Rhaglen Weithredu Genedlaethol ar Fawndiroedd
Rhaglen Weithredu Genedlaethol ar Fawndiroedd
Mae’r Rhaglen Weithredu Genedlaethol ar Fawndiroedd yn gynllun pum mlynedd ar gyfer adfer mawndiroedd yng Nghymru.
Mae mawndiroedd yn cynnal amrywiaeth o gynefinoedd a rhywogaethau, ac mae ganddynt rôl bwysig mewn:
- dal a storio carbon
- rheoleiddio nwyon tŷ gwydr
- cynnal bioamrywiaeth
- rheoleiddio dŵr
Mae galw cynyddol wedi bod ar gyfer rhaglen genedlaethol i gydlynu’r gwaith adfer.
Gwaith adfer
Mae gan y Rhaglen Weithredu Genedlaethol ar Fawndiroedd chwe blaenoriaeth:
- Erydiad mawndir
- Draenio mawndir
- Rheoli mawndiroedd yr ucheldir yn gynaliadwy
- Rheoli mawndiroedd yr iseldir yn gynaliadwy
- Adfer mawndiroedd wedi'u coedwigo
- Adfer mawndiroedd sydd â'r allyriadau carbon uchaf yn raddol
Bydd y rhaglen yn targedu mawndiroedd sydd angen eu hadfer fwyaf ac mae’n bwriadu adfer 600 – 800 o hectar o dir cyhoeddus a phreifat bob blwyddyn. Fe wnaethom adfer dros 650 hectar ym mlwyddyn gyntaf y prosiect (2020-21).
Bydd y rhaglen hefyd yn diogelu mawndiroedd sydd mewn cyflwr da a chyflwr sy'n gwella.
Cyllid i adfer mawndiroedd
Mae gennym gyllid ar gyfer prosiectau adfer mawndiroedd.
Porth Data Mawndiroedd Cymru
Mae Porth Data Mawndiroedd Cymru yn dangos ymhle mae mawndiroedd a’r ardaloedd sydd angen eu hadfer. Mae’r mapiau rhyngweithiol yn cynnwys:
- cynefinoedd sy'n cael eu cynnal gan fawn
- amcangyfrifon o'r carbon sy'n cael ei storio mewn mawndiroedd yng Nghymru
- amcangyfrifon o allyriadau nwyon tŷ gwydr
Byddwn yn diweddaru'r Porth wrth i fawndiroedd gael eu hadfer. Bydd hyn yn cynnwys yr effeithiau ar gyflwr mawndiroedd, bioamrywiaeth a lliniaru newid hinsawdd.
Dysgwch fwy am haenau Porth Data Mawndiroedd
Dilyn gwaith y rhaglen
Blog gan un o’r Swyddogion Prosiect am ddarganfod alga anghyffredin - Alga hynod
Dilynwch ni ar gyfryngau cymdeithasol #AdferMawndiroeddCymru
Twitter @NatResWales
Facebook @NatResWales
Ewch i’n rhestr chwarae ar YouTube i weld ein fideos ar waith adfer mawndiroedd ar draws Cymru
Darllenwch ein hadroddiad ail flwyddyn (2021-22) (PDF) (Saesneg yn unig)
Darllenwch ein hadroddiad blwyddyn gyntaf (2020-21) (PDF) (Saesneg yn unig)
Rhaglen Weithredu Genedlaethol ar Fawndiroedd 2020-2025 (PDF) (Saesneg yn unig)
Rhaglen Weithredu Genedlaethol ar Fawndiroedd – Gweithredoedd Allweddol Blynyddoedd 1-5 (PDF) (Saesneg yn unig)
Adnoddau addysg am fawndiroedd
Fideo am pam fod mawndiroedd yn bwysig a pham ein bod ni’n eu hadfer
Prosiectau mawndiroedd eraill
Prosiect LIFE Corsydd Môn a Llŷn
Cysylltu â ni
Cysylltwch â ni am fwy o wybodaeth am y rhaglen npap@cyfoethnaturiolcymru.gov.uk