Orchids Ynyslas

Yr hinsawdd a bioamrywiaeth: dwy her ryng-gysylltiedig

Mae'r argyfyngau ym myd natur a'r hinsawdd yn rhyng-gysylltiedig. 

Mae'r newid yn yr hinsawdd yn gyrru rhywogaethau i symud lleoliad.

Gallai rhywogaethau arctig-alpinaidd o fewn cynefinoedd mynyddig ddiflannu o Gymru wrth i'w cynefinoedd gael eu colli.

Pan na all planhigion a bywyd gwyllt arfordirol symud i'r tir, gall y cynnydd yn lefel y môr a mwy o erydu tir arwain at golled eang.

Byddem hefyd yn colli'r gwasanaethau ecosystemau y mae'r cynefinoedd hyn yn eu darparu, fel amddiffynfeydd rhag llifogydd a chael gwared ar garbon deuocsid.

Mae nifer y rhywogaethau estron goresgynnol, a’u cwmpas, yn debygol o gynyddu wrth i'r hinsawdd newid.

Argyfwng hinsawdd

Asesiadau byd-eang

Mae allyriadau nwyon tŷ gwydr byd-eang ar lefelau na welwyd eu bath ers o leiaf yr 800,000 o flynyddoedd diwethaf.

Rhybuddiodd y Panel Rhynglywodraethol ar y Newid yn yr Hinsawdd fod yn rhaid i'r byd gyrraedd allyriadau nwyon tŷ gwydr sero net yn fyd-eang erbyn 2050 er mwyn osgoi'r canlyniadau o gynhesu'n uwch na 1.5 gradd Celsius.

Bydd cadw o fewn y terfynnau hyn – sy'n parhau i fod yn bosibl – yn lleihau peryglon i fioamrywiaeth, ecosystemau, systemau bwyd, dŵr a llesiant dynol.

Pan gyhoeddwyd yr adroddiad, newidiodd safbwynt y cyhoedd am y newid yn yr hinsawdd.

Mae yna angen daer nawr i ymateb, ar draws llywodraethau a chymdeithasau.

Allyriadau nwyon tŷ gwydr Cymru

Mae allyriadau nwyon tŷ gwydr wedi syrthio chwarter ers 1990 yng Nghymru.

Mae hyn yn bennaf am fod ynni’n cael ei greu yn fwy effeithlon, glo yn cael ei amnewid am nwy naturiol, dirywiad mewn diwydiannau cemegol, llai o wastraff, a newidiadau mewn allbwn gweithgynhyrchu.

Dangosir allyriadau nwyon tŷ gwydr sy'n deillio o Gymru ar siart bar wedi'i bentyrru. Dangosir allyriadau blynyddol o garbon deuocsid cyfwerth mewn cilotunelli ar gyfer 1990, 1995, ac yn flynyddol o 1998 i 2017. Y sectorau sy'n allyrru yw Prosesau Diwydiannol, trafnidiaeth, cyhoeddus, preswyl, busnes, rheoli gwastraff, amaethyddiaeth a chyflenwad ynni. Negyddol fychan yw allyriad blynyddol Newid Defnydd Tir. Mae cyfanswm y nwyon tŷ gwydr a allyrrir o'r sectorau hyn yng Nghymru wedi gostwng o 55730 cilotunnell o garbon deuocsid cyfwerth ym 1990 i 41747 cilotunnell fetrig o garbon deuocsid cyfwerth ym 2017

Ffynhonnell: National Atmospheric Emissions Inventory

Mae trydydd adroddiad blynyddol Llesiant Cymru (2019) yn rhoi mwy o fanylion ynghylch y ddau sector yng Nghymru sy'n allyrru'r symiau mwyaf o nwyon tŷ gwydr: ynni a thrafnidiaeth. 

Darllenwch fwy am y sectorau ynni a thrafnidiaeth yng Nghymru.

Targedau Cymru ar gyfer allyriadau nwyon tŷ gwydr

Yn 2019, derbyniodd Llywodraeth Cymru argymhelliad Pwyllgor y DU ar y Newid yn yr Hinsawdd y dylai Cymru gyflawni 95% yn llai o allyriadau erbyn 2050.

Mae hyn yn fwy na gofyniad Deddf yr Amgylchedd (Cymru) 2016 i leihau allyriadau carbon o leiaf 80% erbyn 2050.

Blaenoriaeth Llywodraeth Cymru yw lleihau allyriadau sy'n cael eu cynhyrchu yn sgil creu ynni o danwydd ffosil.

Cafodd cyfwerth â 50% o ddefnydd Cymru o drydan ei gynhyrchu gan ffynonellau adnewyddadwy yn 2018. Erbyn 2030, y nod yw creu digon o drydan o ffynonellau adnewyddadwy i ddiwallu 70% o anghenion trydan Cymru. 

Yn ogystal â chael o leiaf gigawat o ynni sy'n eiddo i Gymru erbyn 2030, dylai pob datblygiad ynni newydd gael rhywfaint o berchenogaeth leol o 2020 ymlaen.

Mae Ffyniant i Bawb: Cymru Carbon Isel yn nodi cynllun Llywodraeth Cymru i gyrraedd targedau datgarboneiddio yng Nghymru. 

Targedau allyriadau nwyon tŷ gwydr y DU

Yn dilyn adroddiad y Panel Rhynglywodraethol ar y Newid yn yr Hinsawdd, gwnaeth Pwyllgor y DU ar y Newid yn yr Hinsawdd adolygu targedau datgarboneiddio'r DU.

Cynigiodd newid targed y DU ar gyfer nwyon tŷ gwydr o ostyngiad o 80% erbyn 2050 i allyriadau sero net erbyn 2050.

Er mwyn cyrraedd y targed diwygiedig hwn, dywedodd:

Bydd yn rhaid i bron bob system wresogi mewn adeiladau fod yn un carbon isel.

Rhaid i un rhan o bump o dir amaethyddol y DU newid ei defnydd i un sy'n cefnogi llai o allyriadau, fel plannu coed, cynhyrchu biomas ac adfer mawndiroedd.

Mae angen defnyddio 20% yn llai o gig oen, cig eidion a chynnyrch llaeth.

Rhaid gwella effeithlonrwydd adnoddau diwydiannol, gyda chynhyrchion sy'n para'n hirach ac yn defnyddio llai o adnoddau, ochr yn ochr ag ailddefnyddio ac ailgylchu mwy.

Rhaid cynyddu’r cyflenwad o drydan carbon isel bedair gwaith.

Argyfwng byd natur

Mae pwysau amgylcheddol yn achosi dirywiadau byd-eang mewn bioamrywiaeth ar gyfraddau na welwyd erioed o'r blaen mewn hanes dyn.

Mae rhywogaethau'n diflannu ar gyfradd gyflymach.

Mae gan fyd natur ran hanfodol i'w chwarae o ran darparu bwyd, ynni, meddyginiaethau ac adnoddau genetig.  

Os na wneir newidiadau nawr, bydd y colledion bioamrywiaeth a'r effaith negyddol ar fuddion byd natur i bobl yn parhau.

Asesiadau byd-eang

Yn 2019, cyhoeddodd y Platfform Polisi Gwyddoniaeth Rhynglywodraethol ar Fioamrywiaeth a Gwasanaethau Ecosystemau asesiad byd-eang o fioamrywiaeth.

Amcangyfrifwyd bod oddeutu un filiwn o rywogaethau o anifeiliaid a phlanhigion ledled y byd dan fygythiad o ddiflannu bellach.

Mae Mynegai Planed Fyw 2018 yn fesur byd-eang o iechyd 16,704 o boblogaethau o 4,005 o rywogaethau. Mae'n dangos 60% o ddirywiad rhwng 1970 a 2014. 

Asesiadau'r DU

Adlewyrchir darlun y DU yn adroddiad Sefyllfa Byd Natur 2019

Mae'n dangos sut mae effeithiau dynol yn llywio newidiadau mewn bywyd gwyllt ledled y DU: 

O'r 8,431 o rywogaethau yn y DU a aseswyd gan Restr Goch Ranbarthol yr Undeb Rhyngwladol dros Gadwraeth Natur, mae bron un o bob saith ohonynt mewn perygl o gael eu colli am byth.

Gwyddys fod 32 o blanhigion, 33 o ffyngau a chennau, saith anifail asgwrn cefn a 61 o anifeiliaid di-asgwrn-cefn wedi diflannu dros y 500 mlynedd diwethaf.

Ers 1970, mae'r helaethrwydd o rywogaethau â blaenoriaeth wedi dirywio 60% ac mae eu dosbarthiad wedi dirywio ychydig dros chwarter. Mae'r dirywiad mewn adar tir amaeth wedi bod yn fwy difrifol na'r adar mewn unrhyw gynefin arall, gyda dirywiad o 54% yn y Dangosydd Adar Tir Amaeth er 1970.

Ym Mhrydain Fawr, credir bod 6% o'r rhywogaethau estron yn cael effaith negyddol ar fioamrywiaeth.

Mae rhywogaethau estron goresgynnol wedi dod yn fwy cyffredin dros y cyfnod rhwng 1960 a 2018.

Mae hyn wedi cynyddu'r pwysau ar fioamrywiaeth frodorol, a amlinellir mewn manylder yn Nangosyddion Bioamrywiaeth y DU 2019.

Bob chwe blynedd, mae Cyd-bwyllgor Cadwraeth Natur y DU yn asesu statws cadwraeth yr holl rywogaethau a chynefinoedd a restrwyd yn Erthygl 17 o'r Gyfarwyddeb Cynefinoedd

Canfu pedwerydd adroddiad y DU ar Erthygl 17 o’r Gyfarwyddeb Cynefinoedd (2019) fod 35% o'r rhywogaethau a restrwyd ac 8% o gynefinoedd ar statws cadwraeth ffafriol ar lefel y DU:

Statws cadwraeth cyffredinol rhywogaethau DU yn 2019 (data 2013-2018) Statws cadwraeth cyffredinol cynefinoedd DU yn 2019 (data 2013-2018)

Ffynhonnell: Y Cydbwyllgor Cadwraeth Natur

Bioamrywiaeth yng Nghymru

Canfu Adroddiad Sefyllfa Byd Natur 2019 fod un o bob chwech o rywogaethau mewn perygl o ddiflannu.

Ers i waith monitro gwyddonol trwyadl ddechrau yn y 1970au, mae 73 o'r 3,902 o rywogaethau a aseswyd yng Nghymru wedi'u colli.

Mae Cymru wedi colli adar fel turturod a breision yr ŷd bellach.

O ran y rhywogaethau ar dir ac mewn dŵr croyw yn y DU, canfu asesiadau fod 10% o blanhigion, 8% o ffyngau a chennau, 36% o anifeiliaid asgwrn cefn a 5% o anifeiliaid di-asgwrn-cefn mewn perygl o ddiflannu yng Nghymru.

Ychydig iawn o asesiadau risg sydd wedi'u cynnal ar rywogaethau sy'n diflannu yng Nghymru yn unig, ynghyd ag asesiadau o helaethrwydd. Dengys Adroddiad Sefyllfa Byd Natur 2019 fod newidiadau mawr wedi digwydd o ran lle y gellir dod o hyd i fywyd gwyllt ledled Cymru: 

Mae bioamrywiaeth Cymru yn dirywio. Ers 1970 mae llai o fywyd gwyllt mewn llai o leoedd. Yng Nghymru mae 8% o rywogaethau dan fygythiad o ddifodiant. 133 o'r 8431 a aseswyd wedi diflannu o'r DU un barod.

Ffynhonnell: Adroddiad Sefyllfa Byd Natur 2019

Y ffactorau allweddol sy'n effeithio ar fioamrywiaeth

Daw'r pwysau allweddol sy'n effeithio ar golli bioamrywiaeth ledled Cymru a'r DU yn sgil y canlynol:

  • rheoli amaethyddol
  • y newid yn yr hinsawdd
  • trefoli
  • llygredd
  • newid hydrolegol
  • rhywogaethau estron goresgynnol
  • rheoli coetiroedd

Mae newid hinsawdd yn cael effaith gynyddol ar natur yn y du. 48% mae newid hinsawdd yn gyfrifol am ddirywiad 40% o wyfynod. 60% newid hinsawdd sy'n gyfrifol am gynnydd 60% o lyslau. Mae poblogaeth gwylanod caesddu yng Nghymru wedi gostwng 35% er 1986. Ar draws y DU, mae newid yn yr hinsawdd wedi lleihau argaeledd y llymriod maent yn dibynnu amynt yn y tymor nythu. Mae adar mudol yn cyrraedd ac yn dodwy wyau yn gynharach. Mae gwenoliaid yn cyrraedd y DU 15 diwrnod ynghynt ac yn nythu 11 diwrnod ynghynt nag y gwnaethon nhw yn y 1960au. Mae titwod mawr yn dodwy eu hwyau ar gyfartaledd 11 diwrnod yn gynharach nag y gwnaethon nhw ym 1968.

Ffynhonnell: Adroddiad Sefyllfa Byd Natur 2019

Darllenwch fwy am y pethau sy'n llywio newid yn asesiad byd-eang 2019 y Platfform Polisi Gwyddoniaeth Rhynglywodraethol ar Fioamrywiaeth a Gwasanaethau Ecosystemau ac yn Adroddiad Sefyllfa Byd Natur 2019. 

Colli bioamrywiaeth a llesiant

Mae pwysau'r newid yn yr hinsawdd a cholli bioamrywiaeth yn effeithio ar y gwasanaethau y mae ecosystemau yn eu darparu ar ein cyfer ac, o ganlyniad, ein llesiant.

Goblygiadau cymdeithasol Goblygiadau cymdeithasol newid yn yr hinsawdd a cholli bioamrywiaeth. Mae materion datblygu yn effeithio ar dlodi, diogelwch bwyd ac ynni ac iechyd pobl. Mae'r newid yn yr hinsawdd yn achosi costau economaidd sylweddol. Fel arfer nid oes gan fioamrywiaeth bris marchnad ond mae iddo werth economaidd a chymdeithasol. Gall materion diogelwch arwain at wrthdaro lleol. Mae materion tegwch a moesegol yn codi gan mai'r gwledydd diwydiannol sydd wedi achosi'r problemau i raddau helaeth - gwledydd sy'n datblygu a phobl dlawd sydd fwyaf agored i niwed. Mae materion moesol - nid oes gennym ni fodau dynol unrhyw hawl i ddinistrio'r amgylchedd. 

Ffynhonnell: Adroddiad 2019 y Platfform Polisi Gwyddoniaeth Rhynglywodraethol ar Fioamrywiaeth a Gwasanaethau Ecosystemau, Adroddiad Asesu Byd-eang ar Fioamrywiaeth a Gwasanaethau Ecosystemau

Lle i obeithio

Fel y nodir yr Adroddiad Sefyllfa Byd Natur, mae'r ffigurau yn achos o bryder yn bennaf, ond mae lle i obeithio'n ofalus.

Mae gorchudd y coetir wedi cynyddu bron pedwarplyg ledled Cymru, o 4% ar ddechrau'r 1900au i 15% heddiw.

Mae ffwlbartiaid hefyd yn gwneud adferiad araf o bwynt isel yn y 1930au.

Mae'r adroddiad hefyd yn amlygu mentrau cadwraeth sy'n ceisio helpu i adfer byd natur – er enghraifft, mae prosiect Coedwigoedd Glaw Celtaidd Cymru LIFE yr UE yn ceisio gwarchod a gwella coetiroedd derw Gorllewin yr Iwerydd hynafol Cymru.

Aiff yr adroddiad ymlaen i gydnabod sut mae sefydliadau cadwraeth ac unigolion wedi achub rhywogaethau amrywiol rhag diflannu. Dwy enghraifft o'r rhywogaethau hyn a gafodd eu hachub rhag diflannu yn y DU yw aderyn y bwn a'r glesyn mawr.

Ymateb i'r heriau

Cewch wybod sut gallwn ni ymateb i heriau'r newid yn yr hinsawdd a cholli bioamrywiaeth.

Mannau eraill yng Adroddiad interim ar Sefyllfa Adnoddau Naturiol 2019