Adroddiad blynyddol rheoli perygl llifogydd 2024 i 2025

Rhagair

Mae’r Adroddiad Blynyddol hwn yn crynhoi’r ystod o weithgareddau a gyflawnwyd gan Cyfoeth Naturiol Cymru wrth reoli perygl lifogydd yng Nghymru yn 2024/25.

Unwaith eto, cafwyd sawl storm ag enwau dros y gaeaf, gyda stormydd Bert a Darragh yn benodol yn achosi effeithiau sylweddol yng Nghymru, ac unwaith eto'n ymestyn galluoedd y sefydliadau ymateb.  Er ei bod hi’n iawn cydnabod y dioddefaint llwyr y mae llifogydd yn ei achosi i gymunedau ac i bobl, a mynegi cydymdeimlad dwfn â’r rhai yr effeithir arnynt, rhaid inni hefyd gydnabod ymroddiad a phroffesiynoldeb staff o bob cwr o’r sector, sy’n gwneud eu gorau glas i reoli’r risgiau yn y lle cyntaf, ac sy’n ymateb pan fydd stormydd a llifogydd yn taro.  Nid tasg hawdd mohoni, ond mae'n un wirioneddol bwysig, ac un sy'n gwneud gwahaniaeth.

Mae'r adroddiad hwn unwaith eto'n dangos lled a dyfnder y gwaith sy'n mynd i mewn i reoli'r risgiau o lifogydd.  Mae pob elfen yn bwysig, ac mae cysylltiadau rhwng pob elfen – mae angen y cyfanwaith ac nid oes dim ar ei ben ei hun.  Er enghraifft, ni allwch reoli'r risgiau o lifogydd os nad ydych chi'n deall y risgiau; mae mapio a modelu risgiau llifogydd yn hynod bwysig ac yn bwydo’r gwaith o flaenoriaethu a chyflawni ein holl waith rheoli perygl llifogydd.  Fe'i defnyddir hefyd gan sefydliadau eraill ar gyfer eu darpariaeth, ac mae'n rhan hanfodol o'r wybodaeth i'r cyhoedd ynghylch ble a beth sydd mewn perygl o lifogydd. 

Enghraifft arall yw na allwn gyhoeddi rhybuddion llifogydd heb y gadwyn gyflenwi gyfan o ddata glawiad a llif afonydd. Mae hyn ynddo’i hun yn gofyn am y mesuryddion glaw a'r gorsafoedd mesur afonydd, gyda'r porthiannau data yn cael eu hanfon yn ôl i'r swyddfa i gael mynediad at y data a'i brosesu. Ar ben hynny mae’r modelau a ddefnyddiwn i wneud rhagolygon a'r systemau TGCh cymhleth i gyhoeddi'r rhybuddion.  Yna, mae angen gwybodaeth a chyngor ynghylch yr hyn y dylai cymunedau ac unigolion ei wneud mewn gwirionedd os a phryd y cânt rybudd – mae angen deall y rhybuddion a gweithredu arnynt.  Mae'n gofyn am gadwyn gyfan o weithgareddau, systemau, ac – yn hollbwysig – arbenigedd gan ein staff.

Mae'r maes hwn o rybuddio a hysbysu'r cyhoedd am berygl llifogydd yn elfen hynod bwysig o'r hyn a wnawn. Mae'n amhosibl atal pob digwyddiad llifogydd, ac mae cael rhybuddion llifogydd cywir ac amserol yn elfen graidd o liniaru effeithiau llifogydd. Yn 2024/25, fe wnaethom gyflwyno ein system wybodaeth newydd ar gyfer rhybuddio am lifogydd yng Nghymru, sef prosiect aml-flwyddyn gwerth £5 miliwn a ddisodlodd y system rhybuddio am lifogydd flaenorol. Fe wnaethon ni hefyd ddatblygu ein prosiect i ddisodli'r system telemetreg (sy’n mynd yn hen) ag un newydd, y bwriedir ei chyflwyno'n ddiweddarach yn 2025. Rwy'n tynnu sylw at y ddau faes hyn fel elfennau hanfodol o fuddsoddiad a all yn aml fynd heb eu crybwyll, pan all y cyhoedd alw'n aml am amddiffynfeydd rhag llifogydd. Rwy'n meddwl am y llifogydd hollol ddinistriol yn Valencia ym mis Hydref 2024 a'r cwestiynau a ofynnwyd yno am fuddsoddi mewn cynllunio at argyfyngau a rhybuddion llifogydd. Nid yw'n or-ddweud dweud y gall fod yn fater o fywyd a marwolaeth mewn gwirionedd. 

Yn y cyfamser, mae risgiau llifogydd yn cynyddu; nid yw'n gysyniad sefydlog.  Mae angen buddsoddi ym mhob agwedd ar reoli’r perygl o lifogydd yn yr adroddiad hwn, ac mewn dulliau newydd eraill hefyd wrth iddynt ddod i'r amlwg, os ydym am allu rheoli'r risgiau'n briodol.  Does dim dwywaith ei fod yn gyfnod heriol, ond mae'r dystiolaeth yn yr adroddiad hwn yn dangos maint ac ansawdd y gwaith y mae staff ar draws Cyfoeth Naturiol Cymru, a sefydliadau partner hefyd, yn ei wneud mewn ymateb.  Mae fy niolch a'm cydnabyddiaeth yn mynd iddyn nhw i gyd.

Jeremy Parr
Pennaeth Rheoli Perygl Llifogydd a Digwyddiadau
Cyfoeth Naturiol Cymru

Crynodeb Gweithredol

Cyfoeth Naturiol Cymru (CNC) yw'r corff mwyaf a noddir gan Lywodraeth Cymru, a'n diben craidd yw rheoli adnoddau naturiol yn gynaliadwy yng Nghymru.

Mae gennym amrediad o rolau a chyfrifoldebau, gan amrywio o reoleiddiwr i gynghorydd, tirfeddiannwr, gweithredwr ac ymatebwr mewn argyfwng. Mae gennym drosolwg strategol ar gyfer rheoli perygl llifogydd ac erydu arfordirol sy'n golygu goruchwylio a chyfathrebu gwaith rheoli perygl llifogydd ac erydu arfordirol yn gyffredinol yng Nghymru. Mae gennym bwerau hefyd i reoli llifogydd o brif afonydd, cronfeydd dŵr a'r môr.

Yng Nghymru, amcangyfrifir bod 275,000 o adeiladau mewn perygl o lifogydd. Mae hyn yn golygu tuag 1 eiddo ym mhob 7 yng Nghymru. Rydym yn dilyn dull sy'n seiliedig ar risg o reoli perygl llifogydd drwy'r gweithgareddau a gyflawnir gennym. Mae'r adroddiad hwn yn crynhoi'r buddsoddi a wnaed, gweithgareddau allweddol, a chyflawniadau CNC o ran rheoli perygl llifogydd ac erydu arfordirol ledled Cymru ar gyfer y flwyddyn ariannol o fis Ebrill 2024 i fis Mawrth 2025.  Mae'n seiliedig ar yr wybodaeth orau sydd ar gael ar adeg ei ysgrifennu (gwanwyn/haf 2025). 

Rydym yn bwriadu defnyddio'r adroddiad blynyddol hwn i ffurfio rhan o'r adroddiad statudol y mae'n ddyletswydd arnom i’w gwblhau (o dan adran 18 o'r Ddeddf Llifogydd a Rheoli Dŵr) ar gynnydd gweithredu Strategaeth Rheoli Perygl Llifogydd ac Erydu Arfordirol Llywodraeth Cymru.  Cyhoeddwyd y strategaeth ym mis Hydref 2020, a bydd llawer o'r gweithgareddau a ddisgrifir yn yr adroddiad blynyddol hwn yn cyfrannu at y dull o gyflwyno'r amcanion a mesurau y mae'r strategaeth honno'n eu cynnwys.

Mae rhai o uchafbwyntiau allweddol 2024/25 yn cynnwys:

  • Buddsoddiad gwerth £47 miliwn o arian Llywodraeth Cymru ar weithgareddau rheoli perygl llifogydd.
  • Cwblhau cynllun lliniaru llifogydd sylweddol yn Stryd Stephenson yng Nghasnewydd sy’n lleihau’r perygl o lifogydd i 1,032 eiddo. Rydym hefyd wedi cwblhau cynllun yn Sandycroft, Sir y Fflint (218 eiddo).
  • Mae 856 eiddo arall wedi elwa’n uniongyrchol o’r lefel barhaus o amddiffyniad rhag llifogydd a ddarparwyd gan ein gwaith cynnal a chadw cyfalaf.
  • Parhau i weithio tuag at gyflawni mesurau o Strategaeth Rheoli Perygl Llifogydd ac Erydu Arfordirol Llywodraeth Cymru.
  • Cyflawni gwelliannau i’n gwaith o flaenoriaethu ein rhaglenni cynnal a chadw asedau arferol drwy gyflwyno dull newydd sy'n seiliedig ar risg.
  • Cyflawni ein Cynllun Rheoli Asedau System, a fydd yn ein helpu i fabwysiadu dull integredig o reoli asedau rheoli perygl llifogydd.
  • Cyflwyno ein gwasanaeth gwybodaeth a rhybuddio am lifogydd newydd gwerth £5 miliwn i Gymru, sy'n ein datgysylltu oddi wrth y gwasanaeth blaenorol ar gyfer Cymru a Lloegr i gyd, ac yn ein galluogi i ymateb yn well i anghenion cwsmeriaid yng Nghymru yn y dyfodol.
  • Cyflwyno ein hymgyrch #ByddwchYnBarodAmLifogydd a digwyddiadau rhwydwaith gwirfoddolwyr llifogydd.
  • Parhau i ddatblygu prosiectau TGCh allweddol gwerth £5 miliwn i ddisodli ein system telemetreg.
  • Parhau â'n gwaith gyda'n partneriaid ar y rhaglen ar y cyd i ddiwygio diogelwch cronfeydd dŵr er mwyn datblygu set o gynigion newydd ar ddiogelwch cronfeydd dŵr.

Mae rhagor o wybodaeth am yr holl uchafbwyntiau hyn, ynghyd â chyflawniadau allweddol eraill, wedi'i chynnwys yn yr adroddiad hwn.

Cyflwyniad

Mae'r adroddiad blynyddol hwn yn cynnwys manylion am ein cyflawniadau allweddol a’n hamcanion o safbwynt rheoli perygl llifogydd ac erydu arfordirol ar gyfer y flwyddyn ariannol 2024/25. Ceir manylion ynddo am y gweithgareddau sy'n cyfrannu at reoli perygl llifogydd yng Nghymru ac mae hefyd yn rhoi sylw i fetrigau ac ystadegau allweddol sy'n dangos y lefel o ymdrech sydd ynghlwm wrth reoli perygl llifogydd ynghyd â graddfa'r her a wynebir.

Nid yw'r adroddiad hwn yn cwmpasu pob gweithgaredd neu faes gwasanaeth yn fanwl, a bwriedir iddo fod yn grynodeb o uchafbwyntiau blwyddyn ariannol 2024/25. Mae'r wybodaeth a’r data a gyflwynir yn yr adroddiad hwn yn seiliedig ar y data a oedd ar gael ar adeg llunio'r crynodeb hwn (gwanwyn/haf 2025). Bydd yr adroddiad hwn yn gyhoeddiad blynyddol parhaol a bydd yn cyd-fynd â chyflwyno'r adroddiad cynnydd nesaf ar Strategaeth Rheoli Perygl Llifogydd ac Erydu Arfordirol Llywodraeth Cymru (sef ‘adroddiad Adran 18’, sy'n ofynnol o dan adran 18 o'r Ddeddf Llifogydd a Rheoli Dŵr).

Stormydd a llifogydd a brofwyd dros y flwyddyn ddiwethaf (Ebrill 2024 – Mawrth 2025)

Bob blwyddyn, rydym yn cynllunio'r gwaith rydym am ei gyflawni er mwyn rheoli perygl llifogydd. Ar ben hynny, rhaid i ni ymateb i ddigwyddiadau llifogydd pan fônt yn digwydd. Gallai ein gwaith fod yn ymatebol er mwyn rheoli'r digwyddiad llifogydd ar y pryd, neu gallai achosi gwaith ychwanegol y bydd angen i ni ei gyflawni. Mae’r adran hon yn rhoi crynodeb o’r digwyddiadau llifogydd a stormydd mwyaf nodedig y gwnaethom ymateb iddynt yn ystod y flwyddyn, gan gynnwys y rhai a achosodd aflonyddwch neu ddifrod sylweddol i gymunedau.

Rydym yn monitro ac yn ymateb i lifogydd pryd bynnag y maent yn digwydd – 24 awr y dydd, saith niwrnod yr wythnos, bob dydd o’r flwyddyn. Mae hyn yn cynnwys olrhain rhagolygon, cyhoeddi rhybuddion, sicrhau bod asedau llifogydd a hydrometreg yn gweithredu’n iawn, postio’r wybodaeth ddiweddaraf ar ein gwefan, delio â chyfweliadau ac ymholiadau gan y cyfryngau, cefnogi sefydliadau eraill sy’n ymateb i ddigwyddiadau, a thrwsio difrod a achoswyd i amddiffynfeydd ar ôl stormydd. Pan fo digwyddiad yn codi, ceir effaith amlwg ar ein gallu i gyflawni gwaith arall a gynlluniwyd wrth i ni ymateb i'r heriau y mae pob digwyddiad tywydd difrifol yn ei gyflwyno, a hynny yn ystod y digwyddiadau hyn a'r cyfnod sy'n eu dilyn, wrth i ni ddelio â'r effeithiau a'r canlyniadau.

Stormydd 2024/25

Oherwydd bod yr adroddiad hwn yn ymwneud â’r flwyddyn ariannol o fis Ebrill 2024 i fis Mawrth 2025, mae’n ymwneud â dau dymor stormydd. Mae tymhorau stormydd yn rhedeg o fis Medi i'r mis Awst canlynol. Er ei bod yn anarferol cael stormydd ag enwau rhwng mis Ebrill a mis Awst mewn unrhyw flwyddyn benodol, yn 2024 roedd dau, a oedd yn rhan o'r 12 storm ag enwau ar gyfer cyfnod stormydd 2023/24. Dyma'r tro cyntaf i'r DU gael cynifer o stormydd ag enwau mewn tymor stormydd ers i enwi stormydd ddechrau yn 2015. Ar gyfer tymor stormydd 2024/25, sydd heb orffen ar adeg ysgrifennu'r adroddiad hwn, hyd yn hyn bu pum storm ag enwau, gyda stormydd Bert a Darragh yn arwain at yr effeithiau mwyaf arwyddocaol yng Nghymru.  Roedd saith storm wedi'u henwi yn y flwyddyn ariannol sy'n cael ei chynnwys yn yr adroddiad hwn.

Mae'r adran isod yn disgrifio'r stormydd a gafodd effeithiau yng Nghymru.

Storm Kathleen, 6 i 7 Ebrill 2024

Roedd Storm Kathleen yn storm anarferol o ddifrifol am yr adeg o'r flwyddyn gyda gwyntoedd cryf iawn, yn enwedig mewn ardaloedd arfordirol, ac roedd hefyd yn cyd-daro â chyfnod y llanw mawr a glaw trwm. Effeithiodd yr amodau stormus yn arbennig ar rannau’r Gorllewin a’r Gogledd, lle cyhoeddwyd sawl rhybudd llifogydd mewn ymateb i'r amodau gwael ar yr arfordir. Cafodd 35 o eiddo lifogydd mewnol.

Storm Lilian, 22 i 23 Awst 2024

Storm Lilian oedd y ddeuddegfed storm a'r storm olaf yn nhymor stormydd 2023/24 a'r tro cyntaf i stormydd ag enwau gyrraedd y llythyren ‘L’ mewn unrhyw dymor stormydd. Storm Lilian oedd y storm wynt fwyaf arwyddocaol ym mis Awst i effeithio ar y DU ers stormydd Ellen a Francis ym mis Awst 2020. Effeithiodd gwyntoedd cryf ar ardaloedd arfordirol o amgylch Cymru, gan arwain at gyhoeddi rhybuddion llifogydd a hysbysiadau i fod yn barod am lifogydd.

Storm Ashley, 20 i 21 Hydref 2024

Storm Ashley oedd storm gyntaf tymor stormydd 2024/25 a daeth â glaw trwm a gwyntoedd cryf iawn ledled Cymru, ond gan effeithio'n bennaf ar ardaloedd a chymunedau arfordirol. Profwyd llifogydd o’r môr o amgylch yr arfordir, gan gynnwys yng nghymunedau arfordirol y Borth, Amroth ac Aberystwyth.

Storm Bert, 22 i 25 Tachwedd 2024

Dros benwythnos 23 a 24 Tachwedd 2024, daeth Storm Bert â chyfnod o dywydd gwlyb a gwyntog iawn i Gymru. Roedd cyfansymiau glawiad eang o 50 i 100 mm ledled Cymru, gyda dros 150 mm o law yn ardaloedd gwlypaf yr ucheldir. Mewn sawl lle yn y De, roedd y glawiad yn y cyfnod o dridiau rhwng 22 a 24 Tachwedd yn 70% neu'n uwch na glawiad cyfartalog mis Tachwedd.  23 Tachwedd oedd y diwrnod gwlypaf yn y DU ers mis Hydref 2020 a'r deuddegfed gwlypaf yng nghyfres y DU o 1891. Arweiniodd y swm hwn o law a oedd yn disgyn ar ddalgylchoedd a oedd eisoes yn wlyb at rai afonydd yn y De yn cyrraedd eu lefelau uchaf erioed.

Mae dalgylchoedd â llethrau serth, fel Cymoedd y De, yn ymateb yn gyflym iawn i gawodydd trwm. Daeth Storm Bert â glaw trwm iawn a oedd yn anodd iawn rhagweld yn union ble y byddai'n effeithio. Ymatebodd afonydd yn nalgylch afon Taf yn hynod o gyflym i’r glawiad, gan roi ond ychydig o amser paratoi i gyhoeddi rhybuddion. Fe wnaethom gyhoeddi 65 o hysbysiadau i fod yn barod am lifogydd yn y cyfnod cyn y storm i rybuddio trigolion bod llifogydd yn bosibl. Fe wnaethom gyhoeddi 68 o rybuddion llifogydd a dau rybudd llifogydd difrifol yn nes at y digwyddiadau, pan oedd mwy o sicrwydd yn y rhagolygon a’r lleoliadau.

Ffigur 1: Lefelau afonydd a gofnodwyd ar gyfer afon Taf ym Mhontypridd yn ystod Storm Bert (y llinell ar gyfer y lefelau uchaf a gofnodwyd yn ddiweddar oedd o Storm Dennis yn 2020)

 

Yn ystod Storm Bert, profodd mwy na 700 o gartrefi ledled Cymru lifogydd, gyda Phontypridd, yr effeithiwyd arni’n wael yn ystod Storm Dennis yn 2020, unwaith eto yn un o'r cymunedau yr effeithiwyd arni waethaf. Digwyddodd tirlithriad yng Nghwmtyleri, Blaenau Gwent, gyda thomen lo nas defnyddir yn cwympo’n rhannol, gan orfodi gwacáu tua 40 o gartrefi oherwydd bod creigiau a mwd yn llifo i strydoedd preswyl. Yn ogystal, agorodd llync-dwll mawr ar stryd breswyl ym Merthyr Tudful ar ôl i gwlfer dan ddaear gael ei ddifrodi gan glogfeini.

O ganlyniad i Storm Bert, arweiniodd llifogydd a difrod i’r seilwaith at amhariad eang ar y rheilffyrdd, gan gynnwys cau rheilffyrdd Calon Cymru a’r Gororau. Cafodd llawer o ffyrdd eu cau hefyd oherwydd llifogydd a thirlithriadau, gan gynnwys yr A479 ym Mhowys a’r A4042 yn Sir Fynwy.

Oddi mewn i ymdrechion cyfunol amrywiaeth o sefydliadau, gweithiodd staff CNC yn ddiflino drwy gydol y cyfnod hwn, gan ddefnyddio eu sgiliau a’u profiad i ymateb yn broffesiynol i ddigwyddiadau. Gweithiodd ein staff i olrhain rhagolygon, cyhoeddi rhybuddion, sicrhau bod asedau hydrometreg llifogydd yn gweithredu’n iawn, trwsio atgyweiriadau, postio’r wybodaeth ddiweddaraf ar ein gwefan a thudalennau cyfryngau cymdeithasol, delio â chyfweliadau ac ymholiadau yn y cyfryngau, a chefnogi sefydliadau eraill a ymatebodd i ddigwyddiadau, gan gynnwys awdurdodau lleol, gwasanaethau brys a chwmnïau cyfleustodau.

Storm Darragh, 6 i 7 Rhagfyr 2024

Daeth Storm Darragh â gwyntoedd cryf iawn i’r Gorllewin ac ardaloedd arfordirol ar hyd arfordir y De, gan arwain at rybudd tywydd coch prin yn cael ei gyhoeddi gan y Swyddfa Dywydd. Cyhoeddodd Llywodraeth y DU rybudd brys dros y ffôn i'r ardaloedd yr effeithiwyd arnynt hefyd. Dyma'r tro cyntaf i'r system hon gael ei defnyddio ers ei chyflwyno yn 2023.

Cyrhaeddodd Storm Darragh bythefnos yn unig ar ôl Storm Bert, felly roedd y perygl o lifogydd hefyd yn bryder wrth i Storm Darragh ddod â 50 i 100 mm o law i ardaloedd ucheldir Cymru ar ddalgylchoedd a oedd eisoes yn dirlawn. Roedd aflonyddwch eang i deithio, a difrod i adeiladau a seilwaith. Fe wnaeth y gwyntoedd dinistriol ddifrodi seilwaith pŵer yn sylweddol, gyda mwy na 259,000 o gartrefi heb bŵer ar anterth yr aflonyddwch i'r rhwydwaith trydan. Er i ni gyhoeddi 110 o hysbysiadau i fod yn barod am lifogydd a 41 o rybuddion llifogydd drwy gydol Storm Darragh, diolch byth, nid oedd effeithiau llifogydd yn eang. Fodd bynnag, roedd llawer o ddifrod i ystad goetir CNC, gyda darnau mawr o goed wedi cwympo mewn ardaloedd eang ledled Cymru, yn ogystal â difrod i ffyrdd coedwig a llwybrau mynediad, cerdded a beicio mynydd.

Y Rhaglen Gwella Rheoli Perygl Llifogydd

Mae ein gwasanaeth Rheoli Perygl Llifogydd yn ceisio lleihau’r perygl o lifogydd i gymunedau Cymru drwy amrywiaeth o weithgareddau ar draws y busnes sy’n cwmpasu gwaith gweithredol a gwaith sy’n cael ei lywio gan bolisïau. Er mwyn cefnogi’r gwaith hwn, sefydlwyd y Rhaglen Gwella Rheoli Perygl Llifogydd strategol ym mis Ionawr 2020. Mae’r rhaglen wella wedi’i strwythuro i sicrhau bod yr holl waith prosiect a wneir y tu allan i brosiectau adeiladu neu weithgareddau ‘busnes fel arfer’ yn cael ei ganoli o fewn un rhaglen, gan sicrhau tryloywder, cysondeb ac effeithiolrwydd o ran nodi a chyflawni gwelliannau ac arbedion effeithlonrwydd ar draws y gwasanaeth. Nod ein rhaglen yw gwella’n barhaus er mwyn sicrhau gwasanaeth mwy gwydn ar gyfer y dyfodol.

Ar ddiwedd mis Mawrth 2025, roedd 16 o brosiectau byw o fewn y rhaglen. Dros y flwyddyn ddiwethaf, mae nifer o brosiectau wedi'u cwblhau, gan gynnwys prosiect y Model Dyrannu Refeniw ar Sail Risg, prosiect gwella dealltwriaeth a hygyrchedd y Gofrestr Risgiau Cymunedol, a phrosiect TGCh i drosglwyddo galwadau Cymraeg sy’n cael eu gwneud i’r gwasanaeth Floodline. Mae llawer o'r prosiectau o'r Rhaglen Gwella Rheoli Perygl Llifogydd i’w gweld yn y penodau pwnc perthnasol yn yr adroddiad blynyddol hwn.

Mae'r rhaglen hon bellach yn cynnwys hefyd weddill camau gweithredu'r Rhaglen Adfer ac Adolygu Llifogydd a drosglwyddwyd i'r rhaglen hon ym mis Ebrill 2024.  At ei gilydd, trosglwyddwyd 12 o gamau gweithredu i'r rhaglen hon i'w cwblhau erbyn diwedd 2025. Erbyn diwedd mis Mawrth 2025, roedd pedwar wedi'u cwblhau a'u cymeradwyo. Er bod y rhan fwyaf o'r wyth cam gweithredu sy'n weddill ar y trywydd iawn i'w cwblhau fel y rhagwelwyd, mae'n debygol y bydd dau yn cael eu gohirio tan 2026/27 oherwydd y dibyniaeth ar adnoddau a llwybrau cyflenwi TGCh sydd heb eu sicrhau.

Deall a dadansoddi perygl llifogydd

Mae'r maes gwaith hwn yn cynnwys yr holl ymdrechion i gynyddu ein dealltwriaeth o berygl llifogydd yng Nghymru, a hynny'n bennaf drwy ein gweithgareddau dadansoddi hydrolegol a modelu perygl llifogydd. Mae hefyd yn cynnwys sut yr ydym yn cyfleu'r perygl llifogydd hwnnw i randdeiliaid drwy ein cynhyrchion mapio llifogydd a'n gwasanaethau gwefan. Ei ddiben yw cynyddu ein dealltwriaeth o berygl llifogydd, llywio pob un o'n gweithgareddau eraill, a'u cyfarwyddo, ac i hysbysu ein rhanddeiliaid am eu perygl llifogydd perthnasol.

Mae gennym bwerau i reoli llifogydd o brif afonydd, o'n cronfeydd dŵr, ac o'r môr. Mae gennym hefyd rôl oruchwylio strategol gyda goruchwyliaeth gyffredinol dros yr holl faterion sy’n ymwneud â rheoli perygl llifogydd ac erydu arfordirol. Mae hyn yn golygu cael dealltwriaeth gyson, ar draws Cymru gyfan, o bob ffynhonnell llifogydd ac erydu arfordirol, a'r risgiau sy'n gysylltiedig â nhw, er mwyn darparu cyngor i Lywodraeth Cymru yn ogystal â helpu i hysbysu'r Awdurdodau Rheoli Perygl a'r cyhoedd. Fel rhan o'n rôl drosolwg strategol, rydym yn gwneud gwaith mapio perygl llifogydd ac erydu arfordirol ar gyfer pob ffynhonnell o berygl llifogydd.

Beth sydd mewn perygl o lifogydd yng Nghymru nawr?

Ym mis Ebrill 2025, roedd cyfanswm yr adeiladau yng Nghymru heb eu hamddiffyn ac felly mewn perygl o lifogydd yn 342,436. Gall rhai adeiladau fod mewn perygl o lifogydd o fwy nag un ffynhonnell, ac felly gan osgoi cyfri’r adeiladau sydd mewn perygl o ffynonellau lluosog fwy nag unwaith, amcangyfrifir bod 274,000 o adeiladau mewn perygl o lifogydd yng Nghymru ar hyn o bryd. Mae Tablau 1-3 isod yn dangos y dadansoddiad yn ôl ffynhonnell llifogydd, math o eiddo a band perygl llifogydd. 

Rydym wedi gwneud gwelliannau i’n gwybodaeth a’n dealltwriaeth o berygl llifogydd sydd wedi arwain at newidiadau yn y ffordd yr ydym yn modelu ac yn cyfrifo eiddo sydd mewn perygl o lifogydd. Mae hyn, ynghyd â chynnwys carafannau sefydlog yn ein cyfrif am y tro cyntaf, wedi arwain at gynnydd yn nifer yr eiddo sydd mewn perygl o lifogydd ers cynnal y diweddariad mawr diwethaf.

Mae'r tablau canlynol yn dangos dosbarthiad yr adeiladau fesul lefel perygl a ffynhonnell, ar sail ffigurau cywir ym mis Ebrill 2025.

Tabl 1: Nifer yr adeiladau preswyl, yr adeiladau dibreswyl, a'r gwasanaethau allweddol mewn perygl o lifogydd yng Nghymru o afonydd.

Categori perygl llifogydd Eiddo preswyl mewn perygl o ddioddef llifogydd Eiddo dibreswyl mewn perygl o ddioddef llifogydd Gwasanaethau allweddol* mewn perygl o ddioddef llifogydd Cyfanswm mewn perygl o ddioddef llifogydd
Afonydd (uchel) 25,126 3,074 787 28,897
Afonydd (canolig) 17,172 2,528 486 20,186
Afonydd (isel) 48,409 6,988 1,361 56,758
Cyfanswm afonydd 91,102 12,630 2,745 106,477


Tabl 2: Nifer yr adeiladau preswyl, yr adeiladau dibreswyl, a'r gwasanaethau allweddol mewn perygl o lifogydd yng Nghymru o’r môr.

Categori perygl llifogydd Eiddo preswyl mewn perygl o ddioddef llifogydd Eiddo dibreswyl mewn perygl o ddioddef llifogydd Gwasanaethau allweddol* mewn perygl o ddioddef llifogydd Cyfanswm mewn perygl o ddioddef llifogydd
Môr (uchel) 56,759 5,913 1,194 63,866
Môr (canolig) 13,638 2,097 458 16,193
Môr (isel) 9,884 1,429 335 11,648
Cyfanswm y môr 80,281 9,439 1,987 91,707


Tabl 3: Nifer yr adeiladau preswyl, yr adeiladau dibreswyl, a'r gwasanaethau allweddol mewn perygl o lifogydd yng Nghymru o ddŵr wyneb a chyrsiau dŵr bychain.

Dŵr wyneb a chyrsiau dŵr bach Eiddo preswyl mewn perygl o ddioddef llifogydd Eiddo dibreswyl mewn perygl o ddioddef llifogydd Gwasanaethau allweddol* mewn perygl o ddioddef llifogydd Cyfanswm mewn perygl o ddioddef llifogydd
Uchel 34,977 3,877 1,015 39,869
Canolig 18,057 2,188 533 20,778
Isel 74,042 7,562 2,001 83,605
Cyfanswm 127,076 13,627 3,549 144,252


* Mae gwasanaethau allweddol yn cynnwys mathau o eiddo sy'n ymwneud ag addysg, gwasanaethau iechyd, trafnidiaeth, cyfleustodau a gwasanaethau brys.

Mae gennym nifer o brosiectau ar y gweill i helpu i wella ein dealltwriaeth a'n cyfathrebu am berygl llifogydd a disgrifir y rhain isod.

Beth sydd mewn perygl o lifogydd yng Nghymru yn y dyfodol?

Ledled Cymru, rhagwelir y bydd dros 131,000 o eiddo mewn perygl o lifogydd o’r môr a bron 131,000 o eiddo mewn perygl o lifogydd o afonydd erbyn 2120. Mae hyn yn gynnydd o dros 40,000 eiddo sydd mewn perygl o lifogydd o’r môr a chynnydd o fwy na 24,000 eiddo sydd mewn perygl o lifogydd o afonydd. Bydd hefyd 48,000 yn fwy o eiddo mewn perygl o lifogydd yn sgil dŵr wyneb a nentydd bach.

Mae rhagamcanion hinsawdd yn dangos y byddwn yn gweld cynnydd yn amlder a dwyster digwyddiadau tywydd eithafol, gan gynnwys stormydd yn yr haf a chyfnodau gwlyb estynedig yn ystod y gaeaf. Bydd hyn yn cynyddu llifoedd brig yn ein hafonydd, a disgwylir y bydd hyn yn cynyddu'r risg o fflachlifogydd. Mae llifogydd o'r fath yn anodd iawn eu rhagolygu a'u rhagweld a gall fod yn heriol iawn eu rheoli.

Mae rhagamcanion hinsawdd hefyd yn awgrymu y bydd lefel y môr yn codi ym mhob senario allyriadau ac ym mhob lleoliad o amgylch y DU. Bydd ardaloedd arfordirol yn fwyfwy agored i effaith gynyddol y tonnau ac erydu arfordirol cyflymach sy'n gysylltiedig â’r newid yn yr hinsawdd. Bydd yr effeithiau hyn nid yn unig yn effeithio ar gymunedau arfordirol sy'n byw ac yn gweithio mewn ardaloedd arfordirol, a seilwaith sydd wedi'i leoli ar yr arfordir, ond byddant hefyd yn effeithio ar y nifer o gynefinoedd naturiol pwysig a safleoedd treftadaeth sydd wedi'u lleoli ar hyd ein harfordir. 

Wrth gwrs, nid yw rhagamcanion newid hinsawdd yn sicr ac fe'u cyflwynir fel arfer ar ffurf ystod o werthoedd. Rydym wedi cyfrifo perygl llifogydd yn y dyfodol ar sail Canllawiau Ymaddasu i Newid yn yr Hinsawdd Llywodraeth Cymru ac, er symlrwydd, rydym wedi defnyddio'r amcangyfrifon newid hinsawdd canolog i gynhyrchu'r canlyniadau a ddangosir yma. Sylwch, ar gyfer ein gwaith modelu manwl ar gyfer cynlluniau perygl llifogydd, yn enwedig ar lefel leol, byddwn yn modelu ystod o senarios.

Mae’r tablau a ganlyn yn dangos lefel y risg a’r ffynhonnell ar draws Cymru, pe na bai unrhyw amddiffynfeydd yn bresennol, ar gyfer 2025 a 2120. Mae’r data hwn yn gywir ym mis Ebrill 2025.

Tabl 4: Niferoedd sydd mewn perygl o lifogydd o afonydd ar gyfer 2025 a 2120 a’r gwahaniaeth a ragwelir ar draws Cymru.

Llifogydd o afonydd Preswyl Dibreswyl *Gwasanaethau allweddol Cyfanswm
2025 91,102 12,630 2,745 106,477
2120 112,032 15,556 3,381 130,969
Gwahaniaeth +20,930 +2,926 +636 +24,492


Tabl 5: Yn dangos y niferoedd sydd mewn perygl o lifogydd o’r môr ar gyfer 2025 a 2120, a’r gwahaniaeth a ragwelir ar draws Cymru.

Llifogydd o'r môr Preswyl Dibreswyl *Gwasanaethau allweddol Cyfanswm
2025 80,281 9,439 1,987 91,707
2120 113,735 14,421 3,345 131,501
Gwahaniaeth +33,454 +4,982 +1,358 +39,794


Tabl 6: niferoedd sydd mewn perygl o lifogydd o ddŵr wyneb a nentydd bach ar gyfer 2025 a 2120 a’r gwahaniaeth a ragwelir ar draws Cymru.

Llifogydd o ddŵr wyneb a chyrsiau dŵr bach Preswyl Dibreswyl *Gwasanaethau allweddol Cyfanswm
2025 127,076 13,627 3,549 144,252
2120 170,661 17,413 4,679 192,753
Gwahaniaeth +43,585 +3,789 +1,130 +48,501


* Mae gwasanaethau allweddol yn cynnwys mathau o eiddo sy'n ymwneud ag addysg, gwasanaethau iechyd, trafnidiaeth, cyfleustodau a gwasanaethau brys.

Prosiect rheoli data Asesiad Perygl Llifogydd Cymru (FRAW)

Gwnaethom welliannau i'r Model Tirwedd Digidol, y Gronfa Ddata Derbynyddion Genedlaethol, y Gronfa Ddata Effeithiau, y Gofrestr Cymunedau mewn Perygl a'r Set Offer Economaidd fel rhan o ddiweddariad eleni ar gyfer Asesiad Perygl Llifogydd Cymru. Gwnaethom hefyd waith dadansoddi ar ddata mewnbwn a'r Model Tirwedd Digidol i helpu i wella modelau Map Llifogydd Cymru yn y blynyddoedd i ddod. Mae'r gwelliannau hyn i'n hoffer cenedlaethol yn helpu i wella ein dealltwriaeth o risg ac yn darparu tystiolaeth ategol ar gyfer amrywiaeth o offer, prosiectau a mentrau cenedlaethol.

Diweddaru map llifogydd Cymru

Diweddarwyd map llifogydd Cymru ym mis Mai a mis Tachwedd 2024 ar gyfer afonydd, y môr a pharthau a amddiffynnir o dan Nodyn Cyngor Technegol 15 yn unol â gofyniad Strategaeth Rheoli Perygl Llifogydd ac Erydu Arfordirol Llywodraeth Cymru iddo gael ei ddiweddaru bob chwe mis. Mae nifer o leoliadau ledled Cymru wedi cael eu diweddaru gyda gwybodaeth fodelu well, gan gynnwys afon Elwy yn Llanfair Talhaearn, afon Rhymni yn Ystrad Mynach a'r ardaloedd llanw i'r gogledd a'r de o Abersoch.

Fersiwn 2024 o’r Gofrestr Cymunedau mewn Perygl wedi'i rhyddhau

Fe wnaethon ni ryddhau fersiwn wedi'i diweddaru o'r Gofrestr Cymunedau mewn Perygl ym mis Ionawr 2025 ynghyd â rhyddhau'r Gofrestr Cymunedau mewn Perygl Newid Hinsawdd am y tro cyntaf. Fel rhan o’r diweddariad hwn, gwnaethom greu tudalen we ar wefan Cyfoeth Naturiol Cymru sy'n anelu at wella dealltwriaeth o'r Gofrestr Cymunedau mewn Perygl, gan gynnwys beth ydyw a sut mae'n cael ei defnyddio. Ynghyd â hyn, fe wnaethom ni ddarparu gwybodaeth well ar gyfer Awdurdodau Rheoli Risg wrth greu pecyn data Cofrestr Cymunedau mewn Perygl newydd.

Data agored ar gyfer modelau

Rydym wedi ymgymryd â gwaith eleni i ddatblygu dull tuag at fodel data agored lle na fydd ffi ariannol am unrhyw ddata model llifogydd a rennir yn allanol gan Cyfoeth Naturiol Cymru. Mae'r gwaith hwn yn cynnwys datblygu dull clir a chyson o storio a rhannu data a ddylai alluogi data mapio a modelu perygl llifogydd i fod ar gael yn haws i’r cyhoedd ei ddefnyddio.

Dull dŵr wyneb a chyrsiau dŵr bach

Rydym wedi gweithio i wella ein prosesau fel ein bod yn gallu diweddaru'r haen dŵr wyneb a chyrsiau dŵr bach ar y Map Llifogydd yn amlach. Mae'r gwelliannau'n golygu y gall Awdurdodau Rheoli Risg sydd â data neu fodelau gwell gael y rhain wedi'u hymgorffori bellach, gan greu Map Llifogydd mwy cywir.

Cynnwys tonnau'n gorlifo o fewn setiau data perygl llifogydd o'r môr

Fe ddechreuon ni raglen o waith i ymgorffori risg tonnau’n gorlifo yn ein mapiau perygl o lifogydd o’r môr ar gyfer y cymunedau lle mae’r risg fwyaf. Ar hyn o bryd, dim ond lefel y môr eithafol y mae'r mapiau hyn yn ei dangos felly, trwy gynnwys tonnau'n gorlifo, byddwn yn gallu rhoi darlun mwy cywir o berygl llifogydd, yn enwedig ar gyfer lleoliadau arfordirol agored. Rydym wedi cwblhau camau 1 a 2, sy'n cwmpasu cymunedau o’r Borth i Abersoch, ac mae'r data hwn wedi'i gynnwys yn setiau data Asesiad Perygl Llifogydd Cymru a’r Map Llifogydd ar gyfer Cynllunio. Bydd y gwaith hwn yn parhau drwy gydol 2025 ar gyfer y rhannau sy'n weddill o arfordir Gogledd Cymru.

Lwfansau Newid yn yr Hinsawdd

Rydym wedi gweithio gyda Llywodraeth Cymru i ddiweddaru'r canllawiau newid hinsawdd i'w defnyddio mewn cynlluniau rheoli perygl llifogydd ac erydu arfordirol ac at ddibenion rheoli datblygu.  Mae'r gwaith hwn yn parhau yn 2025/26. Bydd y newidiadau'n cynnwys lwfansau wedi'u diweddaru ar gyfer llifoedd brig afonydd a digwyddiadau glaw eithafol yn seiliedig ar allbynnau o Rhagolygon Hinsawdd y DU 18. Mae'n debygol y bydd cynnydd cyffredinol o tua 10% ar y gwerthoedd cyfredol ar gyfer llifoedd brig afonydd ac ymgodiadau glawiad. Bydd cymhwyso'r lwfansau diwygiedig yn helpu Awdurdodau Rheoli Risg a datblygwyr i ddeall yn well effeithiau llifoedd a glawiad cynyddol ar y perygl o lifogydd ledled Cymru. Disgwylir y bydd y lwfansau diwygiedig yn cael eu cyhoeddi i'w defnyddio gan y cyhoedd yn ddiweddarach yn 2025. Ar ôl ei gyhoeddi, bydd angen i ni ystyried pa newidiadau a allai fod eu hangen i ddiweddaru ein cynhyrchion Map Llifogydd. 

Gwelliannau i waith modelu lleol

Rydym wedi datblygu nifer o welliannau i waith modelu lleol dros y flwyddyn ddiwethaf. Mae’r rhain yn cynnwys prosiectau i wella gwaith modelu yn y lleoliadau canlynol: Glyn-nedd (Castell-nedd Port Talbot), Meifod a chydlifiad afon Hafren ac afon Efyrnwy (Powys), Rhyd-y-mwyn a'r Wyddgrug (Sir y Fflint), a Chwm Rhondda (Rhondda Cynon Taf).

Rheoli asedau perygl llifogydd

Mae'r maes gwaith hwn yn cynnwys yr holl weithgareddau sy’n ymwneud â rheoli ein hasedau perygl llifogydd. Mae hyn yn cynnwys gwaith adeiladu ar gyfer cynlluniau lliniaru llifogydd newydd, gwaith cynnal a chadw adeileddau sydd eisoes yn bodoli a deall eu cyflwr, rheoli data asedau, a chynllunio ar gyfer gofynion gwaith yn y dyfodol. Ei ddiben yw sicrhau bod ein hasedau perygl llifogydd yn cael eu rheoli mewn modd effeithiol ac effeithlon, ceisio cyfleoedd i leihau perygl llifogydd drwy adeiladu asedau newydd, a sicrhau bod ein hasedau'n barod i berfformio fel y disgwylir yn ystod llifogydd, a bod y gallu ganddynt i wneud hynny.

Asedau newydd

Yn ystod 2024/25, rydym wedi cynnal a lleihau lefel y perygl llifogydd i 1,888 o adeiladau, sy’n helpu i gefnogi uchelgais Rhaglen Lywodraethu Llywodraeth Cymru o ariannu amddiffyniad ychwanegol rhag llifogydd ar gyfer mwy na 45,000 o gartrefi. Rydym wedi cynyddu amddiffyniad i 1,032 eiddo trwy gwblhau cynllun cyfalaf newydd sylweddol yn Stryd Stephenson, Llyswyry (Casnewydd). Rydym hefyd wedi cwblhau cynllun yn Sandycroft, Sir y Fflint, sydd wedi cynyddu'r safon amddiffyn i 218 o eiddo, ac wedi cynnal y safon amddiffyn i 856 o eiddo trwy ystod eang o brosiectau cynnal a chadw cyfalaf.

Mae buddsoddi yn ein hasedau perygl llifogydd presennol yn hanfodol er mwyn cynnal y lefel bresennol o amddiffyniad y maent yn eu darparu i'r cymunedau sy'n elwa arnynt. Fel rheol, mae angen y buddsoddiad er mwyn ymestyn neu gyflawni oes bywyd dylunio'r ased, ac mae fel arfer yn golygu gwaith atgyweirio ac adfer sylweddol ar adeileddau sydd eisoes yn bodoli.

Ochr yn ochr â chwblhau'r cynlluniau hyn yn Stryd Stephenson a Sandycroft, rydym wedi gwneud cynnydd sylweddol ar nifer o gynlluniau mawr ar gamau gwahanol yn eu datblygiad yn ystod 2024/25. Bydd y cynlluniau hyn yn ffurfio mwyafrif ein gwariant cyfalaf yn y blynyddoedd i ddod ac yn cynnwys lleoliadau ledled Cymru fel Pwllheli a Phorthmadog (Gwynedd), Aberteifi (Ceredigion), afon Ritec, Dinbych-y-pysgod (Sir Benfro), a chynllun strategol i reoli llifogydd yn nalgylch afon Taf (Merthyr, Rhondda Cynon Taf a Chaerdydd). Yn y tymor hir, disgwylir i'r rhain fod o fudd i dros 3,000 o eiddo pan fyddant wedi'u cwblhau.

Astudiaeth achos – cynllun lliniaru llifogydd yn Stryd Stephenson, Llyswyry, Casnewydd

Stryd Stephenson yw ein cynllun llifogydd mwyaf a mwyaf cymhleth erioed. Gan ystyried newid hinsawdd yn y dyfodol, bydd mwy na 1,100 o gartrefi a 1,000 o eiddo dibreswyl yn cael eu diogelu'n well rhag llifogydd llanw ar draws Llyswyry a’r cynllun bellach wedi'i gwblhau. Mae tua 2 km o amddiffynfeydd uchel (byndiau llifogydd, waliau pentwr dalennau a waliau concrit wedi'u hatgyfnerthu) wedi'u hadeiladu o fewn y gyllideb a'r rhaglen yn y lleoliad trefol cymhleth, wrth ymyl morfa heli sensitif o bwys cenedlaethol, busnesau a chyfleustodau. Mae ein dull cydweithredol ac arloesol wedi galluogi darparu atebion cynaliadwy, carbon isel yn ogystal ag adnabod a defnyddio cadwyn gyflenwi leol yn gynnar. Mae'r dyluniad wedi'i adeiladu mewn modd effeithlon sy'n sensitif i'r amgylchedd, ac mae'n diogelu llesiant cenedlaethau'r dyfodol. Mae'r cynllun hefyd yn darparu gwelliannau i'r rhan gyfagos o lwybr eiconig Llwybr Arfordir Cymru a mannau gwyrdd cymunedol. Mae'r cynllun hefyd yn cefnogi natur drwy blannu coed a blodau gwyllt a chreu ardaloedd coedwig trefol a chynefinoedd gwely cyrs.

Ffigur 2: Llun yn dangos adeiladu amddiffynfa rhag llifogydd Stryd Stephenson

 

Rheoli asedau

Rydym yn ymgymryd â rhaglen o waith archwilio a chynnal a chadw rheolaidd er mwyn sicrhau bod ein hasedau perygl llifogydd yn addas i'r diben. Rydym yn cynnal dros 3,900 o asedau rheoli perygl llifogydd – gan gynnwys tua 455 km o amddiffynfeydd uchel ledled Cymru.

Ar ddiwedd blwyddyn ariannol 2024/25, cwblhawyd 14,289 o archwiliadau arferol ar asedau yr ydym yn eu harolygu. Yn ogystal, cynhaliwyd 887 o arolygiadau ar ôl digwyddiadau ac ad hoc yn dilyn stormydd. Rydym yn blaenoriaethu archwiliadau asedau ar sail risg, ond mae gwelliannau i'w gwneud i sicrhau bod pob archwiliad yn cael ei gynnal ac yn brydlon. Rydym wedi hyfforddi mwy o arolygwyr asedau i wella hyn yn 2025/26.

Ar ddiwedd y flwyddyn ariannol, canfu ein harchwiliadau fod 97.23% o'n hasedau llifogydd mewn systemau sydd mewn perygl uchel o lifogydd wedi cyrraedd neu'n rhagori ar eu cyflwr gofynnol i gyflawni eu swyddogaeth yn effeithiol. Mae hyn ychydig yn is na'n targed Dangosydd Perfformiad Allweddol corfforaethol o 98%. Mae hwn yn darged treigl, sy'n adlewyrchu’r ffaith ei bod yn anochel na fydd ansawdd rhai asedau gystal â’u cyflwr targed. Mae gwaith atgyweirio neu wella wedi’i amserlennu ar gyfer asedau nad yw eu hansawdd gystal â’u cyflwr targed.

Yn 2024/2025, fe wnaethom ymgymryd â 20,587 o gamau gweithredu unigol fel rhan o'n rhaglen cynnal a chadw arferol. Roedd hyn yn golygu bod ardaloedd amddiffynedig a oedd yn elwa 79,633 o eiddo ledled Cymru wedi derbyn o leiaf 60% o'r anghenion cynnal a chadw a nodwyd ar gyfer yr ardaloedd hyn. Er bod y gwaith hwn wedi'i gyfyngu gan yr adnoddau a'r cyllid sydd ar gael i ni, mae blaenoriaethu'r gwaith hwn yn parhau i gael ei wella gan brosiect y Model Dyrannu Refeniw ar Sail Risg a grynhoir isod.

Ochr yn ochr â'n rhaglen o waith cynnal a chadw rheolaidd, mae gennym nifer o brosiectau sy'n mynd rhagddynt i helpu i wella gwaith rheoli asedau o fewn CNC ac awdurdodau rheoli perygl eraill, a disgrifir y rhain isod.

System Rheoli Perygl Llifogydd

Eleni, fel rhan o'n prosiect System Rheoli Asedau Perygl Llifogydd ehangach i wella rheolaeth ein hasedau perygl llifogydd, rydym wedi cyflawni'r Cynllun Rheoli Asedau Strategol. Bydd y Cynllun Rheoli Asedau Strategol yn ein helpu i fabwysiadu dull integredig o reoli asedau rheoli perygl llifogydd ac mae wedi ein galluogi i ddechrau ar y cam nesaf o greu cynlluniau rheoli asedau a'u gweithredu. Bydd y System Rheoli Asedau Perygl Llifogydd yn chwarae rhan allweddol wrth wella effeithlonrwydd y ffordd yr ydym yn rheoli ein hasedau rheoli perygl llifogydd. Bydd hyn yn dod â nifer o fanteision i'r cyhoedd yng Nghymru ac yn ychwanegu at ddiogelu’r gwaith hwn yn y dyfodol, yn enwedig mewn cyfnodau o newid hinsawdd.

Y Model Dyrannu Refeniw ar Sail Risg

Eleni, fe wnaethom barhau i ymgorffori a gwella'r Model Dyrannu Refeniw ar Sail Risg, sy'n defnyddio ein cronfa ddata rheoli asedau. Nod y gwaith hwn yw blaenoriaethu cynnal a chadw asedau arferol a dyrannu cyllid mewn ffordd fwy effeithlon ac effeithiol, ar sail risg. Mae'n ystyried ffactorau sy’n cynnwys lefel y risg, pa mor hanfodol yw ymgymryd â rhai camau gweithredu, economeg pob cam gweithredu, ac a oes gyrwyr eraill ar gyfer ein gwaith, gan gynnwys ymrwymiadau cyfreithiol. Drwy gydol y flwyddyn hon, rydym wedi parhau i wella'r canllawiau, y safonau a'r manylebau mewn perthynas â'r gwaith hwn. Wrth i ni gasglu mwy o ddata o gyflawni ein gwaith cynnal a chadw, rydym yn gwella'r dystiolaeth a'r rhagdybiaethau a wneir gan y model yn barhaus. Bydd y gwaith hwn yn ein galluogi i sicrhau bod ein gwaith cynnal a chadw yn cael ei flaenoriaethu ar sail risg, gan sicrhau ein bod yn darparu'r gwerth gorau am arian drwy ein gwaith wrth sicrhau ar yr un pryd bod rhwymedigaethau cynnal a chadw yn cael eu cyflawni.

Pwerau caniataol statudol sydd gan Cyfoeth Naturiol Cymru i reoli perygl llifogydd

Rydym wedi cynhyrchu datganiad sefyllfa sy'n egluro ein cylch gwaith mewn perthynas â rheoli perygl llifogydd ac erydu arfordirol, a'r pwerau caniataol sydd gennym o dan Ddeddf Adnoddau Dŵr 1991. Mae hyn yn helpu i esbonio sut rydym yn defnyddio'r pwerau hyn i gymhwyso dull sy'n seiliedig ar risg i reoli perygl llifogydd er mwyn lleihau'r risg o lifogydd i bobl ac eiddo. Gobeithiwn y bydd y datganiad sefyllfa hwn yn helpu ein partneriaid a'n rhanddeiliaid i ddeall ein cylch gwaith a'n pwerau cyfreithiol hefyd a sut rydym yn eu harfer wrth wneud penderfyniadau.

Astudiaeth achos – yr hyn a wnawn – Tîm Gweithlu Integredig Dyfrdwy Isaf

Yn Cyfoeth Naturiol Cymru, mae gennym naw tîm gweithlu integredig ledled Cymru sy'n cyflawni'r gweithgareddau gweithredol sy'n gysylltiedig â chynnal a chadw ein hasedau amddiffyn rhag llifogydd a sicrhau bod yr amddiffyniad maen nhw'n ei ddarparu i gymunedau yn cael ei gynnal. Mae hyn yn cynnwys cyflawni ein rhaglen gynlluniedig o waith cynnal a chadw arferol, yn ogystal â delio â gwaith atgyweirio adweithiol ac ymgymryd â gwaith i gefnogi ein rhaglen gyfalaf. Mae'r timau hyn hefyd yn chwarae rhan hanfodol yn ein gallu i ymateb i ddigwyddiadau, gan sicrhau bod ein hadeileddau'n gallu perfformio'n effeithiol a, lle bo'n berthnasol, eu bod yn cael eu defnyddio yn y mannau cywir ac mewn modd amserol. Wrth i'r timau hyn ymgymryd â gwaith rheoli perygl llifogydd, maent hefyd yn anelu at gyflawni gwelliannau amgylcheddol a lleihau effeithiau ein gwaith ar yr amgylchedd, gan helpu sut mae Cyfoeth Naturiol Cymru yn ymateb i'r argyfwng natur.

Mae Dyfrdwy Isaf yn un o'n timau gweithlu integredig ac mae ganddo 13 o aelodau o'r tîm sy'n cwmpasu ardal ddaearyddol Dyfrdwy Uchaf ac Isaf o'r Bala i aber afon Dyfrdwy. Mae aelodau tîm gweithlu integredig Dyfrdwy Isaf yn unigolion medrus a hyfforddedig iawn sydd â phrofiad mewn sawl disgyblaeth, megis llifiau cadwyn, mannau cyfyng, cerbydau nwyddau trwm, cloddwyr arbenigol, chwistrellu cemegol a gweithrediadau codi. Mae ganddyn nhw hefyd wybodaeth leol amhrisiadwy am eu hardal sy'n hanfodol wrth ymateb yn ystod stormydd.

Drwy gydol 2024/25, ymgymerodd y tîm â'r tasgau canlynol:

  • Cynlluniau cyfalaf bach (gyda gwerth o hyd at £25,000) sydd wedi cyflawni gwelliannau perygl llifogydd i Bretton Drain yn ogystal â chynlluniau lliniaru llifogydd yng Ngwepra, Worthenbury a Bangor-is-y-coed.
  • Ymgymryd â dros 5,600 o weithgareddau cynnal a chadw arferol ar amddiffynfeydd rhag llifogydd megis torri chwyn a thorri glaswellt yn fecanyddol.
  • Darparu ymateb i dros 60 o larymau ymateb i ddigwyddiadau, a oedd yn cynnwys clirio sgriniau sbwriel, gosod a gweithredu pympiau symudol, a chodi systemau rhwystrau llifogydd. Roedd y larymau ymateb hyn yn bennaf yn y nos ac mewn amodau gwaith anodd.

Diogelwch cronfeydd dŵr

Mae dros 400 o gyforgronfeydd dŵr mawr wedi’u cofrestru yng Nghymru sydd â chapasiti o 10,000 metr ciwbig o ddŵr, neu fwy, sydd uwchben lefel naturiol y ddaear ac yn cael eu storio y tu ôl i argae, arglawdd neu strwythur arall. Gall methiant y strwythurau hyn achosi llifogydd, difrod, llygredd, colli cyfleustodau a gall achosi perygl i fywyd.

Ni yw’r awdurdod gorfodi ar gyfer diogelwch cyforgronfeydd dŵr mawr yng Nghymru. Mae gennym ddyletswydd i sicrhau bod y rhai sy’n berchen arnynt, yn eu rheoli neu’n eu gweithredu yn cadw at Ddeddf Cronfeydd Dŵr 1975 ac yn cydymffurfio â hi er mwyn amddiffyn pobl ac eiddo rhag gollyngiadau dŵr heb eu rheoli. Mae’r gyfraith hon yn gosod y safonau gofynnol i sicrhau diogelwch cronfeydd dŵr, yn bennaf i sicrhau bod ymgymerwyr cronfeydd dŵr yn penodi ac yn gweithredu ar gyngor peirianwyr sifil cymwysedig arbenigol.

Rydym hefyd yn rheoli portffolio o gronfeydd dŵr at ddibenion perygl llifogydd a chadwraeth ac yn rheoli cronfeydd dŵr yn Ystad Goetir Llywodraeth Cymru ar ran Gweinidogion Cymru. Ceir disgrifiad o'r gweithgareddau allweddol sy'n rhan o'r ddwy rôl hyn yn yr adran hon.

Ein rôl reoleiddio

Y gofrestr o gyforgronfeydd dŵr mawr

Mae 405 o gyforgronfeydd dŵr mawr wedi'u cofnodi ar y gofrestr gyhoeddus. Dangosir nifer a statws y cronfeydd dŵr hyn dros y pum mlynedd diwethaf yn y tabl isod.

Tabl 7: Nifer a statws cyforgronfeydd dŵr mawr wedi'u cofrestru, fel y'u cofnodwyd ar 31 Mawrth dros gyfnod o bum mlynedd.

Statws 2021 2022 2023 2024 2025
Yn cael eu hadeiladu 8 12 8 8 7
Ar waith 363 384 388 393 397
Wedi’u gadael i fynd yn segur  0 0 1 1 1
Cyfanswm 371 396 397 402 405

Mae'r cyfrifoldeb am ddiogelwch cronfeydd dŵr ac am gydymffurfedd cyfreithiol yn disgyn ar yr ymgymerwyr, sydd fel a ganlyn yng Nghymru:

  • Mae 35% yn gwmnïau dŵr statudol
  • Mae 26% yn dirfeddianwyr preifat
  • Mae 21% yn cael eu rheoli gan gyrff a ariennir yn gyhoeddus:
  • awdurdodau lleol (10%)
  • Cyfoeth Naturiol Cymru (9%)
  • awdurdodau Parciau Cenedlaethol a Cadw (2%)
  • Mae 18% yn cael eu rheoli gan sefydliadau eraill

Gall yr ymgymerwyr ddefnyddio cronfeydd dŵr ar gyfer llawer o ddefnyddiau gwahanol yn ogystal â’i ddiben traddodiadol o gyflenwi dŵr, gan gynnwys cynhyrchu pŵer trydan dŵr, cadwraeth naturiol a threftadaeth, hamdden, rheoleiddio afonydd, rheoli llifogydd ac amwynder cyffredinol.

Ffigur 3: Nifer y cronfeydd dŵr cydymffurfiol ac anghydymffurfiol ym mhob grŵp prif ymgymerwyr a gofnodwyd ar ddiwedd y cyfnod ar 31 Mawrth 2025.

Nifer y cronfeydd dŵr cydymffurfiol ac anghydymffurfiol ym mhob grŵp prif ymgymerwyr a gofnodwyd ar ddiwedd y cyfnod ar 31 Mawrth 2025.


Mae'r gostyngiad mewn perfformiad o ran yr angen am arolygiad wedi digwydd oherwydd amseriad arolygiadau mewn cronfeydd dŵr amddifad, lle nad oes perchennog. Rydym wedi cofnodi hyn fel diffyg cydymffurfio ond wedi cymryd camau i sicrhau bod yr archwiliadau gofynnol yn cael eu cwblhau.

Mae cydymffurfedd â chwblhau mesurau diogelwch statudol yn wael. Gall mesurau diogelwch gynnwys y gofyniad am ymchwiliadau neu arolygon, ac nid yw methu â chydymffurfio yn golygu bod cronfa ddŵr wedyn yn anniogel. Maent yn bwysig, serch hynny, ac mae'r mesur hwn yn dangos nad yw'r gronfa ddŵr yn bodloni'r safon ddisgwyliedig.

Rydym yn cymryd cyngor gan beirianwyr ar ddifrifoldeb y methiant ac, yn ystod y cyfnod, rydym wedi defnyddio pwerau gorfodi i fynnu bod gwaith diogelwch yn cael ei gwblhau ond nid ydym wedi ystyried ei bod yn angenrheidiol cymryd camau brys i osgoi digwyddiad.

Rhaglen ddiwygio

Yn hydref 2024, cadarnhaodd Llywodraeth Cymru ei hymrwymiad i fynd i'r afael â'r argymhellion a wnaed gan yr Athro Balmforth yn ei adroddiad ar sut mae diogelwch cronfeydd dŵr yn cael ei reoleiddio (Reservoir review: part B (2020) – GOV.UK (www.gov.uk)). Mae 15 o argymhellion a 52 o is-argymhellion i'w hystyried.

Rydym wedi cymryd rhan weithredol yn y rhaglen hon i gefnogi Llywodraeth Cymru, Adran yr Amgylchedd, Bwyd a Materion Gwledig (DEFRA), ac Asiantaeth yr Amgylchedd. Rydym yn parhau i ddatblygu'r cynigion hyn er mwyn galluogi ymgynghoriad cyhoeddus maes o law.  Bydd y rhaglen ddiwygio yn ein helpu i symud o gydymffurfedd i ddiogelwch drwy ganolbwyntio ymdrech reoleiddio ar y cronfeydd dŵr hynny sydd â'r risg uchaf.

Adrodd ar ôl digwyddiad

Yn ystod y cyfnod adrodd, fe gofnodwyd pum digwyddiad mewn cyforgronfeydd dŵr mawr. Roedd y digwyddiadau’n golygu bod angen cymryd rhai mesurau rhagofalus. Ymatebodd yr ymgymerwyr i'r digwyddiadau hyn, ac nid oedd angen i ni ymyrryd gan ddefnyddio pwerau brys mewn unrhyw un ohonynt.

Rydym yn gweithio gyda Sefydliad y Peirianwyr Sifil ac Asiantaeth yr Amgylchedd i gynhyrchu cronfa ddata ar-lein o ddigwyddiadau mewn cronfeydd dŵr. Diben hyn yw darparu gwybodaeth well i berchnogion cronfeydd dŵr a pheirianwyr am y mathau o ddigwyddiadau sy'n digwydd, y diffygion a geir, a'r gwersi a ddysgwyd ohonynt. Mae hyn i fod i gael ei gyhoeddi cyn bo hir.

Rheoli cronfeydd dŵr Cyfoeth Naturiol Cymru

Rydym yn rheoli 38 o gronfeydd dŵr yng Nghymru. Mae’r holl gronfeydd dŵr yn cael eu harolygu a'u goruchwylio gan beirianwyr sifil cymwys, ac rydym yn cynnal rhaglen waith i fynd i'r afael â'r argymhellion a wnânt. Mae’r tabl isod yn dangos diben a dynodiad risg cronfeydd dŵr a reolir gan Cyfoeth Naturiol Cymru.

Tabl 8: Diben a dynodiad cronfeydd dŵr a reolir gan Cyfoeth Naturiol Cymru.

Diben Risg uchel Ddim yn risg uchel Risg heb ei phennu Cyfanswm
Rheoli perygl llifogydd 11 2 0 13
Cadwraeth (Gwarchodfeydd Natur Cenedlaethol) 3 5 0 8
Ystad Goetir Llywodraeth Cymru 12 4 1 17
Cyfanswm 26 11 1 38


Am ragor o wybodaeth, mae ein hadroddiadau dwyflynyddol ar gael ar ein gwefan: Cyfoeth Naturiol Cymru / Adroddiadau dwyflynyddol ar ddiogelwch cronfeydd dŵr.

Cynghori cynllunwyr, trwyddedu a gorfodi

Mae'r maes gwaith hwn yn ymwneud â phob cyngor yn ôl disgresiwn a phob cyngor statudol mewn perthynas â pherygl llifogydd a'n rôl fel ymgynghorai o fewn y broses gynllunio. Y nod yw rhoi cyngor effeithiol er mwyn dylanwadu ar ddatblygu mewn ardaloedd lle ceir perygl o lifogydd, a'i reoli, gan atal mwy o bobl ac eiddo rhag bod yn agored i berygl cynyddol o lifogydd. Mae hefyd yn cynnwys ein trefniadau trwyddedu. Gyda'i gilydd, nod y rolau hyn yw rheoli datblygu mewn ardaloedd lle ceir perygl o lifogydd, a gweithgareddau perygl llifogydd mewn prif afonydd neu o'u cwmpas.  Rydym hefyd yn cymryd camau gorfodi mewn achosion lle gallai gweithgareddau perygl llifogydd achosi perygl llifogydd neu ei waethygu.

Diweddaru Nodyn Cyngor Technegol 15 (TAN15)

Cyhoeddodd Llywodraeth Cymru bolisi cynllunio diwygiedig, TAN15: Datblygu, Llifogydd ac Erydu Arfordirol (TAN15) ar 31 Mawrth 2025, ar ddiwedd y flwyddyn a gwmpesir gan yr adroddiad hwn. Mae hyn wedi disodli fersiwn 2004 o Nodyn Cyngor Technegol 15 a Nodyn Cyngor Technegol 14 (1998) ar risgiau erydu arfordirol. Mae'r Map Llifogydd ar gyfer Cynllunio, a gyhoeddwyd gyntaf ym mis Medi 2021, bellach wedi dod i rym ac mae'n disodli'r Map Cyngor Datblygu.  Mae'r Map Llifogydd ar gyfer Cynllunio yn cynrychioli'r wybodaeth orau sydd gennym ar y perygl o lifogydd nawr ac yn y dyfodol, a gellir ei ddefnyddio hefyd i nodi effeithiau erydu arfordirol. 

Fe wnaethom ddarparu gwybodaeth dechnegol a chyngor i Lywodraeth Cymru yn ystod y flwyddyn i'w cynorthwyo yn eu proses o wneud penderfyniadau ar gyfer y Nodyn Cyngor Technegol newydd.  Fe wnaethon ni hefyd sicrhau bod y Map Llifogydd ar gyfer Cynllunio newydd (sy'n cael ei gynnal gan Cyngor Naturiol Cymru ac sy'n ymddangos ar ein gwefan) yn barod, fel sy'n ofynnol gan Lywodraeth Cymru, i eistedd ochr yn ochr â Nodyn Cyngor Technegol 15 ar ei newydd wedd.   

Byddwn yn cymhwyso’r fersiwn ddiwygiedig o Nodyn Cyngor Technegol 15, ochr yn ochr â'r Map Llifogydd ar gyfer Cynllunio, yn ein cyngor technegol i ymgynghoriadau cynllunio ar y perygl o lifogydd o afonydd a'r môr, gan ei ddefnyddio fel y fframwaith i sefydlu a ellir rheoli'r risgiau'n briodol.

Bydd cyfnod o addasu tra byddwn yn deall y newidiadau mewn polisi cynllunio. Fodd bynnag, bydd ein cyngor i awdurdodau cynllunio lleol yn parhau i fod yn seiliedig ar yr egwyddorion a nodir yn y fersiwn ddiwygiedig o Nodyn Cyngor Technegol 15.

Cyngor ar gynllunio datblygiadau

O 31 Mawrth 2025 ymlaen, rydym yn ymgynghorai statudol ar y perygl llifogydd o afonydd a'r môr ar gyfer pob cynnig datblygu ym mharthau llifogydd 2 a 3, neu barth a amddiffynnir o dan Nodyn Cyngor Technegol 15 ar y Map Llifogydd ar gyfer Cynllunio. Mae'r Map Llifogydd ar gyfer Cynllunio wedi disodli'r Map Cyngor Datblygu ac mae'n cefnogi'r polisi cynllunio cenedlaethol diwygiedig yn Nodyn Cyngor Technegol 15.   Fe'i defnyddir yn bennaf fel offeryn sgrinio i ddeall ble y gallai fod angen asesiad pellach o lifogydd ac erydu arfordirol ac mae'n dangos sut y gallai newid hinsawdd effeithio ar raddfa llifogydd dros y ganrif nesaf. Mae disgrifiad llawn o'r Map Llifogydd ar gyfer Cynllunio ar gael ar ein gwefan.

Dros y flwyddyn ddiwethaf, mae ein cyngor wedi helpu i atal datblygiadau amhriodol rhag cael eu cymeradwyo mewn lleoliadau lle byddai'r perygl o lifogydd yn anodd ei reoli. Mewn achosion lle mae datblygiadau wedi'u caniatáu er gwaethaf y perygl llifogydd, rydym wedi darparu cyngor ar fesurau atal llifogydd a mesurau gwytnwch llifogydd y gellid eu hymgorffori er mwyn helpu i leihau'r perygl yn awr ac yn y dyfodol.

Yn ystod 2024/25, roedd ein cyngor technegol yn seiliedig ar fersiwn 2004 o Nodyn Cyngor Technegol 15 a'r Map Cyngor Datblygu cysylltiedig.  Fe wnaethom dderbyn ac ymateb i tua 2,100 o ymgynghoriadau cynllunio lle nodwyd perygl o lifogydd gan yr awdurdod cynllunio lleol fel cyfyngiad posibl. Gwnaethom ddarparu ymateb cynllunio o sylwedd i'r ymgynghoriadau statudol hyn, gan roi cyngor technegol ar y perygl o lifogydd a chanlyniadau llifogydd.  O'r ymgynghoriadau a dderbyniwyd, roedd dros 1,000 o gynigion mewn ardaloedd a ddisgrifiwyd fel Parth C2 ar y Map Cyngor Datblygu.

Map Llifogydd ar gyfer Cynllunio – gwelliannau pellach

Rydym yn parhau i ddiweddaru'r Map Llifogydd ar gyfer Cynllunio bob chwe mis, ym mis Mai a mis Tachwedd. Rydym yn defnyddio modelau llifogydd lleol wedi'u diweddaru, tystiolaeth a ddarperir gan awdurdodau lleol ar y perygl o lifogydd o gyrsiau dŵr cyffredin a dŵr wyneb, a data o heriau llwyddiannus i’r map llifogydd fel sail ar gyfer ein diweddariadau.  Mae gwaith i gynnwys data tonnau'n gorlifo ar hyd rhai rhannau o arfordir Cymru yn yr ardaloedd llifogydd sylfaenol yn parhau a bydd yn cael ei ddatblygu dros yr ychydig flynyddoedd nesaf.

Rheoleiddio gweithgarwch perygl llifogydd

Rydym yn rheoleiddio gweithgareddau a gyflawnir ar brif afonydd, neu gerllaw iddynt, ar adeileddau amddiffyn rhag llifogydd, neu gerllaw iddynt (gan gynnwys amddiffynfeydd morol), neu o fewn gorlifdir, o dan Reoliadau Trwyddedu Amgylcheddol 2016.  Rydym yn gwneud hyn drwy roi Trwydded Gweithgarwch Perygl Llifogydd er mwyn sicrhau nad yw'r gweithgaredd yn achosi unrhyw gynnydd yn y perygl llifogydd, yn cael effaith niweidiol ar ddraenio tir yn yr ardal, neu'n achosi difrod amgylcheddol i'r amgylchedd, pysgodfeydd, neu fywyd gwyllt lleol. Mae rhai o’r trwyddedau a roddwn yn cwmpasu nifer o weithgareddau perygl llifogydd o dan yr un drwydded lle cânt eu cynnal yn yr un lleoliad a lle mae ganddynt yr un nodweddion safle. Mae hyn yn ddarostyngedig i rai amodau a chyfyngiadau. Gellir cyflawni rhai gweithgareddau perygl llifogydd heb drwydded ond mae’n bosibl y bydd angen cofrestru gweithgareddau o’r fath gyda ni fel rhai sy’n ‘esempt’ o’r gofyniad i gael trwydded bwrpasol.

Dros flwyddyn ariannol 2024/25, fe wnaethom ni gyhoeddi 204 o Drwyddedau Gweithgarwch Perygl Llifogydd ledled Cymru, a chofrestrwyd 46 o esemptiadau.

Camau gorfodi

Rydym yn cyflawni gwaith gorfodi perygl llifogydd o dan Reoliadau Trwyddedu Amgylcheddol (Cymru a Lloegr) 2016. Mae'r gwaith hwn yn bwysig er mwyn sicrhau bod perygl llifogydd yn cael ei reoli'n effeithiol ac er mwyn cefnogi mesurau i warchod yr amgylchedd. Os na cheisir ein cyngor rheoleiddio, neu os caiff ei anwybyddu wrth wneud gwaith ar brif afonydd neu amddiffynfeydd rhag llifogydd, neu gerllaw iddynt, gallai’r canlyniadau fod yn ddifrifol. Yn ogystal â rheoli perygl llifogydd, mae ein gweithgarwch gorfodi yn sicrhau y gallwn gynnal mynediad i seilwaith amddiffynfeydd rhag llifogydd / y môr ac yn ein galluogi i wneud gwaith cynnal a chadw a gwella pwysig. Gallwn hefyd ddefnyddio camau gorfodi i unioni gwaith anghyfreithlon a niweidiol neu waith a allai fod yn niweidiol, a allai fod wedi’i wneud yn groes i amodau a nodir mewn Trwydded Gweithgarwch Perygl Llifogydd, neu heb Drwydded Gweithgaredd Perygl Llifogydd ofynnol. Mae enghreifftiau’n cynnwys difrod i amddiffynfeydd rhag llifogydd a strwythurau rheoli, cael gwared ar rwystrau sy’n effeithio ar lif o fewn afonydd, gan gynyddu’r perygl o lifogydd o bosibl, a gwaith sydd wedi achosi niwed i’r amgylchedd.

Yn ystod 2024/25 gwnaethom gofrestru 70 o achosion ledled Cymru lle'r oedd angen cymryd camau gorfodi ar gyfer gweithgareddau perygl llifogydd nas caniateir.  Cwblhawyd camau gorfodi gennym ar 56 o achosion yn ystod y cyfnod hwn. 

Astudiaeth achos – gwaith nas caniateir, Efailnewydd, Pwllheli

Ymatebodd ein swyddogion i adroddiad o waith heb ganiatâd yn dilyn adeiladu bwnd llifogydd o fewn gorlifdir afon Rhyd-hir ger Efailnewydd, Pwllheli. Fe wnaethant ddarganfod bod gwaith wedi'i wneud i godi bwnd llifogydd pridd 1m o uchder a oedd yn rhedeg tua 150m ar hyd y gorlifdir i leihau erydu’r glannau.  Cyfaddefodd y tirfeddianwyr eu bod wedi gwneud y gwaith a dywedasant nad oeddent yn ymwybodol o'r angen am Drwydded Gweithgarwch Perygl Llifogydd. Cytunasant i gydweithredu a gwneud unrhyw newidiadau angenrheidiol.

Cyhoeddodd ein swyddogion hysbysiad adfer i gael gwared ar ddeunydd o'r bwnd i lawr i lefel y cae ar bellterau o 20m am hyd o 3m ar hyd y bwnd. Roedd hyn er mwyn sicrhau nad oedd dyfroedd llifogydd yn cael eu cyfyngu yn ystod cyfnodau o ‘gloi’r llanw’ wrth yr amddiffynfa lanw i lawr yr afon o'r safle ym Mhwllheli gan y byddai hyn yn cynyddu'r perygl o lifogydd i eiddo eraill. Cydymffurfiwyd â'r hysbysiad a chaewyd yr achos gyda llythyr rhybuddio.

Ffigur 4: Delwedd o fwnd pridd heb ganiatâd ar hyd afon Rhyd-hir

Ffigur 5: Delwedd o waith adfer lle mae'r bwnd pridd wedi'i dorri ar hydau o 3m pob 20m

Darparu gwasanaethau hydrometreg, telemetreg a hydroleg

Drwy'r maes gwaith hwn y darperir gwasanaethau hydrometreg, telemetreg a hydroleg sy'n casglu, dadansoddi ac yn adrodd data sy'n sail i amrediad o wasanaethau rheoli llifogydd a dŵr ar draws CNC. Mae hyn yn cynnwys gwaith modelu a mapio perygl llifogydd, gwaith arfarnu a dylunio cynlluniau perygl llifogydd (safonau diogelu), diogelwch cronfeydd dŵr, darogan a rhybuddio am lifogydd, rheoleiddio afonydd, a chynnal asesiadau ôl-lifogydd o safbwynt swm y glawiad, lefelau afonydd a gofnodwyd, a'u difrifoldeb (e.e. yn ôl trefn hanesyddol neu'r cyfnod rhwng digwyddiadau).

Yn ogystal â chasglu, prosesu ac archifo'r data hwn ar gyfer CNC, mae'r maes gwaith hwn hefyd yn adrodd ar y data ac yn ei rannu â chwsmeriaid mewnol ac allanol drwy ymholiadau penodol am ddata, trosglwyddo data, a darparu gwasanaethau digidol ar ein gwefan, gan gynnwys ein gwasanaeth byw ar gyfer lefelau afonydd, glawiad a data’r môr.

Y rhwydwaith hydrometreg

Mae’r rhwydwaith hydrometreg ledled Cymru yn cynnwys 253 o orsafoedd mesur glawiad, 333 o orsafoedd monitro lefelau afonydd neu lif, a 135 o orsafoedd monitro lefelau dŵr daear. Mae Ffigur X yn dangos lleoliadau’r holl orsafoedd monitro ar draws ein rhwydwaith hydrometreg a thelemetreg yng Nghymru. Ychydig iawn o newidiadau a fu i'r rhwydwaith hydrometrig yn ystod y blynyddoedd diwethaf o ganlyniad i bwysau adnoddau ar hydrometreg a thelemetreg yng Nghymru. Mae unrhyw ychwanegiadau at y rhwydwaith wedi'u cyfyngu i osodiadau y cytunwyd arnynt yn flaenorol i gefnogi gofynion monitro statudol.

Ffigur 6: Safleoedd hydrometreg ledled Cymru

Prosiect adolygu’r rhwydwaith hydrometreg

Eleni, rydym wedi cwblhau prosiect i gasglu data rhwydwaith a gorsaf hydrometrig manwl er mwyn deall gwydnwch ein gorsafoedd monitro. Mae'r adolygiad sylweddol hwn wedi ein galluogi i wneud argymhellion a phenderfyniadau i sicrhau y gall y rhwydwaith barhau i ddarparu'r gwasanaeth gofynnol. Mae gwaith pellach yn mynd rhagddo i flaenoriaethu'r argymhellion i wella gwydnwch gorsafoedd monitro hanfodol yn y rhwydwaith.

Dechreuodd gwaith eleni hefyd i ystyried costau a gofynion staffio'r gwasanaeth hydroleg a thelemetreg er mwyn sicrhau bod adnoddau'n cael eu dosbarthu'n effeithiol. Bydd y gwaith hwn yn parhau yn ystod 2025/26.

Prosiect amnewid telemetreg

Rydym wedi parhau i wneud cynnydd sylweddol gyda'n prosiect buddsoddi gwerth £5 miliwn i ddarparu system telemetreg newydd. Mae'r prosiect hwn yn hanfodol i alluogi Cyfoeth Naturiol Cymru i barhau i gasglu a rhannu gwybodaeth am afonydd, glawiad ac offer gweithredol bron mewn amser real, sy'n sail i'n hymateb i ddigwyddiadau llifogydd a rheoli dŵr, gan gynnwys sychder. Bydd yn disodli systemau a seilwaith sy'n heneiddio ac sy'n cyrraedd diwedd eu hoes weithredu. Mae ein porth data telemetreg newydd yn fyw ac mae pob cwsmer allanol wedi mudo iddo ac mae 565 allan o 611 o orsafoedd telemetreg wedi'u trosglwyddo i'r system newydd. Mae'r gwaith ar adeiladu'r prif system yn parhau i mewn i 2025/26.

Map trywydd hydroleg llifogydd y DU

Rydym wedi parhau i weithio’n agos gyda’n partneriaid yn Lloegr, yr Alban a Gogledd Iwerddon i fwrw ymlaen â’r gwaith o weithredu’r map trywydd hydroleg llifogydd, a gyhoeddwyd ym mis Mawrth 2022. Eleni rydym wedi gweithio ar y cyd â’n partneriaid ledled y DU i ddatblygu fframwaith i feincnodi modelau hydrolegol. Rydym wedi bod yn rhan o brosiect ymchwil a datblygu ar law eithafol a fydd yn cyfrannu'n uniongyrchol at gyflawni rhai camau gweithredu’r map trywydd ac fe wnaethom gynnal gweithdy rhyngweithiol ar y cyd i archwilio'r rhwystrau a'r cyfleoedd ar gyfer trosi gwyddoniaeth hydroleg llifogydd yn arfer. Fe wnaethom hefyd hwyluso ymarfer myfyriol gyda'r Bwrdd Llywodraethu ac aelodau'r Grŵp Cynghori Gwyddonol a Thechnegol i werthuso'r cynnydd a wneir a'r heriau o ran cyflawni camau gweithredu'r map trywydd. Mae cynllun gweithredu wedi’i ddatblygu i fynd i’r afael â’r heriau hyn.

Darogan llifogydd a chyhoeddi rhybuddion

Drwy'r maes gwaith hwn y darperir ein gwasanaeth darogan llifogydd a'n gwasanaeth rhybuddio am lifogydd i'r cyhoedd ac i bartneriaid proffesiynol. Ei ddiben yw darparu rhybuddion a gwybodaeth effeithiol i bobl sydd mewn perygl o lifogydd, gan eu galluogi i gymryd camau uniongyrchol i warchod bywyd ac eiddo cyn i lifogydd ddigwydd.

Mae’n cynnwys canfod a rhagweld llifogydd mewn amser real yn y cyfnod cyn ac yn ystod digwyddiadau llifogydd, a chyhoeddi rhybuddion llifogydd i’r rhai sydd mewn perygl uniongyrchol.  Mae hefyd yn cynnwys darparu gwybodaeth am y sefyllfa ddiweddaraf a rhybuddion sydd mewn grym trwy ein gwefan, Floodline a'n porth data byw.

Mae ein timau hefyd yn sicrhau bod data, systemau, gweithdrefnau gweithredol, hyfforddiant ar gyfer staff ar ddyletswydd a rheoli rotâu dyletswydd eisoes yn eu lle – ac yn cael eu profi a’u gwella – fel eu bod yn barod ac yn gwbl weithredol mewn digwyddiadau llifogydd. Darperir y gwasanaethau drwy nifer o rotâu swyddogion arbenigol ar ddyletswydd, gan ddefnyddio staff o'n timau. Mae ein swyddogion ar ddyletswydd ar alwad 24/7 bob diwrnod o'r flwyddyn, ac maent yn barod i ymateb i lifogydd posibl a llifogydd gwirioneddol ar unrhyw adeg o'r dydd neu'r nos.

Darogan llifogydd a chyhoeddi rhybuddion yn ystod blwyddyn ariannol 2024/25

Amlygir perygl llifogydd uwch drwy Ddatganiad y Canllawiau Llifogydd, sy'n darparu rhagolwg perygl llifogydd dyddiol dros bum niwrnod i'r llywodraeth a phartneriaid proffesiynol er mwyn cynorthwyo â phenderfyniadau cynllunio strategol, tactegol a gweithredol mewn perthynas â pherygl llifogydd sy’n datblygu. Mae'r wybodaeth yn cael ei rhannu â'r cyhoedd hefyd drwy ein gwefan. Rhwng mis Ebrill 2024 a mis Mawrth 2025, cafwyd perygl llifogydd uwch ar 102 o ddiwrnodau (rhagolygon am effeithiau bach a mwy) ac, o blith y rheini, cafwyd perygl llifogydd dwys ar 40 niwrnod (rhagolygon am effeithiau sylweddol a mwy). Mae Adran 1 o'r adroddiad hwn yn disgrifio'r prif ddigwyddiadau llifogydd a welwyd yn ystod y flwyddyn a arweiniodd at berygl llifogydd uwch a'r effeithiau cysylltiedig.

Ffigur 7: Cod bar yn dangos y rhagolwg perygl llifogydd yng Nghymru ar gyfer blwyddyn ariannol 2024/25. Mae llinell ar gyfer pob diwrnod o'r flwyddyn, wedi'i chysgodi yn ôl y perygl llifogydd a ragwelir.

Cod bar yn dangos y rhagolwg perygl llifogydd yng Nghymru ar gyfer blwyddyn ariannol 2024/25. Mae llinell ar gyfer pob diwrnod o'r flwyddyn, wedi'i chysgodi yn ôl y perygl llifogydd a ragwelir.

Ar draws Cymru, mae dros 48,000 o eiddo wedi'u cofrestru'n llawn i dderbyn ein rhybuddion llifogydd. Yn gyfan gwbl, gwnaethom ddyrannu 622 o hysbysiadau i fod yn barod am lifogydd, 217 o rybuddion llifogydd a thri rhybudd llifogydd difrifol yn ystod 2024/25 mewn ymateb i’r perygl o lifogydd. Cafwyd 1,163 o alwadau i asiantiaid Floodline a 1,392,763 o ymweliadau â’n tudalen we rhybuddion llifogydd a hysbysiadau bod yn barod am lifogydd.  Tachwedd oedd y mis gyda'r nifer fwyaf o ymweliadau â'n gwefan, gyda bron i 400,000 o ymweliadau i gyd yn sgil Storm Bert.

Ffigur 8: Nifer y rhybuddion llifogydd a’r hysbysiadau bod yn barod am lifogydd a gyhoeddwyd yn ystod 2024/25.

Nifer y rhybuddion llifogydd a’r hysbysiadau bod yn barod am lifogydd a gyhoeddwyd yn ystod 2024/25.

Gwelliannau i'r Gwasanaeth Darogan Llifogydd

Rydym wedi gweithio eleni i ddatblygu modelau rhagweld llifogydd newydd a gwella modelau presennol ar gyfer ardaloedd sydd mewn perygl o lifogydd o afonydd a’r môr.

Rydym wedi datblygu modelau newydd ar gyfer darogan llifogydd o afonydd ar gyfer lleoliadau yn rhan uchaf afon Gwy, ar hyd afon Taf ac yn Nhregatwg a fydd yn mynd yn fyw yn 2025/26. Yn ogystal, rydym wedi parhau i wella ein modelau presennol ac wedi gwneud gwelliannau i'n modelau darogan ar gyfer afonydd Conwy, Hafren, Efyrnwy, Cleddau ac Wysg.

Rydym hefyd wedi cryfhau ein gwasanaeth rhybuddio am lifogydd arfordirol drwy gyflwyno Model Arfordirol Cymru i oddeutu 40 o leoliadau yn ne-orllewin Cymru. Mae hyn yn galluogi ein swyddogion dyletswydd i weld amodau a ragwelir a gormodiannau trothwy am hyd at bum niwrnod ymlaen llaw.

Gyda’i gilydd ledled Cymru, rydym yn darparu rhagolygon llifogydd ar gyfer 89 o leoliadau llifogydd o’r môr a 112 o leoliadau llifogydd afonol.

Diweddariad TGCh i systemau darogan llifogydd

Rydym wedi ymgymryd â darn mawr o waith i gwblhau uwchraddiad system mawr ar gyfer y System Rhybuddio am Lifogydd yn Gynnar a'r feddalwedd fodelu gysylltiedig. Defnyddir y system hon i redeg ein holl fodelau darogan llifogydd sy'n cynhyrchu rhagolygon llifogydd (ar gyfer llifogydd afonol ac arfordirol) am bum niwrnod ymlaen llaw. Mae'r uwchraddiad system hwn yn gwella ymarferoldeb ac yn sicrhau gwydnwch y system.

Gwydnwch y rota darogan llifogydd

Rydym wedi cwblhau hyfforddiant swyddogion dyletswydd newydd i gryfhau rota'r Swyddog Dyletswydd Monitro a Rhagweld. Mae'r swyddogion dyletswydd newydd wedi mynd trwy gyfnod helaeth o hyfforddiant ac maent bellach yn weithredol. Mae hyn yn dod â'r rota i fyny i'r nifer lleiaf o swyddogion dyletswydd sydd eu hangen ac yn sicrhau gwydnwch i reoli digwyddiadau parhaus.

Datblygu'r protocol ‘troi’n ddifrifol'

Mae’r Datganiad Cyfarwyddyd Llifogydd yn fap pum niwrnod sy'n seiliedig ar risg ar gyfer Cymru a Lloegr sydd ar gael i bartneriaid allweddol a'r cyhoedd. Mae'n dangos y lefel a ragwelir o berygl llifogydd ar gyfer y pum niwrnod nesaf ar gyfer llifogydd dŵr wyneb, llifogydd afonol, llifogydd dŵr daear a llifogydd o’r môr trwy raddliwio priodol ar y map. Mae hyn yn amrywio o wyrdd ar gyfer risg isel i goch ar gyfer effeithiau difrifol. Mae ein swyddogion dyletswydd yn gwirio'r lefel risg a ragwelir ynghyd â'r effaith a ragwelir ar gyfer Cymru i gynghori ar gywirdeb yr wybodaeth a ddangosir. Er mwyn cefnogi ein swyddogion dyletswydd gyda'r dasg hon, rydym wedi cwblhau gwaith i ddatblygu proses i gefnogi gwneud penderfyniadau ynghylch pryd i uwchraddio'r risg a ragwelir i Gymru, gan gynnwys effeithiau difrifol ar y Datganiad Cyfarwyddyd Llifogydd.

Prosiect Adnewyddu’r System Rhybuddion Llifogydd

Aeth ein Gwasanaethau Gwybodaeth Rhybuddion Llifogydd newydd i Gymru yn fyw ar 17 Gorffennaf 2024. Mae cyhoeddi rhybuddion llifogydd yn hanfodol er mwyn inni gyflawni ein rhwymedigaeth statudol i rybuddio eraill am leoliad, amseriad a maint llifogydd o afonydd a'r môr yng Nghymru. Ers hynny, mae wedi cael ei ddefnyddio i gyhoeddi hysbysiadau bod yn barod am lifogydd a rhybuddion llifogydd yn llwyddiannus ar gyfer llifogydd afonol ac arfordirol, gan gynnwys yn ystod Storm Bert a stormydd gaeaf eraill 2024/25.

Roedd hwn yn brosiect arwyddocaol sydd wedi ein galluogi i ddarparu gwasanaethau gwybodaeth amlgyfrwng newydd am rybuddion llifogydd i Gymru. Mae'r prosiect hwn bellach yn caniatáu inni ddarparu ein gwasanaeth rhybuddio am lifogydd annibynnol ein hunain i bobl Cymru. Er mwyn cysondeb parhaus i'n cwsmeriaid, ni newidiodd y codau rhybuddio llifogydd, y trothwyon rydyn ni'n cyhoeddi rhybuddion pan eir heibio iddynt, a'r eiddo rydyn ni'n anfon rhybuddion iddynt wrth fynd yn fyw.

Mae'r Gwasanaethau Gwybodaeth Rhybuddion Llifogydd newydd i Gymru yn caniatáu proses fwy effeithlon ar gyfer cyhoeddi hysbysiadau bod yn barod am lifogydd a rhybuddion llifogydd gan ein swyddogion dyletswydd, felly mae'n lleihau eu llwyth gwaith yn ystod digwyddiadau llifogydd ac yn galluogi cyhoeddi negeseuon yn gyflymach i'r rhai sydd mewn perygl. Mae hefyd yn galluogi gwell eglurder a chysondeb yn ein hysbysiadau bod yn barod am lifogydd a rhybuddion llifogydd fel eu bod yn darparu cyngor mwy uniongyrchol, yn gysylltiedig ag effeithiau posibl neu ddisgwyliedig.

Gallwch gofrestru ar gyfer ein Gwasanaeth Gwybodaeth Rhybuddion Llifogydd newydd yma: Cyfoeth Naturiol Cymru / Cofrestrwch i dderbyn rhybuddion llifogydd.

Gwydnwch ac ymgysylltu cymunedol

Drwy'r maes gwaith hwn, darperir gwasanaethau gwytnwch ac ymgysylltu cymunedol i gymunedau sydd mewn perygl o lifogydd ledled Cymru. Mae'n cynnwys darparu gwybodaeth a chyngor i'r bobl hynny sydd mewn perygl o lifogydd o safbwynt y camau ymarferol y gallant eu cymryd i baratoi yn well cyn, yn ystod, ac ar ôl llifogydd. Rydym yn darparu'r cyngor hwn yn ddigidol drwy ein gwefan ac yn uniongyrchol i gymunedau, gan gynnwys drwy ddarparu templedi o gynlluniau llifogydd er mwyn iddynt eu defnyddio, a hwyluso digwyddiadau rhwydweithio i wirfoddolwyr er mwyn rhannu gwybodaeth, profiadau a'r arferion gorau. Mae ein rôl alluogi yn bwysig i bartneriaid allu gwneud eu hymgysylltiad lleol eu hunain â chymunedau gan ddefnyddio ein hadnoddau digidol ac argraffu yn ogystal â dod ynghyd ag arweinwyr cymunedol.

Negeseuon cyfryngau cymdeithasol

Yn 2024, fe wnaethom adolygu a diweddaru ein holl asedau cyfryngau cymdeithasol llifogydd, a chreu deunyddiau newydd i gyfleu'r perygl o lifogydd dŵr wyneb, a all fod yn anodd ei ragweld oherwydd dwyster a lleoliad/hyd.  Fe wnaethon ni rannu'r negeseuon a graffigau hyn gyda Grŵp Cyfathrebu Fforwm Gwydnwch Lleol Llywodraeth Cymru, fel y gall partneriaid eu defnyddio a bod y negeseuon yn gyson. 

Cynlluniau llifogydd cymunedol

Mae cynlluniau llifogydd cymunedol yn cael eu harwain gan wirfoddolwyr a'r gymuned. O fis Ebrill 2024, rydym yn helpu i gynnal 76 o gynlluniau llifogydd cymunedol sydd ar waith ar hyn o bryd ledled Cymru i sicrhau eu bod yn addas at y diben ac yn gwasanaethu’r cymunedau sy’n berchen arnynt ac yn eu defnyddio. Y cynlluniau hyn yw'r rhai a adroddwyd i Cyfoeth Naturiol Cymru naill ai gan y cyhoedd neu bartneriaid ac y mae gennym gysylltiadau cyfredol ar eu cyfer; efallai fod eraill nad ydym yn ymwybodol ohonynt. Mae gan Cyfoeth Naturiol Cymru rôl gefnogol yn y cynlluniau hyn ynghyd â sefydliadau eraill sy'n cynnig cyngor ac arweiniad.  Yn ystod 2025/26, byddwn yn cynnal archwiliad o gynlluniau llifogydd cymunedol i wirio pa gynlluniau sy'n dal i fod yn weithredol.  Mae hyn yn ein galluogi i ganolbwyntio ar gymunedau sydd mewn sefyllfa i ddatblygu a chynnal cynllun llifogydd cymunedol.  Bydd hefyd yn rhoi gwybod i ni am leoliadau'r cymunedau hynny fel y gallwn gynnig cefnogaeth iddynt, a’u cyfeirio at wirfoddolwyr eraill ar gyfer rhwydweithio a chyngor (a'u diweddaru am newyddion a digwyddiadau sy'n berthnasol iddynt).

Digwyddiadau’r Rhwydwaith Gwirfoddolwyr Llifogydd

Fe wnaethon ni gynnal dau ddigwyddiad i’r Rhwydwaith Gwirfoddolwyr Llifogydd Cymunedol, un ym Merthyr Tudful ac un yn Aberystwyth, a roddodd gyfle i gysylltu â'r cyhoedd a phartneriaid wyneb yn wyneb.  Yn seiliedig ar adborth o ddigwyddiadau’r flwyddyn flaenorol, fe wnaethom ganolbwyntio’r digwyddiadau hyn ar adfer ar ôl llifogydd. Cafwyd cyflwyniadau byr gan bartneriaid proffesiynol a gwnaeth Cyfoeth Naturiol Cymru yn egluro eu rolau a'r gefnogaeth a gynigir yn y broses adfer ar ôl llifogydd. At ei gilydd, cynrychiolwyd 12 o gymunedau gan o 24 aelodau'r gymuned.  Mynychodd 43 o bartneriaid proffesiynol, gan gyfrannu at y cynllunio a'r trafodaethau ar y diwrnod.

Ffigur 9: Llun o'r digwyddiad ymgysylltu â gwirfoddolwyr llifogydd ym Merthyr Tudful, 6 Mawrth 2025

Wythnos ymgyrch llifogydd #ByddwchYnBarodAmLifogydd

Ym mis Hydref 2025, lansiwyd ein hymgyrch ymwybyddiaeth #ByddwchYnBarodamLifogydd (7-11 Hydref). Canolbwyntiodd yr ymgyrch ar baratoi ar gyfer y gaeaf, gan ddarparu cyngor hanfodol ynghylch yr hyn y dylai pobl ei wneud os ydynt yn byw mewn ardal sydd mewn perygl o lifogydd, a'u hannog i gofrestru ar gyfer y Gwasanaeth Gwybodaeth Rhybuddion Llifogydd newydd.

Fe wnaethon ni gynnal cyfweliadau â’r cyfryngau a chyflwyno negeseuon drwy’r cyfryngau cymdeithasol. Drwy gydol yr wythnos, fe wnaethon ni gyflwyno negeseuon pwysig ynghylch y tri cham y mae angen i bobl eu cymryd i baratoi ar gyfer llifogydd – gwirio'r risg yn ôl cod post, cofrestru ar gyfer rhybuddion, a gwybod beth i'w wneud i baratoi ar gyfer llifogydd. Fe wnaethon ni sicrhau sylw ar fwletinau newyddion BBC Breakfast, ITV Wales, S4C, bwletinau radio, newyddion amser cinio a chyda'r nos, ac ar draws deunyddiau print ac ar-lein. Rhan allweddol o'n hymgyrch oedd hyrwyddo'r ffaith bod y Gwasanaeth Gwybodaeth Rhybuddion Llifogydd ar gael yn y Gymraeg. Fe wnaethon ni weithio ochr yn ochr â Chomisiynydd y Gymraeg i rannu'r neges hon, gyda chefnogaeth cynnwys cyfryngau cymdeithasol.

Ffigur 10: Rheolwr Cyfoeth Naturiol Cymru yn rhoi cyfweliad i'r cyfryngau yn ystod wythnos ymgyrch #ByddwchYnBarodamLifogydd

BBC Cymru ac S4C

Yn ystod ein hymgyrch ymwybyddiaeth #ByddwchYnBarodamLifogydd ar y cyfryngau cymdeithasol (7-11 Hydref 2024), treulion ni amser ym Mhencadlys BBC Cymru yn Sgwâr Canolog Caerdydd, yn briffio rhagolygon tywydd a newyddiadurwyr o'r BBC ac S4C.  Ein nod oedd eu helpu i adrodd am berygl llifogydd yn y ffordd gywir a chyfeirio pobl at y gwasanaethau ar ein gwefan pan fydd llifogydd yn cael eu rhagweld. Rhoddodd hyn gyfle i'r BBC / S4C ddeall yn well yr hyn a wnawn, sut rydym yn gweithio gyda phartneriaid, a sut y gallant rannu cyngor yn well mewn perthynas â pherygl llifogydd yn eu darllediadau.

Gwaith rheoli perygl llifogydd yn gynaliadwy wrth wynebu newid arfordirol

Mae cymunedau arfordirol yng Nghymru yn wynebu heriau oherwydd perygl llifogydd o’r môr, heriau ffisegol parhaus, a’r pwysau y mae newid yn yr hinsawdd yn debygol o’u rhoi arnynt yn y dyfodol. Rydym ni’n chwarae rhan bwysig o ran rheoli asedau perygl llifogydd arfordirol, yn ogystal â gweithio gyda phartneriaid i gynllunio ar gyfer newidiadau yn y dyfodol ynghyd â'r gofynion i addasu dros y tymor hir.  Yn y cyd-destun hwn, rydym yn parhau i gyflawni ein cyfrifoldebau mewn perthynas â Chynlluniau Rheoli Traethlin ac rydym yn anelu at alinio ein gwaith â'r polisïau sydd wedi'u cynnwys yn y cynlluniau hyn.

Cynllunio addasiadau arfordirol

Rydym yn cyflawni'r Rhaglen Genedlaethol Creu Cynefinoedd ar ran Llywodraeth Cymru. Crëwyd hon i fodloni gofynion statudol i ddarparu cynefinoedd cydadferol ar gyfer cynlluniau a phrosiectau arfordirol lle na ellir osgoi effaith ar gynefinoedd, a ddarperir gan Awdurdodau Rheoli Risg ledled Cymru.  Mae hyn yn helpu i gefnogi Cymru i gael arfordir cynaliadwy sy'n wydn ac wedi’i addasu i newid hinsawdd. Yn ystod 2024/25, fe wnaethom barhau i ymchwilio a datblygu cyfleoedd ar gyfer darparu cynefinoedd cydadferol yn aber afon Dyfi, Porthmadog, Pwllheli, Mwche a Lacharn.

Mae’r ffocws a’r dull o gyflawni gofynion strategol y Rhaglen Genedlaethol Creu Cynefinoedd wedi esblygu i gael eu cynnwys fel rhan o’r Rhaglen Ymaddasu Arfordirol ehangach mewn ymateb i flaenoriaethau newidiol rheoli perygl llifogydd, deddfwriaeth y DU, a pholisi Llywodraeth Cymru ar fesurau cydadferol. Rydym hefyd yn gweithio ar y cyd ag awdurdodau lleol ac yn ymgysylltu â'r cyhoedd a rhanddeiliaid ac yn integreiddio, lle bo'n briodol, atebion ar sail natur i gyflawni cynlluniau amddiffyn arfordirol.

Astudiaeth achos – polderau Glanfa Fawr afon Rhymni

Eleni, mae gwaith i adfer y cynefin morfa heli ar hyd aber afon Hafren ger Glanfa Fawr afon Rhymni yn Ne Cymru wedi'i gwblhau. Bydd y prosiect yn helpu i gynyddu bioamrywiaeth a gwydnwch yn yr aber yn ogystal â lleihau'r perygl o lifogydd yn yr ardal.

Wedi'i gyflawni fel rhan o raglen Rhwydweithiau Natur a ariennir gan Lywodraeth Cymru, mae'r gwaith adfer wedi cynnwys adnewyddu ac ymestyn dros 2 km o bolderau gwaddodi ar hyd y blaendraeth. Mae'r adeileddau, sydd wedi'u gwneud o byst castanwydd a bwndeli prysgwydd, yn helpu i annog sefydlu cynefin morfa heli, trwy arafu symudiad y llanw wrth iddo gilio, gan ganiatáu i waddod gael ei ddyddodi o fewn caeau'r polderau.

Dros amser, mae mwd a thywod yn cronni ac yn troi'n forfa heli. Bydd hyn yn helpu i adfer cynefin pwysig aber afon Hafren, gan gefnogi bywyd gwyllt lleol a helpu i ddal carbon. Mae'r aber yn cynnal rhai o'r cynefinoedd pwysicaf a mwyaf gwarchodedig yn y DU, ac mae wedi'i ddynodi'n Ardal Cadwraeth Arbennig (ACA). Mae'n gartref i nifer sylweddol o adar dŵr ac infertebratau dyfrol yn ogystal â darparu coridor gwerthfawr i bysgod mudol.

Bydd yr ateb hwn ar sail natur hefyd yn helpu i wella'r amddiffynfeydd rhag llifogydd presennol a lleihau'r perygl o lifogydd yn y dyfodol trwy leihau pwysau erydu.

Ffigur 11: Polderau Glanfa Fawr afon Rhymni

Cynllunio strategol

Rydym yn arwain ar faterion polisi llifogydd strategol, yn datblygu cynlluniau hirdymor, ac yn sicrhau bod y tîm rheoli perygl llifogydd yn darparu rhaglenni gwaith mewn ffyrdd effeithiol ac effeithlon.

Sgiliau a gallu

Rydym yn cydnabod yr angen i roi mwy o ffocws ar feithrin sgiliau a chapasiti ym maes rheoli perygl llifogydd ac rydym yn gweithio i sicrhau ein bod yn cefnogi datblygiad ein staff a bod ganddynt y sgiliau cywir fel y gallwn fynd i'r afael â'n heriau yn y dyfodol yn ystyrlon.

Yn ystod 2024/25, fe wnaethom barhau i fuddsoddi mewn sgiliau a datblygiad ym maes rheoli perygl llifogydd. Y prif uchafbwyntiau oedd fel a ganlyn:

  • Fe wnaethon ni gyflwyno amrywiaeth o gyrsiau hyfforddi rheoli perygl llifogydd, gan gynnwys cynadleddau sy'n gysylltiedig â rheoli perygl llifogydd, astudiaethau ôl-raddedig, a chyrsiau technegol, gan gynnwys Rheoliadau Adeiladu (Dylunio a Rheoli), achredu archwilio asedau ac AutoCAD.
  • Fe wnaethon ni gynnal dau gwrs sefydlu pellach ym maes rheoli perygl llifogydd yn dilyn y cynllun peilot llwyddiannus a gynhaliwyd ym mis Gorffennaf 2023. Nod y cwrs sefydlu yw rhoi sylfaen i ymarferwyr rheoli perygl llifogydd newydd o ran deall sut mae perygl llifogydd yn cael ei reoli yng Nghymru ac roedd yn cynnwys cyflwyniadau ar feysydd fel rheoli asedau a chyfraith rheoli perygl llifogydd. Mynychodd dros 75 o ddechreuwyr newydd neu gymharol newydd y tri chwrs i gyd, gyda mynychwyr o bob Awdurdod Rheoli Risg. Cyflwynwyd cynnwys y cwrs gan arbenigwyr o fewn grŵp yr Awdurdodau Rheoli Risg a roddodd o'u hamser yn garedig i gefnogi'r digwyddiadau. Yn ogystal â darparu gwersi allweddol, mae'r cyrsiau wyneb yn wyneb wedi rhoi cyfle gwych i gwrdd â chydweithwyr o Awdurdodau Rheoli Perygl Llifogydd cyfagos ac i ddatblygu perthnasoedd gwaith ar gyfer y dyfodol.
  • Rydym wedi datblygu rhaglen o ymweliadau safle â lleoliadau sydd â diddordeb mewn rheoli perygl llifogydd megis cynlluniau lliniaru llifogydd a safleoedd addasu arfordirol. Ymweliad cyntaf y rhaglen oedd â phrosiect adnewyddu cronfeydd dŵr Gwydir yn y Gogledd, a fynychwyd gan staff Cyfoeth Naturiol Cymru a rhai o Awdurdodau Rheoli Risg eraill. Bydd yr ymweliadau hyn yn rhoi cyfle ar gyfer datblygiad proffesiynol parhaus ac yn caniatáu i weithwyr proffesiynol ym maes rheoli perygl llifogydd gyfarfod wyneb yn wyneb.

Cynlluniau rheoli perygl llifogydd

Cyhoeddwyd ein Cynllun Rheoli Perygl Llifogydd wedi'i ddiweddaru ym mis Tachwedd 2023. Mae’r cynllun yn cwmpasu Cymru gyfan ac yn nodi’r blaenoriaethau ar gyfer rheoli perygl llifogydd am y chwe blynedd nesaf ar gyfer yr ardaloedd llifogydd y mae gennym ni’r prif gyfrifoldebau amdanynt: llifogydd o afonydd, cronfeydd dŵr a’r môr. Mae'r adrannau sy'n canolbwyntio ar leoedd yn y Cynllun Rheoli Perygl Llifogydd yn cynnwys mesurau a chamau gweithredu wedi'u cynllunio gyda'r amcan cyffredinol o leihau'r risg i bobl a chymunedau o lifogydd. Rydym wedi gwneud cynnydd da o ran cyflawni'r mesurau hyn. Ar adeg ysgrifennu'r adroddiad hwn, mae 57 o fesurau o'r cynllun wedi'u cwblhau, mae 130 o fesurau ar y gweill, ac nid yw 112 o fesurau wedi cychwyn eto. Mae'r ffigurau hyn yn cynnwys dros 40 o fesurau sydd wedi'u hychwanegu at ein cynllun gwaith ers dechrau'r Cynllun Rheoli Perygl Llifogydd sy'n dangos sut rydym yn ychwanegu mesurau a chamau gweithredu newydd at ein cynlluniau gwaith unwaith y bydd mesurau eraill wedi'u cwblhau.

Mae'r siart cylch isod yn dangos y cynnydd canrannol yn erbyn ein mesurau yn y Cynllun Rheoli Perygl Llifogydd.

Ffigur 12: Siart cylch yn dangos cynnydd mesurau yn y Cynllun Rheoli Perygl Llifogydd

Siart cylch yn dangos cynnydd mesurau yn y Cynllun Rheoli Perygl Llifogydd


Mae'r mesurau sydd wedi'u cwblhau ers dechrau'r Cynllun Rheoli Perygl Llifogydd yn cynnwys:

  • Gwelliannau i’n modelau hydrolig presennol yn Abertawe, Aberdulais, Bedwas, Llanbradach, Machen, Glyn-taf, Hirwaun, Aberpennar, Nant Garw, Ffynnon Taf, Trefforest, y Bala, Llanuwchllyn, Pwllheli, yr Wyddgrug, Queensferry-Sandycroft-Manor Lane, Rhyd-y-mwyn, Cegidfa, Llandinam a Meifod.
  • Cwblhau modelau hydrolig newydd yn Ynys-y-bwl, Abergwyngregyn a Threfyclo.
  • Gwelliannau i’n gwasanaeth rhybuddion llifogydd presennol yn Rhydaman, Bedwas, Llanbradach, Machen, Ystrad Mynach, Aberdâr, Dinas Powys, Glyn-taf, Hirwaun, Aberpennar, Nant Garw, Rhydyfelin, Ffynnon Taf, Trefforest, Beddgelert, Dwyran – Braint, Llanfair Talhaearn a’r Wyddgrug.
  • Dylunio ac adeiladu gwelliannau i'n cronfa ddŵr gwanhau llifogydd yn y Bont-faen.
  • Cwblhau asesiad cychwynnol a gwaith dichonoldeb i ystyried sut y gallem leihau’r perygl o lifogydd yn Aberdâr, Glyn-taf, Hirwaun, Aberpennar, Nant Garw, Rhydyfelin, Ffynnon Taf, Trefforest, Amlwch, Dwyran a Chlwyd – Ffynnon y Ddôl.
  • Datblygu arfarniad cynllun ar gyfer cynllun lliniaru llifogydd yn Llangefni.
  • Cynnal asesiadau adeileddol ar adeileddau presennol yn Garden City ac Ystad Ddiwydiannol Glannau Dyfrdwy a'r Rhyl i sicrhau eu bod yn addas at y diben.

Ymchwil a datblygu ym maes rheoli perygl llifogydd

Mae gennym raglen ymchwil a datblygu strategol sydd â'r nod o gyflwyno tystiolaeth allweddol i lywio a gwella ein hanghenion gweithredol a'n hanghenion polisi mewn perthynas â rheoli perygl llifogydd. Er mwyn helpu i ddiwallu ein hanghenion ymchwil a thystiolaeth, rydym yn gweithio ar y cyd â Llywodraeth Cymru, Asiantaeth yr Amgylchedd a DEFRA ar raglen ymchwil a datblygu ar gyfer rheoli perygl llifogydd ac erydu arfordirol ar y cyd.  Nod y rhaglen yw gwasanaethu anghenion yr holl awdurdodau gweithredu llifogydd ac arfordirol yng Nghymru a Lloegr. Dros y flwyddyn ddiwethaf, mae’r rhaglen ymchwil a datblygu ar y cyd ar gyfer rheoli perygl llifogydd ac erydu arfordirol wedi cyhoeddi nifer o brosiectau allweddol y mae CNC wedi bod yn rhan ohonynt, gan gynnwys Dulliau enghreifftiol o drosglwyddo neu ddatgomisiynu asedau rheoli risg llifogydd ac erydiad arfordirol (Saesneg yn unig) a Tystiolaeth gynyddol o fanteision rheoli llifogydd drwy ddulliau naturiol (Saesneg yn unig). Mae'r rhestr lawn o brosiectau i'w gweld ar wefan prosiectau’r rhaglen ymchwil a datblygu ym maes rheoli perygl llifogydd ac erydu arfordirol.

Mae’r rhaglen ehangach yn cynnwys 40 o brosiectau wedi’u rhannu’n dair thema: 1) Polisi, Strategaeth a Buddsoddiad, 2) Rheoli Asedau a 3) Rheoli Digwyddiadau a Modelu. Mae ein staff yn ymwneud yn uniongyrchol â 22 o'r prosiectau hyn naill ai fel aelod cyfatebol neu wrth gymryd rhan weithredol ar lefel bwrdd prosiect.

Dros y flwyddyn ddiwethaf, rydym wedi bod yn defnyddio'r wyth maes o ddiddordeb ymchwil a nodwyd drwy'r cynllun ymchwil ar y cyd fel rhan o'r rhaglen ymchwil a datblygu ar y cyd i helpu i nodi ystod (130) o anghenion tystiolaeth gan ein staff. Mae rhagor o fanylion am feysydd o ddiddordeb ymchwil i'w cael yma.

Canolfan Llifogydd ar gyfer Hyfforddiant Doethurol

Mae Cyngor Ymchwil yr Amgylchedd Naturiol wedi dyfarnu £6.5 miliwn o gyllid i greu Canolfan Llifogydd ar gyfer Hyfforddiant Doethurol. Mae'r rhaglen hon yn fenter arwyddocaol gyda'r prif nod o hyfforddi'r genhedlaeth nesaf o ymchwilwyr gyda'r sgiliau a'r wybodaeth sydd eu hangen i fynd i'r afael â heriau cymhleth llifogydd. Rydym wedi ymuno â grŵp llywio’r ganolfan i gefnogi'r fenter hon a helpu i sicrhau bod y prosiectau ymchwil sy'n dilyn yn cael eu cefnogi i ddarparu buddion yn y “byd go iawn”. Wrth gefnogi'r fenter, rydym wedi darparu lleoedd i fyfyrwyr doethurol ar y cwrs sefydlu ar gyfer rheoli perygl llifogydd i helpu i ddatblygu eu dealltwriaeth o sut mae perygl llifogydd yn cael ei reoli ac i ddatblygu cysylltiadau ag arbenigwyr yn eu meysydd ymchwil penodol.

Atebion ar sail natur

Nature-based solutions (NBS) refers to the use of natural features and processes to tackle socio-environmental issues.  Natural flood management (NFM) is considered to be a nature based solution to help address flooding by using or restoring natural processes to reduce the risk of flooding and coastal erosion.  NFM can also provide many wider benefits including biodiversity improvement, increasing ecosystem resilience, improving water quality and storing carbon.   

A key priority of the Welsh Government National Strategy for Flood and Coastal Erosion Risk Management (FCERM) in Wales is to deliver more natural interventions and catchment based approaches to reduce flood risk. Flood risk management authorities in Wales are required to consider the use of NFM when developing options for new flood schemes and maintenance activities.  We aim to integrate NBS within flood and coastal risk management activities where feasible and appropriate.

Using the latest evidence, we have developed supplementary guidance for the initial assessment of our flood and coastal erosion risk projects.  This guidance will be tested, and refined over coming years (as our knowledge and understanding increases).

Mae atebion ar sail natur yn cyfeirio at ddefnyddio nodweddion a phrosesau naturiol i fynd i'r afael â materion cymdeithasol-amgylcheddol.  Ystyrir bod Rheoli Llifogydd yn Naturiol yn ateb ar sail natur i helpu i fynd i’r afael â llifogydd drwy ddefnyddio neu adfer prosesau naturiol i leihau’r perygl o lifogydd ac erydu arfordirol.  Gall Rheoli Llifogydd yn Naturiol hefyd gynnig llawer o fuddion ehangach, gan gynnwys gwella bioamrywiaeth, cynyddu gwytnwch ecosystemau, gwella ansawdd dŵr a storio carbon.   

Un o flaenoriaethau allweddol Strategaeth Genedlaethol ar gyfer Rheoli Perygl Llifogydd ac Erydu Arfordirol Llywodraeth Cymru yw cyflwyno mwy o ymyriadau naturiol a dulliau dalgylch er mwyn lleihau’r perygl o lifogydd yng Nghymru. Mae’n ofynnol i Awdurdodau Rheoli Perygl Llifogydd yng Nghymru ystyried y defnydd o arferion Rheoli Llifogydd yn Naturiol wrth ddatblygu opsiynau ar gyfer cynlluniau llifogydd newydd a gweithgareddau cynnal a chadw.  Ein nod yw integreiddio arferion Rheoli Llifogydd yn Naturiol o fewn gweithgareddau rheoli perygl llifogydd ac arfordirol lle bo hynny’n ymarferol ac yn briodol.

Gan ddefnyddio'r dystiolaeth ddiweddaraf, rydym wedi datblygu canllawiau atodol ar gyfer yr asesiad cychwynnol o'n prosiectau perygl llifogydd ac erydu arfordirol.  Bydd y canllawiau hyn yn cael eu profi a'u mireinio dros y blynyddoedd nesaf (wrth i'n gwybodaeth a'n dealltwriaeth gynyddu).

Datblygu ein hymagwedd at Reoli Llifogydd yn Naturiol

Fel sefydliad, rydym am arwain trwy esiampl, gan gyflawni ein hamcanion corfforaethol i ddiogelu a gwella natur, ymateb i'r argyfwng hinsawdd, a lleihau llygredd. Mae gweithredu mesurau Rheoli Llifogydd yn Naturiol yn cynnig potensial i gyflawni’r amcanion hyn, ac mae ganddynt rôl bwysig wrth gefnogi gweithredu i fynd i’r afael â’r argyfyngau hinsawdd a natur.

Rydym wedi cefnogi adolygiad Llywodraeth Cymru, Adolygiad o Reoli Llifogydd yn Naturiol yng Nghymru | LLYW.CYMRU, a gyhoeddwyd ym mis Chwefror 2025.  Casglodd a gwerthusodd yr adolygiad hwn y gweithgareddau presennol ym meysydd Rheoli Llifogydd yn Naturiol ac atebion ar sail natur sy'n digwydd yng Nghymru a gwnaeth argymhellion ar gyfer eu cyflwyno yn y dyfodol. Rydym bellach yn ymgymryd â phrosiect i nodi'r offer a thystiolaeth bosibl sydd eu hangen i'n galluogi i weithio gydag eraill i gynyddu'r ddarpariaeth o Reoli Llifogydd yn Naturiol yng Nghymru.

Mae’r adolygiad Rheoli Llifogydd yn Naturiol yn tynnu sylw at bwysigrwydd gweithio gydag amrywiaeth o bartneriaid, rhanddeiliaid, cymunedau a rheolwyr tir i gyflawni camau gweithredu ar draws dalgylch.  Fel sefydliad, rydym yn parhau i archwilio ffyrdd o wneud hyn. Dyma enghraifft o ble rydym yn gweithio gydag eraill mewn ffordd gydweithredol i gyflawni effeithiau cadarnhaol ar gyfer amgylchedd Cymru.

Afon Bidno, dalgylch uchaf afon Gwy

Mae ein Tîm Adfer Dalgylch Gwy Uchaf wedi ymgymryd â gwaith ar afon Bidno yn nalgylch uchaf afon Gwy i helpu i arafu'r llif a darparu manteision cynefin i fywyd gwyllt. Mae'r gwaith wedi'i ariannu gan Gronfa Argyfwng Natur a Hinsawdd Llywodraeth Cymru, rhan o'r Rhaglen Cyfalaf Dŵr. Ar hyd darn 1.5 km o afon Bidno yn Ystad Goetir Llywodraeth Cymru, rydym wedi gosod coed marw mawr yn y cwrs dŵr i helpu i arafu llif y dŵr a darparu amrywiaeth ehangach o nodweddion afon a chynefinoedd ar gyfer bywyd gwyllt. Mae'r coed hefyd yn darparu bwyd i bryfed dyfrol, ac yn eu tro amffibiaid, pysgod a dyfrgwn. Rydym hefyd wedi torri coed helyg ar lan y glannau yn rhannol i annog twf coed mwy trwchus a fydd yn darparu cysgod i'r afon, yn creu cynefin, ac yn arafu’r llif dros y tir. Rydym yn bwriadu mabwysiadu'r un technegau hyn i sicrhau manteision i ansawdd dŵr ac iechyd afonydd ar safleoedd eraill ar draws dalgylch afon Gwy a thu hwnt.

Ffigur 13: Llun yn dangos argae sy'n gollwng ar draws afon Bidno

Prosiectau Rheoli Llifogydd yn Naturiol

Rydym wedi gwneud cais llwyddiannus am gyllid o Gronfa Rheoli Llifogydd yn Naturiol ddiweddaraf Llywodraeth Cymru i fwrw ymlaen â phrosiect yn Ninas Powys.  Mae'r prosiect hwn yn cyfrannu at Raglen Lywodraethu Llywodraeth Cymru i reoli llifogydd ar sail natur ym mhob prif ddalgylch afon er mwyn ehangu cynefinoedd gwlyptiroedd a choetiroedd.

Afon Tregatwg, Dinas Powys

Rydym wedi parhau â'n gwaith gyda chymuned Dinas Powys i bennu opsiynau Rheoli Llifogydd yn Naturiol posibl ar gyfer y dalgylch. Mae ein swyddog ymgysylltu yn parhau i gefnogi'r prosiect i chwilio am opsiynau sy'n cefnogi lles pobl a natur gerllaw’r afon, ei his-afonydd, a'r dalgylch ehangach. Rydym yn datblygu cynigion mwy manwl ar gyfer gweithredu atebion ar sail natur, a byddwn yn parhau â'r gwaith hwn yn 2025/26.  Bydd y gweithgareddau hyn yn helpu adfer natur, yn cynyddu gwydnwch cymunedau i newid hinsawdd a pherygl llifogydd, ac yn gwella ansawdd dŵr.

Tystiolaeth ac ymchwil ym maes Rheoli Llifogydd yn Naturiol 

Rydym yn parhau i weithio gyda phartneriaid i ddeall effeithiolrwydd atebion ar sail natur o ran lleihau perygl llifogydd a darparu manteision ehangach i wasanaethau ecosystemau. 

Ym mis Chwefror 2025, cyhoeddodd Rhaglen Ymchwil a Datblygu ar y Cyd Cymru a Lloegr (Rheoli Perygl Llifogydd ac Erydu Arfordirol) y cyfeirlyfr tystiolaeth Gweithio gyda Phrosesau Naturiol ar ei newydd wedd. Mae'r diweddariad hwn yn darparu llinell sylfaen dystiolaeth newydd ar gyfer Rheoli Llifogydd yn Naturiol, a byddwn yn defnyddio'r dystiolaeth hon i lywio ein dulliau.

Lle mae ein harian yn cael ei wario

Rydym yn cael ein hariannu'n uniongyrchol gan Lywodraeth Cymru i gyflenwi gwaith rheoli perygl llifogydd, a hynny ar ffurf cyllid grant ar gyfer amddiffynfeydd rhag llifogydd. Daw hyn ar ffurf cyllid refeniw sy'n cefnogi gweithgareddau a gwasanaethau gweithredol arferol a “busnes fel arfer”, yn ogystal â chyllid cyfalaf a ddefnyddir i gyflawni gwaith prosiect.

Yn ystod 2024/25, derbyniodd CNC gyfanswm o £47 miliwn o gyllid grant ar gyfer amddiffynfeydd rhag llifogydd gan Lywodraeth Cymru er mwyn cyflawni gwaith rheoli perygl llifogydd, a oedd yn cynnwys £24.5 miliwn o gyllid refeniw a £22.5 miliwn o gyllid cyfalaf. Defnyddiwyd y cyllid hwn yn llawn yn y flwyddyn ariannol hon i gyflawni canlyniadau rheoli perygl llifogydd, cynnal y gwasanaethau y mae CNC yn eu darparu, a chyflawni llawer o’r llwyddiannau a amlinellir yn yr adroddiad hwn.

Cyllid cyfalaf

Ar gyfer blwyddyn ariannol 2024/2025, ein cyllideb gyfalaf oedd £22.5 miliwn. Fe wnaethon ni gynyddu’r amddiffyniad i 1,032 o eiddo drwy gwblhau cynllun cyfalaf newydd sylweddol yn Stryd Stephenson, Llyswyry (Casnewydd) ac un arall yn Sandycroft (Sir y Fflint), a chynnal safon yr amddiffyniad i 856 o eiddo drwy brosiectau cynnal a chadw cyfalaf.

Ochr yn ochr â chwblhau cynlluniau Stryd Stephenson a Sandycroft, gwnaethom gynnydd sylweddol ar sawl cynllun mawr a oedd mewn gwahanol gamau o ddatblygiad yn ystod 2024/25. Bydd y cynlluniau hyn yn ffurfio mwyafrif ein gwariant cyfalaf yn y blynyddoedd i ddod ac yn cynnwys lleoliadau ledled Cymru fel Pwllheli a Phorthmadog (Gwynedd), Aberteifi (Ceredigion), afon Ritec, Dinbych-y-pysgod (Sir Benfro), a chynllun strategol i reoli llifogydd yn nalgylch afon Taf (Merthyr, Rhondda Cynon Taf a Chaerdydd). Yn y tymor hir, disgwylir i'r rhain fod o fudd i dros 3,000 o eiddo pan fyddant wedi'u cwblhau. Mae Ffigur 10 isod yn cynnwys dadansoddiad o wariant cyfalaf fesul math o brosiect:

Ffigur 14: Siart yn dangos dadansoddiad o wariant cyfalaf fesul math o brosiect

Siart yn dangos dadansoddiad o wariant cyfalaf fesul math o brosiect


Mae gweithgareddau craidd yn cynnwys costau cyflog (£2.2 miliwn), cyfraniadau i wasanaethau galluogi corfforaethol ehangach (£1.8 miliwn) a phrynu fflyd, peiriannau ac offer (£275,000) wedi'u cyfalafu. Mae costau trawsnewid busnes cyfalaf yn ymwneud â gwaith datblygu system TGCh benodol i reoli perygl llifogydd, neu gyfraniadau at waith datblygu systemau sydd er budd i wasanaethau rheoli perygl llifogydd. Yn 2024/25, roedd hyn yn cynnwys prosiectau i ddisodli ein system rhybuddion llifogydd a’n system telemetreg.

Cyllid refeniw

Cefnogodd y setliad refeniw o £24.5 miliwn ar gyfer y flwyddyn 2023/24 yr ymdrech sylweddol sy'n ofynnol o ran cynnal a darparu'r gwasanaethau, cyngor, offerynnau a gweithgareddau y mae CNC yn ymgymryd â nhw er mwyn helpu i reoli perygl llifogydd yng Nghymru. Yn bennaf, mae'r cyllid hwn yn cynnal costau staff, gwaith cynnal a chadw arferol, gwasanaethau galluogi amrywiol sy'n cefnogi ein gwaith, a gweithgareddau arferol eraill. Mae Ffigur 11 isod yn dangos dadansoddiad o'r gwariant refeniw fesul gweithgaredd.

Ffigur 15: Siart yn dangos dadansoddiad o'r gwariant refeniw fesul gweithgaredd

Siart yn dangos dadansoddiad o'r gwariant refeniw fesul gweithgaredd


Mae pob un o’r meysydd gwaith hyn yn rhyngweithio ac yn gorgyffwrdd â’i gilydd i ddarparu gwasanaethau allweddol, felly mae rhai meysydd lle mae timau’n cefnogi gweithgareddau ehangach a all gamliwio graddfa’r ymdrech yn rhai o’r gweithgareddau uchod gan fod llawer o feysydd yn ddibynnol ar ei gilydd i sicrhau canlyniadau.  Er enghraifft, mae gwaith Hydrometreg a Thelemetreg yn cefnogi rhagolygon a chyhoeddi rhybuddion llifogydd.

Mae Gorbenion Corfforaethol a’r Gwasanaeth Galluogi yn cynnwys cyfraniad y tîm rheoli perygl llifogydd i weithrediad gwasanaethau busnes allweddol sy’n cefnogi’r gwaith o gyflawni gweithgareddau rheoli perygl llifogydd.  Mae'r rhain yn cynnwys Cyfathrebu, Caffael, Llywodraethu ac Arwain, Cynllunio Corfforaethol, Gwasanaethau Cyfreithiol, Rheoli Pobl, Cyfleusterau, Rheoli Fflyd a Chyllid. Mae costau Darparu Gwasanaeth yn gysylltiedig â gweithredu a chynnal systemau, offer a gwasanaethau allweddol a gefnogir gan eraill, er enghraifft Asiantaeth yr Amgylchedd.

Defnyddiwyd y gyllideb refeniw o £24.5 miliwn yn llawn yn ystod y flwyddyn 2024/25, a helpodd i gefnogi llawer o'r mentrau a amlinellir yn yr adroddiad hwn, ynghyd â sicrhau bod ein gwasanaethau “busnes fel arfer” wedi parhau i gael eu darparu yn effeithiol.

Niferoedd staff

Yn fras, gellir dosbarthu'r ymdrech sy'n ofynnol o ran cyflawni gwaith rheoli perygl llifogydd yn CNC i'r meysydd gwaith a strwythurau canlynol:

  • Timau gwasanaethau a pholisïau cenedlaethol sy'n atebol i'r Pennaeth Rheoli Perygl Llifogydd a Digwyddiadau o fewn y Gyfarwyddiaeth Tystiolaeth, Polisi a Thrwyddedu.
  • Gwasanaethau technegol rheoli perygl llifogydd uniongyrchol sy'n atebol i reolwyr perygl llifogydd a dŵr o fewn y Gyfarwyddiaeth Gweithrediadau.
  • Timau cyflawni gweithredol integredig sy'n atebol i reolwyr tir ac asedau o fewn y Gyfarwyddiaeth Gweithrediadau.
  • Gwasanaethau galluogi sy'n darparu cymorth canolog i bob un o swyddogaethau CNC. Maent hefyd yn cael eu hariannu yn rhannol a chymesur o gronfeydd rheoli perygl llifogydd er mwyn ei gwneud yn bosibl darparu'r gwasanaethau hyn.

Yn y sefyllfa sydd ohoni ym mis Mawrth 2025, rydym yn amcangyfrif bod nifer y staff mewn swyddi cyfwerth ag amser llawn mewn meysydd sy'n ymwneud â rheoli perygl llifogydd fel y nodir yn y tabl canlynol. (Nid yw'r adroddiad hwn yn cynnwys data ar nifer y staff sy'n gweithio ym maes gwasanaethau galluogi oherwydd ei bod yn rhy gymhleth i nodi rolau a chyfraniadau penodol.)

Tabl 9: Swyddi staff cyfwerth ag amser llawn yn gweithio'n uniongyrchol ym maes rheoli perygl llifogydd ym mis Mawrth 2025 (pob swydd, gan gynnwys swyddi gwag)

Niferoedd staff cyfwerth ag amser llawn Maes gwaith sefydliadol 
63.8 Timau gwasanaethau a pholisïau cenedlaethol
143.3 Gwasanaethau technegol rheoli perygl llifogydd uniongyrchol
172.5 Timau cyflawni gweithredol integredig
379.6 Cyfanswm yr amcangyfrif o'r staff cyfwerth ag amser llawn yn CNC a ariennir o gronfeydd rheoli perygl llifogydd


Yn ystod 2024/25, mewn ymateb i gyfyngiadau cyllidebol cymorth grant, adolygodd Cyfoeth Naturiol Cymru ei strwythurau staffio ar draws yr ystod o weithgareddau a gyflwynir drwy gyllid cymorth grant.  Arweiniodd hyn at benderfyniadau i dynnu cyllid oddi ar amrywiol weithgareddau Cyfoeth Naturiol Cymru, gan gynnwys tynnu £1 miliwn o gyllid i weithgareddau rheoli perygl llifogydd o gyllideb 2025/26 ymlaen.  Mae hyn yn golygu bod y cymorth grant refeniw o 1 Ebrill 2025 ymlaen yn £23.5 miliwn, i lawr o £24.5 miliwn. Mae hyn, yn ei dro, wedi golygu dileu 18 o swyddi o'r strwythur.  Gan fod Cyfoeth Naturiol Cymru wedi rhewi recriwtio am lawer o'r ddwy flynedd ariannol ddiwethaf, swyddi gwag oedd y swyddi a gafodd eu dileu.  Gwnaed penderfyniadau hefyd i drosi £470,000 o’r gyllideb i fod yn gyllideb nad yw ar gyfer staff, er mwyn caniatáu mwy o hyblygrwydd wrth gyflawni canlyniadau.  Roedd hyn yn ei dro yn golygu dileu naw swydd arall, yn weithredol o 1 Ebrill 2025.  Gan fod y gwaith cynllunio ar gyfer hyn wedi digwydd yn 2024/25, mae wedi'i adrodd yn yr adroddiad blynyddol hwn.

Tueddiadau

Pwrpas y bennod hon yw dangos sut mae blwyddyn ariannol 2024/25 yn cymharu â'r blynyddoedd ariannol blaenorol. Nid data newydd yw hwn, ond mae'n cyfuno ac yn crynhoi'r data sydd wedi'i gynnwys drwy gydol yr Adroddiad Blynyddol Rheoli Perygl Llifogydd hwn a fersiynau blaenorol. Fel yr Adroddiad Blynyddol Rheoli Perygl Llifogydd, mae'r data tueddiadau wedi'i rannu'n bynciau swyddogaethol er hwylustod.

Adroddir y data tuedd canlynol er gwybodaeth yn unig heb sylwadau. Bydd y data hwn yn cael ei ddefnyddio i gyfrannu at benderfyniadau cynllunio busnes a buddsoddi o fewn Cyfoeth Naturiol Cymru a helpu i lywio'r broses honno.

Rheoli asedau perygl llifogydd – asedau newydd

Tabl 14: Eiddo sy'n elwa o lefel gynaliadwy neu is o berygl llifogydd

Blwyddyn 2020-21 2021-22 2022-23 2023-24 2024-25
Eiddo 720 242 1,680 1,047 1,888


Rheoli asedau perygl llifogydd – archwiliadau asedau

Tabl 15: Nifer yr archwiliadau asedau arferol a gwblhawyd bob blwyddyn

Blwyddyn 2020-21 2021-22 2022-23 2023-24 2024-25
Nifer 11,810 11,061 13,571 15,725 14,289


Rheoli asedau perygl llifogydd – perfformiad asedau

Tabl 16: Canran yr asedau mewn systemau risg uchel sydd yn eu cyflwr gofynnol neu uwchlaw iddo i gyflawni eu swyddogaeth yn effeithiol

Blwyddyn 2020-21 2021-22 2022-23 2023-24 2024-25
Canran 97.5 98.1 98.3 97.2 97.2


Rheoleiddio cronfeydd dŵr

Tabl 17: Nifer y cyforgronfeydd dŵr mawr a chronfeydd dŵr risg uchel

Blwyddyn 2020-21 2021-22 2022-23 2023-24 2024-25
Nifer y cronfeydd dŵr 371 395 397 402 405
Nifer y cronfeydd dŵr risg uchel 188 248 266 269 277


Cynghori cynllunwyr a gwaith cydsynio a gorfodi – cyngor ar gynllunio datblygu

Tabl 18: Nifer yr ymgynghoriadau cynllunio lle nodwyd perygl llifogydd gan yr awdurdod cynllunio lleol fel cyfyngiad posibl

Blwyddyn 2020-21 2021-22 2022-23 2023-24 2024-25
Nifer 2,086 2,353 2,414 2,352 2,100


Cynghori cynllunwyr a gwaith cydsynio a gorfodi – rheoleiddio gweithgareddau perygl llifogydd

Tabl 19: Nifer y Trwyddedau Gweithgarwch Perygl Llifogydd ac esemptiadau Trwyddedau Gweithgarwch Perygl Llifogydd a roddwyd gan Cyfoeth Naturiol Cymru ym mhob blwyddyn ariannol

Blwyddyn 2020-21 2021-22 2022-23 2023-24 2024-25
Nifer y Trwyddedau Gweithgarwch Perygl Llifogydd 214 285 241 218 204
Nifer yr esemptiadau

30

52 22 50 46


Darogan llifogydd a chyhoeddi rhybuddion

Dyddiau o berygl llifogydd uwch

Amlygir perygl llifogydd uwch drwy’r Datganiad Cyfarwyddyd Llifogydd, sy'n darparu rhagolwg perygl llifogydd dyddiol dros bum niwrnod i'r llywodraeth a phartneriaid proffesiynol er mwyn cynorthwyo â phenderfyniadau cynllunio strategol, tactegol a gweithredol mewn perthynas â pherygl llifogydd datblygol. Mae'r wybodaeth yn cael ei rhannu â'r cyhoedd hefyd drwy ein gwefan.

Mae'r ffigur isod yn dangos y rhagolygon perygl llifogydd ar gyfer Cymru ar gyfer pob blwyddyn ariannol dros y pum mlynedd diwethaf. Ar gyfer pob blwyddyn, mae llinell ar gyfer pob diwrnod o'r flwyddyn, wedi'i graddliwio yn ôl y perygl o lifogydd a ragwelwyd.

Ffigur 16: Siartiau cod bar yn dangos y rhagolygon perygl llifogydd ar gyfer Cymru ar gyfer pob blwyddyn ariannol dros y pum mlynedd diwethaf. Mae llinell ar gyfer pob diwrnod, gyda gwyrdd yn dynodi perygl isel iawn, melyn perygl isel, oren perygl canolig a choch perygl uchel.

Siartiau cod bar yn dangos y rhagolygon perygl llifogydd ar gyfer Cymru ar gyfer pob blwyddyn ariannol dros y pum mlynedd diwethaf. Mae llinell ar gyfer pob diwrnod, gyda gwyrdd yn dynodi perygl isel iawn, melyn perygl isel, oren perygl canolig a choch perygl uchel.


Tabl 20: Nifer yr hysbysiadau bod yn barod am lifogydd a rhybuddion llifogydd a gyhoeddwyd bob blwyddyn 

Blwyddyn 2020-21 2021-22 2022-23 2023-24 2024-25
Dyddiau o berygl llifogydd uwch (effeithiau rhagolwg bach a mwy) 153 121 75 139 102
Dyddiau o berygl llifogydd dwysach (effeithiau rhagolwg sylweddol ac uwch)

39

15 15 20 40


Darogan llifogydd a chyhoeddi rhybuddion

Tabl 21: Nifer yr eiddo sydd wedi cofrestru ar gyfer rhybuddion llifogydd uniongyrchol

Blwyddyn 2020-21 2021-22 2022-23 2023-24 2024-25
Nifer yr hysbysiadau bod yn barod am lifogydd 596 369 472 760 622
Nifer y rhybuddion llifogydd

195

193 118 196 217
Nifer y rhybuddion llifogydd difrifol

2

0 0 3 2


Darogan llifogydd a chyhoeddi rhybuddion

Tabl 22: Nifer yr eiddo sydd wedi cofrestru ar gyfer rhybuddion llifogydd uniongyrchol

Blwyddyn 2020-21 2021-22 2022-23 2023-24 2024-25
Nifer yr eiddo sydd mewn perygl sydd wedi'u cofrestru'n llawn i dderbyn rhybuddion llifogydd 52,011 49,161 48,411 47,551 48,271


Rhwydwaith hydrometrig

Tabl 23: Nifer y mesuryddion glaw, safleoedd gwastad neu lif, a safleoedd dŵr daear o fewn ein rhwydwaith

Blwyddyn 2020-21 2021-22 2022-23 2023-24 2024-25
Mesuryddion glaw 253 253 255 253 253
Safleoedd gwastad neu lif

340

347 344 334 333
Safleoedd dŵr daear

139

139 140 135 135


Ymgysylltu â'r gymuned a gwydnwch

Tabl 24: Nifer y cynlluniau llifogydd cymunedol sydd ar waith ledled Cymru sy'n cael eu cynnal ac yn addas at y diben ac sy’n darparu gwasanaeth i'r cymunedau sy'n berchen arnynt ac yn eu defnyddio

Blwyddyn 2020-21 2021-22 2022-23 2023-24 2024-25
Nifer 76 74 74 71 76


Ble mae ein harian yn cael ei wario

Tabl 25: Gwariant cyfalaf

Blwyddyn 2020-21 2021-22 2022-23 2023-24 2024-25
£miliwn 13.5 17 19.5 32.1 22.5


Tabl 26: Gwariant refeniw

Blwyddyn 2020-21 2021-22 2022-23 2023-24 2024-25
£miliwn 21 22 22.5 24.5 24.5

 

Diweddarwyd ddiwethaf