Cryodeb

Gan fod y rhan fwyaf o bobl yn byw mewn ardaloedd trefol, mae eu heffaith ar ecosystemau eraill yn sylweddol. Ar yr un pryd, mae'r crynhoad hwn o bobl yn cynnig cyfleoedd ar gyfer arloesi sy'n helpu i leihau effeithiau ar yr amgylchedd ehangach.

Drwy ailystyried dylunio, trafnidiaeth a chynllunio trefol, gellir ystyried ardaloedd trefol fel 'ecosystemau trefol' ar flaen y gad o ran mynd i'r afael â'r argyfyngau hinsawdd a natur. Byddai hyn yn gwella ansawdd bywyd yn gyffredinol drwy ddylunio mannau trefol tawel, diogel, glân a gwyrdd. Byddai hefyd yn creu cyfleoedd cyflogaeth newydd drwy wella'r farchnad ar gyfer technolegau newydd a phensaernïaeth werdd.

Ni all ardaloedd trefol ddatrys eu problemau ar y lefel leol yn unig. Mae angen integreiddio polisi'n well a llywodraethu newydd, sy'n cynnwys partneriaeth a chydgysylltu agosach ar lefel leol, ranbarthol a chenedlaethol.

Ecosystemau trefol yw lle mae'r rhan fwyaf o bobl yn byw ac felly:

  • Dyma ffynhonnell y rhan fwyaf o alwadau'r ddynoliaeth ar ecosystemau eraill
  • Dyma ble mae effeithiau newid amgylcheddol ar y rhan fwyaf o bobl yn cael eu teimlo
  • Maent yn cynnig cyfleoedd gwych i greu cymdeithas iach, gynhyrchiol, ddi-garbon; ac
  • Mae angen cyflenwad digonol o seilwaith gwyrdd i sicrhau lleoedd y gellir byw ynddynt ar gyfer pobl a lleoedd

Ein hasesiad

Lawrlwytho SoNaRR2020: Pennod trefol (Saesneg PDF)

Mae'r bennod hon yn nodi'r angen am newidiadau i'r ffordd y caiff trefi a dinasoedd Cymru eu hadeiladu, eu hailadeiladu a'u rheoli i'w gwneud yn lleoedd gwell i bobl a natur mewn dyfodol sy'n wynebu heriau o ran yr hinsawdd. Mae hefyd yn edrych ar y dystiolaeth sydd ei hangen i fonitro a llywio cynnydd tuag at wneud ardaloedd trefol yn gynaliadwy ar gyfer cenedlaethau'r presennol a'r dyfodol.

Mae anghenion tystiolaeth y bennod trefol wedi'u cynnwys yn y tabl anghenion tystiolaeth cyffredinol.

Dogfennau cysylltiedig i'w lawrlwytho

Data, mapiau ac adroddiadau sy’n gysylltiedig â SoNaRR 2020

Archwilio mwy

Diweddarwyd ddiwethaf