Cynllun Rheoli Basn Afon Dyfrdwy Drafft 2027 i 2033
Simon Kitchen / LIFE Afon Dyfrdwy
Cynllun Rheoli Basn Afon Dyfrdwy drafft
Dyma grynodeb drafft o'r Cynllun Rheoli Basn Afon (“y cynllun”) ar gyfer Ardal Basn Afon Dyfrdwy (“yr ardal basn afon”) ar gyfer 2027 i 2033. Diben y cynllun hwn yw diogelu a gwella'r amgylchedd dŵr er budd ehangach pobl a bywyd gwyllt. Cyhoeddwyd fersiwn gyntaf o Gynllun Rheoli Basn Afon Dyfrdwy yn 2009 ac fe’i diweddarwyd yn 2015 a 2021. Dyma ddrafft o'r cynllun wedi'i ddiweddaru, sy'n destun ymgynghoriad. Cyhoeddir y cynllun wedi'i ddiweddaru terfynol ym mis Rhagfyr 2027.
Mae'r crynodeb hwn o'r cynllun yn cynnwys gwybodaeth am y cynnydd a wnaed a manylion am y newidiadau arfaethedig ers 2021. Mae'n cynnwys crynodeb o statws presennol yr amgylchedd dŵr a'r rhesymau dros beidio â chyflawni materion da a sylweddol yn ymwneud â rheoli dŵr. Crynhoir yr amcanion ar gyfer Cylch 4 ynghyd â chrynodeb o'r mesurau. Darperir dolenni i wybodaeth fanwl drwy gydol y cynllun.
Mae Cyfoeth Naturiol Cymru (CNC) ac Asiantaeth yr Amgylchedd yn gweithio ar y cyd yn Ardal Basn Afon Dyfrdwy. Mae rhai dyfroedd yn yr ardal basn afon yn ffurfio'r ffin rhwng Cymru a Lloegr, neu'n croesi rhwng y ddwy wlad. Mae cydweithio ar y dyfroedd trawsffiniol yn hanfodol i sicrhau bod yr amgylchedd dŵr yn cael ei ddiogelu a'i wella yn yr ardal basn afon. Mae'r cyfrifoldeb am gydlynu’r broses o gynllunio dyfodol dyfroedd yng Nghymru ar ysgwyddau CNC, ac ar ysgwyddau Asiantaeth yr Amgylchedd yn Lloegr.
1. Ardal Basn Afon Dyfrdwy
Mae Ardal Basn Afon Dyfrdwy yn gartref i dros 485,000 o bobl ac yn cwmpasu ardal o 2,251 o gilometrau sgwâr ar draws Gogledd Cymru a Lloegr. Mae'r ardal basn afon yn cynnwys un basn afon, sef afon Dyfrdwy, ei his-afonydd a'i moryd, ac fe'i nodweddir gan dirwedd ffisegol a hydrolegol amrywiol.
Mae'n amrywio o fynyddoedd, ucheldiroedd a llynnoedd Parc Cenedlaethol Eryri, gan gynnwys rhannau o'r Migneint, yr Arenig a'r Berwyn, trwy'r parthau canol a Thirwedd Genedlaethol Bryniau Clwyd a Dyffryn Dyfrdwy i wastadeddau agored, ystumiau a phyllau Swydd Gaer a fflatiau llaid aber afon Dyfrdwy yn y basn isaf, lle ceir amrediad llanw mawr iawn. Mae’r ddaeareg yr un mor amrywiol, gyda'r brif afon yn torri trwy garreg laid Silwraidd, calchfaen Carbonifferaidd, glo a chlai, ac, yn olaf, trwy dywodfeini coch y Permaidd a'r Triasig wrth iddi gyrraedd gwastadeddau Swydd Gaer.
Ffigur 1 Ardal Basn Afon Dyfrdwy
Mae'r dirwedd amrywiol hon yn cynnal amrywiaeth o gynefinoedd a rhywogaethau dyfrol ar ei hyd o'i tharddiad i'r môr, o lyriad-y-dŵr arnofiol, eogiaid, crafanc y dŵr a chasgliadau cysylltiedig, fflatiau llaid a fflatiau tywod rhynglanwol, llyrlys a rhywogaethau morfa heli eraill, a dolydd arfor Iwerydd. Mae eu presenoldeb wedi arwain at ddynodiadau arwyddocaol. Mae afon Dyfrdwy a Llyn Tegid wedi'u dynodi'n Ardal Cadwraeth Arbennig (ACA) ac mae aber afon Dyfrdwy wedi'i dynodi'n ACA, Safle o Ddiddordeb Gwyddonol Arbennig ac Ardal Gwarchodaeth Arbennig. Mae aber afon Dyfrdwy a Llyn Tegid hefyd wedi'u dynodi o dan Gonfensiwn Ramsar. Yn afon Dyfrdwy, ceir rhywogaethau dyfrol prin nas ceir yn unman arall yn y DU ar hyn o bryd hyd y gwyddys, sef pryf y cerrig Isogenus nubecula a'r falwen gludiog yn Llyn Tegid, tra mai dim ond yn nalgylch afon Dyfrdwy yng Nghymru y ceir y gwyniad, sef math o bysgodyn gwyn prin.
Yn aml, mae'r brif afon, neu'r is-afonydd, yn ffurfio'r ffin rhwng Cymru a Lloegr ac mae'r dalgylch yn cwmpasu nifer o ffiniau gweinyddol, gan gynnwys ffiniau pum awdurdod unedol yng Nghymru a thair awdurdod unedol yn Lloegr. Mae dwy gamlas yn mynd trwy'r dalgylch; oherwydd eu rhannau cymharol fyr yn nalgylch afon Dyfrdwy, adroddir amdanynt gan Asiantaeth yr Amgylchedd, gyda Chamlas Undeb Swydd Amwythig yn Ardal Basn Afon Gogledd-orllewin Lloegr a Chamlas Llangollen yn Ardal Basn Afon Hafren.
Caer a Wrecsam yw'r canolfannau trefol mwyaf, tra bod amaethyddiaeth a choedwigaeth yw’r gweithgareddau y defnyddir y tir yn bennaf ar eu cyfer, yn enwedig yn rhan uchaf y basn. Mae canolfannau diwydiannol nodedig yn Ystad Ddiwydiannol Wrecsam ac ar hyd y foryd yng Nglannau Dyfrdwy. Ceir ystod o ddiwydiannau cynhyrchu ynni, gan gynnwys nwy, ynni dŵr a gwynt, ac yn rhanbarth trawsffiniol gogledd-ddwyrain y dalgylch mae gwaith yn mynd rhagddo yn ymwneud â thechnolegau carbon isel. Mae gan y dalgylch etifeddiaeth o gloddio am fetelau a glo.
Mae afonydd, llynnoedd a moryd Ardal Basn Afon Dyfrdwy yn fannau glas sy'n dod yn fwyfwy poblogaidd lle mae pobl yn mwynhau cysylltiad â natur ac yn elwa'n sylweddol ar gyfer llesiant corfforol a meddyliol.
Mae afon Dyfrdwy a'i his-afonydd yn parhau i fod yn boblogaidd ar gyfer pysgota, yn enwedig salmonidau, gan gynnwys canghennau glas, a genweirio môr yn y foryd. Mwynheir ystod eang o chwaraeon dŵr, gan gynnwys hwylio ar lynnoedd fel Llyn Tegid a Llyn Brenig ac yn West Kirby, canŵio a rafftio dŵr gwyn, yn enwedig yn ardaloedd Tryweryn a Llangollen, mordeithiau afonydd a chychod modur i lawr yr afon yng Nghaer ac ar hyd y foryd. Mae nofio yn boblogaidd, gyda dau safle dyfroedd ymdrochi dynodedig, ac mae'n digwydd mewn llu o leoliadau eraill nad ydynt wedi'u dynodi hefyd.
Mae dŵr hefyd yn rhan bwysig o dreftadaeth y dalgylch, sydd â hanes hir o addasiadau ffisegol er mwyn sicrhau symudiad dŵr. Cwblhawyd camlesu aber afon Dyfrdwy yn yr 1700au gyda'r “New Cut” i gynorthwyo mordwyo rhwng Caer a Fflint. Ac yn y bedwaredd ganrif ar bymtheg, adeiladodd Thomas Telford lifddorau wrth allfa Llyn Tegid yn y Bala a dyluniodd Rhaeadr y Bedol i reoleiddio llif y dŵr a darparu dŵr ar gyfer y gamlas yn Ellesmere, yn ogystal â dylunio traphont ddŵr Pontcysyllte, y draphont ddŵr fordwyol dalaf ym Mhrydain. Mae rhai o'r nodweddion dŵr treftadaeth hyn sydd wedi llunio afon Dyfrdwy bellach yn atyniadau poblogaidd i ymwelwyr, gyda Rhaeadr y Bedol, y draphont ddŵr a'r gamlas yn rhan o Safle Treftadaeth y Byd UNESCO.
1.1 Rheolaeth strategol
Mae afon Dyfrdwy o bwys strategol fel ffynhonnell dŵr wyneb y gellir ei yfed i bron i dair miliwn o bobl. O ganlyniad, mae gan y dalgylch drefniadau rheoli amgylcheddol pwrpasol sylweddol, wedi'u hategu gan ddeddfwriaeth a/neu lywodraethiant sefydledig.
Mae Pwyllgor Ymgynghorol Afon Dyfrdwy yn goruchwylio’r gwaith o reoleiddio llifoedd yn afon Dyfrdwy, lle mae gollyngiadau o gronfeydd storio dŵr yn y dalgylch uchaf yn galluogi gweithgarwch tynnu dŵr ar gyfer cyflenwi dŵr yfed, ymateb i lifogydd mewn modd addasedig, pysgodfeydd, gweithgareddau hamdden, a buddion o ran lliniaru llygredd. Mae CNC ac Asiantaeth yr Amgylchedd yn gyfrifol ar y cyd am reoli system rheoleiddio afon Dyfrdwy o dan Ddeddf Awdurdod Afonydd Dyfrdwy a Chlwyd 1973.
Sefydlwyd Pwyllgor Llywio Afon Dyfrdwy ar ôl digwyddiad llygredd ffenol difrifol yn y dalgylch yn 1984. Mae partneriaeth o reoleiddwyr amgylcheddol a phedwar cwmni dŵr yn monitro ansawdd dŵr yn y brif afon a'r prif is-afonydd.
Fel amddiffyniad ychwanegol ar gyfer dŵr yfed, mae dalgylch afon Dyfrdwy i fyny'r afon o gored Caer yn Barth Diogelu Dŵr, a ddynodwyd yn 1999 ac sy'n parhau i fod yr unig un yn y DU. Mae angen cydsyniad lle mae sylweddau penodol yn cael eu defnyddio neu eu storio mewn safleoedd penodol. Mae'n helpu i atal llygredd dŵr sy'n deillio o weithgareddau nad oes modd eu rheoli gan ddefnyddio deddfwriaeth arall.
Mae'r dulliau aml-randdeiliad hyn yn ymestyn i aber afon Dyfrdwy hefyd, er nad at ddibenion ansawdd dŵr. CNC yw'r awdurdod harbwr a goleudy lleol ar gyfer ardal ddiffiniedig o'r foryd, yng Nghymru a Lloegr, a elwir yn Ardal Gadwraeth Afon Dyfrdwy o lawr yr afon o Gored Caer i’r pwynt lle mae’r foryd yn cwrdd â’r môr. Mae Pwyllgor Ymgynghorol Ardal Gadwraeth Afon Dyfrdwy yn ymgynghori ar faterion sy'n ymwneud â chadwraeth a mordwyo yn aber afon Dyfrdwy, fel sy'n ofynnol gan Orchymyn Diwygio Harbwr Ardal Gadwraeth Afon Dyfrdwy (Rhif 2) 2023.
Yn nalgylch afon Dyfrdwy, mae hanes cryf o reoli adnoddau naturiol yn gynaliadwy. Mae gorchymyn rheoleiddio cocos a gyflwynwyd yn 2008 yn sicrhau rheolaeth gynaliadwy, gan gydbwyso bywoliaeth y rheini sy'n gweithio yn y bysgodfa wyllt, cymunedau lleol, a gofynion bwydo'r poblogaethau adar y mae'r foryd hefyd mor bwysig iddynt. Mae'r gorchymyn presennol, a reoleiddir gan CNC, yn dod i ben yn 2028. Mae CNC ac Awdurdod Pysgodfeydd a Chadwraeth Glannau Gogledd-orllewin Lloegr, fel cyd-grantïon gorchymyn newydd, yn gweithio gyda'i gilydd ar hyn o bryd a chyda Defra a Llywodraeth Cymru i ddatblygu gorchymyn newydd.
Mae pysgodfa rhwydi eogiaid a brithyllod môr afon Dyfrdwy wedi cael ei rheoli'n flaenorol gan orchmynion cyfyngu ar rwydi o dan Ddeddf Pysgodfeydd Eogiaid a Dŵr Croyw 1975. Yn 2009, ariannodd buddiannau pysgota afon Dyfrdwy bryniant llawn o'r bysgodfa rhwydi, ac ni ddyroddwyd unrhyw drwyddedau rhwydi o dan y gorchmynion cyfyngu ar rwydi ers 2009. O dan is-ddeddfau newydd yn 2025, caeodd CNC (gan weithio gyda Llywodraeth Cymru, Asiantaeth yr Amgylchedd, Defra a Natural England) y pysgodfeydd rhwydi drafft a thriphlyg yn afon Dyfrdwy.
Mae gweithgarwch monitro “mynegai” o bwys rhyngwladol o nifer yr eogiaid a brithyllod môr a’u cyfansoddiad, sef Rhaglen Asesu Stociau Afon Dyfrdwy, wedi’i gynnal yn afon Dyfrdwy ers dros 25 mlynedd gan CNC a’i ragflaenwyr. Mae magl pysgod cored Caer yn ganolog i'r rhaglen hon.
Gweithio ar y cyd yn Ardal Basn Afon Dyfrdwy
Mae cydweithio er mwyn gwella’r amgylchedd dŵr yn afon Dyfrdwy, a’i wydnwch, yn parhau i esblygu a chryfhau, boed er budd natur, ansawdd dŵr neu lesiant, neu er buddion lluosog. Mae nifer cynyddol o brosiectau, rhaglenni a phartneriaethau rhwng cyrff cyhoeddus, cwmnïau dŵr, cyrff anllywodraethol amgylcheddol, a pherchnogion tir a chymunedau cefnogol, yn aml yn gweithio ar draws ffiniau gweinyddol.
Mae'r dull seiliedig ar ddalgylch, a ddechreuodd yn 2013, yn parhau i weithio ar draws ffiniau i gynnal, gwella ac amddiffyn dalgylch ac aber afon Dyfrdwy trwy bartneriaethau dalgylch canol a llanwol afon Dyfrdwy. Mae gweithgareddau eraill, gan gynnwys LIFE Afon Dyfrdwy a Charu Aber Dyfrdwy.
Gwybodaeth ategol ar gyfer Adran 1.1
- Dolenni i rannau eraill o'r cynllun a gwybodaeth ar gyfer Ardal Basn Afon Gorllewin Cymru ac Ardal Basn Afon Dyfrdwy
- Mae mapiau a gwybodaeth fanylach ynghylch yr ardal basn afon ar gael ar Arsylwi Dyfroedd Cymru
- I gael rhagor o wybodaeth ynghylch pwy sy'n rheoli’r ardal basn afon, a phwy sy'n ymwneud â hi, gweler yr Atodiad Technegol, Adran 3.3 (Saesneg yn unig)
- I ymateb i'n hymgynghoriad, gweler ein tudalen Citizen Space
- Bydd dolenni i Asiantaeth yr Amgylchedd yn cael eu hychwanegu ar ôl iddynt gael eu cyhoeddi
1.2 Asesiadau effaith
Mae CNC wedi cynnal yr Asesiad Amgylcheddol Strategol o raglen o fesurau Cymru (mesurau cenedlaethol a mesurau cyrff dŵr) ar gyfer y rhan o afon Dyfrdwy yng Nghymru ac mae Asiantaeth yr Amgylchedd wedi cynnal yr asesiad o fesurau yn Lloegr ar gyfer y rhan honno o afon Dyfrdwy yn Lloegr. Mae pob sefydliad wedi defnyddio ei fframwaith a'i fethodoleg ei hun ar gyfer Asesiadau Amgylcheddol Strategol. Mae CNC wedi dod ag asesiadau'r ddau sefydliad at ei gilydd mewn un adroddiad amgylcheddol (Saesneg yn unig), gan ystyried effeithiau cronnol ar draws yr ardal basn afon.
Mae'r adroddiad amgylcheddol wedi'i gynnal ar lefel strategol ac fe'i defnyddir i nodi effeithiau arwyddocaol tebygol, boed yn gadarnhaol neu’n negyddol, yn ogystal ag argymhellion ar gyfer lliniaru effeithiau negyddol a chyfleoedd i wella'r cynlluniau trwy broses ailadroddol a rhyngweithiol. Mae'r Cynlluniau Rheoli Basnau Afonydd wedi'u hanelu'n sylfaenol at wella'r amgylchedd dŵr. Rhaid i'r Asesiad Amgylcheddol Strategol sicrhau bod unrhyw effeithiau negyddol yn cael eu hosgoi, eu lleihau neu eu lliniaru a cheisio gwneud y mwyaf o effeithiau cadarnhaol.
Defnyddiwyd dull tebyg i gynhyrchu'r Asesiad Rheoliadau Cynefinoedd drafft ar gyfer ffurf ddrafft Cynllun Rheoli Basn Afon Dyfrdwy (Saesneg yn unig).
Mae CNC hefyd wedi cwblhau Asesiad o'r Effaith ar Iechyd ar gyfer Cymru sy'n cwmpasu rhan y Cynllun Rheoli Basn Afon sydd yng Nghymru yn unol â gofynion Rheoliadau Asesu Effaith ar Iechyd (Cymru) 2025. Defnyddiwyd y canfyddiadau i lywio'r Cynllun Rheoli Basn Afon drafft, yr adroddiad amgylcheddol a'r Asesiad o’r Effaith ar Gydraddoldeb.
Gwybodaeth ategol ar gyfer Adran 1.2
- Mae adolygiad cynnydd y rhaglen o fesurau dros dro ar gael; mae adroddiad cyfatebol Asiantaeth yr Amgylchedd sy'n cwmpasu cyrff dŵr Lloegr ar gael ar wefan Asiantaeth yr Amgylchedd (Saesneg yn unig)
- Adroddiad amgylcheddol (Saesneg yn unig)
- Asesiad Rheoliadau Cynefinoedd drafft ar gyfer ffurf ddrafft Cynllun Rheoli Basn Afon Dyfrdwy (Saesneg yn unig)
- Asesiad o’r Effaith ar Iechyd
- Bydd dolenni i Asiantaeth yr Amgylchedd yn cael eu hychwanegu ar ôl iddynt gael eu cyhoeddi
1.3 Adolygiad o’r cynnydd a wnaed rhwng 2021 a 2025
Cyhoeddwyd Cynlluniau Rheoli Basnau Afonydd 2021–2027: Adolygiad Cynnydd y Rhaglen o Fesurau Dros Dro ym mis Hydref 2025. Bydd adolygiad o'r cynnydd drwy gydol chwe blynedd Cylch 3 yn cael ei gynnwys yn y Cynllun Rheoli Basn Afon terfynol.
Mae hyn yn ymgorffori mesurau cenedlaethol CNC ac Asiantaeth yr Amgylchedd, Dalgylch Cyfle Afon Dyfrdwy, a gwaith y ddwy bartneriaeth drawsffiniol ar gyfer dull seiliedig ar ddalgylch yng nghanol dalgylch afon Dyfrdwy a rhannau llanwol afon Dyfrdwy (Saesneg yn unig). Mae LIFE Afon Dyfrdwy yn brosiect allweddol sy'n cyflawni o fewn yr ardal basn afon hon.
- Sicrhau gwelliannau i ansawdd dŵr ledled y dalgylch, gan gynnwys adolygu trwyddedau dŵr gwastraff i leihau ffosfforws. Astudiaethau dichonoldeb i leihau llwytho metel o fwyngloddiau metel segur yn afon Clywedog.
- Gwaith rheoleiddio a chynghori gyda thirfeddianwyr amaethyddol, ac ymyriadau fferm, er mwyn lleihau mewnbynnau maethynnau a gwarchod pridd.
- Gwelliannau ar gyfer mudo pysgod ar gyfer eogiaid, brithyllod môr, rhywogaethau lampreiod, pennau lletwad a llyswennod yn afon Dyfrdwy a’i his-afonydd trwy gyfuniad o gael gwared ar goredau, rampiau osgoi, llwybrau pysgod a rheolaeth addasol o asedau eraill.
- Adeiladu gwytnwch yn y dyfodol ar gyfer rhywogaethau prin, gan gynnwys misglod perlog a’r pryf y cerrig prin Isogenus nubecula, yn ogystal ag adfer cynefinoedd afonol.
- Cryfhau cydweithrediadau presennol a meithrin rhai newydd. Mae enghreifftiau’n cynnwys ffyrdd newydd o weithio i ddod ynghyd ar draws gogledd-orllewin a gogledd-ddwyrain Cymru, pedwar cwmni dŵr yn cydweithio i gynllunio cyflawni cynlluniau rheoli asedau dŵr yfed, Bwrdd Rheoli Maethynnau Afon Dyfrdwy, dull integredig o reoli perygl llifogydd, cyfleoedd adfer natur gyda phartneriaethau natur lleol ar ddwy ochr y ffin, ysbrydoli a chynnwys cymunedau lleol o amgylch rhywogaethau, cynefinoedd ac ansawdd yr afon hyd at y cynefinoedd arfordirol yn y foryd.
- Drwy gamau gweithredu ar draws 18 mesur yn unol â dull seiliedig ar ddalgylch, mae crynodeb ar gael yn nalgylch canol afon Dyfrdwy a rhannau llanwol afon Dyfrdwy (Saesneg yn unig).
Gwybodaeth ategol ar gyfer Adran 1.3
1.4 Newidiadau ar gyfer Cylch 4
Mae pob cylch o ddiweddaru'r Cynllun Rheoli Basn Afon yn ystyried unrhyw newidiadau. Mae'r rhain wedi'u nodi yn y Cynlluniau Rheoli Basnau Afonydd drafft ac maent yn gysylltiedig yn bennaf ag agweddau technegol ar y cynllun, megis sut mae CNC yn pennu statws dosbarthiad yr ardal basn afon.
Newidiadau arfaethedig i gyrff dŵr
Ar gyfer Cylch 4, bydd rhai cyrff dŵr yn cael eu diwygio. Ceir crynodeb isod:
- Rhannu corff dŵr mawr Afon Dyfrdwy – Cored Caer i Geiriog (GB111067057080) yn ddau gorff dŵr llai. Gellir gweld rhagor o fanylion yn Adran 4.3 o'r Atodiad Technegol (Saesneg yn unig)
- Newidiadau i enwau cyrff dŵr
- Newidiadau i ffiniau cyrff dŵr
- Bydd dynodiadau nifer o gyrff dŵr sydd wedi'u haddasu'n sylweddol yn cael eu diwygio
Ceir manylion llawn yn yr Atodiad Technegol,Atodiad A (Saesneg yn unig).
Newidiadau i ardaloedd gwarchodedig
Ar gyfer Cylch 4, mae rhai o'r ardaloedd gwarchodedig wedi'u diwygio. Ceir crynodeb isod:
- Mae un safle dŵr ymdrochi mewndirol newydd wedi'i ddynodi yn Lloegr ym mis Mai 2026 ar afon Dyfrdwy, Sandy Lane, Caer.
- Rhannu ardal warchodedig dŵr yfed fawr Afon Dyfrdwy – Cored Caer i Geiriog (GB111067057080) yn ddau gorff dŵr llai. Gellir gweld rhagor o fanylion yn Adran 4.3 o'r Atodiad Technegol (Saesneg yn unig).
- Yng Nghymru, mae Llywodraeth Cymru yn adolygu'r dyfroedd pysgod cregyn a ddiogelir. Bydd Llywodraeth Cymru yn ymgynghori ar wahân ar unrhyw newidiadau a byddant yn cael eu cynnwys yn y Cynllun Rheoli Basn Afon terfynol.
- Yn Lloegr, mae Asiantaeth yr Amgylchedd yn ymgynghori ar newidiadau arfaethedig i ffiniau dynodedig ar ran Defra. Mae estyniad (bach) arfaethedig wrth aber Dŵr Pysgod Cregyn a Ddiogelir Afon Dyfrdwy (Dwyrain) y bydd Asiantaeth yr Amgylchedd / Defra yn ymgynghori arno ym mis Ionawr 2027.
Caiff Cofrestr o Ardaloedd Gwarchodedig Cymru ei diweddaru a'i chyhoeddi fel rhan o'r Cynllun Rheoli Basn Afon terfynol, a chaiff y mapiau eu diweddaru ar wefan Arsylwi Dyfroedd Cymru. Mae Asiantaeth yr Amgylchedd yn cyhoeddi gwybodaeth am ardaloedd gwarchodedig, gan gynnwys Parthau Perygl Nitradau a pharthau diogelu (Saesneg yn unig).
Mae newidiadau i dargedau ansawdd dŵr llynnoedd mewn Ardaloedd Cadwraeth Arbennig yng Nghymru wedi'u cynnwys fel rhan o'r ymgynghoriad hwn. I gael rhagor o fanylion, cyfeiriwch at yr Atodiad Technegol, Adran 4.3 (Saesneg yn unig) ac Arsylwi Dyfroedd Cymru.
Newidiadau i'r rhaglen o fesurau
Y newid mwyaf arwyddocaol i'r rhaglen o fesurau yw'r gofyniad i gynnwys mesurau ar raddfa'r corff dŵr fel y'i eglurwyd gan ddyfarniad y Llys Apêl (adolygiad barnwrol Costa Beck). Mae'r dull ar gyfer y gwaith hwn wedi'i nodi ar gyfer Cymru yn yr Atodiad Technegol (Saesneg yn unig) ac mae crynodeb ar gyfer Cymru a Lloegr wedi'i gynnwys yn Adran 3 isod.
Gwybodaeth ategol ar gyfer Adran 1.4
- Newidiadau i gyrff dŵr a dynodi cyrff dŵr artiffisial neu wedi'u haddasu'n helaeth, Atodiad Technegol, Atodiad A (Saesneg yn unig)
- Newidiadau i ardaloedd gwarchodedig, Atodiad Technegol, Adran 4.3 (Saesneg yn unig)
- Y dull a gymerwyd ar gyfer rhaglen o fesurau Cylch 4, Atodiad Technegol, Adran 6 (Saesneg yn unig)
- Cofrestr Ardaloedd Gwarchodedig
1.5 Pam mae'r cynllun hwn yn bwysig a beth fydd ei nod
Mae Cynllun Rheoli Basn Afon Dyfrdwy wedi'i ddiweddaru yn rhoi cyfle i asesu ac adolygu statws yr ardal basn afon ochr yn ochr â nodi'r mesurau y mae eu hangen ar gyfer y chwe blynedd nesaf. Ei nod yw lleihau nifer yr elfennau sy'n methu mewn cyrff dŵr yn raddol a gwella cyflwr cyffredinol cyrff dŵr, trwy fynd i'r afael â'r pwysau lluosog ar draws ein cyrff dŵr sy'n methu.
Mae effeithiau newid hinsawdd ar ein tirwedd a'n morwedd eisoes yn amlwg, gyda stormydd, sychder, tymereddau uwch nag erioed a thanau gwyllt. Gall y rhain wneud pwysau llygredd hanesyddol ac o’n dulliau rheoli tir a’n gweithgareddau bob dydd yn fwy amlwg. Mae bioamrywiaeth dan bwysau: rhagwelir y bydd eogiaid wedi diflannu'n lleol mewn rhai afonydd yng Nghymru erbyn 2030.
Bydd rheoli adnoddau naturiol ar draws tirweddau, mewn ffordd integredig, yn darparu cyfleoedd i gyflawni nifer o fuddion. Ceir llawer o enghreifftiau da o weithio mewn partneriaeth eisoes ac mae angen adeiladu arnynt. Mae angen i CNC sicrhau bod amcanion Cynlluniau Rheoli Basnau Afonydd yn cael eu hymgorffori mewn cynlluniau a pholisïau eraill. Rhaid i hyn gynnwys cynlluniau rheoli perygl llifogydd, cynlluniau busnes cwmnïau dŵr, Cynlluniau Rheoli Traethlin a'r Cynllun Ffermio Cynaliadwy. Mae'r cynllun hwn yn rhan o'r Datganiadau Ardal.
Dros y chwe blynedd nesaf, bydd y cynllun hwn yn gwneud y canlynol:
- Ceisio gweithio ar y cyd ar draws Ardal Basn Afon Dyfrdwy o'r tarddiad i’r foryd i wneud y mwyaf o gyfleoedd a chanlyniadau trwy'r gwaith y mae CNC a phartneriaid yn ei wneud, gan gynnwys opsiwn ar gyfer panel cyswllt afon Dyfrdwy yn y dyfodol neu gyfwerth
- Defnyddio’r gwaith mesurau corff dŵr i fynd i'r afael yn well ag achosion methiannau yn ein dyfroedd
- Cefnogi’r gwaith o gyflawni mesurau drwy ddefnyddio arloesedd ac offer fel Power BI y rhaglen o fesurau a mapiau gwres i’n helpu i flaenoriaethu a gweithredu
- Parhau i ddefnyddio data a thystiolaeth i lywio dealltwriaeth o’r broblem fel y gellir rhoi’r mesurau priodol ar waith, gan wneud y mwyaf o gyfleoedd sy’n codi
- Gweithredu i fynd i'r afael â heriau parhaus o ystod eang o bwysau, gan gynnwys maethynnau gormodol yn nalgylchoedd ACA Afon Dyfrdwy ac ACA Aber Afon Dyfrdwy, gollyngiadau o orlifoedd storm, cemegion, a'r heriau sy'n deillio o newid hinsawdd
- Defnyddio’r Cynllun Rheoli Basn Afon hwn i lywio a dylanwadu ar waith diwygio dŵr yn y dyfodol yn unol â ‘Gweledigaeth newydd ar gyfer dŵr’ yn Lloegr a ‘Llunio Dyfodol Llywodraethiant Dŵr yng Nghymru’, gan sicrhau y gellir dysgu gwersi o’r gwaith a wnaed yn Ardal Basn Afon Dyfrdwy ers y cynllun cyntaf yn 2009 a sicrhau hirhoedledd y dyheadau yn y cynllun hwn
- Canolbwyntio ar y camau gweithredu bob dydd y gall pawb eu cymryd fel bod y cynllun yn cynnwys offer defnyddiol i gefnogi cynnwys y gymuned ehangach
Gwybodaeth ategol ar gyfer Adran 1.5
- Y dull a gymerwyd ar gyfer y rhaglen o fesurau, Atodiad Technegol, Adran 6 (Saesneg yn unig)
- Y rhaglen o fesurau ac ardaloedd gwarchodedig – Arsylwi Dyfroedd Cymru
- Power BI y rhaglen o fesurau
- Bydd dolenni i Asiantaeth yr Amgylchedd yn cael eu hychwanegu ar ôl iddynt gael eu cyhoeddi
2. Cyflwr yr amgylchedd dŵr
Mae'r adran hon yn edrych ar gyflwr presennol yr amgylchedd dŵr ac yn rhoi crynodeb o statws y dyfroedd yn Ardal Basn Afon Dyfrdwy yn seiliedig ar y dosbarthiadau cyfredol. Fel Cynllun Rheoli Basn Afon trawsffiniol, mae'r ardal basn afon yn cynnwys 83 o gyrff dŵr yng Nghymru ac 11 o gyrff dŵr yn Lloegr. Oni nodir yn wahanol yn yr adran hon, mae'r holl ffigurau ar gyfer yr ardal basn afon gyfan. Crynhoir y rhesymau dros beidio â chyflawni statws neu botensial da (yr amcan gofynnol ar gyfer cyrff dŵr) hefyd, ac mae'r rhain yn helpu i lywio mesurau y mae eu hangen yn ystod amserlen y cynllun hwn i gyflawni'r amcanion.
2.1 Statws cyrff dŵr
Pennir statws cyrff dŵr drwy ddosbarthiad, Yn y Cynllun Rheoli Basn Afon drafft hwn, defnyddir gwahanol ddosbarthiadau:
- Dosbarthiad dros dro Cylch 3 (2024) ar gyfer dyfroedd wyneb yng Nghymru
- Dosbarthiad Cylch 3 (2021) ar gyfer dyfroedd daear yng Nghymru
- Dosbarthiad Cylch 4 (2025) ar gyfer pob corff dŵr yn Lloegr
Bydd y dosbarthiad yn cael ei ddiweddaru ar gyfer cyrff dŵr Cymru yn y Cynlluniau Rheoli Basnau Afonydd terfynol, a fydd yn cael eu cyhoeddi ym mis Rhagfyr 2027.
Statws cyffredinol
Yn Ardal Basn Afon Dyfrdwy, mae 39% o gyrff dŵr yn cyflawni statws cyffredinol da neu well.
Tabl 1 Statws cyffredinol ar gyfer cyrff dŵr
|
Math o gorff dŵr |
Nifer y cyrff dŵr |
Uchel |
Da |
Cymedrol |
Gwael |
Drwg |
|---|---|---|---|---|---|---|
|
Afon |
71 |
0 |
28 |
33 |
7 |
3 |
|
Llyn |
17 |
0 |
7 |
8 |
1 |
1 |
|
Dŵr daear |
5 |
0 |
2 |
0 |
3 |
0 |
|
Moryd |
1 |
0 |
0 |
1 |
0 |
0 |
|
Cyfanswm |
94 |
0 |
37 |
42 |
11 |
4 |
Ffigur 2 Statws cyffredinol cyrff dŵr yn Ardal Basn Afon Dyfrdwy
Statws lefel elfennau
Ar gyfer pob corff dŵr, mae'r dosbarthiad corff dŵr cyffredinol wedi'i wneud o elfennau cemegol, biolegol a ffisegol unigol. Defnyddir y dull un yn methu, pob un yn methu i ddosbarthu cyrff dŵr, felly mae'r dosbarthiad elfen isaf yn llywio'r dosbarthiad cyffredinol. Mae hyn yn sicrhau mai’r statws ecolegol cyffredinol yw'r sbardun ar gyfer gwelliant yn hytrach na blaenoriaethu elfennau unigol. Mae morffoleg a chyfundrefn hydrolegol yn elfennau ategol. Cânt eu dosbarthu naill ai fel "uchel" neu "ddim yn uchel".
Mae data 2024 ar gyfer pob math o gorff dŵr yn Ardal Basn Afon Dyfrdwy yn dangos bod gan 84% o'r elfennau statws da neu well. Gellir rhannu hyn yn ôl y gwahanol fathau o gyrff dŵr: 85% ar gyfer afonydd, 70% ar gyfer llynnoedd, 87% ar gyfer morydau a 92% ar gyfer cyrff dŵr daear.
Ffigur 3 Statws lefel elfennau Ardal Basn Afon Dyfrdwy
Statws ecolegol
Mae 89 o gyrff dŵr wyneb yn Ardal Basn Afon Dyfrdwy. Mae Tabl 2 a Thabl 3 isod yn dangos nifer y cyrff dŵr ym mhob dosbarth statws.
Tabl 2 Statws ecolegol ar gyfer dyfroedd wyneb (cyrff dŵr a aseswyd)
|
Math o gorff dŵr |
Nifer y cyrff dŵr |
Uchel |
Da |
Cyfanswm |
Gwael |
Drwg |
|---|---|---|---|---|---|---|
|
Afon |
71 |
0 |
30 |
31 |
7 |
3 |
|
Llyn |
17 |
0 |
7 |
8 |
1 |
1 |
|
Moryd |
1 |
0 |
0 |
1 |
0 |
0 |
|
Cyfanswm |
89 |
0 |
37 |
40 |
8 |
4 |
Tabl 3 Statws cemegol ar gyfer dyfroedd wyneb
|
Math o gorff dŵr |
Nifer y cyrff dŵr a aseswyd |
Pasio |
Methu |
|---|---|---|---|
|
Afon |
61 |
54 |
17 |
|
Llyn |
17 |
17 |
0 |
|
Morydol |
1 |
0 |
1 |
|
Cyfanswm |
79 |
71 |
18 |
Dyfroedd daear – statws
O'r pum corff dŵr daear yn Ardal Basn Afon Dyfrdwy, mae pob un yn cyflawni statws meintiol da ac mae dau yn cyflawni statws cemegol da.
Gwybodaeth ategol ar gyfer Adran 2.1
- Asesiad o statws cyrff dŵr, Atodiad Technegol, Adran 4.2.3 (Saesneg yn unig)
- Mapiau ar ddata statws a dosbarthiad, Arsylwi Dyfroedd Cymru
- Bydd dolenni i Asiantaeth yr Amgylchedd yn cael eu hychwanegu ar ôl iddynt gael eu cyhoeddi
2.2 Materion sylweddol o ran rheoli dŵr yn Ardal Basn Afon Dyfrdwy
Rhesymau dros beidio â chyflawni statws da a rhesymau dros ddirywiad
Pan fo elfen wedi'i dosbarthu fel un sydd o statws neu botensial is na da, neu pan fo wedi dirywio, cynhelir ymchwiliad i nodi achos y methiant neu'r dirywiad. Caiff y rhain eu cofnodi gan ddefnyddio set ddiffiniedig o resymau a ddefnyddir i nodi mesurau priodol. Mae CNC yn ymgymryd â’r broses hon yng Nghymru, Asiantaeth yr Amgylchedd sy'n ymgymryd â’r broses yn Lloegr.
Materion sylweddol o ran rheoli dŵr
Mae CNC wedi defnyddio'r rhesymau dros beidio â chyflawni data da i nodi'r materion pwysicaf sy'n bygwth y defnydd presennol a'r defnydd posibl yn y dyfodol o'r amgylchedd dŵr. Gelwir y rhain yn faterion rheoli dŵr sylweddol, ac ymgynghorwyd arnynt yn ymgynghoriad Heriau a Dewisiadau 2026 CNC ac ymgynghoriad cyfatebol Asiantaeth yr Amgylchedd ar faterion rheoli dŵr sylweddol (Saesneg yn unig). Mae'r dadansoddiad yn afon Dyfrdwy fel a ganlyn:
- Addasiadau ffisegol (21 o gyrff dŵr)
- Llygredd o ardaloedd gwledig (29 o gyrff dŵr)
- Llygredd o ddŵr gwastraff (19 o gyrff dŵr)
- Llygredd o drefi, dinasoedd a thrafnidiaeth (11 o gyrff dŵr)
- Llygredd o fwyngloddiau segur (chwe chorff dŵr)
- Newidiadau i lif naturiol a lefel dŵr (pum corff dŵr)
- Naturiol (pum corff dŵr)
Mae'r ffigurau hyn yn cynrychioli ciplun mewn amser (Cymru – Ebrill 2026, Lloegr – Mawrth 2026). Wrth i ymchwiliadau pellach gael eu cynnal a mesurau gael eu cwblhau ar lawr gwlad, caiff y set ddata ei diweddaru. Mae methiannau oherwydd data amheus yn cael eu hymchwilio iddynt ar hyn o bryd. Gall methiannau eraill gynnwys yr amser y mae ei angen i'r ecoleg wella ar ôl ymyrraeth a lle mae rhwystrau naturiol fel rhaeadrau'n cyfyngu ar symudiad pysgod.
Gwybodaeth ategol ar gyfer Adran 2.2
- Rhesymau dros beidio â chyflawni da, Atodiad Technegol, Adran 4.4.1 (Saesneg yn unig), set ddata Arsylwi Dyfroedd Cymru
- Rhagor o fanylion am faterion rheoli dŵr sylweddol, Atodiad Technegol, Adran 4.4.2 (Saesneg yn unig)
- Rhagor o fanylion ar bwysau, Atodiad Technegol, Adran 4.4.3 (Saesneg yn unig)
- Rhagor o fanylion am ein proses ymgynghori, Atodiad Technegol, Adran 7 (Saesneg yn unig)
- Arsylwi Dyfroedd Cymru
- Bydd dolenni i Asiantaeth yr Amgylchedd yn cael eu hychwanegu ar ôl iddynt gael eu cyhoeddi
3. Amcanion a mesurau
Mae'r adran hon yn crynhoi'r amcanion a'r rhaglen o fesurau ac yn nodi sut y gellid gweithredu'r rhain, ochr yn ochr â'n dealltwriaeth o'r heriau a'r gost, yn ystod 2027 i 2033. Bydd y rhain yn cael eu diweddaru ar gyfer y Cynlluniau Rheoli Basnau Afonydd terfynol.
3.1 Gosod amcanion
Mae’r cynllun hwn yn nodi’r hyn y mae CNC ac Asiantaeth yr Amgylchedd yn bwriadu ei gyflawni erbyn 2033. Yn Lloegr mae hyn yng Nghynllun Rheoli Basn Afon Dyfrdwy: Yr Amcanion Amgylcheddol yn Lloegr, sef dogfen a fydd ar gael ym mis Rhagfyr 2026. Yng Nghymru, mae’r cynllun hwn yn nodi’r hyn y mae CNC yn bwriadu ei gyflawni i fodloni’r amcanion statudol:
Atal dirywiad mewn statws – Ni fydd statws y corff dŵr yn cael dirywio
Cyflawni’r amcanion ar gyfer ardaloedd gwarchodedig – Cyflawni’r safonau a bennir gan y ddeddfwriaeth berthnasol y cawsant eu dynodi oddi tani. Ar gyfer safleoedd Ewropeaidd sy’n ddibynnol ar ddŵr, bydd gwaith yn parhau tuag at gyflawni amcanion cadwraeth.
Anelu at gyflawni statws / potensial da cyffredinol ar gyfer dyfroedd wyneb a dyfroedd daear – Gweithredu mesurau i gyflawni statws cyffredinol da, lle mae hyn yn ddichonadwy bosibl ac nid yn anghymesur o gostus.
Nodir hyn drwy osod amcan ar gyfer pob corff dŵr ac elfen ansawdd. Yng Nghymru, gellir gweld canlyniadau manwl yr wybodaeth hon yn Arsylwi Dyfroedd Cymru a rhoddir disgrifiad mwy manwl o ddull CNC yn yr Atodiad Technegol (Saesneg yn unig).
Fel sy’n ofynnol o dan Reoliadau’r Gyfarwyddeb Fframwaith Dŵr 2017, mae CNC yn anelu at weithredu mesurau i gyflawni statws / potensial cyffredinol da ar gyfer dŵr wyneb a dŵr daear erbyn 2027. Caniateir amcanion amgen i’r un hwnnw, a allai arwain at ddau opsiwn ychwanegol fel a ganlyn:
- amcan o gyflawni statws is na da erbyn 2033 (amcan llai llym) yn sgil annichonoldeb technegol (nid oes datrysiad technegol hysbys ar gael) neu gost anghymesur (cydbwysedd costau a buddion anffafriol)
- neu derfyn amser estynedig ar gyfer statws / potensial da hyd at, neu y tu hwnt i 2033 am resymau amodau naturiol (adferiad ecolegol) neu annichonoldeb technegol ar gyfer nifer fach o gemegau
Ar gyfer pob ardal warchodedig, ac eithrio ardaloedd o ddŵr gwarchodedig ar gyfer pysgod cregyn, y nod yw sicrhau cydymffurfedd ag unrhyw safonau / targedau ac amcanion sy’n ofynnol gan y rheoliadau perthnasol y mae’r ardal neu’r corff dŵr wedi ei ddynodi ar eu cyfer. Ar gyfer safleoedd Ewropeaidd, y nod yw cyflawni amodau ffafriol. Pan fo dau amcan neu ragor yn berthnasol i’r un corff dŵr, neu’r un rhan o gorff dŵr, yr amcan mwyaf llym sy’n berthnasol. Wrth bennu amcan o dan Reoliadau’r Gyfarwyddeb Fframwaith Dŵr ar gyfer corff dŵr sydd ar statws is na statws da, nid yw’n dderbyniol i’r amcan danseilio amcanion ardaloedd gwarchodedig eraill fel safleoedd Ewropeaidd.
Mae’n rhaid adolygu pob amcan ar gyfer pob cylch cynllunio wrth i dystiolaeth newydd, a mesurau i ddatrys pwysau amgylcheddol, ddod ar gael. Mae gan nifer fach o gyrff dŵr amcan o statws neu botensial is na da ar y sail eu bod yn anghymesur o gostus, neu eu bod yn dechnegol annichonadwy i’w gwella i statws da dros Gylch 4. Yn y cyrff dŵr hyn, bydd rhai mesurau cenedlaethol a chyrff dŵr yn cael eu cymryd i wella ansawdd y dŵr a chyfrannu at werthoedd rheoli adnoddau naturiol yn gynaliadwy yng Nghymru. Yng Nghymru, os byddai gwerthoedd sylweddol o ran rheoli adnoddau naturiol yn gynaliadwy yn cael eu cronni, neu os byddai buddion i’r dalgylch i lawr yr afon yn cael eu hennill o ganlyniad i ymyriad pellach, byddant yn cael eu hannog. Fodd bynnag, mae’n annhebygol y bydd mesurau dros un cylch yn ddigonol i arwain at newid statws y dosbarthiad. Mae dim dirywiad yn parhau i fod yn amcan ar gyfer y cyrff dŵr hyn.
Mae’r asesiad o gost anghymesur wedi ei wneud ar 225 o gyrff dŵr ledled Cymru, gan gynnwys 19 ar gyfer Ardal Basn Afon Dyfrdwy y bu’n bosibl casglu costau ar eu cyfer. Ers cyhoeddi’r ail Gynllun Rheoli Basn Afon, yng Nghymru mae Deddf yr Amgylchedd (Cymru) 2016 a Deddf Llesiant Cenedlaethau’r Dyfodol (Cymru) 2015 yn ein galluogi i ystyried buddion a geir o wella ansawdd dŵr nad ydynt efallai wedi’u cynnwys yng ngwerthusiad y buddion o dan Reoliadau’r Gyfarwyddeb Fframwaith Dŵr, fel defnyddio’r dŵr a adferir o fwyngloddiau i wresogi tai lleol. Am y rheswm hwn, efallai y caiff mesurau mewn cyrff dŵr eu datblygu o hyd yng Nghymru, hyd yn oed os cyfrifir eu bod yn anghymesur o gostus o ran gofynion Rheoliadau’r Gyfarwyddeb Fframwaith Dŵr, os gellir dangos y byddai gwerthoedd ehangach a mwy sylweddol, o safbwynt rheoli adnoddau naturiol yn gynaliadwy, yn cael eu gwireddu.
Mae Ffigur 4 yn dangos y 19 corff dŵr yng Nghymru a ystyriwyd ar gyfer asesiad economaidd ar gyfer Ardal Basn Afon Dyfrdwy, wedi eu rhestru ar yr echelin X o’r un mwyaf buddiol o ran cost i’w wella i’r un lleiaf buddiol o ran cost. Mae’r bariau glas yn cynrychioli’r gymhareb cost a budd ar gyfer pob corff dŵr, tra bod y llinell oren yn dangos y gost gronnus o gyflawni statws da neu botensial ecolegol da. Mae’r gost gronnus yn codi’n raddol ar gyfer y cyrff dŵr mwyaf buddiol o ran cost cyn cynyddu’n fwy sydyn ar gyfer nifer gymharol fach o ymyriadau cost uwch, gan ddangos dylanwad nifer gyfyngedig o gynlluniau gwella drud ar gostau cyffredinol y rhaglen.
Amcangyfrifir bod cyfanswm y gost o wella’r 225 o gyrff dŵr a aseswyd ledled Cymru tua £590 miliwn. O hyn, mae Ardal Basn Afon Dyfrdwy yn cynrychioli 19 o gyrff dŵr wedi eu costio yng Nghymru gyda chost amcangyfrifedig o £85 miliwn. Fel gydag asesiadau blaenorol, dim ond y cyrff dŵr hynny y mae costau wedi eu mesur ar eu cyfer y mae’r ffigurau hyn yn eu cynrychioli, ac mae’n debygol y bydd y gost gyffredinol o gyflawni amcanion ar draws pob corff dŵr yn uwch. Bydd cyflawni gwelliannau hefyd yn dibynnu ar argaeledd mecanweithiau rheoleiddio priodol, mynediad at dir, cyfleoedd partneriaeth, a dichonoldeb technegol mynd i’r afael â’r pwysau a nodwyd.
Mae Ffigur 4 yn dangos y 19 corff dŵr yng Nghymru a ystyriwyd ar gyfer asesiad economaidd yn Ardal Basn Afon Dyfrdwy, wedi eu rhestru o’r un mwyaf buddiol o ran cost i’w wella i’r un lleiaf buddiol o ran cost. Mae’r bariau glas yn dangos y gymhareb cost a budd, ac mae’r llinell oren yn dangos costau gwella cronnus.
Gwybodaeth ategol ar gyfer adran 3.1
- Yng Nghymru, manylion ychwanegol ar amcanion, Atodiad Technegol, adran 5 (Saesneg yn unig)
- Yng Nghymru, data ychwanegol ar amcanion a chost ar Arsylwi Dyfroedd Cymru
- Yn Lloegr, manylion ychwanegol ar amcanion Asiantaeth yr Amgylchedd (Saesneg yn unig)
3.2 Crynodeb o'r rhaglen ddrafft o fesurau
Mae'r adran hon yn nodi crynodeb o’r raglen ddrafft o fesurau ar gyfer Cylch 4. Mae'r rhain yn cael eu llywio gan dystiolaeth a gwybodaeth newydd o gylchoedd cyfredol a blaenorol. Bydd y rhain yn cael eu diweddaru, yn ôl y gofyn, yn dilyn canlyniad yr ymgynghoriad hwn ac yng Nghymru byddant hefyd yn cael eu diweddaru yn dilyn cyhoeddi'r dosbarthiad terfynol yn 2027. Ar gyfer Cylch 4, yng Nghymru a Lloegr, mae Cynllun Rheoli Basn Afon Dyfrdwy yn cynnwys mesurau cyrff dŵr ar gyfer cyrff dŵr unigol, sy'n ofyniad a eglurwyd gan ddyfarniad y Llys Apêl (adolygiad barnwrol Costa Beck). Mae'r dull ar gyfer y rhaglen o fesurau wedi'i nodi yn yr Atodiad Technegol (Saesneg yn unig) yng Nghymru a darperir crynodeb o'r dull yn Lloegr isod.
Ar draws yr ardal basn afon, dylid mabwysiadu dull o'r tarddiad i'r môr er mwyn anelu at integreiddio'r rhaglenni hyn i wneud y mwyaf o'r cyfleoedd a'r buddion. Mae gan lawer o'r mesurau fuddion lluosog. Er enghraifft, gall systemau draenio cynaliadwy helpu i leihau llygredd gwasgaredig, lleihau dŵr ffo wyneb a’r perygl o lifogydd, a darparu bioamrywiaeth drwy seilwaith gwyrdd yn hytrach na pheirianneg galed.
Yng Nghymru, mae'r rhaglen ddrafft o fesurau yn cynnwys y canlynol:
Mesurau cenedlaethol – Mae’r rhain fel arfer yn berthnasol i Gymru gyfan, Cymru a Lloegr, neu’r Deyrnas Unedig. Yn gyffredinol, mae’r rhain yn pennu’r dull o weithredu o safbwynt deddfwriaeth, polisi neu strategaeth, a’r cymorth cysylltiedig, neu maent yn hanfodol bwysig i waith cyflenwi lleol a chanlyniadau amgylcheddol. Maent hefyd yn cynnwys rhai o’r prif raglenni cyflenwi. Er enghraifft, gwaharddiad cenedlaethol ar ddefnyddio cemegyn penodol, neu strategaeth genedlaethol ar gyfer blaenoriaethu ac ariannu gwaith adfer mwyngloddiau segur. Mae 54 o fesurau cenedlaethol yng Nghymru ac mae hyn yn cynnwys chwe mesur newydd ar gyfer Cylch 4. Maent ar Power BI y rhaglen o fesurau.
Mesurau cyrff dŵr – Mae'r mesurau hyn yn berthnasol i gorff dŵr penodol ac yn mynd i'r afael yn uniongyrchol â rheswm dros beidio â chyflawni statws/potensial da neu reswm dros ddirywiad. Mae mesurau cyrff dŵr hefyd yn cynnwys ymchwiliadau lle nad yw methiant a rheswm dros beidio â chyflawni statws/potensial da neu reswm dros ddirywiad wedi'u cadarnhau eto. Yng Nghymru, mae'r rhain ar Power BI y rhaglen o fesurau.
Ar gyfer Cylch 4, mae'r rhaglen o fesurau wedi'i grwpio o dan fecanweithiau cyflawni:
- Rheoleiddio (mecanweithiau deddfwriaethol)
- Cynlluniau strategol
- Cymhellion ariannol
- Partneriaethau
- Ymchwiliadau
- Buddsoddi mewn cwmnïau dŵr (Rhaglen Amgylchedd Genedlaethol – NEP)
- Ymchwil, prosiectau arddangos neu brosiectau peilot
- Addysg gyffredinol, ymgyrch gyngor neu gynllun
Ceir rhagor o wybodaeth am y dulliau deddfwriaethol o weithredu mesurau.
Gellir cyflawni'r rhaglen o fesurau drwy sawl rhaglen waith genedlaethol allweddol:
- Rhaglenni CNC sy'n cael eu hysgogi gan Reoliadau’r Gyfarwyddeb Fframwaith Dŵr
- Dulliau graddfa dalgylch o'r tarddiad i’r môr, gan gynnwys gwaith trwy adfer afonydd, cyfleoedd pysgodfeydd cynaliadwy a phrosiect LIFE Afon Dyfrdwy
- Bwrdd Rheoli Maethynnau Afon Dyfrdwy
- Rheoli perygl llifogydd a risgiau arfordirol
- Y Rhaglen Amgylchedd Genedlaethol, sy'n cynnwys cyflawni'r gorlifoedd storm a'r rhaglen tynnu dŵr yn gynaliadwy i adfer adnoddau dŵr
- Y Cynllun Ffermio Cynaliadwy a Choedwig Genedlaethol Cymru
- Cronfa Gyfalaf Argyfwng Natur a Hinsawdd Llywodraeth Cymru a'r Rhaglen Weithredu Genedlaethol ar Fawndiroedd yng Nghymru
O fewn y Cynllun Rheoli Basn Afon, mae'r rhain wedi'u trefnu o dan y materion rheoli dŵr sylweddol ac mae crynodeb wedi'i gynnwys isod.
Mae cyflawni amcanion Rheoliadau’r Gyfarwyddeb Fframwaith Dŵr yn gofyn am gyflwyno cyfuniadau o fesurau ar draws llawer o sectorau a sefydliadau, fel prosiectau partneriaeth yn ogystal â chan y cyhoedd – mae gan bawb ran i'w chwarae.
Yn Lloegr, datblygodd Asiantaeth yr Amgylchedd y rhaglen o fesurau drwy broses gam wrth gam. Adolygodd timau ardal y rhesymau pam nad yw cyrff dŵr unigol yn cyflawni statws neu botensial da a nodwyd mesurau i fynd i'r afael â nhw. Cofnodwyd y mesurau hyn ar lefel corff dŵr a'u cysylltu â'r pwysau, y sector a'r mecanwaith cyflawni perthnasol, gan ddarparu llinell welediad gliriach rhwng y dystiolaeth, y camau gweithredu y mae eu hangen, a sut y gellid eu cyflawni. Mae mesurau cenedlaethol a strategol yn parhau i ddarparu'r fframwaith polisi, rheoleiddio a buddsoddi y mae gweithredu lleol yn digwydd ynddo.
Yna cafodd y mesurau yn Lloegr eu mireinio gyda thimau cyflawni, partneriaid a rhanddeiliaid fel eu bod yn ddigon penodol i ddangos pa gamau gweithredu y mae eu hangen heb awgrymu bod pob mesur eisoes wedi'i ariannu neu wedi ymrwymo iddo. Rhestrir ymchwiliadau fel mesurau lle nad yw'r achos, y raddfa na'r ateb mwyaf effeithiol yn ddigon sicr eto. Ymgynghorir ar y mesurau drafft a chânt eu diweddaru ar gyfer Cynlluniau Rheoli Basnau Afonydd 2027, gyda'r gweithrediad yn ystyried rheoliadau, rhaglenni Asiantaeth yr Amgylchedd a rhaglenni partner, buddsoddiad cwmnïau dŵr, cymhellion rheoli tir a phartneriaethau dalgylch.
Mae Asiantaeth yr Amgylchedd yn cynnal ymgynghoriad ar raglenni o fesurau ar gyfer cyrff dŵr o 21 Rhagfyr 2026 i 21 Mawrth 2027. Mae'r ymgynghoriad hwn yn cynnwys mesurau ar gyfer yr 11 o gyrff dŵr yn Ardal Basn Afon Dyfrdwy yn Lloegr, ac mae'n rhedeg ochr yn ochr â'r ymgynghoriad ar y diweddariadau drafft i’r Cynlluniau Rheoli Basnau Afonydd.
Crynodeb o’r rhaglen o fesurau yn ôl mater rheoli dŵr sylweddol ar gyfer Ardal Basn Afon Dyfrdwy
Addasiadau ffisegol
Crynodeb o'r mesurau cenedlaethol:
- Gweithgareddau rheoli perygl llifogydd
- Polisi Cynlluniau Rheoli Traethlin ar gyfer rheoli amddiffynfeydd arfordirol
- Rhaglen Pysgodfeydd Cynaliadwy
- Y Strategaeth Gallu Pysgodfeydd i Wrthsefyll y Newid yn yr Hinsawdd
- Cynlluniau rheoli asedau cwmnïau dŵr, gan gynnwys ymrwymiadau’r Rhaglen Amgylchedd Genedlaethol
- Rhaglen Adfer Afonydd
Crynodeb o fesurau cyrff dŵr:
- Datrys effeithiau a achosir gan rwystrau i bysgod sy’n mudo a pharhad naturiol mewn afonydd a sianeli llanw (e.e. argaeau, coredau, cwlfertau, llifddorau, gatiau llanw)
- Gwella cyfundrefn llif annigonol (cyfaint sylfaenol y llif neu amrywioldeb y llif) i lawr yr afon o gronfeydd storio dŵr
- Datrys effeithiau a achosir gan reoli lefel dŵr yn weithredol ar gyfer draenio tir neu amddiffyn rhag llifogydd
Beth fydd y mesurau hyn yn anelu at ei gyflawni:
- Pan fo addasiadau ffisegol yn hanfodol i ddarparu defnyddiau dynol pwysig, fel cyflenwad dŵr yfed neu amddiffyn rhag llifogydd, rhaid lliniaru effeithiau ecolegol a achosir gan yr addasiadau heb achosi effaith andwyol sylweddol ar y defnyddiau hyn
- Prosiect LIFE Afon Dyfrdwy wedi'i gyflawni ac, ar ôl hynny, Cynllun LIFE ar waith
- Cyflawni rhaglen adfer afonydd CNC
- Parhau i fynd i'r afael â rhwystrau i bysgod sy’n mudo yn y dalgylch
- Yn Lloegr, bydd Asiantaeth yr Amgylchedd wedi cwblhau ymchwiliadau ac wedi datblygu cyfres o brosiectau adfer a lliniaru sy'n gweithio gyda phrosesau naturiol o'r tarddiad i’r môr, gan flaenoriaethu atebion ar sail natur i adfer swyddogaeth afonydd ac arfordiroedd, ailgysylltu cynefinoedd, cael gwared ar rwystrau lle bo'n briodol, a gwella gwydnwch i’r newid yn yr hinsawdd, gyda chymorth y mecanweithiau cyflawni, y partneriaethau a'r buddsoddiad y mae eu hangen ar gyfer gweithredu
- Cynyddu gwydnwch y dalgylch i wneud poblogaethau pysgod yn fwy gwydn i bwysau, gan gynnwys newid hinsawdd
- Targedu atebion ar sail natur ar gyfer addasiadau ffisegol ar yr arfordir
- Cyflawni ymrwymiadau Rhaglen Amgylchedd Genedlaethol / cynlluniau rheoli asedau’r cwmnïau dŵr (Cynllun Rheoli Asedau 8 a Chynllun Rheoli Asedau 9)
Rheoli llygredd o ddŵr gwastraff
Crynodeb o'r mesurau cenedlaethol:
- Cynlluniau rheoli asedau cwmnïau dŵr, gan gynnwys ymrwymiadau’r Rhaglen Amgylchedd Genedlaethol
- Cynlluniau rheoli draenio a dŵr gwastraff
- Cynllun Rheoli Maethynnau ar gyfer dalgylch ACA Afon Dyfrdwy
- Systemau Draenio Cynaliadwy
Crynodeb o fesurau cyrff dŵr:
- Cyflawni'r camau gweithredu a nodwyd yn y Rhaglen Amgylchedd Genedlaethol / cynlluniau rheoli asedau i adfer yr Ardal Cadwraeth Arbennig i gyflwr ffafriol
- Sicrhau bod tanciau septig yn cydymffurfio â gofynion rheoleiddio, gan ddilyn cyngor a chanllawiau ar gynnal a chadw
- Sicrhau bod gollyngiadau o well ansawdd / lleihau gollyngiadau o bob gollyngiad tarddle penodol ysbeidiol, e.e. gorlifoedd storm
- Pan fo angen, adolygu/diwygio trwyddedau i leihau effaith gollyngiadau
Beth fydd y mesurau hyn yn anelu at ei gyflawni:
- Cyflawni ymrwymiadau’r cwmnïau dŵr o dan y Rhaglen Amgylchedd Genedlaethol a’u cynlluniau rheoli asedau (Cynllun Rheoli Asedau 8 a Chynllun Rheoli Asedau 9)
- Lleihau risgiau llygredd ac effaith negyddol llygredd o garthion a dŵr gwastraff ar fioamrywiaeth erbyn 2030 (Deddf yr Amgylchedd (Egwyddorion, Llywodraethiant a Thargedau Bioamrywiaeth) (Cymru) 2026)
- Mae systemau carthffosiaeth, gan gynnwys gorlifoedd storm, yn cael eu cynnal a'u cadw neu eu gwella fel eu bod yn gweithredu'n effeithiol a bod eu heffaith ar yr amgylchedd dŵr, o'r tarddiad i'r môr, yn cael ei lleihau i'r lefel leiaf posibl
- Mae gollyngiadau carthion cwmnïau dŵr i ddalgylch ACA Afon Dyfrdwy ac Aber Afon Dyfrdwy yn bodloni eu safonau maethynnau
- Cyflwyno dull integredig o ymdrin â maethynnau gormodol o fewn dalgylch ACA Afon Dyfrdwy
- Mae atebion i broblemau gorlifoedd storm sy'n darparu buddion lluosog wedi'u hymgorffori yn y broses o gynllunio a datblygu ar draws yr ardal basn afon (e.e. dylunio trefol sy'n ystyriol o ddŵr, cynlluniau draenio cynaliadwy) ac yn ganolog i'r cynllun rheoli systemau draenio a dŵr gwastraff
- Codi ymwybyddiaeth y cyhoedd o effeithiau camgysylltiadau a gwaredu sylweddau niweidiol i systemau carthffosiaeth (e.e. paent, olew, brasterau a chemegau’r ardd)
- Cynnal a gwella dyfroedd ymdrochi a physgod cregyn er mwyn hybu diwydiannau twristiaeth a dyframaethu pysgod cregyn sy’n ffynnu
Rheoli llygredd o ardaloedd gwledig
Crynodeb o'r mesurau cenedlaethol:
- Cynllun Ffermio Cynaliadwy sy'n cyflwyno rhaglen o gymhellion, cyngor a chyfarwyddyd, arloesedd, a gwelliannau i lygredd gwasgaredig gwledig
- Rhaglen Arolygiadau Rheoleiddio Amaethyddol (Asiantaeth yr Amgylchedd, dechreuwyd yn 2021 ac yn mynd rhagddi)
- Sicrhau cydymffurfedd â Rheoliadau Adnoddau Dŵr (Rheoli Llygredd Amaethyddol) (Cymru) 2021 yng Nghymru
- Cynllun Rheoli Maethynnau ar gyfer dalgylch ACA Afon Dyfrdwy
- Cynlluniau rheoli asedau cwmnïau dŵr, gan gynnwys ymrwymiadau’r Rhaglen Amgylchedd Genedlaethol
- Llywodraeth Cymru yn targedu cymhellion rheoli coetiroedd i gyflawni gwelliannau i'r amgylchedd dŵr
- Canllawiau ar Safon Coedwigaeth y DU (gan gynnwys canllawiau “coedwigoedd a dŵr”) a chanllawiau ymarfer (gan gynnwys “Rheoli coedwigoedd mewn dalgylchoedd dŵr sy’n sensitif i asid”)
Crynodeb o fesurau cyrff dŵr:
- Lleihau llwythi maethynnau a/neu organig o fewn y corff dŵr i adfer yr ACA i gyflwr ffafriol
- Gwella’r broses o reoli’r tir er mwyn sicrhau bod pob defnydd o faethynnau a gwrtaith yn cyd-fynd â gofynion y pridd a'r cnydau a lleihau erydiad pridd i leihau colledion o faethynnau a gwaddod o'r tir
- Sicrhau bod cynhyrchion cemegol yn cael eu defnyddio yn unol â chyfarwyddiadau'r gwneuthurwr a bod unrhyw wastraff a gynhyrchir yn cael ei waredu'n briodol
- Sicrhau bod pridd yn cael ei reoli'n briodol, gan atal a lleihau cywasgiad ac erydiad dilynol a achosir gan symudiadau cerbydau a/neu sathru/gorbori da byw
- Sicrhau bod rheolaeth yn cydymffurfio â Safon Coedwigaeth y DU a gwella ymwybyddiaeth a gweithrediad Safon Coedwigaeth y DU a chanllawiau ymarfer cysylltiedig ar draws y sector coedwigaeth i leihau llygredd
Beth fydd y mesurau hyn yn anelu at ei gyflawni:
- Mae Cynllun Ffermio Cynaliadwy Llywodraeth Cymru yn mynd i'r afael â llygredd gwasgaredig gwledig
- Mae Asiantaeth yr Amgylchedd yn parhau i wneud cynnydd gyda'i harolygiadau amaethyddol, gan gynnwys ymchwiliadau, gwaith monitro, archwiliadau cerdded a sicrhau cydymffurfedd
- Lleihau risgiau llygredd ac effaith negyddol llygredd o orfaethu ar fioamrywiaeth erbyn 2030 (Deddf yr Amgylchedd (Egwyddorion, Llywodraethiant a Thargedau Bioamrywiaeth) (Cymru) 2026)
- Cyflwyno dull integredig o ymdrin â gorfaethu o fewn dalgylch ACA Afon Dyfrdwy, gan gynnwys dull cyfannol ar gyfer dyddodi nitrogen sy'n integreiddio effeithiau ar ansawdd aer a dŵr
- Cyflawni ymrwymiadau’r cwmnïau dŵr o dan y Rhaglen Amgylchedd Genedlaethol a’u cynlluniau rheoli asedau (Cynllun Rheoli Asedau 8 a Chynllun Rheoli Asedau 9), gan gynnwys atebion ar lefel y dalgylch yn ymwneud ag ardaloedd dŵr yfed gwarchodedig
- Deall, nodweddu a gwerthuso effaith llawer o danciau septig, a/neu eu hamlhau, o fewn Ardal Basn Afon Dyfrdwy
- Gwaith priodol i greu coetiroedd newydd a rheoli coedwigaeth sy'n dwyn budd i'r amgylchedd dŵr, ac i bobl drwy weithgareddau hamdden yn yr awyr agored, ac sy'n darparu gwasanaethau ecosystemau, fel gostyngiad mewn llygredd gwasgaredig, llifoedd llifogydd llai, dŵr yfed glân, cynefinoedd i bysgod a bywyd gwyllt, a chysgod ar ymylon dŵr i liniaru effeithiau newid hinsawdd
- Bydd CNC yn rheoli Ystad Goetir Llywodraeth Cymru i fodloni canllawiau coedwigaeth a dŵr Safon Coedwigaeth y DU o leiaf
- Mae rheoli tir gwledig yn cyfrannu at adfer cynaliadwy, hirdymor i amodau pH naturiol mewn ardaloedd lle mae cyrff dŵr yn cael eu peryglu gan asideiddio
Rheoli llygredd o fwyngloddiau segur
Crynodeb o'r mesurau cenedlaethol:
- Strategaeth Mwyngloddiau Metel Cymru
- Rhaglen waith yr Awdurdod Adfer Safleoedd Mwyngloddio
Crynodeb o fesurau cyrff dŵr:
- Rheoli ac adfer gollyngiadau tarddle penodol a/neu wasgaredig o fwyngloddiau metel segur
- Rheoli ac adfer gollyngiadau tarddle penodol a/neu wasgaredig o byllau glo segur
Beth fydd y mesurau hyn yn anelu at ei gyflawni:
- Lleihau effeithiau mwyngloddiau segur ar yr amgylchedd dŵr drwy raglen waith strategol ledled Cymru. Bydd yn cymryd degawdau i fynd i'r afael â'r holl faterion a bydd camau gweithredu sy'n cyflawni'r canlyniadau ecolegol, cymdeithasol ac economaidd gorau ar gyfer buddsoddiad cymdeithas yn cael blaenoriaeth
- Parhau â'r gwaith ymchwilio ym Mwynglawdd yn nalgylch afon Clywedog a symud ymlaen i weithgarwch cwmpasu a dichonoldeb. Gweithio gyda rhanddeiliaid a phrosiectau lleol yn nalgylch afon Clywedog
- Cyflwyno'r rhaglen atal ac adfer dŵr mwyngloddiau mewn perthynas â phyllau glo
Rheoli llygredd o drefi, dinasoedd a chludiant
Crynodeb o'r mesurau cenedlaethol:
- Cynlluniau rheoli draenio a dŵr gwastraff
- Halogiad o safleoedd diwydiannol a gwastraff hanesyddol
- Rheoli’r broses o ryddhau cemegau wrth y ffynhonnell
- Ymwybyddiaeth a buddion rheoli dŵr ffo wyneb
- Canllawiau Safon Coedwigaeth y Deyrnas Unedig (gan gynnwys canllawiau “coedwigoedd a dŵr”) a chanllawiau arfer
Crynodeb o fesurau cyrff dŵr:
- Cynnal a gwella systemau draenio carthffosiaeth i gywiro camgysylltiadau a gollyngiadau
- Sicrhau cydymffurfedd drwy reolaethau rheoleiddiol ar allyriadau gyda Rheoliadau Trwyddedu Amgylcheddol (Cymru a Lloegr) 2016, Deddf yr Amgylchedd (Ansawdd Aer a Thirweddau Sain) (Cymru) 2024 a Deddf yr Amgylchedd 1995
- Adolygu a, lle bo'n briodol, amrywio a/neu orfodi trwyddedau gollwng presennol
Beth fydd y mesurau hyn yn anelu at ei gyflawni:
- Cyflawni'r cynlluniau rheoli draenio a dŵr gwastraff
- Lleihau effaith negyddol datblygiadau hanesyddol a datblygiadau yn y dyfodol ar yr amgylchedd dŵr drwy ein rôl fel ymgynghorai ansawdd tir yn y broses gynllunio neu, lle nad yw'r broses gynllunio yn berthnasol, drwy ddarparu cyngor a chymorth i awdurdodau lleol gyda'u strategaeth archwilio tir halogedig
- Gweithredu deddfwriaeth i reoli rhyddhau cemegau wrth y ffynhonnell
- Rhoi mesurau rheoli adnoddau naturiol yn gynaliadwy wrth wraidd y broses o ddylunio a chynllunio trefol. Drwy ddefnyddio systemau draenio cynaliadwy, adfer yr ardaloedd o amgylch afonydd ac arfordiroedd, gan gynnwys glannau afonydd, gorlifdiroedd a'r ardal rynglanwol, darparu mannau gwyrdd cyhoeddus, codi ymwybyddiaeth, a newid ymddygiad i wella ansawdd bywyd yn ardaloedd trefol Cymru
- Parhau i reoleiddio allyriadau o lygryddion sy’n asideiddio er mwyn caniatáu i'r amgylchedd dŵr wella
- Parhau i weithio mewn partneriaeth o fewn yr amgylchedd trefol ar ymwybyddiaeth gymunedol o effeithiau camgysylltiadau
Newidiadau i lif naturiol dŵr a’i lefelau
Crynodeb o'r mesurau cenedlaethol:
- Cynlluniau rheoli asedau cwmnïau dŵr, gan gynnwys ymrwymiadau’r Rhaglen Amgylchedd Genedlaethol
- Rhaglen Adfer Mawndiroedd Genedlaethol Llywodraeth Cymru
- Gweithgareddau rheoli perygl llifogydd
- Adolygiad o fesurau lliniaru cyrff dŵr sydd wedi’u haddasu’n helaeth
- Effeithlonrwydd dŵr, gan gynnwys gwaith galw aml-sector
Crynodeb o fesurau cyrff dŵr:
Ar gyfer y rhaglen ddrafft o fesurau ar gyfer y Cynllun Rheoli Basn Afon, yr unig fesurau cyrff dŵr sydd wedi'u cynnwys yw ymchwiliadau i adnoddau dŵr.
Beth fydd y mesurau hyn yn anelu at ei gyflawni:
- Cyflawni ymrwymiadau’r cwmnïau dŵr o dan y Rhaglen Amgylchedd Genedlaethol a’u cynlluniau rheoli asedau (Cynllun Rheoli Asedau 8 a Chynllun Rheoli Asedau 9), gan gynnwys adfer tynnu dŵr yn gynaliadwy dros yr hirdymor a defnyddio atebion ar sail natur
- Parhau i gyflawni Rhaglen Adfer Mawndiroedd Genedlaethol Llywodraeth Cymru
- Annog patrymau defnydd tir cynaliadwy mewn amgylcheddau trefol a gwledig sy'n lleihau dŵr ffo o law, gan gynnwys atebion ar sail natur
- Cyflwyno ymyriadau fel gwella cynefinoedd yn y sianel sy'n lliniaru effeithiau tynnu dŵr ar yr amgylchedd dŵr
- Deall y galw am ddŵr ar draws sectorau yn well
- Drwy Waterwise, parhau i wella effeithlonrwydd defnyddio dŵr er mwyn lleihau'r angen am weithgarwch tynnu dŵr ychwanegol yn y dyfodol
Rheoli rhywogaethau estron goresgynnol
Crynodeb o'r mesurau cenedlaethol:
- Gweithredu strategaeth ddiweddaraf Prydain Fawr ar rywogaethau estron goresgynnol
- Cynlluniau rheoli asedau cwmnïau dŵr, gan gynnwys ymrwymiadau’r Rhaglen Amgylchedd Genedlaethol
Dim mesurau cyrff dŵr
Mae rhywogaethau estron goresgynnol yn creu pwysau ar draws Ardal Basn Afon Dyfrdwy ond nid nhw yw'r rheswm nad yw unrhyw gorff dŵr yn cyflawni statws neu botensial da felly nid oes mesurau penodol ar gyfer cyrff dŵr.
Beth fydd y mesurau hyn yn anelu at ei gyflawni:
- Blaenoriaethu camau gweithredu i arafu neu atal ymlediad rhywogaethau estron goresgynnol presennol
- Lleihau'r risg a achosir gan rywogaethau estron goresgynnol drwy wella bioddiogelwch a gwybodaeth leol am ddosbarthiad ac effaith rhywogaethau estron goresgynnol
- Cyflawni ymrwymiadau’r cwmnïau dŵr o dan y Rhaglen Amgylchedd Genedlaethol / eu cynlluniau rheoli asedau (Cynllun Rheoli Asedau 8 a Chynllun Rheoli Asedau 9)
Gwybodaeth ategol ar gyfer Adran 3.2
- Atodiad Technegol, Adran 6 (Saesneg yn unig)
- Mesurau cenedlaethol, Arsylwi Dyfroedd Cymru a Power BI
- Bydd dolenni i Asiantaeth yr Amgylchedd yn cael eu hychwanegu ar ôl iddynt gael eu cyhoeddi