Cryodeb

Mae mynyddoedd, gweundiroedd a rhosydd yn cynnwys y rhan fwyaf o gynefinoedd eiconig ucheldiroedd Cymru, gan gynnwys:

  • Rhosydd corlwyni
  • Cynefinoedd silffoedd a chlogwyni mewndirol
  • Gorgorsydd
  • Tir gwlyb a ffeniau
  • Coetir brodorol a phorfeydd coediog (ar y ffridd) ar dir serth, clogwyni a cheunentydd

Mae'r ecosystem hon hefyd yn cynnwys:

  • Mawndir yr iseldir
  • Rhostir yr iseldir

Mae'r ecosystem hon yn cynnig manteision allweddol gan gynnwys storio carbon, lliniaru llifogydd, bwyd, ffibr a rhai o rywogaethau a thirweddau mwyaf eiconig Cymru.

Mae'r rhan fwyaf o ecosystemau mynyddoedd, gweundiroedd a rhosydd yn yr ucheldiroedd, sef tir sy'n uwch na therfyn uchaf y tir caeedig. Mae'r rhan ucheldirol hon o'r ecosystem yn cyfrif am 19.3% o dir Cymru sy'n golygu mai dyma'r cynefin parhaus mwyaf. Mae'n cynnwys rhannau helaeth o laswelltir asid y mae llawer ohono'n deillio o orbori ar rostir a chorsydd.

I'r gwrthwyneb, mae mawndiroedd a rhostiroedd yr iseldir yn aml yn fach, yn dameidiog iawn ac yn cael eu effeithio gan ddefnyddiau tir cyfagos. Mae dirywiad mewn arferion pori traddodiadol ac arferion rheoli eraill yn aml yn amlwg ac yn arwain at golli nodweddion gwerthfawr.

Caiff problemau eu dwysáu yn yr ecosystem hon yn yr ucheldir a'r iseldir gan lygredd aer a dŵr daear gyda lefelau uchel o nitrogen adweithiol.

Ein hasesiad

Lawrlwytho SoNaRR2020: Pennod mynyddoedd, gweundiroedd a rhosydd (Saesneg PDF)

Mae'r bennod yn amlinellu'r pwysau sydd wedi achosi cyflwr gwael llawer o'r ecosystem hon a'r angen am newid i fynd i'r afael â heriau'r dyfodol. Mae'n awgrymu camau gweithredu i fynd i'r afael â chynaliadwyedd a gwydnwch ecosystem y mynyddoedd, y gweundiroedd a'r rhosydd.

Mae anghenion tystiolaeth y bennod mynyddoedd, gweundiroedd a rhosydd wedi'u cynnwys yn y tabl anghenion tystiolaeth cyffredinol.

Dogfennau cysylltiedig i'w lawrlwytho

Data, mapiau ac adroddiadau sy’n gysylltiedig â SoNaRR 2020

Archwilio mwy

Diweddarwyd ddiwethaf