Map a Datganiad Diffiniol
Beth yw'r Map a Datganiad Diffiniol?
Cofnod cyfreithiol o hawliau tramwy cyhoeddus ar gyfer yr ardal y mae'n ei chwmpasu yw'r Map a Datganiad Diffiniol. Caiff ei gadw a'i gynnal gan yr awdurdod priffyrdd lleol perthnasol, sef y Cyngor Sir neu Gyngor Bwrdeistref Sirol fel arfer.
Dogfen sydd ar gael yn gyhoeddus
Dogfen gyhoeddus ydyw ac mae gan yr awdurdod ddyletswydd i sicrhau ei bod ar gael i unrhyw un sydd am ei gweld. Bydd llawer o awdurdodau hefyd yn cynnal chwiliad o'r cofnodion hyn am ffi fechan.
Gwybodaeth benodol
Dim ond rhai mathau penodol o briffyrdd cyhoeddus y mae Mapiau Diffiniol yn eu cofnodi - sef llwybrau troed cyhoeddus, llwybrau ceffylau cyhoeddus, Cilffyrdd Cyfyngedig a Chilffyrdd sy'n Agored i Unrhyw Draffig. Nid ydynt yn cofnodi gwybodaeth am y rhwydwaith ffyrdd arferol, llwybrau caniataol, llwybrau beicio na hawliau tramwy preifat.
Lleoliad a statws
Mae'r map yn cofnodi lleoliad a statws llwybrau a bydd y datganiad fel arfer yn cofnodi gwybodaeth ategol, megis p'un a oes gan y llwybr led gyfreithlon diffiniedig neu a yw'n ddarostyngedig i unrhyw gyfyngiadau, er enghraifft, hawl tirfeddiannwr i godi a chynnal camfeydd a gatiau.
Amrywiadau lleol
Gall Mapiau a Datganiadau Diffiniol amrywio llawer o ardal i ardal. Nid oes gan rai ardaloedd fap na datganiad (ardaloedd eithriedig) ond bydd gan eraill fap efallai ond dim datganiad ategol.
Bydd llawer yn dibynnu ar yr amgylchiadau y lluniwyd y mapiau hyn ynddynt y tro cyntaf (fel arfer yn y 1950au) a phryd y diwygiodd yr awdurdod lleol ei Fap a Datganiad Diffiniol diwethaf (drwy broses gyfreithiol o'r enw 'cyfuno').
Mapiau Diffiniol Diwygiedig
Cyfeirir at fapiau sydd wedi bod drwy broses gyfuno, ac felly nid y Mapiau Diffiniol gwreiddiol, cyntaf, fel 'Mapiau Diffiniol Diwygiedig'. Bydd gan bob Map Diffiniol 'ddyddiad perthnasol' a dim ond newidiadau a wnaed hyd at y dyddiad hwn a gaiff eu cofnodi arno.
Copïau gweithredol o'r Map Diffiniol
Fel rheol, anaml y bydd cyfuno'n digwydd ac efallai na fydd rhai awdurdodau wedi cyfuno ers sawl degawd. Fodd bynnag, bydd y rhan fwyaf o awdurdodau hefyd yn cynnal copi gweithredol o'u map a gaiff ei ddiweddaru'n gyson wrth i orchmynion cyfreithiol gael eu cadarnhau. Gall copïau gweithredol fod yn fapiau ffisegol neu ddigidol. Gall awdurdodau lleol sicrhau bod copïau gweithredol digidol ar gael i'r cyhoedd drwy eu gwefannau.
Ffynhonnell wedi'i diweddaru
Gan y bydd copïau gweithredol fel arfer yn fwy cyfredol na'r Map Diffiniol gwirioneddol, fe'u defnyddir fel arfer ar gyfer gwaith cyfeirio o ddydd i ddydd er, gan y bydd copïau gweithredol yn cael eu rheoli'n llai trylwyr, gallant gynnwys gwallau drafftio. Dylai defnyddwyr y fersiynau hyn gofio eu bod yn ymdrin â chopïau, nid y cofnod cyfreithiol gwirioneddol.
Cofnod gofynnol
Mae'r Map a Datganiad Diffiniol yn darparu prawf cyfreithiol pendant o fodolaeth a statws y llwybrau hynny a ddangosir arno, ac unrhyw ledau neu gyfyngiadau a gofnodir yn y datganiad, ar y dyddiad perthnasol. Fodd bynnag, cydnabyddir mai 'cofnod gofynnol' yn unig yw'r Mapiau Diffiniol ac mae'r gyfraith yn cydnabod y bydd llawer o hawliau tramwy yn bodoli ond na chânt eu cofnodi.
Hynny yw, nid yw'r ffaith na ddangosir llwybr ar Fap Diffiniol yn profi nad yw'n hawl dramwy gyhoeddus. Felly, nid yw'r rhan fwyaf o ddyletswyddau cyfreithiol sy'n ymwneud â hawliau tramwy cyhoeddus, yn gyfyngedig i'r rheini a gofnodir ar Fap Diffiniol.
Ailddrafftio a diwygio
Efallai y cafodd rhai hawliau eu methu pan luniwyd y map y tro cyntaf, neu fod gwall wedi digwydd pan ailddrafftiwyd map, neu fod hawl dramwy gyhoeddus newydd wedi cael ei sefydlu ers y diwygiad diwethaf - er enghraifft, mewn achosion o ddefnydd cyhoeddus hirdymor. Bydd angen ystyried achosion o'r fath yn ôl eu rhinweddau eu hunain.
Gweler isod am ragor o wybodaeth am y sefyllfaoedd hyn.
At ba ddiben y defnyddir Mapiau Diffiniol?
Er na fydd y rhan fwyaf o aelodau o'r cyhoedd byth yn gweld Map a Datganiad Diffiniol, byddant siŵr o fod yn gyfarwydd â gwybodaeth sy'n deillio ohonynt. Er enghraifft, mae'r dogfennau hyn yn sail i wybodaeth am hawliau tramwy cyhoeddus sy'n ymddangos ar fapiau Arolwg Ordnans ac mewn cyhoeddiadau hamddena eraill. Mapiau a Datganiadau Diffiniol yw'r dogfennau y cyfeirir atynt hefyd mewn chwiliadau pridiannau tir, pan fydd rhywun yn ystyried prynu eiddo ac am wybod a yw'n ddarostyngedig i hawliau tramwy.
Cywiro a diweddaru'r Map a Datganiad Diffiniol
Mewn rhai achosion, efallai y bydd yr hawliau wedi cael eu cofnodi'n anghywir. Neu gall hawl fod wedi cael ei chofnodi yn y lle anghywir neu fod y statws anghywir wedi'i roi iddi. Mewn amgylchiadau penodol, gall hawliau tramwy fod wedi cael eu sefydlu drwy ddefnydd cyhoeddus hirdymor ar ôl i'r Map Diffiniol gael ei ddrafftio.
Rhoi'r gorau i hawliau tramwy cyhoeddus
Ar ôl i hawl dramwy gyhoeddus gael ei nodi, dim ond os caiff ei chau yn gyfreithiol neu ei diddymu y gall beidio â bodoli. Nid yw hawliau tramwy cyhoeddus yn peidio â bodoli yn syml am na chânt eu defnyddio.
Cywiro camgymeriadau
Mae cywiro camgymeriadau neu hepgoriadau yn y Map Diffiniol yn broses gyfreithiol y mae angen tystiolaeth ar ei chyfer. Nodir y broses gywiro yn Neddf Bywyd Gwyllt a Chefn Gwlad 1981. Gall awdurdodau lleol gychwyn y broses eu hunain neu gall aelodau o'r cyhoedd wneud cais am addasiad drwy gyflwyno cais 'Atodlen 14' ac atodi tystiolaeth berthnasol.
Gorchmynion Addasu Mapiau
Ar ôl i'r awdurdod lleol ddod yn ymwybodol bod digon o dystiolaeth ar gael i ddangos bod y Map Diffiniol yn anghywir, mae ganddo ddyletswydd i wneud Gorchymyn Addasu Mapiau Diffiniol i gywiro'r gwall. Bydd unrhyw un nad yw'n credu'r dystiolaeth sy'n ategu'r newid a gynigir, ac a all ddarparu tystiolaeth i ategu ei safbwynt ei hun, wrthwynebu'r gorchymyn addasu, ac os felly bydd angen i'r awdurdod ei drosglwyddo i'r Arolygiaeth Gynllunio.
Cadarnhau Gorchmynion Addasu
Bydd yr Arolygiaeth Gynllunio yn gwrando ar dystiolaeth ac yn penderfynu a ddylid cadarnhau'r gorchymyn ai peidio. Dylai awdurdodau priffyrdd lleol gynnal cofrestr gyhoeddus o geisiadau ar gyfer newidiadau i'r Map Diffiniol.
Rhagor o wybodaeth
I gael rhagor o wybodaeth am wneud cais am Orchymyn Addasu Mapiau Diffiniol, neu i wneud sylwadau arno, cysylltwch â thîm hawliau tramwy perthnasol y cyngor. I gael gwybodaeth am y broses o ymdrin â gorchmynion y mae anghydfod yn eu cylch yng Nghymru, ewch i https://www.gov.uk/guidance/object-to-a-public-right-of-way-order.
Newidiadau eraill i hawliau tramwy cyhoeddus
Mae'n bosibl gwneud cais i newid hawl dramwy hyd yn oed os nad oes tystiolaeth ar gael. Cyfeirir yn aml at newidiadau o'r math hwn fel 'newidiadau ffafriol' ac fe'u gwneir fel arfer ar gais perchennog y tir y mae'r hawl dramwy yn rhedeg drosto.
Gorchmynion Llwybrau Cyhoeddus
Mae'r mathau hyn o newid fel arfer yn galw am Orchymyn Llwybr Cyhoeddus, o dan Ddeddf Priffyrdd 1980. Yn wahanol i orchmynion i gywiro'r Map sy'n seiliedig ar dystiolaeth, mae gan awdurdodau y pŵer - ond nid dyletswydd - i wneud Gorchmynion Llwybrau Cyhoeddus a gallant adennill oddi wrth y ceisydd y costau sy'n gysylltiedig â phrosesu ceisiadau a gwneud gorchmynion.
Gwyriadau
Mae'r rhan fwyaf o Orchmynion Llwybrau Cyhoeddus yn wyriadau ac, er ei bod yn bosibl diddymu hawliau tramwy cyhoeddus, mae ceisiadau o'r fath yn aml yn denu gwrthwynebiad ac yn aml yn methu. Dim ond os gellir profi nad oes angen yr hawl dramwy at ddefnydd cyhoeddus y gellir cadarnhau bod yr hawliau hyn fel rheol wedi dod i ben.
Croesfannau rheilffordd a thiroedd ysgol
Mae pwerau arbennig, a phrofion arbennig, sy'n ymwneud â chroesfannau rheilffordd, tiroedd ysgol ac achosion lle y gallai fod angen cael hawl dramwy er mwyn atal troseddau. Gellir gwyro neu gau hawliau tramwy cyhoeddus hefyd drwy'r llys ynadon. Mae pwerau penodol i wyro neu gau hawliau tramwy yn bodoli yn Neddf Cynllunio Gwlad a Thref 1990, mewn achosion lle mae gwyro neu gau yn ofynnol er mwyn gwneud datblygiad cyfreithlon.
Cytundebau rhwng tirfeddianwyr a'r awdurdod priffyrdd
Gall hawliau tramwy hefyd gael eu creu drwy orchymyn neu gytundeb rhwng tirfeddiannwr a'r awdurdod priffyrdd.
Cysylltu â'r tîm hawliau tramwy
I gael rhagor o wybodaeth am wneud cais am Orchymyn Llwybr Cyhoeddus, neu wneud sylwadau arno, cysylltwch â thîm hawliau tramwy perthnasol y cyngor. I gael gwybodaeth am y broses o ymdrin â gorchmynion y mae anghydfod yn eu cylch yng Nghymru, ewch i https://www.gov.uk/guidance/object-to-a-public-right-of-way-order.