Ardaloedd Cymeriad Tirwedd Cenedlaethol (NLCA)
Mae tirweddau, a luniwyd dros amser gan natur a phobl, yn ffurfio’r mannau amgylcheddol lle rydym yn byw, yn gweithio ac yn mwynhau bywyd. Maent yn cyfrannu at ansawdd ein bywyd, at ein llwyddiant a’n lles. Drwy gydnabod cymeriad tirwedd, a’r adnoddau naturiol a’r dreftadaeth ddiwylliannol sy’n ei diffinio, mae’n bosibl inni gael gwell dealltwriaeth o sut i lunio ein dyfodol.
Diffinnir Ardaloedd Cymeriad Tirwedd Cenedlaethol ar raddfa tirwedd eang ledled Cymru. Mae’r proffiliau disgrifiadol ar gyfer y 48 ardal cymeriad unigol yn tanlinellu’r hyn sy’n gwahaniaethu rhwng y naill dirwedd a’r llall, gan gyfeirio at eu nodweddion naturiol ardal-benodol, eu nodweddion diwylliannol a chanfyddiadol.
Mae’n well ystyried llawer o’r heriau cydnerthedd amgylcheddol a chynllunio yr ydym yn eu hwynebu ar ‘raddfa tirwedd’. Gall disgrifiadau polisi-niwtral yr NLCA gyfrannu at ddatblygu polisi, strategaeth neu ganllawiau cenedlaethol a rhanbarthol. Mae Datganiadau Ardal CNC yn ymgorffori gwybodaeth NLCA.
Mae Ardaloedd Cymeriad Tirwedd Cenedlaethol yn cynnig:
- darpariaeth sy’n cwmpasu Cymru gyfan
- 48 ardal cymeriad ar raddfa eang
- disgrifiad cryno a rhestr o nodweddion allweddol cysylltiedig â hunaniaeth ranbarthol
- naratifau byrion sy’n crisialu dylanwadau gweledol, daearegol, cynefinol, hanesyddol a diwydiannol
- yn ffurfio adnodd delfrydol ar gyfer gweithio ar lefel strategol ac yn darparu cyd-destun ehangach (graddfa 1:250,000)
- yn darparu gwybodaeth allweddol ar gyfer hyrwyddo a dathlu tirweddau rhanbarthol
- ac yn cynnig graddfa gydweddol ag Ardaloedd Cymeriad Tirwedd Cenedlaethol (NCAs) cyfagos yn Lloegr
Ceir Ardaloedd Cymeriad Tirwedd Cenedlaethol eraill, mwy manwl ond ar raddfa lai yng Nghymru hefyd. Cyhoeddir y rhain gan awdurdodau lleol a gallent ffurfio rhan o’u Canllawiau Cynllunio Atodol.
Mae pob asesiad cymeriad tirwedd yng Nghymru yn cychwyn drwy gyfeirio at LANDMAP, ein llinell sylfaen tystiolaeth tirwedd mwyaf manwl, ac oddi yma gallwn ddechrau ‘adeiladu’ ardaloedd cymeriad.