'r amgylchedd dŵr. Maen nhw’n ymdrin ag afonydd, llynnoedd, camlesi, dyfroedd daear, aberoedd a dyfroedd arfordirol. Maen nhw’n cael eu diweddaru bob chwe blynedd. Mae'r cynlluniau drafft hyn yn cwmpasu cylch 4, 2027 i 2033.
Drwy’r broses hon rydym yn gwella ein dealltwriaeth ar gyflwr yr amgylchedd dŵr, y pwysau y mae’n ei wynebu a’r mesurau sydd eu hangen i’w amddiffyn a’i wella drwy ddefnyddio tystiolaeth sy’n bodoli eisoes a thystiolaeth newydd.
- Cynllun Rheoli Basn Afon Drafft Afon Dyfrdwy 2027 i 2033
- Cynllun Rheoli Basn Afon drafft Gorllewin Cymru 2027 i 2033
Mae'r ymgynghoriad ar gynlluniau rheoli basn afon drafft Dyfrdwy a Gorllewin Cymru ar agor tan 23 Mai 2027.
Bydd yr ymgynghoriad ar gynllun rheoli basn afon Hafren yn agor ar wefan yr Asiantaeth yr Amgylchedd ym mis Rhagfyr 2026.
Beth sy’n rhan o gynlluniau rheoli basn afon?
- Crynodeb drafft o Gynlluniau Rheoli Basn Afon (2027 i 2033), yn amlinellu cynnydd er 2021, manylion y newidiadau arfaethedig, statws presennol yr amgylchedd dŵr, y rhesymau pam nad yw cyrff dŵr yn cyflawni statws da neu botensial. Yr amcanion corff dŵr arfaethedig a'r rhaglen o fesurau ar gyfer cylch 4.
- Cynllun Rheoli Basn Afon Drafft Afon Dyfrdwy
- Cynllun Rheoli Basn Afon Drafft Gorllewin Cymru
- Crynodeb drafft o Gynllun Rheoli Basn Afon Ardal Basn Afon Hafren. Mae CNC ac Asiantaeth yr Amgylchedd yn gweithio ar y cyd ar draws Ardal Basn Afon Hafren, ac yn cyhoeddi un Cynllun Rheoli Basn Afon cyfun. CNC sy'n gyfrifol am gyflawni'r cynlluniau yng Nghymru ac Asiantaeth yr Amgylchedd yn Lloegr.
- Rhaglen o fesurau. Mae dangosfwrdd Power BI yn rhoi mynediad at fesurau cenedlaethol a lleol i wella a diogelu'r amgylchedd dŵr.
Dangosfwrdd Power BI
- Mae mapiau llawn a'r holl wybodaeth am gyflwr presennol yr amgylchedd dŵr yng Nghymru, rhaglen o fesurau ac amcanion cyrff dŵr ar gael ar Arsylwi Dyfroedd Cymru.
- Mae'r asesiad amgylcheddol strategol (Adroddiadau Amgylcheddol) yn dangos sut rydym wedi ystyried effeithiau posibl gweithredu Cynlluniau Rheoli Basn Afon cylch 4 ar bobl a'r amgylchedd ehangach, e.e. iechyd pobl, treftadaeth ddiwylliannol a'r dirwedd.
- Adroddiad Amgylcheddol Asesiad Amgylcheddol Strategol Cylch 4 Cynllun Rheoli Basn Afon Gorllewin Cymru ac atodiadau (Saesneg yn unig)
- Adroddiad Amgylcheddol Asesiad Amgylcheddol Strategol Cylch 4 Cynllun Rheoli Basn Afon Dyfrdwy ac atodiadau (Saesneg yn unig)
- Cyhoeddir Adroddiad Amgylcheddol Asesiad Amgylcheddol Strategol Cylch 4 Cynllun Rheoli Basn Afon Hafren gan Asiantaeth yr Amgylchedd.
- Yr Asesiadau Rheoliadau Cynefinoedd Drafft, sy'n egluro effeithiau posibl Cynlluniau Rheoli Basn Afon Dyfrdwy a Gorllewin Cymru ar safleoedd Ewropeaidd gwarchodedig a sut y gellid osgoi effeithiau negyddol
- Asesiad Rheoliadau Cynefinoedd Drafft Cylch 4 Cynllun Rheoli Basn Afon Gorllewin Cymru (Saesneg yn unig)
- Asesiad Rheoliadau Cynefinoedd Drafft Cylch 4 Cynllun Rheoli Basn Afon Dyfrdwy (Saesneg yn unig)
- Cyhoeddir Asesiad Rheoliadau Cynefinoedd drafft Cylch 4 Cynllun Rheoli Basn Afon Hafren gan Asiantaeth yr Amgylchedd.
- Asesiad o’r Effaith ar Iechyd yng Nghymru ac atodiadau
- Mae gwybodaeth ategol am y dulliau technegol a ddefnyddiwyd i ddatblygu'r Cynlluniau Rheoli Basn Afon yn ein Hatodiad Technegol (Saesneg yn unig)
- Y gofrestr ardaloedd gwarchodedig gyda gwybodaeth am ardaloedd dŵr yfed gwarchodedig, dyfroedd pysgod cregyn, dyfroedd ymdrochi, safleoedd Ewropeaidd ac ardaloedd sensitif i faetholion.
Fframwaith Polisi'r Dyfodol
Cyhoeddwyd adolygiad y Comisiwn Dŵr Annibynnol (IWC) o'r sector dŵr (Saesneg yn unig) ar 21 Gorffennaf 2025. Argymhellodd ystod eang o newidiadau mewn deddfwriaeth a dull o reoli'r amgylchedd dŵr a rheoleiddio cwmnïau dŵr. Argymhellodd hefyd adolygiad o Reoliadau’r Gyfarwyddeb Fframwaith Dŵr ar gyfer Cymru a Lloegr, y bydd Llywodraeth Cymru yn penderfynu ar hynny ac yn gosod amserlen ar ôl i Fil Dŵr Glân y DU fynd trwy Senedd y DU. Gall hyn gael effaith ar gyflenwi Cynlluniau Rheoli Basn Afon Cylch 4 sy'n ymdrin â’r cyfnod rhwng 2027 a 2033, y bydd yr ymgynghoriad hwn yn eu llywio, fodd bynnag, mae CNC wedi ymrwymo i gynnal safonau yn ystod unrhyw gyfnod pontio.
Mae Cyfoeth Naturiol Cymru yn parhau i weithio gyda Llywodraeth Cymru, yn ogystal â Defra ac Asiantaeth yr Amgylchedd a Natural England ar gyfer cyrff dŵr sy'n croesi i Loegr, er mwyn sicrhau bod Cynlluniau Rheoli Basn Afon yn parhau i amddiffyn a gwella'r amgylchedd dŵr i bobl a natur.