Cyflwyniad i Canol de Cymru
Rydym yn parhau i ymgysylltu ar Ddatganiadau Ardal drwy gyfrwng digwyddiadau a gweithdai ar-lein yn sgil pandemig y coronafeirws. Defnyddiwch y blychau adborth ar waelod y dudalen i gysylltu â ni ac i ddysgu mwy.
Rydym yn wynebu dwy her sylweddol mewn perthynas â Rheoli Adnoddau Naturiol yn Gynaliadwy. Yr her gyntaf yw newid yn yr hinsawdd. Yr ail her yw colli ein bioamrywiaeth – yr amrywiaeth o fywyd a geir ar wyneb y Ddaear a’r cymunedau a’r cynefinoedd ble maen nhw’n byw. Mae hyn yn ein harwain at ecosystemau; cymunedau mawr o organebau byw, er enghraifft planhigion ac anifeiliaid, sy'n byw mewn ardal benodol ac sy'n rhyngweithio â'i gilydd.
Yma yng Nghanol De Cymru, rydym yn ffodus i fod ag ecosystemau eithriadol ar drothwy'r drws. Ystyriwch, er enghraifft, ffriddoedd, sy’n glytweithiau pwysig o gynefinoedd a geir yn aml ar lethrau cymoedd sydd nid yn unig yn cysylltu rhywogaethau’r ucheldir a’r iseldir, ond sydd hefyd yn gefndir ffisegol a diwylliannol i'r cymunedau lleol, ac yn bont rhwng ecosystemau trefol, lled-naturiol ac amaethyddol.
Mae angen i ni ddeall gwerth yr hyn sydd gennym a’i ddiogelu. Mae ein hecosystemau o dan fygythiad ar sawl ffrynt; dulliau amhriodol o reoli tir, llygredd, datblygu anghynaliadwy, rhywogaethau estron goresgynnol a newid hinsawdd.
Mae yna ymdeimlad hefyd nad ydyn ni o bosib, fel cymdeithas, yn gwerthfawrogi'n llawn y byd naturiol sydd o'n cwmpas. Er enghraifft, gall rhai ardaloedd o ffridd ar lechweddau beri perygl tân, ac felly gallant fod yn risg bosib i eiddo ac i ansawdd yr aer. Fodd bynnag, pan gaiff ei rheoli’n dda, mae gan ffridd werth bioamrywiaeth uchel ac mae'n peri llai o risg o ran tanau gwyllt, a hefyd yn darparu gwasanaethau ecosystem a buddion ehangach megis lliniaru llifogydd, atafaelu carbon a chyfleoedd hamdden.
Mae angen i ni amddiffyn ac ail-adeiladu ein hecosystemau fel eu bod yn iach ac yn gallu gwrthsefyll unrhyw fygythiadau posib.
Os gwnawn ni hyn, byddwn yn gwella'n llesiant, ac ar yr un pryd yn gallu mwynhau ac amddiffyn natur am ei gwerth cynhenid. Mae adnoddau naturiol Cymru wedi eu cysylltu'n agos â llesiant economaidd, cymdeithasol a diwylliannol y wlad, felly mae'n gwneud synnwyr perffaith. Er enghraifft, caiff £2,870 miliwn ei gynhyrchu gan dwristiaeth ei hun bob blwyddyn yng Nghymru.
Yng Nghanol De Cymru, gan weithio gyda'n partneriaid, rydym bellach yn deall ble i ganolbwyntio ein hymdrechion er mwyn meithrin gwydnwch o fewn ecosystemau, gan eu gwneud yn fwy gwydn, gwerthfawr a buddiol i'n cymunedau. Fe wnaethom ddatblygu Proffiliau Ecosystem er mwyn ehangu ein dealltwriaeth o ecosystemau eu hunain, a'r gwasanaethau maent yn eu darparu ar gyfer llesiant.
Mae’r saith ecosystem allweddol yng Nghanol De Cymru fel a ganlyn:
I gael mwy o wybodaeth am ein gwaith tuag at adeiladu ecosystemau gwydn gweler y fideo hwn.
Bwriad y Proffiliau Ecosystem yw darparu sylfaen dystiolaeth er mwyn dylanwadu ar y gwaith o lunio polisïau yn y dyfodol a chynorthwyo â’r broses gynllunio a chyflawni. Maent yn sicrhau y caiff gwybodaeth a phrofiad technegol ar lawr gwlad eu hategu gan y dystiolaeth genedlaethol ehangach yn ymwneud ag ecosystemau, er enghraifft, o SoNaRR2020.
Mae’r proffiliau’n amlinellu sut i feithrin gwydnwch ym mhob un o’r ecosystemau. Mae gwell gwydnwch yn golygu gwell buddion llesiant i’r bobl sy’n byw ac yn gweithio yng Nghanol De Cymru. Nawr mae angen i ni weithredu ymhellach, a gall hynny ond digwydd drwy ymgysylltiad parhaus a gweithio gydag eraill.
Yn y pen draw, y nod yw gwarchod ac adfer byd natur er mwyn sicrhau y caiff gwasanaethau ecosystem a’u buddion eu sicrhau, nawr ac i’r dyfodol. Ein dull yw annog Rheoli Adnoddau Naturiol yn Gynaliadwy er mwyn sicrhau’r lefel uchaf o wydnwch sy’n briodol ar gyfer y defnydd tir a ddymunir. Bydd hyn yn edrych yn wahanol mewn gwahanol lefydd. Er enghraifft, bydd gwarchodfeydd natur fel Merthyr Mawr yn dal i gael eu cydnabod, eu gwarchod a’u rheoli ar gyfer eu bioamrywiaeth o bwys rhyngwladol, tra bod angen i’r ystod eang o dir amaethyddol o ansawdd uchel feithrin gwydnwch a sicrhau cynaliadwyedd bwyd. Mae angen i ni adeiladu ar brosiectau sy’n gwireddu newid.
Gwyddom fod ein hecosystemau yn chwarae rôl hanfodol wrth liniaru ac ymaddasu i newid yn yr hinsawdd. Heb werthfawrogi'n hecosystemau yn iawn, ynghyd â'r buddiannau lliniaru ac ymaddasu maent yn eu darparu, mae perygl i ni achosi canlyniadau gwrthgynhyrchiol sy'n lleihau gwydnwch ecosystemau.
Yng Nghanol De Cymru, rydym yn gweithio mewn ffordd gydgysylltiedig, gan chwilio am gyfleoedd i reoli er mwyn lliniaru ac ymaddasu i newid yn yr hinsawdd, ac i fynd i’r afael ag anghenion a chyfleoedd i gymunedau lleol, gan osgoi gwrthdaro rhwng amcanion gwahanol ar yr un pryd. O ganlyniad, gall y broses o gyflawni gael ei chynllunio a gall fod yn fanteisgar, wrth i bartneriaid benderfynu ar eu ffordd eu hunain ymlaen. Ni fydd newid yn digwydd ar unwaith ond rydym yn bwrw ati, gyda'n gilydd, i wireddu newid yn y tymor hirach.
Mae Cyfoeth Naturiol Cymru wedi cydgysylltu ag ystod eang o sefydliadau gan gynnwys Llywodraeth Cymru, awdurdodau lleol a grwpiau anllywodraethol eraill ers dechrau’r broses o Ddatganiadau Ardal yn 2018. Drwy wneud hynny, rydym wedi datblygu cyd-ddealltwriaeth o wydnwch ecosystemau, sut i’w ddatblygu a’r camau gweithredu y mae eu hangen.
Rydym yn cydnabod mai cyfyngedig fu ein hymwneud â sectorau eraill ym maes rheoli tir, er enghraifft amaethyddiaeth a choedwigaeth. Fodd bynnag, rydym wedi ymgysylltu'n genedlaethol â’r sectorau hyn a byddwn yn chwilio am gyfleoedd i ymgysylltu'n ystyrlon wrth i ni symud ymlaen.
Mae gennym lawer o waith i'w wneud o hyd ar y thema hon. Byddwn yn ymgysylltu'n agos â phartneriaid i gyflawni blaenoriaethau’r Polisi Adnoddau Naturiol.
Yng Nghanol De Cymru, bydd hynny'n cynnwys y canlynol:
Mae gan ecosystem iach a gwydn fuddion hanfodol a chynhenid o ran ein bywydau a'n llesiant cyffredinol. I ddeall hyn, mae Proffiliau Ecosystem yn nodi cyfleoedd i wella iechyd ecosystemau drwy gyfrwng datrysiadau sy'n seiliedig ar natur, gan ddarparu darlun ehangach o sut maent yn cyd-fynd â’i gilydd, gan ein galluogi i flaenoriaethu wrth wneud penderfyniadau a chyflawni gweithredol.
Mae'r thema hon, ar y cyd â'r thema Cysylltu pobl â natur, yn rhoi’r sylfaen dystiolaeth, y mecanweithiau a’r dylanwad ar gyfer ystyried yr holl benderfyniadau er mwyn rheoli adnoddau naturiol yng Nghanol De Cymru mewn ffordd gynaliadwy.
Yng Nghanol De Cymru, rydym yn ymrwymedig i weithio mewn ffordd agored a thryloyw. Gan gadw hynny mewn cof, rydym am annog pobl i gyfrannu at adeiladu ecosystemau gwydn. Mae proses y Datganiadau Ardal yn ein galluogi i sefydlu ffyrdd newydd o weithio a fydd yn cael eu nodi wrth i ni ddatblygu'r camau nesaf. Defnyddiwch y blychau adborth ar waelod y dudalen i gysylltu â ni ac i ddysgu mwy.
I gysylltu â’ch Partneriaeth Natur Leol a gweld eu Cynllun Gweithredu lleol ar Adfer Natur, dilynwch y ddolen berthnasol isod:
I weld gwybodaeth am fapio ar gyfer eich ardal chi a’ch pwnc o ddiddordeb, ewch i Cyfoeth Naturiol Cymru / BETA: Porth Gwybodaeth Amgylcheddol Cymru.