Graddau llwybrau beicio mynydd

Beth mae graddau’r llwybrau beicio mynydd yn eu golygu?

Mae pob llwybr beicio mynydd yn cael ei raddio er mwyn dangos pa mor anodd ydyw.

Mae’r graddau’n ystyried:

  • arwyneb y llwybr
  • graddiannau
  • nodweddion technegol
  • y lefelau ffitrwydd sydd eu hangen

Dangosir graddfa pob llwybr ar y panel gwybodaeth ar y dechrau.

Chwiliwch am arwyddion rhybudd “Y Safon Uchaf” - efallai y byddwch am archwilio’r rhain cyn i chi feicio arnynt.

Mae’r panel hefyd yn rhoi manylion pellach am y llwybr ac yn dweud pa arwyddbyst i’w dilyn ar dy ffordd o gwmpas (saeth mewn rhyw liw neu fath arall o arwydd).

Pa radd sy’n iawn i chi?

Darllenwch yr wybodaeth am y graddau, a gwnewch yn siwr eich bod yn dewis llwybr beicio mynydd sy’n addas i chi – yna ewch at y panel ym man cychwyn y llwybr i gael y manylion llawn a dilynwch y marcwyr arbennig ar gyfer eich llwybr.

Gall beicio mynydd fod yn weithgaredd peryglus iawn.

Ni ddylid ymgymryd â’r gweithgaredd oni bai fod gennych ddealltwriaeth lawn o’r risgiau dan sylw.

Dylid dilyn y canllawiau hyn bob amser ar y cyd â’ch profiad, eich greddf a synnwyr cyffredin.

Ffordd goedwig a thebyg

  • Gall graddiannau fod yn serth neu’n amrywiol.
  • Gall arwynebau fod yn anwastad, yn rhydd neu’n dyllog.
  • Mae sgiliau darllen map yn ddefnyddiol (nid oes arwyddbyst ar y llwybrau bob amser).

Gwyrdd/Hawdd

  • Llwybrau cymharol wastad, llydan a llyfn.
  • Dringfeydd, disgynfeydd, tonnau ac ysgafellau ysgafn, gyda nodweddion hawdd eu hosgoi fel creigiau a thyllau.
  • Efallai y bydd yr arwyneb yn rhydd, yn anwastad neu'n fwdlyd ar adegau.

Glas/Cymedrol

  • Cymysgedd o ddringfeydd a disgynfeydd gyda graddiannau cymedrol, nodweddion technegol fel gwreiddiau coed a grisiau cerrig; neidiau ac ysgafellau.
  • Nodweddion y gallwch rholio drostynt ar gyflymder rheoledig.
  • Arwynebau amrywiol.

Coch/Anodd

  • Cymysgedd o ddringfeydd a disgynfeydd serth a/neu nodweddion y gellir eu hosgoi.
  • Neidiau, ysgafellau a nodweddion mwy y gallwch rholio drostynt ar gyflymder rheoledig.
  • Nodweddion technegol fel gwreiddiau coed, cwympiadau a chreigiau mawr.
  • Arwynebau amrywiol iawn.

Du/Anodd iawn

  • Dringfeydd, disgynfeydd a neidiau hir a serth.
  • Nifer o beryglon gan gynnwys cwympiadau a nodweddion eithafol.
  • Arwyneb sy’n newid yn gyflym.
  • Mae angen ymrwymiad.

Du dwbl/Eithafol

  • Disgynfeydd cyflym a serth iawn.
  • Cwympiadau mawr, neidiau a rhwystrau na ellir eu hosgoi sy'n gofyn am lefel uchel o sgìl ac ymrwymiad.
  • Lefel eithafol o risg.
  • Arwyneb sy’n newid yn gyflym.

Archwilio mwy

Diweddarwyd ddiwethaf