Cynadleddau yng Nghanolfan Ymwelwyr Coed y Brenin

Croeso
Enillodd Coed y Brenin fri yn yr 1990au fel canolfan beicio mynydd bwrpasol gyntaf Prydain.
Ceir hefyd llwybrau cerdded a rhedeg trwy Barc Coed y Brenin.
Mae’r ystafelloedd cynadledda’n addas i amrywiaeth o gyfarfodydd busnes, digwyddiadau a gweithgareddau.
Gellir eu llogi hefyd ar gyfer digwyddiadau cymdeithasol neu at ddefnydd clybiau a chymdeithasau.
Ystafell gynadledda
Mae’r ystafell gynadledda’n dal hyd at 80 o bobl.
Gellir ei baratoi mewn sawl ffordd wahanol - ar gyfer cyfarfod, cynhadledd, gweithdy neu ddigwyddiad cymdeithasol.
Sylwer:
- Ni allwn gymryd cyfrifoldeb am baratoi’r ystafell.
- Chi fydd yn gorfod paratoi’r ystafell, gan ei gosod fel y mynnwch.
- Nid oes angen i chi newid yr ystafell ar ddiwedd eich sesiwn, fodd bynnag.
Arlwyo
Nodwch nad oes arlwyo ar gael ar hyn o bryd.
Gall pobl ddod â’u bwyd a'u diodydd eu hunain - ond cofiwch fynd â’r holl sbwriel a gwastraff bwyd ar ddiwedd eich sesiwn.
Gweithgareddau ar gyfer cynrychiolwyr
Mae llwybrau cerdded, rhedeg a beicio mynydd yn cychwyn o faes parcio’r ganolfan ymwelwyr.
Gall y cynrychiolwyr ddysgu neu wella eu sgiliau beicio oddi ar y ffordd yn yr ardal sgiliau, neu efallai yr hoffech archebu hyfforddwr beicio mynydd.
Gallant ddod â’u beic eu hunain neu logi un yn y siop feiciau (archebu ymlaen llaw yn hanfodol).
- I gael mwy o wybodaeth am gyfleusterau ynwelwyr, ewch i Ganolfan Ymwelwyr Coed y Brenin.
- I archebu beic neu hyfforddwr, ewch i wefan Beics Brenin.
Gwybodaeth am hygyrchedd
Mae’r ystafell gynadledda’n hygyrch.
Mae rhai o’n llwybrau a’n gweithgareddau eraill yn hygyrch.
I gael mwy o wybodaeth am gyfleusterau ynwelwyr hygyrch ewch i Ganolfan Ymwelwyr Coed y Brenin.
Sut i archebu
Gallwch archebu'r ystafell gynadledda am ffi fflat o £150 (diwrnod llawn neu hanner diwrnod).
Gallwch lawrlwytho ffurflen archebu ar waelod y dudalen hon.
Cysylltwch ymholiadau@cyfoethnaturiolcymru.gov.uk neu 0300 065 3000.