Cynllun Rheoli Cilfach Tywyn: Gorchymyn Pysgodfa Gocos 1965
Trosolwg
Mae'r cynllun rheoli hwn yn ymwneud â Physgodfa Gocos Cilfach Tywyn (y bysgodfa).
Gydag effaith o 1 Ebrill 2013, gwnaeth Cyfoeth Naturiol Cymru (CNC) gymryd cyfrifoldeb dros reoli'r bysgodfa, yn unol â Gorchymyn Pysgodfa Gocos Cilfach Tywyn 1965 (y Gorchymyn). Mae'r Gorchymyn yn rhoi pwerau i CNC reoleiddio'r bysgodfa tan 15 Mehefin 2025. Mae'r cynllun rheoli hwn yn nodi nodau ac amcanion CNC o ran rheoli'r bysgodfa ac yn nodi trefniadau manwl ar gyfer rheoli'r Bysgodfa ar gyfer cocos (Cerastoderma edule).
Bydd y cynllun rheoli hwn yn destun adolygiad cyffredinol ar gyfnodau heb fod yn fwy na phum mlynedd.
Nodau ac amcanion rheoli
Nod cyffredinol CNC wrth reoli'r bysgodfa yw datblygu pysgodfa gocos ffyniannus yng Nghilfach Tywyn sy'n cefnogi, yn diogelu ac yn diwallu anghenion y gymuned a'r amgylchedd y mae'n dibynnu arno. Mae Deddf yr Amgylchedd (Cymru) 2016 yn cynnwys gofyniad i CNC ymgorffori egwyddorion rheoli adnoddau naturiol yn gynaliadwy ym mhob agwedd ar y ffordd rydym yn gweithio. Drwy ddefnyddio'r egwyddorion hyn, gallwn fwyafu ein cyfraniad i'r nodau llesiant a cheisio rheoli adnoddau naturiol yn gynaliadwy.
Er mwyn cyflawni'r nod hwn, mae CNC wedi nodi’r tri nod canlynol, y bydd yn ceisio eu cyflawni wrth reoli'r bysgodfa:
- cyflawni a chynnal pysgodfa gynaliadwy sy'n gallu darparu incwm rheolaidd i ddeiliaid trwyddedau
- osgoi effeithiau negyddol ar y safle dynodedig Ewropeaidd a thrigolion lleol
- gwella gwaith rheoli, monitro, rheoleiddio a gorfodi yn y bysgodfa
Disgrifiad daearyddol o'r bysgodfa
Lleoliad aberol mawr yw Cilfach Tywyn yn Ne Cymru rhwng arfordir gogleddol Penrhyn Gŵyr ac arfordir de-ddwyreiniol Sir Gaerfyrddin. Dengys cwmpas ardal ddaearyddol y bysgodfa ar y map diffiniol a ddaeth gyda’r Gorchymyn. Mae hefyd wedi'i ddiffinio yn Erthygl 2(1) y Gorchymyn fel a ganlyn:
- I'r gorllewin: y rhan honno o linell o ben tua’r môr Pier Pen-bre i bwynt mwyaf gogleddol Trwyn Whiteford sydd rhwng marc penllanw llanw cyffredin ar lannau gogleddol a deheuol yr aber yn ôl eu tro.
- I'r dwyrain: ochr tua’r môr o'r rhan honno o Bont Reilffordd Llwchwr sydd rhwng marc penllanw llanw cyffredin ar lannau gogledd-orllewinol a de-ddwyreiniol yn ôl eu tro afon Llwchwr a llinell o’r pen de-ddwyreiniol o'r rhan honno o'r bont reilffordd fel a ddisgrifiwyd eisoes, i'r de nes ei fod yn cwrdd eto â marc penllanw llanw cyffredin.
- I'r gogledd a'r de: marc penllanw llanw cyffredin ar lannau gogleddol a deheuol yr aber yn ôl eu tro rhwng y ffiniau gorllewinol a dwyreiniol fel a ddisgrifiwyd eisoes fel yr un a ddengys ar y map diffiniol wedi'i selio gan y Gweinidog at ddiben y gorchymyn hwn ac sydd wedi'u lliwio'n binc arno.
Cyfanswm ardal y bysgodfa, islaw penllanw cymedrig y gorllanw, ar y map diffiniol yw 4,247 hectar.
Cefndir
Cynhaliwyd yr adolygiad diwethaf o'r cynllun rheoli ym mis Medi 2013. Mae'r fersiwn hon o'r cynllun rheoli wedi cael ei diwygio i ystyried safoni, cyhyd ag sy'n ymarferol bosib, arferion rheoli'r ddwy bysgodfa gocos reoledig yng Nghymru (Pysgodfa Gocos Cilfach Tywyn a Physgodfa Gocos Dyfrdwy) ac i ystyried cynlluniau a strategaethau newydd, gan gynnwys:
- Deddf Llesiant Cenedlaethau'r Dyfodol (Cymru) 2015, sy'n gofyn i gyrff cyhoeddus feddwl am effeithiau tymor hir eu penderfyniadau a gweithio'n well gyda phobl, cymunedau a'i gilydd i atal problemau parhaus megis anghydraddoldeb iechyd a'r newid yn yr hinsawdd
- Strategaeth Tystiolaeth Forol Cymru 2019 – 2025, sef agenda gydweithredol ar gyfer monitro a dadansoddi ymchwil forol
- Cynllun Morol Cenedlaethol Cymru 2019, sy'n ffurfio'r polisi ar gyfer yr 20 mlynedd nesaf ar gyfer y defnydd cynaliadwy o'n moroedd
- Deddf yr Amgylchedd (Cymru) 2016
Safle gaeafu o bwys rhyngwladol yw Cilfach Tywyn i adar hela ac adar hirgoes ac mae o bwys Ewropeaidd ar gyfer ei chynefinoedd a'i chymunedau aberol, llaid, gwastadedd tywod a morfa heli. Mae wedi'i dynodi fel Ardal Gwarchodaeth Arbennig o dan Gyfarwyddeb Adar y Comisiwn Ewropeaidd, ac mae'n rhan o Ardal Cadwraeth Arbennig wedi'i dynodi dan Gyfarwyddeb Cynefinoedd y Comisiwn Ewropeaidd a Safle Ramsar dan y Confensiwn ar Wlyptiroedd o Bwys Rhyngwladol. Mae'r gilfach hefyd yn cynnwys Safleoedd o Ddiddordeb Gwyddonol Arbennig (SoDdGA) wedi'u dynodi dan Ddeddf Bywyd Gwyllt a Chefn Gwlad 1981 – sef SoDdGA Aber Llwchwr, SoDdGA Arfordir Pen-bre ac SoDdGA Morfa Landimôr – ac yn rhan o Warchodfa Natur Genedlaethol Twyni Whiteford.
Mae Cilfach Tywyn wedi cynnal pysgodfa gocos fasnachol ers ymhell dros ganrif. Yn 1965, gwnaeth y Gorchymyn gan y Gweinidog dros Amaethyddiaeth, Pysgodfeydd a Bwyd, gan roi'r hawl i Bwyllgor Pysgodfeydd Môr De Cymru reoleiddio'r bysgodfa ar gyfer cocos.
Mae Gorchmynion Rheoleiddio (sydd bellach yn gweithredu'n unol â Deddf Pysgodfeydd Môr (Pysgod Cregyn) 1967) yn rhoi pwerau i sefydliad cyfrifol yn ei alluogi i reoli a rheoleiddio pysgodfa.
Yn gyffredinol, mae'r Gorchymyn sy'n ymwneud â Physgodfa Cilfach Tywyn yn gwahardd pysgota am gocos heb drwydded ac yn caniatáu i reoliadau gael eu gorfodi (gyda chydsyniad Gweinidogion Cymru) sy'n gwahardd neu'n rheoleiddio pysgota am gocos. Mae Gorchmynion Rheoleiddio hefyd yn annog buddsoddiad tymor hir yn y bysgodfa. Dros y blynyddoedd, mae nifer y trwyddedau a ddyrannwyd o ran y bysgodfa wedi amrywio, gyda nifer uchaf o 67 a nifer lleiaf o 33. Yn ystod tymor 2019-20, roedd 36 o drwyddedau ar gael. Mae'r nifer hwn wedi bod yn weddol gyson yn ystod y blynyddoedd diweddar ond, yn ôl disgresiwn CNC, gallai fod yn destun hyblygrwydd i adlewyrchu dull rheoli addasol ar gyfer y bysgodfa.
Arolygon asesu stoc a chyfanswm y ddalfa a ganiateir
Fel arfer, cynhelir arolygon asesu stoc ddwywaith y flwyddyn, yn y gwanwyn a'r hydref, gan ddefnyddio methodoleg safonol (Moore, 2011). Bydd arolygon yn amcangyfrif biomas cocos ar gyfer pob dosbarth blwyddyn o bob gwely yn y bysgodfa.
Pennir cyfanswm dalfa a ganiateir bob blwyddyn ar gyfer y bysgodfa'n seiliedig ar ganlyniadau'r arolygon a gofynion bwyd adar gaeafu Ardal Gwarchodaeth Arbennig Cilfach Tywyn. Mae modelau unigol sy’n seiliedig ar adar, megis yr un a ddatblygwyd gan y Ganolfan Ecoleg a Hydroleg, wedi cael eu cydnabod yn fyd-eang fel y dull mwyaf priodol o osod cyfanswm dalfa a ganiateir. Caiff gofynion bwyd yr adar eu cyfrifo gan ddefnyddio'r model bwyd adar diweddaraf.
Unwaith y bydd yr arolwg wedi'i gwblhau, caiff y canlyniadau eu hasesu a chyfrifir tunelledd y cocos i adael digon o fwyd ar gyfer gofynion adar gaeafu ac ar gyfer cyfanswm dalfa a ganiateir i'r deiliaid trwyddedau. Caiff y datganiadau dalfa gan y deiliaid trwyddedau eu monitro i weld faint o gocos sy'n cael eu tynnu bob mis mewn perthynas â chyfanswm y ddalfa a ganiateir. Mae hyn yn galluogi i gyfanswm y ddalfa a ganiateir neu'r cwota dyddiol gael ei ddiwygio os oes angen er mwyn sicrhau bod digon o fwyd ar ôl i'r adar, bod y bysgodfa'n gynaliadwy dros gyfnod hir, a'i bod yn darparu bywoliaeth i'r deiliaid trwyddedau.
Yn dilyn egwyddorion rheoli adnoddau naturiol yn gynaliadwy, byddwn yn rheoli'r bysgodfa'n addasol, gan asesu'r angen i ymateb i ddigwyddiadau amgylcheddol megis cocos yn crynhoi ar dywod y lan (gweler Atodiad 1) a newid demograffig o safbwynt maint, gan gynnwys y potensial i newid cyfyngiadau maint ar gyfer casglu fel sy'n briodol ac os oes modd i'r bysgodfa ei gynnal.
Cyd-destun deddfwriaethol
Caiff CNC ddyrannu trwyddedau dan y Gorchymyn (Deddf Pysgodfeydd Môr (Pysgod Cregyn) 1967) yn y fath niferoedd ac i’r cyfryw bersonau, ac yn weithredol am gyfnodau o'r fath, a chaiff awdurdodi treillio, pysgota am neu gymryd pysgod cregyn ar yr adegau hynny, yn y fath fodd ac i'r graddau y bydd yn penderfynu. Mae hyn yn cynnwys gosod amodau'r drwydded, cwotâu dyddiol a blynyddol a chyfyngiadau maint, a phenderfynu ar amserau pysgota ac ardaloedd a dulliau.
O dan Ddeddf Pysgodfeydd Môr (Pysgod Cregyn) 1967, caiff CNC, gyda chydsyniad y Gweinidog priodol, wneud y canlynol:
- diwygio'r holl dollau taladwy dan y Gorchymyn
- gwneud neu newid rheoliadau a wnaed dan y Gorchymyn
- mabwysiadu neu newid unrhyw bolisi o ran pwy, ac o dan ba amodau, mae’n bwriadu dyrannu trwyddedau
Mae Erthygl 3 y Gorchymyn yn nodi'r canlynol:
- Ni ddylai unrhyw unigolyn, o fewn terfynau'r bysgodfa a ddisgrifiwyd gynt, dreillio, pysgota am neu gymryd cocos ac eithrio dan awdurdod ac yn unol â'r amodau sydd wedi'u cynnwys mewn trwydded a ddyrannwyd gan y pwyllgor o ran hynny.
- Bydd trwydded ar gael am y cyfnod a nodir ynddi yn unig ac i'w defnyddio gan yr unigolyn a enwir ynddi.
- Bydd trwyddedau ar ffurf a gymeradwywyd gan y Gweinidog.
- Rhaid i unrhyw unigolyn sy'n treillio, yn pysgota am neu'n cymryd cocos dan awdurdod trwydded a ddyrannwyd dan y Gorchymyn hwn, wrth gael ei ofyn gan unrhyw swyddog a benodwyd gan y pwyllgor ac ar ôl i swyddog o'r fath gyflwyno tystiolaeth ysgrifenedig os oes ei hangen, gyflwyno trwydded o'r fath a rhaid iddo beidio â threillio, pysgota am neu gymryd cocos nes bod yr un peth yn cael ei gynhyrchu.
- Ni chaiff unrhyw beth yn y Gorchymyn hwn weithredu i atal unrhyw un nad yw'n meddu ar drwydded dan yr Erthygl hon rhag cymryd gocos yn y rhan honno o'r ardal y mae'r Gorchymyn hwn yn berthnasol iddi i'r dwyrain o linell a dynnwyd o farc penllanw llanw cyffredin ar ochr ogleddol Cilfach Tywyn i'r dwyrain o linell o farc penllanw llanw cyffredin i lan ddwyreiniol Llanrhidian Pill yn y de, i'r gwir ogledd nes ei fod yn cwrdd â marc penllanw llanw cyffredin ar ochr ogleddol Cilfach Tywyn, ar yr amod na fydd cocos o'r fath yn cael eu gwerthu nac yn cael eu prosesu i'w gwerthu ar ôl hyn.
Mae hyn yn golygu na ddylai unrhyw unigolyn gymryd cocos o'r bysgodfa a reoleiddir, ac eithrio dan awdurdod trwydded a ddyrannwyd gan CNC (neu drwy ganiatâd ysgrifenedig blaenorol CNC) ac yn unol ag unrhyw gyfyngiadau a rheoliadau a wnaed dan Adran 5 o Orchymyn 1965. Dengys ffin y Gorchymyn ar y cynllun atodedig i'r nodiadau hyn, sydd wedi'i rannu'n chwe ardal at ddibenion rheoli. Ni fydd awdurdod trwydded yn drosglwyddadwy a bydd yn gymwys yn unig i'r unigolyn a enwir arni.
Casglu personol
Caiff yr ardal binc ar y map ei rheoleiddio gan Orchymyn Pysgodfa Gocos Cilfach Tywyn 1965. Mae angen trwydded i gasglu cocos yn yr ardal hon, ac eithrio'r esemptiad isod.
I fyny’r afon (i'r dwyrain) o linell syth rhwng Llanrhidian Pill yn y de a Doc Gogledd Llanelli yn y gogledd (ardal sgwariau gwyrdd), caniateir casglu personol ond caiff ei reoleiddio gan is-ddeddfau cyn-Bwyllgor Pysgodfeydd Môr De Cymru. Dan Is-ddeddf 17, caiff unigolion gasglu hyd at 8kg y dydd yn yr ardal hon at ddefnydd personol heb drwydded. Nid oes modd casglu'r cocos hyn er mwyn eu gwerthu. Caiff arwyddion eu harddangos yn yr aber.
Cyfyngiadau a rheoliadau ar gynaeafu
Mae'r cyfyngiadau a rheoliadau canlynol yn berthnasol i'r bysgodfa:
- Bob blwyddyn, cyn dyrannu trwyddedau newydd, bydd CNC yn ystyried lwfans pysgota ar gyfer cyfanswm dalfa a ganiateir yn y bysgodfa. Bydd CNC yn ystyried y maint glanio lleiaf sydd fwyaf priodol, a gall ystyried maint glanio uchaf am y tymor yn seiliedig ar y data arolwg mwyaf priodol a rhagfynegiadau modelu. Caiff y maint glanio lleiaf a’r maint glanio uchaf eu rheoli gan ddefnyddio amodau trwydded, y gall CNC eu diwygio drwy gydol y tymor os bydd CNC yn gweld bod hyn yn angenrheidiol. Bydd deiliaid trwyddedau'n cael gwybod am unrhyw newidiadau'n ysgrifenedig.
- Bydd pob deiliad trwydded yn cael cwota dyddiol neu flynyddol unigol wedi’i ddyrannu iddo yn seiliedig ar gyfanswm y ddalfa a ganiateir.
- Gan ddefnyddio dull seiliedig ar dystiolaeth, gall gwelyau cocos unigol gael eu hagor a'u cau gan ddibynnu ar gyflwr y cocos, lefelau cynaeafu a chanlyniadau arolygon yn ôl disgresiwn CNC. Gall hyn hefyd gynnwys tymor caeedig os bydd CNC yn meddwl bod angen hyn i ddiogelu'r bysgodfa. Ni fydd unrhyw unigolyn, heb awdurdod ysgrifenedig ymlaen llaw, yn pysgota am, yn cymryd nac yn aflonyddu unrhyw gocos o unrhyw ran sydd wedi cael ei chau.
- Ni fydd unrhyw unigolyn yn pysgota am, yn cymryd nac yn symud fel arall gocos o unrhyw ran o'r ardal a reoleiddir gan Orchymyn Pysgodfa Gocos Cilfach Tywyn 1965 ar ddydd Sul ac eithrio gyda’r awdurdod ysgrifenedig ymlaen llaw gan CNC.
- Ni fydd unrhyw unigolyn yn pysgota am nac yn cymryd cocos o unrhyw ran o'r ardal a reoleiddir gan Orchymyn Pysgodfa Gocos Cilfach Tywyn 1965 rhwng hanner awr ar ôl machlud haul ar unrhyw ddiwrnod a hanner awr cyn codiad yr haul ar y diwrnod canlynol.
- Ni fydd unrhyw unigolyn yn dod â physgod i'r lan nac yn pysgota am, neu’n cymryd neu’n symud cocos (Cerastoderma edule) o unrhyw ran o'r ardal wedi'i rheoleiddio gan Orchymyn Pysgodfa Gocos Cilfach Tywyn 1965, heb fod ar ei ran ei hun ac ar y diwrnod y cawsant eu casglu.
- Ystyrir bod cocysen wedi cael ei symud o'r bysgodfa cyn gynted ag y bo wedi cael ei rhoi mewn unrhyw gynhwysydd (gan gynnwys bagiau, sachau a chynwysyddion tebyg eraill), trelar, cerbyd neu gwch.
- Ni fydd unrhyw unigolyn sy'n pysgota at ddibenion gwyddonol, neu at ddibenion stocio neu fridio, dan awdurdod ysgrifenedig CNC, yn destun y cyfyngiadau a rheoliadau hyn.
- Caiff yr holl gocos eu casglu â llawn gan ddefnyddio rhaca a rhidyll a gymeradwywyd gan CNC yn unig, oni bai fod awdurdod ysgrifenedig blaenorol gan CNC yn bodoli.
- Ni ddylai unrhyw fagiau, cyfarpar na sbwriel cocos gael eu gadael ar y gwelyau ar ôl pysgota.
- Ni fydd unrhyw unigolyn yn ymgysylltu mewn unrhyw weithgaredd sy'n aflonyddu neu'n difrodi'r bysgodfa heb y cydsyniad ysgrifenedig ymlaen llaw gan CNC.
Meini prawf cymhwysedd trwydded
Mae'r meini prawf cymhwysedd yn gofyn, ar adeg ymgeisio am drwydded, neu ar ddyddiad dyrannu trwydded, fod pob trwyddedai yn bodloni'r canlynol.
- Yn 16+ oed
- Yn derbyn, fel amod cyflwyno cais am drwydded a meddu ar drwydded, ac yn unol â’r Rheoliad Cyffredinol ar Ddiogelu Data a Deddf Diogelu Data 2018, y bydd data personol penodol sy’n cael ei roi i CNC, ond o leiaf enw a chyfeiriad yr unigolyn a'r dyddiad cyflwyno cais am drwydded a'i derbyn, ac a yw ar restr aros neu'n drwyddedai, yn cael ei wneud ar gael yn gyhoeddus gan CNC
- Yn gofrestredig i dalu, ac wedi talu, cyfraniadau yswiriant gwladol Dosbarth 2 neu gyfwerth sy'n gymesur â bod yn bysgotwr hunangyflogedig ar adeg cyflwyno'r cais am drwydded (sylwer y bydd gan ymgeiswyr/trwyddedeion newydd fis i gofrestru)
- Wedi talu'n llawn unrhyw ffioedd sy'n weddill am yr holl gyfnodau trwydded blaenorol lle nad yw'r awdurdod i dalu rhan neu'r holl ffioedd wedi'i roi mewn amgylchiadau lle nad yw'r trwyddedai'n gallu pysgota am resymau y tu hwnt i'w reolaeth (e.e. salwch)
- Wedi cyflwyno'r ffurflen gais ac wedi talu'n llawn erbyn 1 Ebrill. NI CHAIFF trwyddedu cocos eu dyrannu hyd nes mae CNC wedi derbyn y ffurflen gais a'r ffi. Bydd methu â gwneud hyn yn golygu na fydd yr unigolyn yn gallu pysgota am gocos.
Trwyddedau pysgota am gocos
Y ffordd orau o gyflawni rheolaeth ddeinamig ac adweithiol o bysgodfa fasnachol yn yr amgylchedd morol, a fydd, yn ôl ei natur, yn destun amodau sy'n anodd eu rhagfynegi, yw trwy orfodi amodau ar drwyddedau.
Bydd CNC yn dyrannu amodau trwydded i reoli'r bysgodfa'n effeithiol ac yn effeithlon.
Dyrannu trwyddedau
Dan y Gorchymyn, mae angen trwydded i bysgota am gocos yn y bysgodfa. Mae'n drosedd pysgota am gocos heb drwydded. Mae gan CNC bwerau i ddyrannu trwyddedau dan Adran 4(4) o Ddeddf Pysgod Cregyn Pysgodfeydd Môr 1967. Nid oes modd i unigolyn gael mwy nag un drwydded ar gyfer y bysgodfa.
Nod y cynllun rheoli hwn yw caniatáu o leiaf 36 o ddeiliaid trwyddedau i ddefnyddio'r bysgodfa. Yn ogystal, ar adegau pan fo CNC yn credu y gall y bysgodfa ymdopi, gall trwyddedau anadnewyddadwy tymor byr gael eu dyrannu yn ôl disgresiwn CNC.
Caiff trwyddedau eu dyrannu o fewn deng niwrnod gwaith o CNC yn derbyn yr holl agweddau angenrheidiol i ddilysu cais.
Mae CNC yn gofyn bod gan bob trwyddedai'r tystysgrifau hyfforddiant a diogelwch diweddaraf cyn cael mynediad i'r bysgodfa a/neu ddefnyddio cwch yn y bysgodfa (gweler Atodiad 2).
Trwyddedau gwarchodedig
Nod CNC yw dyrannu o leiaf 36 o drwyddedau gwarchodedig. Cânt eu gwahodd i adnewyddu eu trwyddedau bob blwyddyn cyhyd â'u bod yn parhau i fodloni meini prawf cymhwysedd y drwydded a'u bod yn cydymffurfio ag amodau eu trwyddedau.
Bob blwyddyn, bydd CNC yn gwahodd yr holl ddeiliaid trwyddedau gwarchodedig i adnewyddu eu trwyddedau erbyn 1 Ebrill a bydd trwyddedau o'r fath yn cael eu hadnewyddu cyhyd â bod y trwyddedai'n parhau i fodloni meini prawf cymhwysedd y drwydded a'u bod yn cydymffurfio ag amodau'r drwydded. Lle bo unigolyn naill ai'n penderfynu peidio ag adnewyddu ei drwydded neu os nad yw'n bodloni meini prawf cymhwysedd y drwydded ac nid yw'n cael cynnig trwydded, bydd yn colli ei drwydded pysgota gwarchodedig.
Trwyddedau prawf
Os yw cynnig y drwydded yn cael ei dderbyn, bydd gofyn i'r ymgeisydd/ymgeiswyr llwyddiannus wasanaethu'r tri thymor cyntaf fel cyfnod prawf, gyda'r potensial i ddiddymu'r drwydded os na fodlonir y safonau gofynnol. (Isafswm y safon fyddai cadw at amodau'r drwydded. Os bydd y trwyddedai/trwyddedeion dan gyfnod prawf yn cael eu herlyn o drosedd yn y bysgodfa, byddai'r drwydded/trwyddedau'n cael ei chanslo / eu canslo.)
Ac eithrio mewn amgylchiadau eithriadol, mae'n rhaid hefyd i holl ddeiliaid trwyddedau prawf bysgota o leiaf 25% o’r llanwau sydd ar gael ym mhob tymor prawf.
Byddai trwydded brawf yn cael ei dosbarthu fel trwydded adnewyddadwy tymor byr nes y trydydd adnewyddiad, pan fydd deiliad y drwydded yn dod yn warchodedig.
Trwyddedau anadnewyddadwy tymor byr
Yn ogystal ag adnewyddu trwyddedau gwarchodedig, bob blwyddyn bydd CNC yn penderfynu a fydd yn dyrannu unrhyw drwyddedau anadnewyddadwy tymor byr ychwanegol. Caiff y penderfyniad ei gymryd yn dilyn arolwg asesu stoc priodol sy'n ystyried colledion gaeafu ac ar ôl silio yn ogystal ag amcanion cadwraeth y Safleoedd Morol Ewropeaidd. Os yw CNC, ar ôl ystyried cyngor gwyddonol a dymunioldeb cyfyngu ar lefel y manteisio, ac wrth ystyried ffactorau eraill, yn fodlon bod stociau cocos yn debygol o ymdopi â physgota ychwanegol, bydd yn penderfynu dyrannu trwyddedau ychwanegol (y cyfeirir atynt fel "trwyddedau anadnewyddadwy tymor byr") o ran y bysgodfa.
Nid oes gwarantiad y bydd trwydded anadnewyddadwy tymor byr yn cael ei hadnewyddu ac nid yw'n cynnal 36 mis yn olynol tuag at drwydded warchodedig.
Gall CNC benderfynu ar nifer y trwyddedau anadnewyddadwy tymor byr i’w dyrannu unrhyw bryd yn ystod y flwyddyn.
Caiff trwyddedau anadnewyddadwy tymor byr eu cynnig i unigolion a enwir sydd ar y rhestr aros am drwydded yn y drefn y maent yn ymddangos ar y rhestr honno, ar yr amod eu bod yn parhau i fodloni meini prawf cymhwysedd y drwydded.
Pan ddaw trwydded anadnewyddadwy tymor byr ar gael a chaiff ei chynnig i unigolion a enwir ar y rhestr aros, bydd gan yr unigolyn 28 niwrnod i dderbyn y cynnig trwydded, ac mae'n rhaid iddo gyflwyno'r ffurflen gais wedi'i chwblhau ynghyd â'r ffi. Bydd methu â bodloni'r meini prawf, y terfyn amser ar gyfer cyflwyno'r cais, neu dalu'r ffi yn golygu y caiff y cynnig ei dynnu'n ôl a'i drosglwyddo i'r unigolyn nesaf ar y rhestr aros.
Pan fydd unigolyn naill ai'n gwrthod y cynnig o drwydded anadnewyddadwy tymor byr neu os nad yw'n bodloni meini prawf cymhwysedd y drwydded, darperir y cynnig i'r unigolyn nesaf ar y rhestr aros. Mae'r unigolyn sy'n gwrthod trwydded dros dro yn cadw ei le ar y rhestr aros.
Rhestr aros am drwydded
Lluniwyd y rhestr aros gan Bwyllgor Pysgodfeydd Môr De Cymru cyn i'r bysgodfa gael ei rheoleiddio gan CNC. Ar hyn o bryd, mae 55 o bobl ar y rhestr (ar 28/02/2021), yr oedd pob un ohonynt wedi'u hasesu yn erbyn meini prawf cymhwysedd y drwydded. Cynhelir y rhestr gan CNC ac mae'n gofyn i unigolion adnewyddu eu lle'n flynyddol drwy anfon cadarnhad ysgrifenedig i CNC erbyn 28 Chwefror bob blwyddyn.
Bydd CNC yn ceisio lleihau'r rhestr aros drwy gau'r rhestr gyfredol. Mae'r rhestr hon wedi bod ar gau i ymgeiswyr newydd ers mis Mawrth 2015 a bydd yn ailagor dan ddisgresiwn CNC yn unig.
Ni all unrhyw un dan 16 oed gyflwyno cais i fod ar y rhestr aros.
Mae'n rhaid i'r ymgeiswyr adnewyddu eu diddordeb eu hunain ac yn ysgrifenedig bob blwyddyn. Mae'n rhaid i ohebiaeth gyrraedd y cyfeiriad isod erbyn 28 Chwefror ar yr hwyraf. Yr ymgeisydd sy’n gyfrifol am brofi ei fod wedi’i phostio. Ni fydd CNC yn anfon unrhyw negeseuon atgoffa.
Trwyddedu Cocos Cilfach Tywyn – Canolfan Cwsmeriaid
Cyfoeth Naturiol Cymru
Maes y Ffynnon
Penrhosgarnedd
Bangor
Gwynedd
LL57 2DW
Bydd methu ag adnewyddu diddordeb erbyn 28 Chwefror mewn unrhyw flwyddyn yn golygu tynnu'r ymgeisydd oddi ar y rhestr aros.
Gall enw unigolyn ymddangos unwaith yn unig ar y rhestr aros ar unrhyw adeg. Ni chaniateir trosglwyddo nac amnewid enwau ar y rhestr aros am unrhyw reswm.
Ni all unrhyw unigolyn sy'n ddeiliad trwydded dan y Gorchymyn hefyd fod ar y rhestr aros.
Os daw trwydded yn rhydd, caiff ei chynnig i'r ymgeisydd ar frig y rhestr aros cyhyd â'i fod yn cydymffurfio ag unrhyw amodau y mae CNC yn penderfynu arnynt, ac yn unol â'r un amodau sy'n berthnasol i ddeiliaid trwyddedau cyfredol (gwarchodedig) lle y bo'n briodol. Os bydd unigolyn nad yw am dderbyn cynnig trwydded, caiff y cynnig ei roi i'r unigolyn nesaf ar y rhestr aros. Mae'r unigolyn sy'n gwrthod trwydded anadnewyddadwy tymor byr yn cadw ei le ar y rhestr aros.
Gall unrhyw unigolyn ar restr aros Cilfach Tywyn sydd wedi'i gael yn euog o drosedd berthnasol, neu sy'n cyfaddef cyflawni’r drosedd drwy dderbyn rhybuddiad ffurfiol, yn ôl disgresiwn CNC, gael ei dynnu oddi ar y rhestr aros. Os bydd y rhestr aros yn agored bryd hynny, neu'n ddiweddarach, gall yr unigolyn hwnnw gyflwyno cais newydd i gael ei ychwanegu at waelod y rhestr.
Hyd trwyddedau
Fel arfer, caiff trwyddedau eu dyrannu am 12 mis. Y cyfnod fydd 1 Ebrill tan 31 Mawrth y flwyddyn ganlynol. Mae CNC yn cadw'r hawl i ddyrannu trwyddedau anadnewyddadwy tymor byr am lai na 12 mis yn unol ag amodau rheoli stoc a marchnata ac amodau eraill sy'n bodoli ar y pryd.
Amodau’r drwydded
Y ffordd orau o gyflawni rheolaeth ddeinamig ac adweithiol o bysgodfa fasnachol yn yr amgylchedd morol, a fydd, yn ôl ei natur, yn destun amodau sy'n anodd eu rhagfynegi, yw trwy orfodi amodau ar drwyddedau.
Rhaid i drwyddedai beidio â physgota am na chymryd cocos o'r bysgodfa oni bai fod hynny'n unol â chyfyngiadau a rheoliadau'r bysgodfa, sy'n cynnwys y rhai sydd wedi'u cynnwys yng Ngorchymyn Pysgodfa Gocos Cilfach Tywyn, y cynllun rheoli hwn, offerynnau statudol perthnasol Llywodraeth Cymru, ac amodau sydd wedi'u cynnwys mewn trwydded i bysgota am gocos.
Mae amodau'r drwydded yn bodoli am sawl rheswm, gan gynnwys ond heb fod yn gyfyngedig i'r canlynol:
- Sicrhau bod gweithgarwch pysgota'n cael ei wneud mewn ffordd sy'n achosi cyn lleied o effaith â phosib i'r bysgodfa a'r amgylchedd ehangach, e.e. gwahardd gweithgarwch pysgota yn ardaloedd morwellt a morfa heli yr aber sy'n rhan o'r Gorchymyn
- Sicrhau bod gweithgarwch pysgota'n cael ei wneud mewn ffordd sy'n cefnogi cynaliadwyedd y bysgodfa ar gyfer y dyfodol, e.e. y defnydd o offeryn mesur sefydlog i gasglu cocos sy'n caniatáu i rawn cocos ddychwelyd i'r gwelyau a pharhau i dyfu
- Galluogi rheoli addasol y bysgodfa i fwyafu potensial economaidd wrth sicrhau diogelwch nodweddion arbennig, e.e. gofyn am gyflwyno datganiadau dalfa’n amserol i fonitro ymdrechion pysgota yn erbyn cyfanswm y ddalfa a ganiateir
- Sicrhau bod y rheiny sy'n pysgota dan drwydded yn atebol am eu gweithgareddau a'u dalfa, e.e. gofyn bod bagiau'n cael eu tagio â rhif trwydded y casglwr
- Cynorthwyo gyda’r gwaith o reoleiddio’r bysgodfa’n effeithiol, e.e. nodi pwyntiau allan o'r bysgodfa
Mae amodau trwyddedau’n destun adolygiad blynyddol i sicrhau eu bod yn addas i'r diben.
Gall CNC, os yw'n gweld bod hynny'n angenrheidiol, ddiwygio amodau trwyddedau yn ystod y tymor (oes trwydded) drwy ddyrannu hysbysiad i gasglwyr cocos er mwyn ymateb i ffactorau newidiol yn y bysgodfa neu i sicrhau bod yr amodau'n gadarn ac yn cefnogi’r gwaith o reoli a rheoleiddio’r bysgodfa’n effeithlon ac yn effeithiol.
Gall CNC, mewn rhai amgylchiadau, ymlacio neu atal dros dro amodau trwyddedau er mwyn ymateb i ddigwyddiadau yn y bysgodfa drwy ddyrannu hysbysiad i gasglwyr cocos – er enghraifft, digwyddiadau amgylcheddol naturiol fel cocos yn crynhoi ar dywod y lan (gweler Atodiad 1).
Ffioedd trwyddedau
Mae'n rhaid i'r ymgeisydd neu'r trwyddedai dalu ffi'r drwydded yn llawn erbyn 1 Ebrill oni bai fod cytundeb ysgrifenedig ymlaen llaw gan CNC.
Ni fydd trwydded warchodedig yn cael ei chynnig os oes ffioedd heb eu talu o dymor blaenorol. Bydd angen i unrhyw ôl-ddyledion gael eu talu cyn i drwydded newydd gael ei chynnig.
Gosodwyd y ffi drwydded o £684 ar gyfer 2020-21 yn 2004 gan Bwyllgor Pysgodfeydd Môr De Cymru. Nid yw'r ffigur hwn yn cyflawni costau rheoli cyfredol (2020-21) y bysgodfa, gan gyfrannu at lai na chwarter ohonynt. Mae'r drefn reoli gyfredol yn dibynnu’n drwm ar arian cymorth grant gan Lywodraeth Cymru.
Yn 2004, amcangyfrifwyd bod y ffi drwydded (£684) yn cynrychioli llai na 2% o enillion y casglwr. Erbyn 2011, amcangyfrifwyd bod y ffi yn cynrychioli mwy nag amcangyfrif o 12%. Yn seiliedig ar ddata a gyflwynwyd ar gyfer y tymor 2017-18, roedd ffi'r drwydded yn cynrychioli ychydig dros 4% o'r enillion a amcangyfrifwyd (yn seiliedig ar bris o 40c/kg ar gyfartaledd), ac eithrio'r rheiny a wnaeth adrodd nad oeddent wedi dal dim byd.
Bydd ffioedd ar gyfer trwyddedau anadnewyddadwy tymor byr ar sail pro rata am hyd y drwydded yn seiliedig ar ffi flynyddol lawn trwydded warchodedig.
Gall y ffioedd trwydded gael eu hadolygu gyda chydsyniad Gweinidog Cymru o fewn oes y cynllun rheoli.
Diddymu trwydded
Pan gaiff deiliad trwydded yn euog o drosedd o dorri cyfyngiad neu reoliad fel a nodir yn y Gorchymyn neu'r cynllun rheoli, bydd CNC yn cynnal adolygiad mewnol i benderfynu a ddylid caffael cymeradwyaeth gan y Gweinidog i ddiddymu'r drwydded. Bydd yr adolygiad hwn yn digwydd am bob euogfarn i sicrhau cysondeb.
Gorfodi
Caiff egwyddorion rheoleiddio da eu mabwysiadu yn y bysgodfa. Bydd CNC yn dryloyw, yn atebol, yn gymesur ac yn gyson ac yn dilyn dull targedig yn ei weithgareddau rheoleiddiol a gorfodi. Caiff yr egwyddorion hyn eu hesbonio ymhellach ym Mholisi Gorfodi ac Erlyn CNC.
Bydd CNC hefyd yn dilyn ei egwyddorion i gyflawni rheoli adnoddau naturiol yn gynaliadwy drwy ei ddull rheoleiddiol yn y bysgodfa. Mae'r egwyddorion hyn fel a ganlyn:
- cyflawni canlyniadau
- bod yn ddeallus
- bod yn barod i herio
- defnyddio’r holl ystod o offer sydd ar gael
- bod yn hyblyg
- dod â’r sgiliau/arbenigedd iawn at ei gilydd
- bod yn effeithlon ac yn effeithiol
- bod yn glir ynglŷn â’r hyn rydym yn ei wneud a pham
Bydd CNC yn cefnogi cydymffurfiaeth deiliaid trwyddedau â'r cyfyngiadau a'r rheoliadau yn y bysgodfa drwy ymgysylltu, addysg a galluogi. Os bydd unrhyw drwyddedai'n torri'r cyfyngiadau a'r rheoliadau, ymdrinnir ag ef yn unol â Pholisi Gorfodi ac Erlyn CNC (gweler Atodiad 4).
Caiff yr ystod lawn o ddulliau gorfodi eu defnyddio i gyflawni cydymffurfiaeth yn y bysgodfa ac i fynd i'r afael â gweithgareddau anghyfreithlon. Mae hyn yn cynnwys ond nid yn gyfyngedig i ddarparu cyngor ac arweiniad, dyrannu rhybuddion, cynnig rhybuddiadau ffurfiol, ac ymgymryd ag erlyniadau.
Wrth benderfynu ar ymateb gorfodi addas, rhoddir ystyriaeth i ganlyniad dymunol yr ymateb. Gall camau gweithredu gael eu cymryd i atal gweithgaredd, adfer neu liniaru effeithiau, sicrhau cydymffurfiaeth, cosbi a/neu atal, neu gyfuniad o'r rhain i gyd.
Caiff ffactorau buddiant cyhoeddus eu hystyried ar gyfer pob achos wrth benderfynu ar ymatebion addas i droseddau. Mae'r rhain yn cynnwys bwriad, effaith amgylcheddol, hanes blaenorol ac agwedd. Gallwch weld rhestr lawn o ffactorau buddiant cyhoeddus a rhagor o fanylion yng nghanllawiau CNC ar orfodi a sancsiynau.
Gall trwyddedau gael eu hatal dros dro am dorri amodau penodol.
Enghreifftiau o droseddau
Mae nifer o droseddau'n gymwys i weithgareddau yn y bysgodfa fel a welir yn Atodiad 3.
Canolfan Gwyddorau’r Amgylchedd, Pysgodfeydd a Dyframaethu (CEFAS) / yr Asiantaeth Safonau Bwyd
Dosberthir ardaloedd cynaeafu molysgiaid deuglawr (pysgod cregyn) yn unol ag ehangder halogiad microbig (ysgarthol) fel a ddengys drwy fonitro E. coli mewn cnawd pysgod cregyn.
Caiff prosesau triniaeth eu mynnu yn ôl dosbarthiad statws yr ardal.
Mae gan yr Asiantaeth Safonau Bwyd gyfrifoldeb statudol dros sicrhau bod rhaglenni monitro a dosbarthu ar waith i fodloni gofynion cyfreithiol. Bydd yr Asiantaeth Safonau Bwyd yn cynghori CNC ar unrhyw gamau gweithredu angenrheidiol oherwydd materion iechyd y cyhoedd, megis cau ardaloedd dros dro.
Bioddiogelwch
Golyga bioddiogelwch gymryd camau gweithredu i sicrhau bod arferion hylendid da ar waith i leihau'r risg o gyflwyno afiechydon a rhywogaethau estron goresgynnol i ardal a’u lledaenu. Mae CNC yn cynghori bod deiliaid trwyddedau'n cadw at gynllun bioddiogelwch cocos CNC.
Cyfathrebu ac ymgysylltu â rhanddeiliaid
Y prif fecanwaith ar gyfer ymgysylltu â rhanddeiliaid fydd y Grŵp Cynghori ar Reoli Cilfach Tywyn. Bydd y Grŵp Cynghori ar Reoli Cilfach Tywyn yn cwrdd yn rheolaidd ac yn gweithio gydag CNC i lywio a datblygu rheolaeth y bysgodfa. Mae rheolaeth lwyddiannus yn y bysgodfa'n manteisio'n fawr ar wybodaeth a phrofiad y deiliaid trwyddedau.
Mae angen i aelodaeth y Grŵp Cynghori ar Reoli Cilfach Tywyn gynrychioli amrywiaeth y cyrff cymunedol a rheoleiddiol a'u safbwyntiau, ond ni ddylai fod yn rhy fawr i’w aelodau weithio gyda'i gilydd ar fanylion ac i’r grŵp gynnal presenoldeb cyson. Bydd CNC yn gwahodd pobl sy'n gallu dangos eu bod yn cynrychioli safbwyntiau pobl eraill, ac nid barn unigolion yn unig. Bydd y rhestr aelodaeth yn cynnwys pedwar cynrychiolydd o Gasglwyr Cocos Trwyddedig Cilfach Tywyn, cynrychiolwyr CNC, a chynrychiolwyr o bob un o'r sefydliadau canlynol:
Cyngor Dinas Abertawe, Cyngor Sir Caerfyrddin, Cymdeithas Pysgod Cregyn Prydain Fawr (SAGB), a chynrychiolwyr o bob un o'r prif broseswyr cocos yng Nghilfach Tywyn. Caiff pobl eraill eu gwahodd i gyfarfodydd fel sy'n briodol.
Caiff newidiadau i amodau trwyddedau, cau gwelyau, taliadau, a gweithrediadau cyffredinol y bysgodfa eu cyfleu i'r holl ddeiliaid trwyddedau drwy "hysbysiad" ysgrifenedig (llythyr ffurfiol a dderbynnir ynghylch materion rheoli'r bysgodfa).
Bydd CNC yn cyfathrebu gyda'r holl ddeiliaid trwyddedau'n rheolaidd.
Gwerthuso/monitro amcanion y cynllun
Amcan 1: Cyflawni a chynnal pysgodfa gynaliadwy sy'n gallu darparu incwm rheolaidd i ddeiliaid trwyddedau
Caiff yr amcan hwn ei fonitro drwy'r dulliau canlynol:
- Cysylltu â’r Grŵp Cynghori ar Reoli Cilfach Tywyn i gytuno ar gyfanswm y ddalfa a ganiateir, cwotâu, a phenderfyniadau rheoli eraill
- Monitro/cynnal stoc defnyddiadwy ar lefelau rhagfynedig a gwella dealltwriaeth deinameg poblogaethau cocos
Amcan 2: Osgoi effeithiau negyddol ar y safle dynodedig Ewropeaidd a thrigolion lleol.
Caiff yr amcan hwn ei fonitro drwy'r dulliau canlynol:
- Cwblhau a gweithredu'r modelau bwyd/stoc adar mwyaf priodol sydd ar gael ynghylch cyfrifo cyfanswm y ddalfa a ganiateir
- Sicrhau nad oes unrhyw anfantais i gyflawni statws cadwraeth ffafriol ar gyfer nodweddion Ardal Cadwraeth Arbennig, Ardal Gwarchodaeth Arbennig a Ramsar perthnasol
- Monitro gwelyau ar gyfer pysgota anghyfreithlon
- Sicrhau mynediad ac allanfeydd o welyau cocos ar bwyntiau cytunedig
Amcan 3: Gwella gwaith rheoli, monitro, rheoleiddio a gorfodi yn y bysgodfa
Caiff yr amcan hwn ei fonitro drwy'r dulliau canlynol:
- Rheoleiddio'r bysgodfa yn unol â gofynion statudol cyfredol
- Defnyddio adnoddau i wella dealltwriaeth o ddeinameg poblogaethau
- Defnyddio'r cynllun rheoli hwn
- Sicrhau gwaith monitro rheolaidd ar gyfer dalfeydd a chydymffurfiaeth â'r cynllun rheoli
- Defnyddio'r model stoc mwyaf priodol i ragfynegi gofynion bwyd i adar yr Ardal Gwarchodaeth Arbennig a'r SoDdGA, rhagfynegi effeithiau ar boblogaethau adar y lan sefyllfaoedd rheoli gwahanol, ac argymell dulliau ar gyfer gosod cyfanswm dalfa a ganiateir sy'n gynaliadwy
Atodiadau
1. Gweithdrefn adrodd am gocos yn crynhoi ar dywod y lan
Mae'r camau canlynol yn amlinellu'r weithdrefn ar gyfer adrodd a chadarnhau digwyddiadau cocos yn crynhoi ar dywod y lan ar raddfa fawr lle gall CNC atal neu ymlacio amodau trwydded dros dro i hwyluso symud cocos yn crynhoi ar dywod y lan.
- Digwyddiadau cocos yn crynhoi ar dywod y lan yn cael eu hadrodd i CNC gan drwyddedai.
- Bydd CNC yn ceisio cadarnhau cocos yn crynhoi ar dywod y lan a phennu swm a lleoliad, trwy ymweld â’r safle ar yr un diwrnod neu'r diwrnod canlynol yn ddelfrydol. Lle nad yw hyn yn bosib, gall ffyrdd gwahanol o gadarnhau'r achos gael eu defnyddio.
- Mae CNC yn adolygu'r data o ddatganiadau dalfa hyd yn hyn yn erbyn cyfanswm y ddalfa a ganiateir a swm y cocos yn crynhoi ar dywod y lan.
- Mae dogfennau CNC yn nodi manylion y digwyddiad cocos yn crynhoi ar dywod y lan ac yn gwneud penderfyniad ynghylch atal neu ymlacio amodau trwyddedau.
- Efallai na fydd awdurdodiad i symud cocos yn crynhoi ar dywod y lan trwy atal neu ymlacio amodau trwyddedau yn cael ei roi am nifer o resymau, gan gynnwys:
- Mae yna gapasiti cyfyngedig yng nghyfanswm y ddalfa a ganiateir ac ystyrir y gallai'r gweithgaredd hwn olygu bod angen i'r bysgodfa gau'n gynnar unwaith y bydd cyfanswm y ddalfa a ganiateir wedi'i chyrraedd
- Nid yw CNC wedi gallu cadarnhau'r digwyddiad cocos yn crynhoi ar dywod y lan
- Mae swm y cocos yn crynhoi ar dywod y lan yn annigonol i warantu'r broses, e.e. cânt eu clirio'n naturiol mewn rhai diwrnodau dan gwotâu dyddiol cyfredol
- Ystyrir y bydd yr awdurdodiad yn niweidiol i'r bysgodfa mewn unrhyw ffordd
- Lle y bo'n briodol atal neu ymlacio amodau trwyddedau, gall hyn gynnwys newidiadau i unrhyw rai o'r canlynol:
- Uchafswm y cwota dyddiol
- Meintiau lleiaf neu uchaf (os yw'n berthnasol)
- Gofyniad i dagio bagiau
- Cyfyngiadau ar y cyfarpar y mae modd ei ddefnyddio i gasglu cocos
- Caiff hysbysiad ysgrifenedig i gasglwyr cocos yn nodi'r newidiadau dros dro i amodau trwyddedau a'r amserlen y mae'r rhain yn berthnasol iddi ei anfon at yr holl ddeiliaid trwyddedau drwy'r post.
- Os na chaiff hysbysiad i hwyluso clirio cocos yn crynhoi ar dywod y lan ei ddyrannu, bydd holl amodau trwyddedau yn parhau ni waeth a yw cocos yn crynhoi ar dywod y lan ac yn cael eu casglu. Bydd unrhyw achos o dorri amod pan nad yw hysbysiad ar waith, neu os na chaiff amod ei atal neu ei ymlacio drwy hysbysiad, yn drosedd.
2. Canllawiau a gofynion iechyd a diogelwch
Mae'r ddogfen hon yn tynnu sylw at ganllawiau a gofynion iechyd a diogelwch ar gyfer casglu cocos a gweithio'n rhynglanwol i ddeiliaid trwyddedau a defnyddwyr eraill y bysgodfa.
Cymwysterau ar gyfer casglu cocos
- Cwrs/tystysgrif diogelwch casglwyr ar y blaendraeth.
Y defnydd o gychod
Bydd y cymwysterau isod yn ofynnol i ddeiliaid trwyddedau sy'n defnyddio cwch i gael mynediad i'r bysgodfa:
- Cwch Pŵer Lefel 2 y Gymdeithas Hwylio Frenhinol gyda hyfforddiant ardystio rheolaeth neu gwrs cyfwerth neu docyn sgiper dan 16.5 metr Awdurdod y Diwydiant Pysgod Môr.
Cyngor diogelwch ar gyfer defnydd cychod
Gweler yr wybodaeth a'r canllawiau isod a ddarparwyd gan yr Asiantaeth Morol a Gwylwyr y Glannau ar gyngor diogelwch i gychod sy'n ymwneud â gweithrediadau cocos a'u cyfrifoldeb i reoleiddio a gorfodi'r canlynol:
Bydd cwch sy'n ymwneud mewn unrhyw ffordd â chludo personél, cyfarpar neu gargo ar gyfer casglu cocos yn yr ardal yn gweithredu'n fasnachol. Disgwylir i'r holl gychod sy'n gweithredu'n fasnachol feddu ar dystysgrif a chydymffurfio â deddfwriaeth a chanllawiau priodol y Deyrnas Unedig, gan gynnwys ond heb fod yn gyfyngedig i'r canlynol:
O.S. 2016/354 – Rheoliadau Llongau Masnach (Cychod Gwaith Bach a Chychod Peilot) (Diwygiad) 2016
O.S. 1998/1609 – Llongau Masnach (Cychod Gwaith Bach a Chychod Peilot) – gweler y diwygiadau uchod
MSN 1892 – Rhifyn cod y cwch gwaith 2 (ar gyfer cychod a adeiladwyd ar ôl 31 Rhagfyr 2018)
O.S. 1997/2962 – Llongau Masnach a Chychod Pysgota (Iechyd a Diogelwch yn y Gwaith)
MIN 538 – Awdurdodiad yr awdurdod ardystio
Mae'r rheoliadau hyn yn ymwneud â chychod hyd at 24 metr o hyd ar hyd llinell y llwyth ac sy'n cludo hyd at 12 o deithwyr neu bwysau cyfwerth mewn cargo (oddeutu 1,000 kg). Efallai y bydd modd caniatáu rhagor o gargo os oes gan y cwch wybodaeth sefydlogrwydd briodol wedi’i chymeradwyo.
Mae Asiantaeth y Môr a Gwylwyr y Glannau wedi dirprwyo'r gwaith arolygu ac ardystio i awdurdodau ardystio. Mae MIN 538, fel a restrir uchod, yn darparu manylion yr awdurdodau ardystio.
Yn ogystal, caiff unrhyw gwch pysgota cofrestredig a ddefnyddir ar gyfer cludo dalfeydd ei ddosbarthu fel un sy’n cludo cargo ac, fel y cyfryw, bydd gofyn iddo gydymffurfio â'r rheoliadau uchod hefyd.
Cyfrifoldeb y perchennog / asiant rheoli a'r sgiper yw sicrhau eu bod yn cydymffurfio â'r holl ddeddfwriaeth berthnasol.
Mae'r mathau hyn o weithrediadau'n gysylltiedig â risgiau a pheryglon penodol, gan gynnwys ond heb fod yn gyfyngedig i waith nos a blinder, effeithiau llanwau, amodau tywydd gwael, a halio. Bydd y perchennog yn rheoli'r risgiau gyda'r nod o'u lleihau a chreu amgylchedd gwaith diogel, gan fabwysiadu gweithdrefnau a chyfarwyddiadau a fydd yn cael eu dogfennu ac yn ffurfio rhan o System Rheoli Diogelwch.
Bydd mynd yn groes i unrhyw ddarpariaeth yn drosedd gan y perchennog a meistr y cwch a'r gosb, os bydd euogfarn ddiannod, fydd dirwy nad yw'n rhagori ar yr uchafswm statudol, neu, os bydd euogfarn ar dditiad, carcharu am dymor nad yw'n hwy na dwy flynedd neu ddirwy, neu'r ddau.
Mewn unrhyw achos lle nad yw cwch yn cydymffurfio â gofynion y rheoliadau hyn, bydd y cwch yn atebol i gael ei ddal.
Mae modd cael rhagor o wybodaeth am y ddeddfwriaeth hon o wefan Asiantaeth y Môr a Gwylwyr y Glannau.
3. Rhestr o droseddau
Adran 3(3) o Ddeddf Pysgodfeydd Môr (Pysgod Cregyn) 1967: “Bydd unrhyw berson o’r fath sy'n treillio, yn pysgota am neu'n cymryd pysgod cregyn o unrhyw ddisgrifiad y mae unrhyw orchymyn o’r fath yn gymwys iddynt yn groes i unrhyw gyfyngiadau neu reoliad o’r fath, neu heb dalu unrhyw doll neu freindal o’r fath, fel y dywedwyd uchod, yn euog o drosedd …"
Adran 292 (1) o Ddeddf y Môr a Mynediad i’r Arfordir 2009: "Mae person yn euog o drosedd os – (a) bod y person yn methu cydymffurfio, heb esgus rhesymol, â gofyniad a wnaed yn rhesymol, neu gyfarwyddyd a roddwyd yn rhesymol, gan swyddog gorfodi wrth arfer unrhyw bŵer a roddwyd gan y Rhan hon, neu (b) bod y person yn atal unrhyw berson arall rhag cydymffurfio ag unrhyw ofyniad neu gyfarwyddyd o'r fath"
Adran 292 (4) o Ddeddf y Môr a Mynediad i’r Arfordir 2009: "Mae person sy'n rhwystro swyddog gorfodi yn fwriadol wrth iddo gyflawni unrhyw un o swyddogaethau’r swyddog o dan y ddeddf hon yn euog o drosedd"
Adran 292 (5) o Ddeddf y Môr a Mynediad i’r Arfordir 2009: "Mae person sy'n ymosod ar swyddog gorfodi wrth gyflawni unrhyw un o swyddogaethau’r swyddog o dan y Ddeddf hon yn euog o drosedd"
4. Polis gorfodi ac erlyn
Cyflwyniad
O 1 Ebrill 2013, gwnaeth Corff Adnoddau Naturiol Cymru gymryd swyddogaethau cyfunol Cyngor Cefn Gwlad Cymru a swyddogaethau datganoledig Cymru Asiantaeth yr Amgylchedd Cymru a Chomisiwn Coedwigaeth Cymru. Mae'r polisi hwn yn disodli holl ddogfennau polisi gorfodi blaenorol y cyrff etifeddol hyn yng Nghymru ac ef yw’r datganiad polisi gorfodi cyntaf sy'n cynnwys y sefydliad newydd yng Nghymru. Mae'r polisi hwn hefyd yn berthnasol i ymchwiliadau parhaus a gychwynnwyd gan Asiantaeth yr Amgylchedd Cymru, Comisiwn Coedwigaeth Cymru a Chyngor Cefn Gwlad Cymru cyn 1 Ebrill 2013.
Cynulleidfa – Yr holl gyflogeion, yn arbennig staff cyfreithiol a gweithredol.
Ein nod – Ein nod yw cyflawni'r canlyniadau amgylcheddol, cymdeithasol ac economaidd gorau posib i bobl a chymunedau yng Nghymru, yn awr ac yn y dyfodol. Byddwn yn cyflawni hyn drwy addysg, drwy ddarparu cyngor, a thrwy reoleiddio gweithgareddau. Darparu cyngor ac arweiniad clir fydd ein prif ddull ar gyfer sicrhau cydymffurfiaeth, ond mae sicrhau cydymffurfiaeth â gofynion cyfreithiol, drwy ddefnyddio pwerau gorfodi, gan gynnwys sancsiynau sifil ac erlyniad, yn rhan bwysig o gyflawni'r nod hwn.
Ein swyddogaethau – Mae ein swyddogaethau'n helaeth. Maent yn cynnwys rheoli coedwigoedd a choetiroedd Cymru, rheoli llygredd, rheoleiddio gwastraff, rheoli adnoddau dŵr, rheoli perygl llifogydd a risgiau arfordirol, pysgodfeydd, mordwyaeth, a diogelu safleoedd a rhywogaethau gwarchodedig. Rydym yn rheoleiddio amrywiaeth o weithgareddau, o weithgareddau hamdden a rheoli clefydau planhigion, i ddiogelu rhywogaethau prin a rheoli allyriadau o brosesau diwydiannol cymhleth.
Gweithio gyda phobl eraill – Mae ein staff yn gweithio gyda llywodraeth leol a rheoleiddwyr eraill ar faterion megis cynllunio, llygredd aer, iechyd y cyhoedd a diogelwch galwedigaethol i sicrhau rheoleiddio cydlynol. Maent hefyd yn gweithio gyda llawer o gyrff cadwraeth, grwpiau gwirfoddol a chyrff anllywodraethol i gyflawni nodau cyffredin. Lle mae gennym ni a chorff gorfodi arall y pŵer i gymryd camau gweithredu gorfodol, byddwn yn cysylltu â'r corff arall hwnnw i sicrhau y gallwn ddefnyddio dull cydlynol, effeithiol a chyson, ac i sicrhau bod unrhyw gamau gweithredu rydym yn eu cymryd yn briodol ar gyfer y drosedd.
Ein dull cyffredinol – Rydym yn ystyried bod atal yn well na gwella. Ein dull cyffredinol yw i ymgysylltu â pherchnogion tir a busnesau i addysgu a galluogi cydymffurfiaeth neu i atal difrod. Rydym yn cynnig gwybodaeth a chyngor i'r rheiny rydym yn eu rheoli ac yn ceisio osgoi biwrocratiaeth neu gostau eithafol. Rydym yn annog unigolion a busnesau i roi'r amgylchedd yn gyntaf ac i integreiddio arferion amgylcheddol da o fewn dulliau gwaith arferol. Byddwn yn rhoi ystyriaeth briodol i werth cynnydd economaidd.
Ein dull o drin diffyg cydymffurfio – Os nad yw gweithredwr neu unigolyn yn cydymffurfio, fel arfer byddwn yn rhoi cyngor ac arweiniad i'w helpu i wneud hynny. Lle bo'n briodol, rydym yn cytuno ar ddatrysiadau ac amserlenni ar gyfer gwneud unrhyw welliannau. Rydym yn ceisio cydweddu'n hymateb â'r amgylchiadau. Gall y defnydd o bwerau gorfodi a sancsiynau hefyd fod yn angenrheidiol.
Egwyddorion – Mae'r polisi hwn yn nodi’r egwyddorion cyffredinol rydym yn eu dilyn mewn perthynas â gorfodi a sancsiynau. Bydd yn cael ei ddefnyddio ar y cyd â’r canllawiau mwy manwl ar orfodi a sancsiynau ac unrhyw ddatganiadau sefyllfa ar reoleiddio y mae Cyfoeth Naturiol Cymru yn dewis eu mabwysiadu. Byddwn hefyd yn sicrhau bod gwybodaeth briodol ar gael am ein defnydd o sancsiynau.
Ein dull gweithredu
Diffiniad – At ddiben y datganiad hwn, ystyr gorfodi yw unrhyw gamau gweithredu rydym yn eu cymryd lle'r ydym yn amau bod trosedd wedi digwydd neu, mewn rhai achosion, ar fin digwydd. Gall hyn amrywio o roi cyngor ac arweiniad, cyflwyno hysbysiadau hyd at erlyn, neu unrhyw gyfuniad sy'n cyflawni'r canlyniad dymunol orau. Mewn rhai achosion, dan Reoliadau Difrod Amgylcheddol 2009, efallai y bydd angen cymryd camau gorfodi yn absenoldeb unrhyw drosedd a ddrwgdybir, ond, yn y rhan fwyaf o achosion, bydd gweithgaredd sy'n arwain at 'ddifrod amgylcheddol' dan y rheoliadau hefyd yn cael ei ystyried yn drosedd dan ddeddfwriaeth amgylcheddol.
Defnyddio sancsiynau – O fewn y dull cyffredinol hwn, lle mae trosedd wedi cael ei chyflawni ac nid yw rhoi cyngor ac arweiniad wedi cyflawni'r canlyniad angenrheidiol, nac yn debygol o wneud hynny, fel arfer byddwn yn ystyried cyflwyno cosb o ryw fath yn ogystal â chymryd unrhyw fesurau ataliol neu gamau gweithredu adferol sy’n angenrheidiol i ddiogelu'r amgylchedd neu bobl. Ein nod yw defnyddio cosbau sifil a throseddol mewn modd sy'n briodol i'r drosedd, fel y disgrifir yn ein canllawiau ar orfodi a sancsiynau.
Opsiynau gorfodi
Mae'r opsiynau sydd ar gael i ni'n cynnwys:
- darparu cyngor ac arweiniad
- dyrannu rhybudd
- hysbysiadau gorfodi statudol a hysbysiadau gwaith
- hysbysiadau gwahardd
- atal neu ddiddymu trwyddedau amgylcheddol, neu amrywio amodau trwyddedau
- gwneud gwaith adferol
- cosbau sifil
- cosbau sifil ac ariannol eraill, gan gynnwys hysbysiadau cosb benodedig
- cyflwyno rhybuddiad ffurfiol
- erlyniad a gorchmynion ategol i erlyniad
- defnyddio cosbau ar y cyd
Rydym yn credu bod cyhoeddi gwybodaeth am ein gweithgareddau gorfodi, lle y bo'n briodol, yn codi ymwybyddiaeth o'r angen i gydymffurfio. Rydym yn dyrannu datganiadau i'r wasg a chyhoeddusrwydd arall sy'n ymwneud â throseddau a throseddwyr sy'n gymesur â'r sancsiwn.
Adennill costau – Lle mae'r gyfraith yn caniatáu, byddwn bob tro yn ceisio adennill costau ymchwilio ac achosion gorfodi. Lle rydym wedi mynd i gostau, er enghraifft lle'r ydym wedi gwneud gwaith adfer, byddwn yn ceisio adennill y costau llawn gan y rheiny sy'n gyfrifol yn unol ag egwyddor 'y llygrwr sy’n talu'.
Egwyddorion cosb
Rydym yn disgwyl cydymffurfiaeth wirfoddol lawn â gofynion deddfwriaethol a darpariaethau trwydded perthnasol. Wrth ystyried y camau gweithredu priodol i sicrhau cydymffurfiaeth, rydym yn ceisio dilyn Egwyddorion Cosb Macrory, sydd wedi'u nodi yng Nghod Cydymffurfiaeth y Rheoleiddwyr.
Mae'r rhain yn nodi y dylai camau gorfodi a sancsiynau wneud y canlynol:
- ceisio newid ymddygiad y troseddwr
- ceisio diddymu unrhyw enillion ariannol neu fudd yn sgil diffyg cydymffurfio
- bod yn ymatebol ac ystyried yr hyn sy'n briodol i'r troseddwr penodol a'r mater rheoleiddiol, sy'n gallu cynnwys cosb a’r stigma cyhoeddus a ddylai fod yn gysylltiedig ag euogfarn droseddol
- bod yn gymesur i natur y drosedd a'r difrod a achoswyd
- ceisio adfer y difrod a achoswyd gan ddiffyg cydymffurfiaeth, lle bo hynny'n briodol
- ceisio rhwystro diffyg cydymffurfiaeth yn y dyfodol
Egwyddorion rheoleiddio a gorfodi
Cod Cydymffurfiaeth y Rheoleiddwyr – Mae'n rhaid i ni ystyried y darpariaethau yng Nghod Cydymffurfiaeth y Rheoleiddwyr wrth ddyfeisio a gweithredu polisïau a systemau rheoleiddiol. Fodd bynnag, nid yw'r darpariaethau hynny'n gymwys yn uniongyrchol i achosion unigol.
Nid yw gofynion y cod yn gymwys mewn sefyllfaoedd penodol, er enghraifft:
- lle mae angen ymateb ar unwaith i naill ai atal neu ymateb i doriad neu ddigwyddiad difrifol
- lle byddai dilyn y darpariaethau yn rhwystro diben y camau gorfodi arfaethedig
- lle mae sail resymol i amau bod trosedd ddifrifol wedi cael ei chyflawni, yn benodol lle byddai trosedd o'r fath yn cael effaith niweidiol ar fusnes cyfreithlon a chanlyniadau rheoleiddiol dymunol
Egwyddorion rheoleiddio cadarn ond teg
Rydym yn credu mewn rheoleiddio cadarn ond teg.
Yn sail i'n hymrwymiad i reoleiddio cadarn ond teg yw’r egwyddorion canlynol:
- cymesuredd wrth ddefnyddio'r gyfraith a sicrhau cydymffurfiaeth
- cysondeb dull
- tryloywder o ran sut rydym yn gweithredu a'r hyn y gall y rheiny rydym yn eu rheoleiddio ei ddisgwyl gennym
- targedu camau gweithredu
- atebolrwydd am y camau gorfodi rydym wedi eu cymryd
Cymesuredd
Cysyniad – Yn gyffredinol, mae'r cysyniad o gymesuredd wedi'i gynnwys yn llawer o'r system reoleiddiol drwy gydbwyso camau gweithredu i ddiogelu'r amgylchedd yn erbyn risgiau a chostau camau gweithredu o'r fath.
Cydbwyso'n hymateb i'r risg – Mae rhai digwyddiadau neu achosion o dorri gofynion rheoleiddiol yn achosi, neu mae ganddynt y potensial i achosi, difrod amgylcheddol difrifol. Gall pobl eraill ymyrryd â mwynhad neu hawliau pobl, neu ein gallu i wneud ein gweithgareddau. Ein hymateb cyntaf fydd atal niwed i bobl a'r amgylchedd rhag digwydd neu barhau. Bydd unrhyw gamau gweithredu gorfodol rydym yn eu cymryd yn gymesur i'r risgiau i bobl a'r amgylchedd a hefyd i ddifrifoldeb toriad y gyfraith a'i effaith ar fusnes cyfreithlon.
Cysondeb
Dull – Golyga cysondeb ddefnyddio dull tebyg mewn amgylchiadau tebyg i gyflawni canlyniadau tebyg. Rydym yn ceisio bod yn gyson gyda'r cyngor rydym yn ei roi, sut rydym yn ymateb i lygredd a digwyddiadau eraill, yn defnyddio pwerau, ac yn penderfynu erlyn a pha sancsiwn a allai fod yn briodol.
Disgresiwn – Fodd bynnag, rydym yn cydnabod nad yw cysondeb yn golygu unffurfiaeth yn unig. Mae angen i swyddogion ystyried llawer o elfennau newidiol:
- graddfa'r effaith amgylcheddol
- ymddygiad a chamau gweithredu unigolion a rheolwyr busnesau
- hanes digwyddiadau neu doriadau blaenorol. Mae penderfyniadau ar gamau gorfodi'n fater o farn broffesiynol ac mae angen i’n swyddogion allu arfer disgresiwn. Byddwn yn parhau i ddatblygu trefniadau i hyrwyddo cysondeb, gan gynnwys ffyrdd effeithiol o gysylltu ag awdurdodau gorfodi eraill.
Tryloywder
Dull – Mae tryloywder yn bwysig wrth fagu hyder y cyhoedd yn ein gallu i reoleiddio. Mae'n golygu helpu endidau rheoleiddiedig ac eraill i ddeall yr hyn a ddisgwylir ganddynt a'r hyn y dylent ei ddisgwyl gennym ni. Mae hefyd yn golygu gwneud yn glir pam mae swyddog yn bwriadu cymryd, neu wedi cymryd, camau gorfodi. Mae ein canllawiau ar orfodi a sancsiynau'n darparu tryloywder ar sut byddwn yn mynd i'r afael â throseddau.
Sut rydym yn gwneud hyn – Mae tryloywder yn hanfodol i rôl swyddog a byddwn yn parhau i hyfforddi'n staff a datblygu ein gweithdrefnau i sicrhau'r canlynol:
- lle mae angen camau gweithredu adferol, ein bod yn esbonio'n glir pam mae angen camau gweithredu ac erbyn pryd y mae'n rhaid cymryd y camau, gan wahaniaethu rhwng cyngor arfer gorau a gofynion cyfreithiol
- ein bod yn rhoi'r cyfle i drafod yr hyn sydd ei angen i gydymffurfio â'r gyfraith cyn bod unrhyw gamau gorfodi ffurfiol yn cael eu cymryd, oni bai fod angen cymryd camau gweithredu brys, er enghraifft i ddiogelu'r amgylchedd neu i atal tystiolaeth rhag cael ei dinistrio
- lle mae’n ofynnol gennym fod gweithredwr yn cymryd camau gweithredu brys, y byddwn yn rhoi esboniad ysgrifenedig o'r rhesymau dros hyn cyn gynted â phosib ar ôl y digwyddiad
- y byddwn yn darparu esboniad ysgrifenedig o unrhyw hawliau apelio yn erbyn camau gorfodi ffurfiol ar adeg cymryd y camau gweithredu
Targedu
Ffocws – Golyga targedu sicrhau bod ymdrech reoleiddiol yn cael ei chyfeirio'n benodol tuag at y rhai y mae eu gweithgareddau'n achosi neu'n creu'r risg o ddifrod amgylcheddol difrifol, lle mae’r risgiau’n cael eu rheoli leiaf, neu yn erbyn trosedd fwriadol neu gyfundrefnol. Byddwn yn ffocysu camau gweithredu ar y sawl sy'n torri'r gyfraith neu'r rheiny sy'n gyfrifol yn uniongyrchol am y risg a/neu'r sawl sydd yn y sefyllfa orau i'w rheoli.
Dull sy'n seiliedig ar risg – Mae ein dull sy'n seiliedig ar risg yn ein galluogi i flaenoriaethu ein gweithgareddau ymchwilio. Mae hyn yn cynnwys categoreiddio achosion o ddiffyg cydymffurfio mewn safleoedd trwyddedig a chategoreiddio digwyddiadau eraill yn seiliedig ar asesu’r risg i’r amgylchedd a’r effaith wirioneddol arno. Byddwn yn rhoi blaenoriaeth uchel i ymchwiliadau sy'n cynnwys troseddu cyfundrefnol, gweithgareddau troseddol amlwg, enillion sylweddol, bygythiadau trais, neu ffactorau gwaethygol eraill.
Diwydiant a reoleiddir – Yn achos diwydiannau a reoleiddir, mae camau gweithredu gan reolwyr yn bwysig. Gall digwyddiadau lluosog neu gyfres o doriadau cysylltiedig o ofynion rheoleiddiol ddynodi amharodrwydd i newid ymddygiad, neu anallu i gyflawni rheolaeth ddigonol. Gall y rhain ofyn am adolygiad o ofynion rheoleiddiol, gallu'r gweithredwr i gynnal y safle, a/neu fuddsoddiad ychwanegol. Rydym yn cydnabod y gall safle neu weithgaredd perygl gweddol isel sy'n cael ei reoli'n wael beri mwy o risg i'r amgylchedd na safle neu weithgaredd perygl uwch lle mae mesurau rheoli cywir ar waith.
Atebolrwydd
Cyfrifoldeb ac ymgynghoriad – Golyga atebolrwydd ein bod yn cymryd cyfrifoldeb dros ein penderfyniadau ac y byddwn yn eu cyfiawnhau lle y bo'n briodol. Mae ein gwaith papur hysbysiadau, gorfodi a chosbau yn cynnwys gwybodaeth berthnasol am sut i apelio a chwyno. Byddwn yn ymgynghori ar newidiadau i'r datganiad hwn a'r canllawiau atodol ar orfodi a sancsiynau.
Gweithio gyda'r llywodraeth – Byddwn yn cefnogi adolygiadau cyfnodol gan y llywodraeth o'n gweithgareddau rheoleiddio a gorfodi, a byddwn yn adrodd ar ein gweithgareddau gorfodi a chosbi fel sy’n ofynnol gan y ddeddfwriaeth.