Tir a effeithir gan hawliau mynediad Cefn Gwlad a Hawliau Tramwy (CGHT)

Mae tuag un rhan o bump o Gymru yn cael ei dosbarthu fel ‘tir mynediad’, lle mae gan y cyhoedd hawl mynediad ar droed. Fodd bynnag, efallai y bydd amgylchiadau arbennig yn cyfyngu ar fynediad i’r tir neu drwyddo ar brydiau. Mae’r cyfyngiadau hyn fel arfer yn bodoli i ddibenion rheoli tir ac er mwyn diogelwch y cyhoedd.  

Mae tir mynediad yn cael ei ddangos ar fapiau Explorer 1:25,000 yr Arolwg Ordnans ac ar fapiau rhyngweithiol Cyfoeth Naturiol Cymru.

Cyfyngiadau ar dir mynediad

Mae mathau gwahanol o gyfyngiadau yn bodoli, a gallan nhw amrywio o ran eu hoes. Mae rhai’n para am gyfnod byr, tra bo eraill yn para’n hirach. Fel arfer, bydd cyfyngiadau mwy hirdymor yn cael eu llunio dim ond ar ôl ymgynghori â’r cyhoedd.

Er nad yw cyfyngiadau’n berthnasol o ran Hawliau Tramwy Cyhoeddus, er enghraifft yn achos llwybrau troed cyhoeddus a llwybrau ceffylau, maen nhw’n gallu rheoli sut y byddwch yn rhyngweithio â’r tir neu ba ardaloedd y dymunwch ymweld â nhw. Er enghraifft, efallai na fydd rhai cyfyngiadau yn caniatáu i gŵn fynd ar y tir, neu efallai y bydd rhaid i chi fynd ar y tir ac oddi arno mewn mannau penodol iawn. Gall rhai cyfyngiadau eich atal yn gyfan gwbl rhag ymweld ag ardaloedd penodol.

Fodd bynnag, ar wahân i gyfyngiadau ar Ystad Goed Llywodraeth Cymru, a hynny er mwyn diogelwch y cyhoedd, mae nifer y cyfyngiadau yng Nghymru yn fach iawn.

Mathau o gyfyngiadau ar diroedd

Mae cyfyngiadau’n cael eu defnyddio i gydbwyso anghenion cerddwyr a rheolwyr tir, a hynny yn y pen draw er mwyn sicrhau diogelwch y cyhoedd a bod pawb yn gallu parhau i fwynhau cefn gwlad. Mae yna dri phrif fath o gyfyngiad yn bodoli:

Cyfyngiadau yn ôl disgresiwn

Bydd perchenogion tir a thenantiaid sy’n dymuno cyfyngu ar fynediad i bobl â chŵn ar eu tiroedd yn ystod cyfnodau wyna neu ar rostiroedd grugieir yn gallu defnyddio cyfyngiad yn ôl disgresiwn. Gallan nhw hefyd gyfyngu ar hawl mynediad i’w tir am hyd at 28 diwrnod y flwyddyn (‘yr opsiwn 28 diwrnod’).

Gall cyfyngiadau yn ôl disgresiwn gael eu gosod a’u diddymu ar fyr rybudd, felly mae’n bwysig gwirio’r wybodaeth ddiweddaraf ar y wefan hon a hefyd gadw llygad am arwyddion ar y tir ei hun.

Yr opsiwn 28 diwrnod Gall yr opsiwn 28 diwrnod gael ei ddefnyddio ar unrhyw 28 diwrnod mewn blwyddyn galendr. Fodd bynnag, ni ellir ei osod ar:

  • Wyliau banc, Dydd Nadolig neu Ddydd Gwener y Groglith
  • Mwy na phedwar diwrnod ar benwythnosau
  • Unrhyw ddydd Sadwrn rhwng 1 Mehefin ac 11 Awst
  • Unrhyw ddydd Sul rhwng 1 Mehefin a 30 Medi

Cyfyngiadau trwy gyfarwyddyd (gyda chais)

Gall unrhyw un sydd â diddordeb cyfreithiol yn y tir wneud cais i’r awdurdod perthnasol (Cyfoeth Naturiol Cymru, Awdurdod Parc Cenedlaethol Eryri, Awdurdod Parc Cenedlaethol Bannau Brycheiniog neu Awdurdod Parc Cenedlaethol Arfordir Penfro) am gyfyngiadau trwy gyfarwyddyd.

Ni ellir eu rhoi ar waith oni bai eu bod yn angenrheidiol oherwydd un neu fwy o’r dibenion brys canlynol:

  • Am resymau rheoli tir
  • I osgoi’r perygl o dân
  • I osgoi perygl i’r cyhoedd

Hawl apelio Os bydd cais yn cael ei wrthod, bydd gan yr ymgeisydd hawl i apelio o hyd. Fodd bynnag, bydd statws mynediad y tir yn aros heb ei newid tra bydd yr apêl yn mynd yn ei flaen.

Cyfyngiadau trwy gyfarwyddyd (heb gais)

Gall cyfyngiadau hefyd gael eu gosod gan awdurdod perthnasol heb iddo dderbyn cais gan rywun sydd â diddordeb cyfreithiol mewn amgylchiadau penodol:

  • I osgoi’r pergyl o dân
  • I osgoi perygl i’r cyhoedd
  • I ddibenion cadwraeth natur neu gadwraeth treftadaeth

Eglurhad ar gyfarwyddiadau a phenderfyniadau

Cyfarwyddyd

Mae hon yn ddogfen gyfreithiol sy’n cael ei chyhoeddi gan yr awdurdod perthnasol pan fydd cyfyngiad ar fynediad i dir mynediad agored wedi’i gytuno.

Cyfarwyddyd Drafft

Bydd y ddogfen hon yn cael ei hanfon at sefydliadau partner amrywiol a phobl gofrestredig sydd â diddordeb yn y tir, er mwyn ymgynghori â nhw ynglŷn â chyhoeddi cyfarwyddyd ai peidio. Mae gan aelodau’r cyhoedd hawl i leisio’u barn hefyd. Bydd cyfarwyddiadau drafft yn cael eu cyhoeddi fel arfer ar gyfer cyfyngiadau a fydd yn para am fwy na chwe mis.

Ynglŷn â Chyfarwyddiadau Drafft

Cyn cyhoeddi cyfarwyddyd, o chwe mis hyd at bum mlynedd, rhaid i’r awdurdodau perthnasol gyhoeddi fersiwn drafft a fydd yn cael ei anfon allan ar gyfer ymgynghori i:

  • Fforymau Mynediad Lleol
  • Undebau Ffermwyr
  • Sefydliadau partner eraill

Pan fydd awdurdod perthnasol yn gwneud penderfyniad i beidio â rhoi cyfarwyddyd, am ba reswm bynnag, bydd rhaid iddo gyfiawnhau’r rheswm hwnnw. Gelwir hyn yn ‘Penderfyniad i beidio â rhoi cyfarwyddyd’.

Pwy sy’n gallu gosod cyfyngiadau?

  • ‘Awdurdodau Perthnasol’, h.y. gall Cyfoeth Naturiol Cymru ac Awdurdodau’r Parciau Cenedlaethol osod yr hyn sy’n cael ei alw’n ‘gyfyngiad trwy gyfarwyddyd’
  • Gall tirfeddianwyr, tenantiaid a’r rhai hynny sydd â diddordeb cyfreithiol yn y tir gysylltu ag un o’r awdurdodau perthnasol hyn i un ai wneud cais am ‘gyfyngiad’ neu i roi hysbysiad am ‘gyfyngiad yn ôl disgresiwn’
  • Gall yr Ysgrifennydd Gwladol dros Amddiffyn a’r Ysgrifennydd Cartref hefyd osod cyfyngiadau pan fyddan nhw’n eu hystyried yn angenrheidiol ar gyfer amddiffyn neu ddiogelwch gwladol

Rheoli mynediad i dir mynediad Yr ‘Awdurdodau Mynediad’, fel y’u diffinnir yn y Ddeddf, sy’n gyfrifol am reoli mynediad i’r tir a thrwyddo ac am ddelio gyda rhwystrau. Awdurdodau’r Parciau Cenedlaethol yw’r awdurdodau hyn yn y parciau cenedlaethol, a Chyfoeth Naturiol Cymru ar diroedd coedwigog. Yr awdurdod unedol lleol sy’n gyfrifol am unrhyw dir mynediad nad yw wedi’i goedwigo neu nad yw mewn parc cenedlaethol. Yr awdurdod unedol lleol neu awdurdod y parc cenedlaethol sy’n gyfrifol am lwybrau sy’n hawliau tramwy cyhoeddus. Dydyn nhw ddim yn cael eu heffeithio gan gyfyngiadau ar diroedd mynediad.

Awdurdodau Perthnasol

Mae gan yr Awdurdodau Perthnasol gyfrifoldeb cyfreithiol i weinyddu eithriadau a chyfyngiadau ar diroedd mynediad agored a choetiroedd penodedig.

Dyma’r Awdurdodau Perthnasol yng Nghymru:

  • Cyfoeth Naturiol Cymru
  • Awdurdod Parc Cenedlaethol Eryri
  • Awdurdod Parc Cenedlaethol Bannau Brycheiniog
  • Awdurdod Parc Cenedlaethol Arfordir Penfro

Diddordeb cofrestredig

Ystyrir bod tirfeddianwyr a thenantiaid, ynghyd â deiliaid eraill amrywiol sydd â hawliau helwriaeth a phori, i gyd â ‘diddordeb cofrestredig’ mewn tiroedd mynediad CGHT. Am y rheswm hwn, gallan nhw fod â llais cyfreithiol mewn unrhyw waharddiad neu gyfyngiad ar y tir.

Rheoliadau Mynediad i Gefn Gwlad (Gwahardd neu Gyfyngu Mynediad) (Cymru) 2003

Mae’r rhain yn set o reolau a gyhoeddwyd gan Lywodraeth Cymru ac maen nhw’n diffinio sut y mae cyfyngiadau i dir mynediad agored yn cael eu rhoi mewn grym.

Canllawiau ar gyfer Awdurdodau Perthnasol CGHT

Mae’r canllawiau statudol hyn o dan adran 33 CGHT yn cael eu cyhoeddi gan Gyfoeth Naturiol Cymru  i Awdurdodau’r Parciau Cenedlaethol fel y bo iddynt gyflawni eu swyddogaethau fel ‘awdurdodau perthnasol’ mewn perthynas â’r cyfyngu ar yr hawliau mynediad hyn yng Nghymru.

Diben y canllawiau

Mae Natural England a Chyfoeth Naturiol Cymru wedi cydweithredu wrth ffurfio’r canllawiau hyn er mwyn helpu i hwyluso unffurfedd yn y gwaith o reoli mynediad CGHT yn Lloegr a Chymru.

Cymeradwyaeth Llywodraeth Cymru

Mae CGHT yn ei gwneud hi’n ofynnol fod Awdurdodau’r Parciau Cenedlaethol a Chyfoeth Naturiol Cymru yn rhoi sylw i’r canllawiau hyn, sydd wedi’u cymeradwyo gan Lywodraeth Cymru.

Mae Cyfoeth Naturiol Cymru yn cyflawni’r un swyddogaethau gwahardd a chyfyngu mewn perthynas â thir mynediad CGHT nad yw’n gyfrifoldeb Awdurdodau’r Parciau Cenedlaethol. Wrth gyflawni’r swyddogaethau hyn, bydd Cyfoeth Naturiol Cymru hefyd yn rhoi sylw i’r canllawiau hyn.

Cael y ddogfen canllawiau

Yn ystod y broses o  grynhoi’r canllawiau, cynhaliwyd ymgynghoriad â chyrff perthnasol a phartïon eraill sydd â diddordeb. Mae’r ddogfen hon wedi’i darparu ar gyfer yr awdurdodau perthnasol ac mae ar gael ar ffurf electronig (ffeil PDF) o openaccessmapping@naturalresourceswales.gov.uk

Mwy o wybodaeth

Am fwy o wybodaeth, cysylltwch â:

Diweddarwyd ddiwethaf